Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

108.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorydd E J King gysylltiad personol â Chofnod  117 “Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Abertawe (CYSAG) -Penodi aelodau newydd”;

 

2)              Datganodd y Cynghorydd  M C Child gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 119 “Bwriad i adfeddu 21 Heol Acacia, West Cross, Abertawe” and withdrew from the meeting prior to its consideration;

 

3)              Datganodd y Cynghorydd  J E Burtonshaw gysylltiad personol â Chofnod 124 “FPR7 - Cyfnewidfa Broadway - Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19”;

 

4)              Datganodd y Cynghorydd  C E Lloyd gysylltiad personol â Chofnod 126 “FPR7 - Cais Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Pont Baldwins”.

109.

Cofnodion. pdf eicon PDF 111 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018.

110.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

111.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

 

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 114 “Adolygiad o Ysgolion Bach - Cynnig i Gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc” a Chofnod 115 “Trefniadaeth Ysgol sy’n Gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg - gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a chynyddu maint ac adleoli YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw”.

 

Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

112.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Gofynnodd y Cnghorwyr L R Jones a B J Rowlands nifer o gwestiynau ynghylch Cofnod 114 “Adolygiad o Ysgolion Bach – Cynnig i Gau Ysgol Gynradd  Craigcefnparc” a Chofnod 115 “Trefniadaeth Ysgol sy’n Gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg – gan gynnwys y bwriad i gau YGG Felindre a chynyddu maint ac adleoli YGG Tan-y-lan ac YGG Tirdeunaw”.

 

Ymatebodd aelod(au) perthnasol y Cabinet.

113.

Craffu Cyn Penderfyniad- Adolygiad o Ysgol Fach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc & Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg (lafur)

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd L S Gibbard yr adborth craffu cyn penderfynu.

114.

Adolygiad o Ysgol Fach - Cynnig i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc. pdf eicon PDF 256 KB

*Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn cyflwyno adborth ar ganlyniad yr ymgynghoriad ac yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Craig-cefn-parc yn weithredol o 31 Awst 2019;

 

2)              Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019.

115.

Trefniadaeth Ysgolion sy'n gysylltiedig â Chynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg pdf eicon PDF 2 MB

*Call In Procedure: This decision is exempt from the Authority’s Call In Procedure as “the decision has been subject to Pre-Decision Scrutiny and there is no material change in relevant information / evidence”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gweithdrefn Galw i Mewn: Mae’r penderfyniad hwn wedi’i eithrio o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun craffu cyn penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i’r wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn amlinellu canlyniad yr ymgynghoriadau diweddar gan geisio penderfyniad ynghylch a ddylid trosglwyddo’r tir ger Beacons View a amlinellir yn goch ar y cynllun a ychwanegir at Atodiad G, "Y Tir ger Beacons View", o'r Cyfrif Refeniw Tai i Addysg.

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tan-y-lan, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau;

 

2)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i adleoli Ysgol Gynradd Gymraeg Tirdeunaw, cynyddu nifer y lleoedd a gwella’r cyfleusterau;

 

3)              Cymeradwyo cyhoeddi hysbysiad statudol i gau Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre’n weithredol o 31 Awst 2019;

 

4)              Cymeradwyo newidiadau yn nalgylchoedd ysgolion cynradd ac uwchradd Cymraeg sy'n angenrheidiol er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod;

 

5)              Y dylai'r Cabinet ystyried unrhyw wrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod cyfnodau'r hysbysiadau statudol a phennu canlyniad y cynigion yn y cyfarfod ar 21 Mawrth 2019;

 

6)              Bod y Cabinet yn nodi nad oes angen y tir ger Beacons View a amlinellir ar y cynllun yn Atodiad G yr adroddiad mwyach, a’i fod yn cymeradwyo ei adfeddu at ddibenion addysg o dan Adran 122 Deddf Llywodraeth Leol 1972, sef ar gyfer adeiladu ysgol gynradd newydd.

 

Sylwer: Gadawodd y Cynghorydd R C Stewart (Cadeirydd) y cyfarfod.

 

Bu’r Cynghorydd C E Lloyd (Is-gadeirydd) yn llywyddu

116.

Mwy o leoedd wedi'u cynllunio yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad, a oedd yn cynnig adborth ar ganlyniad cyfnod yr hysbysiad statudol ac yn ceisio penderfyniad ar y cynnig i gynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn. Ni dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cynyddu nifer y lleoedd cynlluniedig yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn o 130 i 150;

 

2)              Cynnwys yr arian refeniw dirprwyedig ychwanegol i gefnogi sefydlu'r lleoedd cynlluniedig ychwanegol hyn yn Ysgol Arbennig Pen-y-bryn a'r costau cludiant ychwanegol posib sy'n gysylltiedig â hyn yng nghyllidebau refeniw cyffredinol presennol addysg a rhai'r dyfodol.</AI9>

117.

Cyngor Ymgynghorol Sefydlog Ar Addysg Grefyddol Abertawe (CYSAG)-Penodi aelodau newydd. pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gynyddu aelodaeth Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol Abertawe (CYSAG).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cynyddu aelodaeth Pwyllgor A (Grwpiau Ffydd) CYSAG o ddau aelod i gynnwys un cynrychiolydd o'r Ffydd Fahaiaidd ac un o Gymdeithas y Dyneiddwyr;

 

2)              Cynyddu aelodaeth Pwyllgor B (Cymdeithasau Proffesiynol) CYSAG o un aelod i gynnwys ail gynrychiolydd o'r NASUWT.

118.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2018-19 pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2018-2019.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.</AI11>

119.

