Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

26.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 37 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)              Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yng Nghofnod 43 "Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol i Hwyluso Gwelliannau i'r Briffordd".

27.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2019.

28.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu'r Cyfarfod

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod yn cael ei recordio.

29.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

30.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 33 "Alldro Ariannol Refeniw 2018/2019" a Chofnod 35 "Alldro ac Ariannu Cyfalaf 2018/2019".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor a Swyddog Adran 151.

31.

Adroddiad Craffu ar Dwristiaeth. pdf eicon PDF 127 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Gweithgor Craffu ar Dwristiaeth adroddiad a oedd yn cyflwyno'r canlyniadau, y casgliadau a'r argymhellion a gafwyd yn dilyn Gweithgor Craffu ar Dwristiaeth.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adroddiad, a chafodd yr aelod perthnasol o'r Cabinet y dasg o baratoi ymateb ysgrifenedig i'r adroddiad, yr argymhellion a'r gweithredoedd arfaethedig i'w gyflwyno i'r Cabinet.

32.

Ymateb Aelod y Cabinet dros Ymchwiliad Craffu'r Amgylchedd Naturiol a Chynllun Gweithredu pdf eicon PDF 261 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gyflwyno adroddiad a oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu ac yn cyflwyno cynllun gweithredu i gytuno arno.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar yr ymateb fel y'i hamlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu cysylltiedig.

33.

Alldro Ariannol Refeniw 2018/19. pdf eicon PDF 188 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro refeniw 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a nodir yn Adran 7.3 yr adroddiad.

34.

Alldro Refeniw 2017/18 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 106 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT) Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r amrywiadau a fanylwyd yn yr adroddiad.

35.

Alldro cyfalaf ac ariannu 2018/19. pdf eicon PDF 142 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cario tanwariant net y gyllideb gymeradwy £27.979m ymlaen i 2019-2020.

36.

Ail-greu Stryd y Gwynt. pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi'r Economi ac Isadeiledd ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio rhoi cymeradwyaeth i swyddogion ddatblygu'r broses o roi'r astudiaeth dichonoldeb ar waith o bosib trwy ddatblygu rhagor o gynlluniau arfaethedig i hwyluso'r broses o'i chyflwyno, yn enwedig mewn perthynas â chyllideb.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo egwyddorion astudiaeth dichonoldeb Stryd y Gwynt fel y fframwaith trosgynnol ar gyfer adfywiad ffisegol Stryd y Gwynt, yn amodol ar gael proses dylunio a chymeradwyo fwy manwl;

 

2)              Cymeradwyo'r cynllun model arian a amlinellwyd yn yr adroddiad gyda'r uchelgais o symud i'r cynllun model aur os daw'r arian ar gael, symud ymlaen i'r cam dylunio manwl a chaniatáu i swyddogion gyflwyno ceisiadau am gyllid;

 

3)              Llunio adroddiad arall sy'n nodi'r dyluniadau manwl, y costau, adroddiad Asesiad Effaith Cydraddoldeb manwl gan gynnwys cynllun gweithredu i gynnwys mwy o ymgynghori a chynnwys, a chadarnhau'r trefniadau ariannu cyn penderfynu'n derfynol ar y cynllun.

37.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 97 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Mayals

Dr Felicity Padley

2)

Ysgol Gynradd Pontlliw

David Mathias

3)

Ysgol Gynradd Seaview

Sue James

 

38.

Adleoli Dysgu Gydol Oes o Dy Bryn. pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Gwell ac Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad ar y cyd a oedd yn amlinellu'r cynnig i adleoli'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes o Ganolfan Addysg Gymunedol Tŷ Bryn.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Adleoli'r Gwasanaeth Dysgu Gydol Oes o Dŷ Bryn, Heol Walter, Uplands, SA1 4PS i'r Ganolfan Ddinesig a chyflwyno'r addysg o leoliadau amgen ar draws y sir.

39.

Newidiadau i Bolisi Parcio Preswylwyr. pdf eicon PDF 729 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn nodi'r newidiadau arfaethedig i Bolisi Parcio Preswylwyr y cyngor.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r newidiadau arfaethedig i Bolisi Parcio Preswylwyr y cyngor a nodwyd yn yr adroddiad.

40.

Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar ofynion a chanfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi canfyddiadau Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2019;

 

2)              Cytuno i ryddhau'r canfyddiadau fel crynodeb i'r cyhoedd.

41.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

 

Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd C R Stewart y cyfarfod.  Y Cynghorydd C E Lloyd (fu'n llywyddu)

42.

Adroddiad Dyfarnu Contract - Dyfarnu Cytundeb Fframwaith ar gyfer darparu Gwasanaethau Gofal Cartref a Seibiant yn y Cartref i Bobl H?n ac Oedolion Iau ag Anableddau Corfforol

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn nodi canlyniad tendrau diweddar i benodi darparwyr i Gytundeb Fframwaith i Ddarparu Gwasanaethau Gofal yn y Cartref a Seibiant yn y Cartref ar gyfer Pobl Hŷn ac Oedolion Iau ag Anableddau Corfforol ac/neu Nam Synhwyraidd a cheisiodd gymeradwyaeth i benodi 12 o ddarparwyr i'r Cytundeb Fframwaith.

 

Gofynnodd i ddiwygio paragraff 5.6 yr adroddiad.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad ynghyd â'r diwygiad arfaethedig i baragraff 5.6 yr adroddiad.

43.

Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol er mwyn hwyluso Gwelliannau Priffyrdd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i baratoi Gorchmynion Pwrcasu Gorfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

44.

Y Diweddaraf am y Rhaglen Waredu

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn cyflwyno trosolwg o'r ffrydiau gwaith amrywiol sy'n rhan o'r Rhaglen Gwaredu Eiddo ac yn amlygu rhai o'r ffrydiau gwaith parhaus cyfredol mewn perthynas â gwaredu eiddo'r cyngor.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.