Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

121.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 127 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)             Datganodd y Cynghorydd A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 129 "Rhaglen Grant Cyfleusterau i’r Anabl a Grant Gwella 2024/2025” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

3)    Datganodd y Cynghorwyr C Anderson a D H Hopkins gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 131 “Cyfleusterau bwyta Newydd I gefnogi’r rhaglen Prydau Ysgol am ddim I holl blant Ysgolion Cynradd yn ogystal â chae pob tywydd a chyfleusterau cymunedol ar gyfer Ysgol Gynradd Townhilla gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

 

4)             Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â Chofnod 134 “Cymeradwyo Grantiau Allanol ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian”.

 

5)             Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies a R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 135 “Estyniad i’r cytundeb rheoli presennol a’r trefniadau prydlesu yn ymwneud â Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe” a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried.

122.

Cofnodion. pdf eicon PDF 139 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2024.

 

2)             Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2024.

123.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

124.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.

Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser.

Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

125.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

126.

Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2024/25. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch dros dro sy'n berthnasol i Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/2025.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi manylion y cynllun y'u nodir yn yr adroddiad.

 

2)             Mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2024/2025.

127.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr awdurdod lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y Cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

Ysgol Gyfun Gellifedw

Finola Wilson

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Y Cyng. Mike White

Ysgol Gynradd Treforys

Nichola James

Ysgol Gynradd Parkland

Dr. Mahaboob Basha

Ysgol Gynradd Pen-y-Fro

Andrea Hill-Jones

Ysgol Gynradd Pontlliw

Melissa Taylor

Ysgol Gynradd Sgeti

Y Cyng. Nicola Furlong

Kay Meade

 

128.

Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 2023/24. pdf eicon PDF 183 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2023/2024.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi perfformiad y Cyngor wrth gyflawni amcanion lles y Cyngor yn Chwarter 3 2023/2024.

 

2)             Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

129.

Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2024/25. pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2024/2025. Darparu manylion am ddyraniad Y Gronfa Tai â Gofal (CTG) i Raglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl y Cyngor ar gyfer 2023/2024 yn ôl-weithredol ac ar gyfer rhaglen 2024/2025. Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf), i ymrwymo ac awdurdodi cynlluniau yn ôl y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella, fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, a chynnwys y rhaglen yng Nghyllideb Gyfalaf 2024/25.

 

2)       Darparu dyraniad y Gronfa Tai â Gofal (CTG) o £465,840 i'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl, wedi'i rannu'n ddyraniad o £232,920 yn 2023/24 i'w gymeradwyo'n ôl-weithredol o ystyried dyfarnu'r cyllid yn hwyr, a £232,920 yn 2024/2025.

130.

Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2024-25. pdf eicon PDF 165 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhau Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Caiff y dyraniadau dangosol arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad, eu cymeradwyo a'u cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

2)             Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant, gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd, i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad.

131.

Cyfleusterau bwyta newydd i gefnogi'r rhaglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn ogystal â chae pob tywydd a chyfleusterau cymunedol ar gyfer Ysgol Gynradd Townhill. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" - i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau i’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf o £3,257,071, ar gyfer cyfleusterau bwyta newydd i gefnogi'r rhaglen Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol ynghyd â chae pob tywydd a chyfleusterau cymunedol ar gyfer Ysgol Gynradd Gymunedol Townhill, yn amodol ar gymeradwyaeth Llywodraeth Cymru i drosglwyddo'r cyllid grant o £500k a ddyrannwyd i'r flwyddyn ariannol nesaf.

132.

Gwerthiant posib o Dir ar gyfer Tai'r CDLl yn Ardal Datblygu Strategol (SD) H, Waunarlwydd a Fforest-fach. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i drafod gwerthiant yn y dyfodol am swm sy'n debygol o fod yn fwy na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Rhoi caniatâd i fwrw ymlaen â thrafodaethau a chytundebau opsiynau posib gyda'r partïon sydd â diddordeb ac, yn y pen draw,  ymrwymo i gontract neu gontractau gwerthu ar "Werth y Farchnad". Mae'n debygol fydd swm/symiau o'r fath yn fwy na chyfyngiadau'r awdurdod dirprwyedig.

