Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatgelwyd unrhyw datganwyd buddiannau. |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Diolchodd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr am waith y rheini sy’n
ymwneud ag adeiladu’r ysbyty. Talwyd teyrnged ganddynt hefyd i swyddogion a
gwirfoddolwyr sy’n darparu gwasanaethau rheng flaen i’r gymuned, a diolchwyd
iddynt. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid
cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig o leiaf 24 awr cyn y cyfarfod a rhaid iddynt
ymwneud â’r eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Eitm Frys. Dywed Arweinydd y Cyngor, yn unol
â pharagraff 100B (4) (b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylid
ystyried yr adroddiad "Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 -
Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty
Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe"
yn y cyfarfod hwn fel mater o frys. Rhesymau dros y brys Adeiladu ysbyty ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i
Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020. Cofnodion: Datganodd Arweinydd y Cyngor, yn unol â
pharagraff 100B (4)(b) Deddf Llywodraeth Leol 1972, ei fod yn meddwl y dylid
ystyried yr adroddiad "Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol a Rheol 7 y
Weithdrefn Ariannol - Awdurdodiad i Newid ac Addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty
Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe"
yn y cyfarfod hwn fel mater o frys. Rhesymau dros
y brys: Adeiladu ysbyty
ar frys yn sgîl Covid-19 i'w drosglwyddo i Fwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn yr wythnos sy'n dechrau 27 Ebrill 2020. |
|
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Rheol 19.1c y Weithdrefn Ariannol ac FPR7 - Awdurdodiad i newid ac addasu Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Mary Jones lythyr
a oedd yn
cynnwys yr Adborth Craffu Cyn Penderfynu. Penderfynwyd: 1)
Nodi cynnwys
yr adborth ar graffu cyn penderfynu. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu: Mae’r
penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd yr Arweinydd ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth
adroddiad a oedd yn ceisio awdurdodiad, ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae
Abertawe, i addasu adeilad Elba, Stiwdios y Bae, Fabian Way, Abertawe yn Ysbyty
Cynnydd Sydyn â 1000 o Welyau a chymeradwyo'r prosiect yn unol â Rheolau
Gweithdrefnau Ariannol (RhGA) rhif 7 ac 19.1c. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r prosiect a arweinir gan y cyngor ar ran
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i addasu Adeilad Elba,
Stiwdios y Bae, yn ysbyty cynnydd sydyn â 1000 o welyau ynghyd â'r goblygiadau
ariannol cysylltiedig, a'u hychwanegu at y rhaglen gyfalaf (i gydymffurfio a RhGA 7 - ychwanegiad at y rhaglen gyfalaf) 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, ar y cyd ag
Arweinydd y Cyngor, y Prif Swyddog Cyllid a'r Prif Swyddog Cyfreithiol
gymeradwyo cost derfynol y prosiect ac ymrwymo i unrhyw gytundebau
angenrheidiol (yn seiliedig ar y cytundeb cydweithio drafft a gynhwysir yn
Atodiad A yr adroddiad) i sicrhau y cyflwynir y prosiect ac er mwyn diogelu
buddiannau'r cyngor; 3)
Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i
adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig a chyflwyno'r prosiect o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn y lle cyntaf ac os yw'n angenrheidiol, o
Lywodraeth Cymru. |