Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Lilian Hopkin, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

152.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1        Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 159 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi Llywodraethwyr Awdurdod Lleol.

 

2)       Datganodd y Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad personol â Chofnod 167 "Model Gweithredu Newydd yn Maes San Helen i Wella’r Cynnig Chwaraeon Fel Cyfleuster Rhanbarthol a Chymunedol".

153.

Cofnodion. pdf eicon PDF 131 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1        Y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Ebrill 2024.

154.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

155.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

156.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

157.

Adroddiad Blynyddol Cynllun Trawsnewid Corfforaethol Abertawe Lwyddiannus a Chynaliadwy 2023-24. pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad gwybodaeth a oedd yn nodi cynnydd Cynllun Trawsnewid Corfforaethol 2023-2028 yn ei flwyddyn gyntaf.

158.

Penodi Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Prif Swyddog Cyfreithiol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i barhau â phroses recriwtio er mwyn penodi Uwch-grwner ar gyfer ardal Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)       Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Dirprwy Prif Swyddog Cyfreithiol, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth (Arweinydd y Cyngor) i:

 

a)             Baratoi'r disgrifiad swydd, y telerau cytundebol a'r broses benodi ar gyfer y swydd Uwch-grwner a gwneud trefniadau addas ar gyfer hysbysebu'r swydd.

 

b)             Cymryd yr holl gamau angenrheidiol i symud y broses o benodi Uwch-grwner yn ei blaen.

 

c)       Mewn ymgynghoriad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Swyddfa'r Prif Grwner, sefydlu Panel er mwyn llunio rhestr fer, cyfweld ag ymgeiswyr a phenodi'r ymgeisydd llwyddiannus fel Uwch-grwner ar gyfer Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

159.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

Ysgol Gynradd Burlais

Maryann Enereba

Ysgol Gynradd Clydach

Rhys Hill

Ysgol Gynradd Craigfelen

Richard Bevan

Ysgol Gynradd y Glais

Jill John

Ysgol Gynradd Glyncollen

Y Cyng. Robert Stewart

Ysgol Gynradd Ynystawe

Lauren King

Ysgol Gyfun Penyrheol

Andrew Kissick

 

160.

Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe. pdf eicon PDF 140 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad er gwybodaeth a oedd yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â chynnwys terfynol Cynllun Ynni Ardal Leol Abertawe (CYAL).

161.

Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol ar gyfer Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2024-25. pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)             Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

2)             Rhoi awdurdod i'r Pennaeth Priffyrdd a Chludiant, gyda chytundeb Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn.

162.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 115 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

163.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau yn ymwneud â Chofnod 166 “Gwaredu tir ym Mharc Felindre” a Chofnod 167 “Model Gweithredu Newydd ym Maes San Helen i Wella’r Cynnig Chwaraeon Fel Cyfleuster Rhanbarthol a Chymunedol”.

164.

Adborth am Graffu Cyn Penderfynu -Diweddariad am FPR7 ar gyfer Ailwampio Theatr y Palace. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth craffu cyn penderfynu.

165.

FPR7 Ddiweddaredig ar Gyfer Adnewyddu Theatr y Palace.

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - yn amodol ar Graffu Cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn wedi'i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i'r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

 

Penderfynwyd diwygio a chymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

166.

Gwaredu tir ym Mharc Felindre.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddiad, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i waredu tir ym Mharc Felindre.

 

Penderfynwyd diwygio a chymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.

167.

Model Gweithredu Newydd Ym Maes San Helen I Wella'r Cynnig Chwaraeon Fel Cyfleuster Rhanbarthol A Chymunedol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddiad, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cefnogaeth mewn egwyddor ar gyfer cynnig gweithredu i wella Maes San Helen fel cyfleuster rhanbarthol a chymunedol.

 

Penderfynwyd diwygio a chymeradwyo'r argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad.