Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

63.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 69 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol.

 

2)             Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â Chofnod 74 "Model Newydd arfaethedig ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe”.

 

3)             Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies a R V Smith gysylltiad personol â Chofnod 83 "Strategaeth datblygu chwaraeon Lôn Sgeti”.

64.

Cofnodion. pdf eicon PDF 133 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2024.

65.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)             Storm Darragh

Diolchodd Arweinydd y Cyngor i'r rhai a gynorthwyodd eraill yn ystod ac ar ôl Storm Darragh.

 

2)             Setliad Llywodraeth Leol

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y byddai'r Setliad Llywodraeth Leol yn cael ei ystyried yn briodol.

66.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

67.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

68.

Panel Ymchwiliad Craffu - Asedau Cymunedol Adroddiad. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd S J Rice, Cadeirydd y Panel Ymchwiliad Craffu Asedau Cymunedol, ei adroddiad yn manylu ar ei ganfyddiadau, ei gasgliadau a'i argymhellion.

 

Penderfynwyd y bydd yr Aelod Cabinet perthnasol yn adrodd yn ôl mewn cyfarfod Cabinet yn y dyfodol gydag ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(/au) gweithredu arfaethedig.

69.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

Ysgol Gynradd Brynmill

Hywel Vaughan

Ysgol Gynradd Pen-y-fro

Sarah Gee

Ysgol Gynradd Pentre’r Graig

Carly Pascoe

Ysgol Gynradd San Helen

Y Cyng. Hannah Lawson

Ysgol Gynradd Talycopa

Dorian Evans

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Y Cyng. Mandy Evans

Ysgol Gyfun Penyrheol

Robert Davies

Ysgol Gynradd y Clâs

Steven Avo

Ysgol Gynradd Gorseinon

John Williams

Ysgol Gynradd Mayals

Tracy Richards

Ysgol Gynradd Plasmarl

Colin Goulding

Ysgol Gynradd Plasmarl

Y Cyng. Beverley Hopkins

Ysgol Pen-y-Bryn

Lesley Williams

Ysgol Gyfun Cefn Hengoed

Joanne Hershell

Ysgol Tre-gŵyr

Bethina Ress-Lawrence

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Margaret Hughes

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Eleni Cordingley

 

70.

Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 2il 2024/25. pdf eicon PDF 265 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a chyfalaf 2024-2025 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd materol uwch, a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r rhain.

 

2)             Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel y nodir ym mharagraff 3.2 yr adroddiad a'r ddarpariaeth chwyddiant fel y nodir ym mharagraff 4.3 yr adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn ystod y flwyddyn.

 

3)             Mae angen pwysleisio i bob Cyfarwyddwr barhau i leihau gwariant gwasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod bod y gyllideb yn gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd dim ond drwy ddibynnu ar ad-daliad tebygol yn y dyfodol (ond ymhell o fod yn gwbl sicr) gan Lywodraeth Cymru, cyllidebau wrth gefn a ddelir yn ganolog a chyllidebau chwyddiant canolog a chronfeydd wrth gefn.

 

4)             Nodi'r gorwario dangosol ym mharagraff 6.1 yr adroddiad gyda chamau gweithredu pellach i'w cadarnhau yn y chwarteri dilynol unwaith y bydd rhagor o wybodaeth am y gost derfynol debygol ar gyfer darparu codiad cyflog arfaethedig.

71.

Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 2 2024/25. pdf eicon PDF 178 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2024-2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi perfformiad y Cyngor wrth gyflawni amcanion lles y Cyngor yn Chwarter 2 2024/2025.

 

2)             Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

72.

Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol. pdf eicon PDF 781 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn amlinellu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol newydd ar gyfer Abertawe a fydd yn ategu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol presennol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r Cynllun Cyflawni Economaidd Lleol newydd fel y'i nodir yn Atodiad A yr adroddiad.

73.

Cytundeb cydweithio newydd ar gyfer y gweithlu addysg rhanbarthol (Partneriaeth). pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i drosglwyddo o Gytundeb Cyfreithiol Partneriaeth i Gytundeb Cydweithio newydd.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo penderfyniad gan Gyngor Abertawe, ar y cyd â Chyngor Sir Gâr a Chyngor Sir Penfro, i derfynu'r Cytundeb Cyfreithiol presennol er mwyn sefydlu Cyd-bwyllgor Partneriaeth, a chymeradwyo'r terfyniad hwnnw i ddod i rym ar 31 Mawrth 2025.

 

2)       Cymeradwyo'r Cytundeb Cydweithio drafft i ddisodli'r Cytundeb Cyfreithiol presennol sy'n weithredol o 1 Ebrill 2025.

 

3)       Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol ac Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu i wneud unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol pellach i'r cytundeb cydweithio ac awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor ynghyd ag unrhyw ddogfennau cyfreithiol ategol sy'n angenrheidiol i hwyluso'r trefniadau cydweithio newydd.

 

4)       Nodir y bydd terfynu'r Cytundeb Cyfreithiol yn arwain at ddiddymu'r Cyd-bwyllgor Partneriaeth a Chyd-bwyllgor y Grŵp Cynghorwyr o 1 Ebrill 2025.

74.

Model newydd arfaethedig ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe. pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn rhoi adborth ar ganlyniad ymgynghoriad ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol i ailddynodi 25 Cyfleuster Addysgu Arbenigol (CAA), newid arbenigedd 3 CAA, agor 5 CAA newydd, ehangu 4 CAA a chau 5 CAA mewn ysgolion yn Abertawe, gan ddechrau cyflwyno hyn fesul cam ym mis Medi 2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Caiff canlyniadau'r ymgynghoriad eu hystyried yn llawn, a rhoddir cymeradwyaeth i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i ailddynodi 25 CAA, newid arbenigedd 3 CAA, agor 5 CAA newydd, ehangu 4 CAA a chau 5 CAA mewn ysgolion yn Abertawe.

 

2)             Ystyrir unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod rhybudd statudol a phenderfynir ar ganlyniad y cynnig yn y cyfarfod ar 20 Mawrth 2025.

75.

Wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cyngor Abertawe tuag at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030. pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Cyngor Abertawe tuag at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r cynnydd a wnaed yn ystod 2023-2024.

76.

Polisi Trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cynnig adolygiad o'r trwyddedu Tai Amlfeddiannaeth (HMO) yn Abertawe, gan gynnwys adnewyddu trwyddedu ychwanegol yn wardiau'r Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cynhelir ymgynghoriad cyhoeddus ar Bolisi Trwyddedu HMO drafft ar gyfer 2025 gan gynnwys ailddynodi'r cynllun trwyddedu HMO Ychwanegol yn Wardiau Castell, Uplands, St Thomas a'r Glannau.

 

2)             Yn dilyn hyn, caiff canlyniadau'r ymgynghoriad hwn eu hadrodd yn ôl i'r cyngor er mwyn mabwysiadu Polisi Trwyddedu newydd ar gyfer 2025.

77.

Strategaeth Perchnogaeth a Chadw Asedau Canol y Ddinas. pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn amlinellu strategaeth ddiwygiedig ar gyfer cadw a rheoli buddiannau eiddo Canol y Ddinas y Cyngor. Mae'r strategaeth arfaethedig wedi'i chynllunio i ddenu mewnfuddsoddiad ac annog datblygiad gan y sector preifat a diogelu sefyllfa ariannol y Cyngor ar yr un pryd.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Gweithredu a chadarnhau strategaeth ddiwygiedig ar gyfer newid prydlesi yng Nghanol y Ddinas (yn unig) yr ymdrinnir â hi ar sail premiwm, ar yr amod bod yr ymgeisydd yn bodloni'r meini prawf fel y nodir yn yr adroddiad hwn.

 

2)             Awdurdodi'r Swyddog Adran 151 i wneud newidiadau priodol i'r cyllidebau refeniw presennol i wrthbwyso colli incwm blynyddol ar bob pryniant.

 

3)             Nodir o ran y gwarediadau prydlesol hir sy'n llai na £1m, y rhoddir ystyriaeth o dan y pwerau dirprwyedig presennol er y cydnabyddir y gallai colli incwm a chais am addasiad blynyddol olygu adroddiad Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol.

 

4)       Cadarnheir na fydd unrhyw warediadau rhydd-ddaliad yn cael eu hystyried oni bai bod amgylchiadau lliniarol clir sy'n atal y strategaeth newydd rhag cael ei gweithredu. Gofynnir i swyddogion geisio cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer achosion o'r fath ac ar gyfer gwarediadau dros £1m.

78.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Diweddariad ar Grant 20mya 2024/25. pdf eicon PDF 219 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i dderbyn cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya, gan gynnwys adolygu'r terfyn a gyflwynwyd hyd yma. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo derbyn cyllid grant ychwanegol sy'n gysylltiedig â chyflwyno 20mya a dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cyllid ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd a'r Cyfarwyddwr Lleoedd i dderbyn cyllid grant a ddyfarnwyd.

 

2)             Ychwanegu'r cynlluniau cymeradwy at raglen gyfalaf y Cyngor yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol.

79.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

80.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 83 “Strategaeth Datblygu Chwaraeon Lôn Sgeti”.

 

Gofynnodd y Cynghorydd W G Thomas gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 84 “Cynnig arfaethedig i ildio prydles hir a rhoi prydles hir arall ym Mhen Tutt Head, Bae Bracelet”.

 

Gofynnodd y Cynghorydd S J Rice gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 85 “Adroddiad FPR7 i gadarnhau cyllid i brynu Depo”.

81.

Dewis y Cynigydd a Ffefrir ar gyfer Safleoedd Datblygu Tai y Cyfrif Refeniw Tai - Milford A a Milford B (Ward Penderi).

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contract i'r cynigiwr llwyddiannus i bartner datblygu er mwyn iddynt ddatblygu cynllun tai fforddiadwy ar ddau safle sy'n eiddo i'r Cyfrif Refeniw Tai (Milford A&B) yn Ward Penderi.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

82.

Gwerthu tir yn Mynydd Newydd Road, Pen-lan, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio ystyried awdurdod dirprwyedig ynghylch yr isafswm gwerth ar gyfer gwaredu tir y Cyngor y datganwyd nad oes ei angen mwyach.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

83.

Strategaeth datblygu chwaraeon Lôn Sgeti.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gefnogi'r buddsoddiad mewn cyfleusterau rygbi gwell yn San Helen ac i ddiweddaru'r Cabinet ar adleoli'r clwb criced, a gymeradwywyd yn adroddiad y Cabinet ym mis Medi 2024.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

84.

Cynnig arfaethedig i ildio prydles hir a rhoi prydles hir arall ym Mhen Tutt Head, Bae Bracelet.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth o'r bwriad o ildio ac ail-ddyfarnu eiddo'r Cyngor ar sail prydles hir ar bremiwm sy'n uwch na lefel awdurdod dirprwyedig y swyddog cyfrifol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

85.

Adroddiad FPR7 i gadarnhau cyllid i brynu Depo.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am argaeledd cyllid ac achos busnes ehangach i ddarparu cyllid a chwblhau pryniant eiddo arfaethedig.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.