Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Mynegodd y Cynghorydd J A
Raynor a E T King gysylltiad personol â chofnod 198 "". |
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: 1)
Gweddarlledu Cyfarfod Dywedodd yr Aelod
Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu
cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen
Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif - Diwygiedig Dyfarnu contract ac awdurdodi rhaglen gyfalaf ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Cyfleuster Addysg Mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS) yn y Cocyd Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn -
Brys:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod
“naill ai Pennaeth y Gwasanaeth Cyflogedig, y Swyddog Adran 151 neu'r Swyddog
Monitro'n ardystio y gallai unrhyw oedi sy'n debygol o gael ei achosi gan y
weithdrefn galw i mewn wneud niwed i'r cyngor neu fudd y cyhoedd, gan gynnwys
methu cydymffurfio â gofynion statudol". Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio awdurdod
i ddyfarnu'r contract y gwaith sy'n weddill i Dendr Rhif 4, gan ddibynnu ar
Lywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r cais am amrywiad. Roedd yr adroddiad hefyd yn
ceisio cymeradwyaeth am y gost ddiwygiedig i adeiladu'r prosiect ar gyfer
Addysg mewn Lleoliad Heblaw'r Ysgol (EOTAS) yn y Cocyd, gan ddibynnu ar Lywodraeth Cymru'n cymeradwyo'r cais
am amrywiad. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |