Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 173 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol.

2.

Cofnodion. pdf eicon PDF 161 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Mai 2024.

3.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.  Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

5.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

6.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y Cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

Ysgol Gynradd Llanrhidian

Dr Ruth Costigan

YGG Gellionnen

Rebecca Williams

 

7.

Datblygu Cae Chwaraeon Artiffisial 3G yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan/YGG Bryntawe. pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cais llawn i'r Sefydliad Pêl-droed i ddatblygu arwyneb chwarae 3G maint llawn ac i ymrwymo'r cyllid cyfalaf a nodwyd fel y disgrifir i'r prosiect. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i'r rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Datblygu'r broses ymgeisio am grant gyda'r Sefydliad Pêl-droed ymhellach i ddatblygu'r cynllun ymhellach, a fydd yn cynnwys datblygu dyluniad manwl, cynllunio, cais terfynol a derbyn amodau a thelerau'r grant wedi hynny.

 

2)       Ymrwymo'r swm o £1,335,000 fel y manylir yn yr adroddiad i'r rhaglen gyfalaf er mwyn datblygu cae Chwaraeon Artiffisial 3G yng Nghanolfan Hamdden Pen-lan/Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe ac adeilad chwaraeon cymunedol ar Fynydd Newydd, yn amodol ar dderbyn grant y Sefydliad Pêl-droed.

 

3)       Rhoi awdurdod i'r Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 ganiatáu cynnydd cyfrannol priodol mewn dyraniadau cyfalaf yn dilyn rheolau'r weithdrefn ariannol i fodloni gofynion ariannol ychwanegol yr opsiwn arwyneb mwy dewisol (117m x 75m) fel y manylir yn Adran 5, Tabl 1 yr adroddiad.

 

4)       Rhoi awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Pennaeth Eiddo Corfforaethol ymrwymo i gytundebau perthnasol gyda'r Sefydliad Pêl-droed a/neu eu contractwyr penodedig i ddatblygu a chyflawni'r prosiect fel y manylir yn yr adroddiad.

8.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 4 a Diwedd Blwyddyn 2023/24. pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 ac ar gyfer diwedd blwyddyn 2023-2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi perfformiad y Cyngor wrth gyflawni amcanion lles y Cyngor yn Chwarter 4 a diwedd blwyddyn 2023-2024.

 

2)             Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

9.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

10.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

11.

Gwaredu Tir yn Mynydd Newydd Road (Hen Safle Leo's), Penplas, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ystyried y tir yn Mynydd Newydd Road (Hen Safle Leo's), Penplas, Abertawe.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

12.

Ôl-osod er mwyn Lleihau Carbon - Cam 2.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn ystyried cyflawni Ôl-osod er mwyn Lleihau Carbon - Cam 2.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.