Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

127.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 138 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol";

 

2)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 138 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd R Francis-Davies gysylltiad personol â Chofnod 140 “Adfeddu Tir yn Heol Ystumllwynarth, Abertawe”.

128.

Cofnodion. pdf eicon PDF 132 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfodydd a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod o'r Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr 2018;

2)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr 2018.

129.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y cyfarfod yn cael ei recordio fel rhan o brawf gweddarlledu.

130.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

131.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

132.

Adroddiad gan y Pwyllgor Datblygu Polisi Pobl - Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu Polisi - Pobl adroddiad a oedd yn crynhoi gwaith y pwyllgor ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Y dylid nodi'r adroddiad;

 

2)              Cytuno ar y ffordd ymlaen fel a amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 o'r adroddiad.

133.

Polisi Tai Cydweithredol. pdf eicon PDF 117 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Lleoedd a Chadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd adroddiad ar y cyd, a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith y pwyllgor i gefnogi mentrau tai cydweithredol ac a geisiodd gymeradwyaeth o'r polisi.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r Polisi Tai Cydweithredol;

 

2)              Cymeradwyo ystyried unrhyw fynegiadau o ddiddordeb sy'n deillio o'i gyhoeddi yn y dyfodol.

134.

Adroddiad Blynyddol Cwynion 2017-18. pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Busnes, Trawsnewid a Pherfformiad adroddiad er gwybodaeth a adroddodd am nifer, natur a chanlyniadau cwynion a wnaed yn erbyn yr awdurdod, ynghyd â manylion y gwersi a ddysgwyd a syniadau am wella gwasanaethau.  Roedd yr Adroddiad Blynyddol Cwynion Corfforaethol yn cynnwys y canlynol:

 

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion;

Ø    Cwynion y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd;

Ø    Deddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI);

Ø    Deddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio (RIPA).

135.

Trefniadau Tâl Crwneriaid. pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygiad Sefydliadol adroddiad ar y cyd, a oedd yn ceisio cytundeb i fabwysiadu Fframwaith y Cydbwyllgor Trafod i gynorthwyo'r broses wneud penderfyniadau wrth benderfynu ar gyflog crwneriaid a'i osod.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cytuno ar Fframwaith ac Arweiniad Cyflog y Cydbwyllgor Trafod a'u mabwysiadu at ddibenion gosod cyflog ar gyfer crwneriaid;

 

2)              Gosod lefel cyflog Uwch-grwner Dinas a Sir Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot ar £127,000 cyflog gros;

 

3)              Ôl-ddyddio'r codiad cyflog i 1 Tachwedd 2017 pan gafodd Fframwaith y Cydbwyllgor Trafod ei gyhoeddi;

 

4)              Erys cyfradd ddyddiol y Crwneriaid Cynorthwyol yn £400 y dydd.

136.

Tendr ar gyfer darparu gwasanaethau cludiant o'r cartref i'r ysgol (SH 19-24). pdf eicon PDF 141 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a fanylodd ar ganlyniad tendrau diweddar ar gyfer gwasanaethau prif ffrwd o ran cludiant o'r cartref i'r ysgol, gan geisio cymeradwyaeth i ddyfarnu contractau. Mae'r adroddiad yn ceisio cydymffurfio â Rheolau Gweithdrefnau Contractau a galluogi contractau i gael eu trefnu gyda chontractwyr ac ysgolion a rhieni i gael eu hysbysu.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Derbyn prisiau tendro a argymhellwyd gan y Panel Gwerthuso Tendrau ac a amlinellir yn Atodlen B yr adroddiad fel y tendrau sy'n sicrhau gwerth gorau i'r cyngor;

 

2)              Dyfarnu contractau i'r cwmnïau a nodir yn Atodlen B yr adroddiad.

137.

Y Diweddaraf am gynnydd blaenoriaethau'r Adran Addysg ar gyfer 2017-2018. pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd o ran bodloni'r blaenoriaethau a nodwyd ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2017-2018 a’r blaenoriaethau amlinellol a nodwyd ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynnydd.

138.

Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 102 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:

 

1)

Ysgol Gynradd Danygraig

Stephen Mansell

 

139.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 112 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)

140.

Adfeddu Tir yn Heol Ystumllwynarth, Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am adfeddu tir o dan Adran 22 Deddf Llywodraeth Lleol 1972 ac arfer Adran 203 Deddf Tai a Chynllunio 2016 mewn perthynas â hawliau golau.

 

Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.