Agenda a Chofnodion

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

209.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiad canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 222 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr yr awdurdod lleol;

 

2)              Mynegodd y Cynghorydd A H Stevens gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 223 "Effaith Covid-19 a’r argymhelliad ar sut i drin rhentu ym Marchnad Abertawe”.

210.

Cofnodion. pdf eicon PDF 322 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2020.

211.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud.

 

Cofnodion:

i)               Y cyn-Gynghorydd W Gethin Evans

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd y Cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y cyn-Gynghorydd W Gethin Evans. Bu'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu Ward Etholiadol Pontybrenin am 17 mlynedd.  Bu'r Cynghorydd Evans yn gwasanaethu:

 

Ø    Cyngor Bwrdeistref Dyffryn Lliw – 2 Mai 1991 to 31 Mawrth 1996;

Ø    Cyngor Sir Gorllewin Morgannwg – 6 Mai 1993 to 31 Mawrth 1996;

Ø    Dinas a Sir Abertawe – 4 Mai 1995 to Mai 2008.

 

Gwasanaethodd y Cynghorydd Gethin Evans hefyd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

212.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

213.

Hawl i holi cynghorwyr.

Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

214.

Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2019/20. pdf eicon PDF 363 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion yr alldro refeniw ar gyfer 2019-20.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau fel a nodwyd yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a nodir yn Adran 7.3 yr adroddiad.

215.

Alldro Refeniw 2019/20 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 332 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys manylion alldro CTR Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2019-20.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau fel a nodwyd yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a nodir yn Adran 2.1 yr adroddiad.

216.

Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2019/20. pdf eicon PDF 386 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn cynnwys manylion alldro cyllido a chyfalaf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cario tanwariant net y gyllideb gymeradwy £29.38m ymlaen i 2020-21.

217.

Prosiectau Seilwaith Gwyrdd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 239 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" er mwyn ymrwymo i gynnwys y Cynllun Benthyciadau ar gyfer Canol Trefi yn y rhaglen gyfalaf a'i awdurdodi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo ychwanegu prosiectau seilwaith gwyrdd a ariennir gan Lywodraeth Cymru at y rhaglen gyfalaf yn 2020/21.

218.

Gohebiaeth CLiLC: Cyllid Ychwanegol ar gyfer Gwasanaethau Cerddoriaeth mewn Ysgolion. pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn nodi sut y dyfernir cyllid gan CLlLC mewn perthynas â Darpariaeth Gwasanaethau Cerddoriaeth mewn Ysgolion ar gyfer 2019-2020.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r goblygiadau sy'n gynwysedig yn yr adroddiad;

 

2)              Derbyn y grant a'i gymeradwyo’n adolygol.

219.

Partneriaeth Addysg Gymraeg Ysgolion yr 21ain ganrif - Cytundeb Partneru Strategol. pdf eicon PDF 805 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn caffael partner sector preifat i weithio gyda hi i ddarparu addysg a chyfleusterau cymunedol yng Nghymru, dan Fodel Buddsoddi Cydfuddiannol Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Mae'r adroddiad hwn yn egluro'r broses ac yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i Gytundeb Partneriaeth Strategol (CPS) gyda’r Cwmni Partneriaeth Addysg Gymraeg (WEPCo).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canlyniad Cam yr Ymgeisydd a Ffefrir yn y Weithdrefn Cyfathrebu Cystadleuol dan Reoliadau Contractau Cyhoeddus 2015 fel yr amlinellir yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwy'r Cytundeb Partneriaeth Strategol yn Atodiad F yr adroddiad ac sydd wedi'i grynhoi yn Adran 3 yr adroddiad a rhoi caniatâd i'r Prif Swyddog Cyfreithiol ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor, yn amodol ar benderfyniad 3) isod;

 

3)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Addysg, ar ôl ymgynghori â'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i:

 

a)          Gymeradwyo amodau terfynol y Cytundeb Partneriaeth Strategol; a

 

b)          Chymeradwyo unrhyw weithredoedd a dogfennau pellach sy'n ategol i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol.

