Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

166.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Mynegodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol â chofnod 177 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a dywedodd ei bod wedi cael goddefeb gan y Pwyllgor Safonau i aros, siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol;

 

2)              Mynegodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â chofnod 178 "Adeiladu Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2019-2020”.

167.

Cofnodion. pdf eicon PDF 155 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019.

168.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

1)              Gweddarlledu Cyfarfod

 

Dywedodd yr Aelod Llywyddol, fel rhan o'r gwaith cyfredol i fynd ati i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Cabinet, y Pwyllgor Cynllunio a Phwyllgor y Rhaglen Graffu, fod y cyfarfod  yn cael ei recordio at ddibenion gweddarlledu. Ni fydd y cyfarfod yn cael ei ffrydio'n fyw am ein bod yn dal yn y cyfnod profi; fodd bynnag, caiff ei recordio. Os bydd y prawf yn llwyddiannus, caiff y cyfarfod ei gyhoeddi ar-lein.

 

2)              Diwygiadau/Cywiriadau i Agenda'r Cabinet

 

Eitem 12 "Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt.".

 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor y dylid newid Argymhelliad 1 i ddarllen fel a ganlyn:

 

Penodi contractwr 4 i gynnal y gwasanaeth cyn adeiladu hyd at £392,000 yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ariannol priodol.  Ystyrir mai contractwr 4 yw'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd a'r un sy'n rhoi gwerth gorau i'r awdurdod”.

169.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau gan aelodau o'r cyhoedd a oedd yn gysylltiedig â chofnod rhif 174 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a Chynyddu Maint ac Ail-leoli YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw” a 175 “Adolygiad ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc”.

 

Ymatebodd Aelod perthnasol y Cabinet yn briodol.

 

Nid oedd angen ymateb ysgrifenedig ar unrhyw gwestiynau.

170.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cynghorydd BJ Rowlands y cwestiwn canlynol yn ymwneud â chofnodion174 “Trefniadaeth Ysgolion sy’n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a Chynyddu Maint ac Ail-leoli YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw” a 175 “Adolygiad ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc”

 

“Pa gymorth a chefnogaeth a roddwyd i blant yr ysgolion hyn i gynorthwyo eu lles meddyliol yn ystod y broses hon?”

 

Nododd Aelod perthnasol y Cabinet y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu.

171.

Ymchwiliad Craffu i'r Amgylchedd Naturiol. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd P Jones, Cynullydd Panel Ymchwiliad Craffu - Yr Amgylchedd Naturiol, y canfyddiadau, y casgliadau a'r argymhellion yn deillio o Ymchwiliad y Panel i'r Amgylchedd Naturiol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r adroddiad, a chafodd aelod perthnasol y Cabinet y dasg o gyflwyno ymateb ysgrifenedig i'r Cabinet.

172.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2018-19 pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2018/19 a oedd yn ceisio helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

Penderfynwyd nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

173.

Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2019/20. pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran 151) adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth er mwyn ystyried mabwysiadu Cynllun Cymorth Ardrethi dros dro newydd ar gyfer y Stryd Fawr, yn ymwneud ag Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi manylion y cynllun a'r cais;

 

2)              Mabwysiadu'r Cynllun Cymorth Ardrethi a'r broses ymgeisio fel y'u nodir yn yr adroddiad hwn, ar gyfer 2019/20.

174.

Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - Gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a Chynyddu Maint ac Ail-leoli YGG Tan-y-Lan ac YGG Tirdeunaw. pdf eicon PDF 284 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi ystyriaeth i wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol a gofynnodd am benderfyniad ar y cynigion yn yr adroddiad:

 

i)                Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019;

ii)               Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan ar safle newydd o fis Ionawr 2021;

iii)             Cynyddu maint Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw ar safle newydd o fis Ionawr 2021;

iv)             Rhoi newidiadau dalgylch sy’n gysylltiedig â 2) a 3) uchod ar waith o fis Medi 2021.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre'n weithredol o 31 Awst 2019;

 

2)       Cymeradwyo cyhoeddiad yr Adroddiad Gwrthwynebu ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre (fersiwn ddrafft yn Atodiad A yr adroddiad);

 

3)       Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan i 420 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu yn Heol Beacons View yn y Clâs o fis Ionawr 2021, gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2021;

 

4)       Cynyddu nifer y lleoedd yn Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw i 545 ynghyd â meithrinfa mewn ysgol newydd ei hadeiladu ar safle Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe oddi ar Heol Gwyrosydd o fis Ionawr 2021, gyda newidiadau dalgylch cysylltiedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2021.

