Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwr M C Child gysylltiad personol â
Chofnod 198 "Cyllid ar gyfer cynllun Tai â Chefnogaeth Brys neu Dros Dro
ar gyfer pobl Ddigartref a Diamddiffyn yn ystod Argyfwng Covid-19 - Tŷ Tom Jones”. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Ysbyty
yn Stiwdio’r Bae, Ffordd Fabian Datganodd Arweinydd y Cyngor y caiff yr ysbyty yn Stiwdio’r Bae ei
drosglwyddo’n ffurfiol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hwyrach y
diwrnod hwnnw. Diolchodd i bawb a fu’n
ymwneud ag adeiladu’r ysbyty. 2)
Rhoi
Clap i Ofalwyr a Gweithwyr Rheng Flaen Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i ofalwyr a gweithwyr rheng flaen a
gofynnodd i bobl dalu teyrnged iddynt trwy roi clap iddynt am 8.00pm yn hwyrach
y diwrnod hwnnw. Dywedodd hefyd y byddai
Neuadd y Ddinas yn cael ei goleuo’n las heno i ddangos cefnogaeth. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Rhaid cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig, cyn hanner dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod fan bellaf. Rhaid i gwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Arweinydd
y cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Achos Busnes
Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Bargen Ddinesig Bae Abertawe ac, yn amodol ar
gymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, awdurdod i’w
gyflwyno'n ffurfiol i Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn unol â Chynllun
Gweithredu'r Fargen Ddinesig. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo
achos busnes Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Atodiad 1 yr adroddiad ac, yn
amodol ar gymeradwyaeth Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe, awdurdodi ei
gyflwyno'n ffurfiol i Swyddfa Rheoli'r Portffolio yn unol â Chynllun
Gweithredu'r Fargen Ddinesig i sicrhau cymeradwyaeth ariannol y Fargen
Ddinesig; 2)
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i Arweinydd y Cyngor a'r Prif Weithredwr i gymeradwyo
unrhyw ddiwygiadau i'r achos busnes yn dilyn unrhyw sylwadau a wneir gan
Lywodraeth Cymru neu Lywodraeth y DU neu a all fod yn ofynnol gan Gyd-bwyllgor
Dinas-ranbarth Bae Abertawe; 3)
Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn
ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151), Arweinydd y Cyngor ac
Aelod perthnasol y Cabinet i ymrwymo i unrhyw gytundebau grant neu ddogfennaeth
gysylltiedig a allent fod yn angenrheidiol er mwyn defnyddio cyllid Llywodraeth
Cymru/Llywodraeth y DU fel corff atebol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio: i)
Cymeradwyo
ac ymrwymo i'r Rhaglen Gyfalaf, yn unol â'r Rheolau Gweithdrefnau Ariannol, y prosiect
gyda chostau diwygiedig ar gyfer ailfodelu ac adnewyddu Ysgol Gyfun Llandeilo
Ferwallt yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru; ii)
Cael
awdurdodiad i ddyfarnu'r contract ail gam i Kier Western Ltd, yn amodol ar
gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru; iii)
Cael
awdurdodiad i ymrwymo cyfanswm o £13,8080,024.29 i'r rhaglen gyfalaf i ariannu
costau'r cam adeiladu. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Dyfarnu'r
contract ail gam ar gyfer ailfodelu ac adnewyddu yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt
i Kier Western Ltd, yn amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth
Cymru; 2) Cymeradwyo'r cynllun cyfalaf fel y'i disgrifiwyd yn yr adroddiad ynghyd â'r goblygiadau ariannol yn unol â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, a hynny'n amodol ar gadarnhad grant a chytundeb â Llywodraeth Cymru. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Gartrefi, Ynni a Thrawsnewid adroddiad a oedd yn amlinellu
prosiect a oedd yn ymateb yn uniongyrchol i'r sefyllfa Covid-19 bresennol. Comisiynwyd y prosiect i ddechrau defnyddio
Tŷ Tom Jones (a adwaenir hefyd fel The Foyer) ar
Heol Alexandra, Abertawe, unwaith eto fel llety ar gyfer hyd at 20 o bobl
sengl. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r
prosiect a nodwyd ym mharagraff 2.2 yr adroddiad; 2)
Roi
awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r
Prif Swyddog Cyllid i ymrwymo i unrhyw gytundebau angenrheidiol i sicrhau y
caiff y prosiect ei gyflwyno ac i ddiogelu buddion y cyngor; 3)
Rhoi
awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill
yr holl wariant sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r prosiect o Lywodraeth Cymru; 4) Adolygu'r prosiect ymhen chwe mis pan fydd darlun cliriach o effaith COVID-19 a'r gofynion angenrheidiol parhaus. |