Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

115.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)    Datganodd y Cynghorydd M C Child gysylltiad â Chofnod Rhif 21 "Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus a Chaffael a'r Camau Nesaf" - Aelod Ward West Cross.

 

116.

Cofnodion. pdf eicon PDF 308 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)            Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 13 Rhagfyr, 2019.

 

117.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Arweinydd y cyngor gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Sybil Crouch.  Bu Sybil yn gwasanaethu cymuned Ward y Castell, bu'n gydymaith i Arglwydd Faer Abertawe a bu'n allweddol wrth hybu'r celfyddydau a diwylliant yn Abertawe.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor hefyd gyda thristwch at farwolaeth ddiweddar cyn-Gynghorydd Sirol Gorllewin Morgannwg, Ioan Stock.

 

Safodd pawb i ddangos cydymdeimlad a pharch.

 

118.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Cyflwynywd nifer o gwestiynau ymlaen llaw yn ymwneud â Chofnod Rhif 121 "Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o Ymatebion Ymgynghoriad Cyhoeddus a Chaffael a'r Camau Nesaf", a Chofnod Rhif 122 "Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol: Cynigion Cyllidebol.

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y darperir ymateb ysgrifenedig i'r:

 

1)            Cwestiynau gan Nortridge Perrot mewn perthynas â Chofnod 121.

 

 

119.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

120.

Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o'r Ymgynghoriad Cyhoeddus a'r Ymatebion Caffael a'r Camau Nesaf. (Llafar)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyng. M H Jones yr Adborth Craffu Cyn Penderfynu.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi cynnwys yr adborth ar graffu cyn penderfynu.

 

 

121.

Safleoedd Blaendraeth - Crynodeb o'r Ymgynghoriad Cyhoeddus a'r Ymatebion Caffael a'r Camau Nesaf. pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor ar ran Aelod y Cabinet dros Fuddsoddiad, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn crynhoi'r ymatebion a dderbyniwyd o Ymgynghoriad Cyhoeddus y cyngor a'r
Hysbysiad o wybodaeth Flaenorol ynghylch potensial datblygu pum safle blaendraeth a chadarnhau'r camau nesaf.

 

Cadarnhaodd Arweinydd y cyngor fod yr holl ymatebion wedi'u hystyried, gan gynnwys y rheini o natur fasnachol sensitif.

 

Cynigiwyd a chytunwyd ar y diwygiad i argymhelliad 6 i gynnwys yr Arweinydd yng nghwmpas yr awdurdod dirprwyedig.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)            Gwaredu'r safle a adwaenir fel Rhan o Gyrtiau Tennis Bae Langland drwy brydles hir ar y telerau mwyaf priodol;

 

2)            Ni chaiff unrhyw ddatblygiad i'r safle a adwaenir fel y Tir Gerllaw y West Cross Inn ei ystyried mwyach;

 

3)            Bydd unrhyw ddatblygiad i'r safle a adwaenir fel y Tir wrth y Ramp Sglefrfyrddio yn destun ystyriaeth a diwydrwydd dyladwy pellach.

 

4)            Ymchwilir ymhellach i'r posibilrwydd o ddatblygu'r safle a adwaenir fel y Tir ym Maes Parcio Lôn Sgeti, gyda'r nod o'i farchnata yn 2020;

 

5)            Ymchwilir ymhellach i'r potensial i ddatblygu'r safle a adwaenir fel Lido Blackpill, gyda'r nod o'i farchnata yn 2020;

 

6)        Dirprwyir penderfyniadau pellach i symud ymlaen â datblygiadau i Arweinydd y Cyngor, y Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth.

 

122.

Abertawe Gynaliadwy - yn addas i'r dyfodol: cynigion cyllidebol 2020/21 - 2023/24. pdf eicon PDF 763 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid ac Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ystyried cynigion cyllidebol ar gyfer 2020/21 i 2023/24 fel rhan o strategaeth cyllideb bresennol y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Cymeradwyo'r cynigion cyllidebol a grynhowyd yn yr adroddiad ac y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad fel sail ymgynghoriad;

 

2)            Mabwysiadu'r rhagolwg cyllidebol diweddaredig ar gyfer y dyfodol fel y rhagosodiad cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig, a gaiff ei ystyried gan y cyngor ar 5 Mawrth 2020;

 

3)            Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori ac ymgysylltu â staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â diddordeb fel y'u hamlinellir yn Adran 7 yr adroddiad;

 

4)            Derbyn adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol yn ei gyfarfod ar 20 Chwefror 2020.

 

123.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2019/20. pdf eicon PDF 356 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2, 2019/20.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

124.

Adolygiad Blynyddol o Gyhuddo (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2019/20 (Taliadau i fod yn berthnasol yn 2020/21 - Gan ddechrau 1 Ebrill). pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn nodi adolygiad blynyddol o daliadau Cyngor Abertawe (Gwasanaethau Cymdeithasol), sy'n darparu tryloywder i ddinasyddion ynghylch sut mae'r cyngor yn arfer ei bwerau disgresiynol ar bennu taliadau, o fewn fframwaith statudol Llywodraeth Cymru ar godi tâl am wasanaethau cymdeithasol, y cytunwyd arno fel rhan o ofal a chefnogaeth a reolir.

 

Penderfynwyd:

 

1)            Derbyn canfyddiadau'r adolygiad blynyddol o daliadau, ac ni roddir unrhyw daliadau gwasanaeth newydd (gwasanaethau cymdeithasol) ar waith yn 2020/21;

 

2)            Rhoi'r cynnydd chwyddiannol o 5% ar gyfer holl daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol ar waith;

 

3)            Gweithredu'r cynnydd mewn taliadau gofal cartref, fel a gytunwyd gan y Cyngor yn flaenorol, yn effeithiol o 1 Ebrill 2020, ar gyfer y flwyddyn 2020/21;

 

4)            Y bydd y rhestr o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol yn berthnasol o 1 Ebrill 2020, ar gyfer y flwyddyn 2020/21.