Bwriad i adfeddu 21 Heol Acacia, West Cross, Abertawe. pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio penderfyniad ynghylch a ddylid adfeddu eiddo 21 Heol Acacia, West Cross SA3 5LF at ddibenion tai. Mae'r tir y cynigir ei adfeddu ar hyn o bryd yn dir gwasanaethau cymdeithasol y cyngor ac ystyrir nad oes ei angen mwyach at y dibenion hyn.

 

Dywedodd fod adroddiad diwygiedig wedi’i gylchredeg.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Adfeddu'r eiddo a nodwyd ar y cynllun yn Atodiad B yr adroddiad at ddibenion tai, sef darparu dwy neu o bosib dair uned ar gyfer tai cyngor.

120.

Adroddiad FPR7 ar gyfer Cynlluniau Cyfalaf CGI. pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Ofal, Iechyd a Heneiddio'n Dda adroddiad, a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cyllid Cyfalaf y Gronfa Gofal Integredig (CGI) ar gyfer Dinas a Sir Abertawe ac i ychwanegu'r cynllun at y rhaglen gyfalaf.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo’r elfen sy’n ymwneud ag Abertawe yn y cais am grant cyfalaf y CGI i Lywodraeth Cymru.

121.

FPR7 Buddsoddiad cyfalaf i Plantasia mewn partneriaeth â Parkwood Leisure pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad, a oedd yn ceisio cadarnhau lefel y cyllid ar gyfer gwaith datblygu cyfalaf Plantasia mewn partneriaeth â Parkwood Leisure.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo’r egwyddorion datblygu cyfalaf cyffredinol ynghyd â'r goblygiadau ariannol;

 

2)              Rhoi awdurdod i ddefnyddio’r benthyciad cyfalaf ac awdurdodi'r cynlluniau yn yr egwyddorion datblygu;

 

3)              Datblygu dull o fonitro'r prosiect i reoli'r cynlluniau unigol gyda chynrychiolaeth swyddogion priodol a phroses cymeradwyo;

 

4)              Archwilio cyfleoedd i gael grantiau mewn partneriaeth â Parkwood Leisure er mwyn lleihau’r swm a fenthycir a’r costau ad-dalu i'r cyngor.

122.

Polisi Cerbydlu Gwyrdd pdf eicon PDF 130 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Cadeirydd Pwyllgor Datblygu Polisi’r Economi ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Polisi’r Cerbydlu Gwyrdd yn ffurfiol i sicrhau bod caffael, defnydd a rheolaeth y cerbydlu corfforaethol yn ceisio'n gyson ac yn barhaus i gyfrannu at ymrwymiadau Cynllun Corfforaethol y cyngor mewn perthynas â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Penderfynwyd:

 

1)       Mabwysiadu Polisi’r Cerbydlu Gwyrdd.</AI15>

123.

Peidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du. pdf eicon PDF 167 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad, a oedd yn cynnwys cynnig i beidio â rhoi deunyddiau ailgylchadwy mewn sachau du ar ymyl y ffordd i annog cynnydd mewn ailgylchu er mwyn cyrraedd targedau statudol cynyddol. Roedd yr ymagwedd hefyd yn ceisio osgoi'r angen i gyfyngu ymhellach ar nifer y sachau du y gellir eu derbyn neu amlder y casgliadau.

 

Dywedodd fod canlyniadau’r ymgynghoriad wedi’u cylchredeg.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cynghori preswylwyr na chaniateir gosod y deunyddiau ailgylchadwy a restrir isod yn eu gwastraff gweddilliol (sachau du):

 

Ø    Bwyd;

Ø    Caniau a thuniau;

Ø    Poteli gwydr a jariau;

Ø    Papur a chardbord;

Ø    Poteli plastig, tybiau a hambyrddau (rhaid gosod haenau neu blastig tenau yn y sachau du o hyd).

 

2)              Dechrau proses Hyrwyddiadau Ailgylchu i wirio sachau du am ddeunyddiau ailgylchadwy sylweddol;

 

3)              Dilyn y broses a nodir ym mharagraffau 4.3 i 5.1 yr adroddiad i geisio newid sylweddol o ran rheoli gwastraff ac ailgylchu yn y cartref.

124.

FPR7 - Cyfnewidfa Broadway - Grant Cronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 pdf eicon PDF 171 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau’r cais am gyllid ychwanegol o’r Gronfa Trafnidiaeth Leol ac a geisiodd gymeradwyaeth am wariant ar brosiect Cyfnewidfa Broadway 2018-2019. Roedd yr adroddiad hefyd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol, "Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf", i ymrwymo ac awdurdodi amrywiad i gynllun cyfalaf presennol yn y Rhaglen Gyfalaf.  

 

Penderfynwyd cymeradwyo prosiect Cyfnewidfa Broadway, ynghyd â'i oblygiadau ariannol.

125.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(Sesiwn Gaeëdig)</AI18>

126.

FPR7 - Cais Ychwanegol i Gronfa Trafnidiaeth Leol 2018/19 - Pont Baldwins.

Cofnodion:

The Cabinet Member for Environment & Infrastructure Management presented a report which confirmed the bid for additional Local Transport Fund (LTF) monies and sought approval for expenditure on the Baldwins Bridge and Dyfatty Junction projects 2018-2019.  The report sought also to comply with Financial Procedure Rule 7 “Capital Programming and Appraisals”, to commit and authorise a variation to an existing capital scheme in the Capital Programme.

 

Resolved that the recommendations as detailed in the report be approved.