 

175.

Adolygiad ysgol bach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc. pdf eicon PDF 254 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn ceisio rhoi ystyriaeth i wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnod yr Hysbysiad Statudol a gofynnodd am benderfyniad ar y cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi ystyriaeth i a nodi’r adroddiad gwrthwynebu (Atodiad A yr adroddiad);

 

2)              Cymeradwyo'r cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019;

 

3)              Cymeradwyo cyhoeddiad yr Adroddiad Gwrthwynebu.

176.

Dyfarnu'r Contract (Adeiladu) Cam Cyntaf ac Awdurdodi'r Rhaglen Gyfalaf perthnasol ar gyfer y Prosiect Ailfodelu ac Ailwampio yn Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i:

 

i)                Ddyfarnu contract Cam Un ar gyfer y gwaith i Dendr Rhif 4;

ii)               Ceisio caniatâd i ymrwymo cyfanswm o £551,469 i'r rhaglen gyfalaf i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu. Cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ac awdurdodi cynllun newydd i'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Penodi contractwr 4 i gynnal y gwasanaeth cyn adeiladu hyd at £392,000 yn amodol ar gwblhau diwydrwydd dyladwy ariannol priodol.  Ystyrir mai contractwr 4 yw'r tendr mwyaf manteisiol yn economaidd a'r un sy'n rhoi gwerth gorau i'r awdurdod”.

 

2)              Ymrwymo £554,469 i'r Rhaglen Gyfalaf i ariannu costau'r cyfnod cyn adeiladu, gan gynnwys gwasanaeth cyn adeiladu contractwyr a ffïoedd mewnol;

 

3)              Awdurdodi'r Prif Swyddog Cyfreithiol i lunio dogfennaeth angenrheidiol i gwblhau'r contract a chyflawni'r prosiect;

 

4)              Dylid cyflwyno adroddiad pellach ar ddiwedd 2019 i ystyried cymeradwyo dyfarniad contract Cam Dau ac yn amodol ar gadarnhad a derbynioldeb costau adeiladu i ymrwymo cost y prosiect i'r Rhaglen Gyfalaf cyn i unrhyw waith ffisegol gael ei wneud.

177.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 104 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Llanrhidian

Mrs Felicity Parrott

2)

Ysgol Gynradd Portmead

Ms Sharon Rees

2)     

YGG Lôn Las

Ms Lisa Lewis

3)     

YGG Pontybrenin

Mr Keith Collins

4)     

Ysgol Gyfun Llandeilo Ferwallt

Mr Adrian Novis

 

178.

Adeiladu Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf 2019/20. pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo Cynlluniau Cynnal a Chadw Cyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Adeiladu, fel y'u rhestrir yn Atodiad A;

 

2)              Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet gymeradwyo cynlluniau Gwasanaethau Cymdeithasol unigol;

 

3)              Cymeradwyo a chynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad C a D yn y Rhaglen Gyfalaf.

179.

Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2019-2020. pdf eicon PDF 131 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad am y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd.

 

Penderfynwyd:

 

1)    Cymeradwyo'r dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A, ac y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf;

 

2)    Rhoi awdurdod dirprwyedig i Bennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd i flaenoriaethu, cwblhau a dyrannu cyllid i'r cynlluniau hynny a gynhwysir o fewn cwmpas yr adroddiad hwn ond nad oes cyfeiriad penodol atynt.

180.

Rhaglen Grant Cyfleusterau I'r Anabl A Grant Gwella 2019/20 pdf eicon PDF 133 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gartrefi ac Ynni adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2019/20, er mwyn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf) ac i ymrwymo i’r cynlluniau a’u cymeradwyo yn unol â'r Rhaglen Gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella, fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y dylid ei chynnwys yng Nghyllideb Gyfalaf 2019/20.