 

2)             Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Cyfarwyddwr Cyllid gynnal a chwblhau unrhyw drafodaethau ar gyfer gwaredu, ac ymrwymo i, unrhyw ddogfennaeth berthnasol i amddiffyn buddiannau'r Cyngor.

133.

Strategaeth Hygyrchedd i Ysgolion. pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y Strategaeth Hygyrchedd ddrafft ar gyfer Ysgolion 2024-2027. Mae'r Strategaeth yn nodi cynlluniau'r Gyfarwyddiaeth Addysg ar gyfer cynyddu hygyrchedd ysgolion yr awdurdod lleol i ddysgwyr anabl yn raddol.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cynhelir ymgynghoriad i gasglu barn rhanddeiliaid ar y Strategaeth Hygyrchedd ddrafft i sicrhau bod gan ddisgyblion anabl fwy o fynediad at bob ysgol a gynhelir yn Abertawe.

 

2)             Yn dilyn yr ymgynghoriad, bydd adroddiad pellach yn cael ei baratoi ar gyfer y Cyngor gyda chanlyniadau'r ymgynghoriad, a mabwysiadir fersiwn derfynol o'r Strategaeth.

134.

Cymeradwyo Grantiau Allanol ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian. pdf eicon PDF 177 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Cydraddoldeb a Hawliau Dynol adroddiad a oedd yn cadarnhau llwyddiant ceisiadau am gyllid ar gyfer Oriel Gelf Glynn Vivian a cheisiwyd cymeradwyaeth ôl-weithredol y Cabinet ar gyfer y ceisiadau a wnaed, a ataliwyd ar y pryd am y rhesymau a nodir isod.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Nodi'r cyfle a roddir i'r gwasanaeth i gael mynediad at gyllid allanol â chyfyngiad amser ar gyfer y Glynn Vivian, trwy wahoddiad gan Amgueddfa Ryfel Ymerodrol a Chyngor Celfyddydau Cymru (Llywodraeth Cymru).

 

2)       Cymeradwyo'r ymateb drwy gais yn ffurfiol, yn ôl-weithredol, er mwyn iddynt gael mynediad at y cyllid.

 

3)       Cymeradwyo telerau cytundebol y grantiau a'u defnyddiau, a fydd yn cynyddu cyrhaeddiad ac effaith yr Oriel yng Nghymru, Abertawe, ac yn rhyngwladol fel yr amlinellir ym Mharagraffau 1.1 ac 1.2 yr adroddiad.

135.

Estyniad i'r cytundeb rheoli presennol a'r trefniadau prydlesu yn ymwneud â Phwll Cenedlaethol Cymru Abertawe.** pdf eicon PDF 148 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn - Brys: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys methu cydymffurfio â gofynion statudol".

 

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymestyn y trefniadau rheoli presennol ar gyfer Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe rhwng y Cyngor, Prifysgol Abertawe a Phwll Cenedlaethol Cymru, Abertawe. I gydymffurfio â Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol i ofyn am gymeradwyaeth i barhau â'r trefniadau cyllido presennol am ddwy flynedd arall.

 

Penderfynwyd:

 

1)             Cafodd y trefniadau rheoli gwreiddiol ar gyfer Pwll Cenedlaethol Abertawe a'r cyfleusterau chwaraeon cysylltiedig eu hymestyn yn ffurfiol am gyfnod o dri mis rhwng 24 Rhagfyr 2023 a 31 Mawrth 2024 a chymeradwywyd yr estyniad hwnnw yn ôl-weithredol.

 

2)             Cymeradwyo'r estyniad i'r trefniadau rheoli am gyfnod pellach o hyd at ddwy flynedd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026 a chymeradwyo'r goblygiadau ariannol a nodir ym Mharagraff 4 yr adroddiad.

 

3)             Rhoddir awdurdod dirprwyedig i Bennaeth y Gwasanaethau Eiddo ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyfreithiol gymeradwyo ac ymrwymo i unrhyw ddogfennau cyfreithiol sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'r estyniad a diogelu buddiannau'r Cyngor.