 

4)              Cymeradwyo penodi Cyfarwyddwr Lleoedd fel 'Cynrychiolydd Cyfranogwyr' i fod yn rhan o’r Bwrdd Partneriaeth Strategol (BPS);

 

5)              Drwy gytuno i'r Cytundeb Partneriaeth Strategol, nodir na ofynnir iddo benderfynu i fwrw ymlaen ag unrhyw Brosiect Braenaru, ac nad oes unrhyw beth yn y Cytundeb Partneriaeth Strategol yn ymrwymo'r cyngor i wneud unrhyw ymrwymiad o'r fath. Bydd unrhyw benderfyniad i fwrw ymlaen â’r Prosiect Braenaru neu, yn wir, unrhyw brosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol newydd, yn cael ei adrodd i'r Cabinet am benderfyniad.

220.

Cais am gyllid allanol ar gyfer Cam 2 Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Cymru a chais am gyllid allanol ar gyfer cynllun peilot Grantiau Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin a rhaglen gyfalaf 2020-21. pdf eicon PDF 511 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a ddarparai manylion y cais am Gam 2 Grant Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru a phrosiect peilot Grant Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin ac a geisiai gymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn rhaglen gyfalaf 2020/2021 i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf), i neilltuo ac awdurdodi cynlluniau yn unol â’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r cais ar gyfer Cam 2 Grant Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru a phrosiect peilot Grant Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin;

 

2)              Cynnwys cynllun Cam 2 Grant Cartrefi Gwag Llywodraeth Cymru a chynllun Grant Cartrefi Gwag Cymoedd y Gorllewin yn rhaglen gyfalaf 2020-21;

 

3)              Dirprwyo awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyllid i dderbyn y dyfarniadau grant ac amodau a thelerau'r cynnig pan dderbynnir y rhain gan Lywodraeth Cymru.

221.

Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grantiau Cyfalaf y Gronfa Drafnidiaeth Leol a'r Gronfa Rhwydwaith Drafnidiaeth Leol ar gyfer 2020/21. pdf eicon PDF 512 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau canlyniad y cais am arian o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol, a'r Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol ac a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer gwariant ar y prosiectau cysylltiedig yn 2020-21. Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf), i ymrwymo ac awdurdodi'r cynllun yn ôl y Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cynlluniau'r Gronfa Drafnidiaeth Leol a'r Gronfa Rhwydwaith Trafnidiaeth Leol ynghyd â'u goblygiadau ariannol.

222.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Cilâ

Y Cyng. Paxton Hood-Williams

2)

Ysgol Gynradd Clwyd

Christine Steward

3)

Ysgol Gynradd y Crwys

Y Cyng. Paxton Hood-Williams

4)

Ysgol Gynradd Tre-gŵyr

Pamela Jefferies

5)

Ysgol Gynradd Gwyrosydd

Donna Saunders

6)

Ysgol Gynradd Llangyfelach

Y Cyng. Gareth Sullivan

7)

Ysgol Gynradd Mayals

Y Cyng. Lynda Tyler-Lloyd

8)

Ysgol Gynradd Pentre’r Graig

Michael Fuge

9)

Ysgol Gynradd Pentre’r Graig

David Titerickx

10)

Ysgol Gynradd Pontlliw

Y Cyng. Gareth Sullivan

11)

Ysgol Gynradd St Thomas

Y Cyng. Joe Hale

12)

Ysgol Gynradd y Garreg Wen

Y Cyng. Des Thomas

13)

Ysgol Gynradd Ynystawe

Michael Hedges

14)

YGG Bryn-y-môr

Dr Stephen Bassett

15)

YGG Bryn-y-môr

Ceri Hughes

16)

YGG Bryn-y-môr

Y Cyng. Peter May

17)

YGG Llwynderw

Y Cyng. Des Thomas

18)

YGG Tirdeunaw

John James

19)

Ysgol Gymunedol Cefn Hengoed

Y Cyng. Paul Lloyd

20)

Ysgol Gyfun Pentrehafod

Y Cyng. Peter Black

 

223.

