Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 19 Gorffennaf, 2018. |
||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 1af 2018/19. PDF 203 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn cynnwys monitro ariannol cyllidebau refeniw a
chyfalaf 2018/19, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. Penderfynwyd nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr
adroddiad hwn a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er mwyn mynd i'r afael â'r
rhain. |
||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 95 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
||||||||||
Ymateb y Cabinet i Ymchwiliad Craffu i Waith Ranbarthol PDF 148 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a
oedd yn amlinellu ymateb i'r argymhellion craffu cyflwynwyd cynllun gweithredu
ar gyfer cael cytundeb. 1) Penderfynwyd
cytuno ar yr ymateb a amlinellwyd yn yr adroddiad a'r cynllun gweithredu
cysylltiedig. |
||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 111 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||
Gwaith Copr yr Hafod - Penderyn - Penawdau'r Telerau. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Buddsoddi,
Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ddechrau cytundeb i brydlesu gyda Penderyn ar
sail y Penawdau Telerau a drafodwyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor ar gyfer
gwaredu asedau. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |