Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

181.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd M C Child, D H Hopkins, A S Lewis, C E Lloyd, M Sherwood, R C Stewart a M Thomas gysylltiad personol â chofnod 188 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol";

 

2)              Mynegodd y Cynghorydd W Evans gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 188 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol"

 

3)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â chofnod 188 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

182.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2019;

 

2)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mawrth 2019.

183.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod  yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein.

184.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

185.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd P K Jones nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 190 “Datblygiad Eiddo’r Cyngor: Cronfa Gyffredinol Cam 2”, gan ymwneud yn benodol â Home Farm, Sgeti.

 

Ymatebodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad drwy gadarnhau na fyddai’r cynnig yn cael effaith ar Barc Singleton.

186.

Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl i Oedolion. pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad a oedd yn amlinellu'r gwaith a wnaed ar ran Bwrdd Iechyd PABM, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Dinas a Sir Abertawe i ddatblygu Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl i Oedolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r gwaith sylweddol a wnaed i ddatblygu'r Fframwaith Strategol, gan gynnwys y cydgynhyrchu sylweddol â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr a'r sector gwirfoddol;

 

2)              Nodi'r broses gynnwys sylweddol yr ymgymerwyd â hi, yr adborth o'r broses ymgynghori a'r blaenoriaethau ar gyfer gweithredu a nodwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr;

 

3)              Nodi hefyd fod y fframwaith yn gyson â bwriad strategol ehangach y cyngor i hyrwyddo ymagwedd fwy ataliol gan gynnwys datblygiadau fel Tai'n Gyntaf;

 

4)              Cymeradwyo'r Fframwaith Strategol ar gyfer Iechyd y Cyhoedd Meddwl i Oedolion (yr oedd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Bae'r Gorllewin wedi cytuno arno).

187.

Sefydlu Gwasanaeth Troseddwyr Ieuenctid ar wahân i Abertawe pdf eicon PDF 199 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros y Gwasanaethau Plant adroddiad a oedd yn darparu canlyniad yr arolygiad diweddar o'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid (GTI) ac yn ceisio cymeradwyaeth i wahanu GTI ar gyfer Abertawe o gydweithfa Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrryd yn Gynnar Bae'r Gorllewin.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adroddiad arolygu terfynol a ddeilliodd o'r arolygiad o'r GTI a chytuno hefyd ar y cynllun gweithredu cychwynnol;

 

2)              Cyrraedd cytundeb i wahanu'r trefniadau rhanbarthol ar gyfer y GTI a datblygu gwasanaeth annibynnol ar gyfer Abertawe.

188.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 96 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Parklands

Eira Wyn Davies

2)

Ysgol Gynradd Pontybrenin

Y Cyng. William Evans

 

189.

Hysbysiad o waredu man agored - tir yn Parklands View, Sgeti, Abertawe. pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fusnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ystyried yr ymateb i'r Hysbysiad o Le Agored mewn perthynas â thir yn Parklands View, Sgeti, a cheisiodd gymeradwyaeth i'w waredu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ystyried y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn perthynas â chael gwared ar y dynodiad lle agored;

 

2)              Nodi, yn unol â'r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) blaenorol, nad ystyriwyd bod colli'r lle agored hwn yn cael effaith negyddol ar ward etholiadol Sgeti gan fod digon o le agored cyhoeddus ar gael yno. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gwarantu y byddai caniatâd cynllunio'n cael ei roi yn unol â darpariaethau'r Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) newydd;

 

3)              Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Eiddo i brynu'r safle er mwyn ei marchnata a'i waredu.

190.

Datblygu Eiddo'r Cyngor: Cam 2 Cronfa Gyffredinol. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fusnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad a oedd yn darparu diweddariad manwl ynghylch cynnydd gyda'r prosiect peilot ‘Datblygu Eiddo'n Uniongyrchol’.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Hysbysiad o Wybodaeth cyhoeddus i geisio mynegiannau o ddiddordeb ar gyfer Partner Menter ar y Cyd.

191.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

192.

Caffael tir i hwyluso gwelliannau priffyrdd

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio caniatâd i brynu tir rhydd-ddaliad sy'n fwy na therfynau dirprwyedig swyddogion.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.