Effaith COVID-19 a'r argymhelliad ar sut i drin rhentu ym Marchnad Abertawe. pdf eicon PDF 308 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn gofyn i aelodau gytuno ar ffordd o drin rhenti ym Marchnad Abertawe fel mesur dros dro i gefnogi masnachwyr Marchnad Abertawe i addasu ac ailadeiladu eu busnesau yn dilyn pandemig COVID-19.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ailddechrau codi rhent ym Marchnad Abertawe yn dilyn y cyfnod di-rent a roddwyd eisoes (9 Mawrth - 28 Mehefin 2020);

 

2)              Bydd gostyngiad i daliadau rhent i ddechrau a byddant yn cynyddu mewn cynyddrannau dros y 5 mis nesaf - gyda rhent llawn yn ddyledus erbyn y cyfnod rhentu 16 Tachwedd i 13 Rhagfyr 2020;

 

3)              Ôl-ddyddio'r cais am ostyngiad mewn rhent i 29 Mehefin 2020;

 

4)              Ar gyfer achosion arbennig, parhau i hepgor taliadau rhent yn llawn fel mesur tymor byr (yn amodol ar feini prawf a nodir ym mharagraffau 9.4.1 a 9.4.2 yr adroddiad).

224.

Cymorth ariannol ac arfarnu opsiynau partneriaethau hamdden. pdf eicon PDF 527 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn darparu diweddariad ar gostau cau’r portffolio presennol o Ganolfannau Hamdden a Plantasia dros dro a cheisiodd gymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer lefelau'r gefnogaeth ariannol sydd eu hangen ac amrywiadau i gontractau i sicrhau y gall cyfleusterau ailagor yn gynaliadwy yn y tymor byr i ganolig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Estyn y cytundeb amrywiad cymorth presennol a lefel y gefnogaeth ariannol sydd ei hangen ar gyfer Freedom Leisure a Parkwood Leisure, tan 31 Gorffennaf, gan ragweld eu bod wedi bod ar gau am 4 mis, o fis Ebrill i fis Gorffennaf, gan nodi bod lefel y gefnogaeth ar gyfer y cyfnod o 4 mis yn debygol o fod yn gyfanswm o £800,000;

 

2)              Os bydd hi'n ofynnol i’r cyfleusterau aros ar gau ar ôl 31 Gorffennaf, dylid dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ar y cyd â'r Prif Swyddog Cyllid i ymestyn y cymorth a gymeradwywyd ym mhenderfyniad 1 am gyfnod ychwanegol, hyd at uchafswm o 3 mis;

 

3)              Cytuno ar y gefnogaeth ychwanegol i staff Freedom sy'n parhau i fod ar ffyrlo yn ystod y cyfnod cau a/neu'r cyfnodau ailagor. Cytuno ar ychwanegu swm penodol o 20% at y Cynllun Cadw swyddi dros fisoedd dilynol Gorffennaf, Awst a Medi, ar sail y costau a ddisgwylir a nodir ym mhenderfyniadau 1 a 4;

 

4)              Cymeradwyo cynllun ailagor Opsiwn 2 Freedom Leisure sy'n gofyn am warant o ddiffyg ychwanegol o hyd at £1m gan y cyngor, yn ogystal â'r ffi reoli fisol gytundebol ar gyfer y cyfnod agor fesul cam a ddisgwylir o fis Awst i ddiwedd mis Rhagfyr 2020 (neu gyfnod cyfwerth o 5 mis) wedi'i gysoni dan ymagwedd agored;

 

5)              Cymeradwyo cynllun ailagor Parkwood Leisure sy'n gofyn am warant o ddiffyg ychwanegol o hyd at £100,000 gan y cyngor, yn ogystal â'r ffi reoli fisol gytundebol ar gyfer cyfnod agor fesul cam a ddisgwylir o fis Awst i ddiwedd mis Ionawr 2021 (neu gyfnod cyfwerth o 6 mis); 

 

6)              Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i ddechrau trafodaethau masnachol ar yr amodau a'r telerau i'w cytuno mewn perthynas ag unrhyw warant ychwanegol dros gyfnod cymorth estynedig i gynnwys unrhyw delerau ad-dalu, ailbroffilio ffioedd rheoli, newidiadau i gyfran yr elw neu fesurau eraill;

 

7)              Dirprwyo awdurdod i'r Prif Swyddog Cyfreithiol i ddechrau unrhyw ddogfennaeth sy'n ofynnol i roi unrhyw un o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor.