Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 39 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol" a gadawodd y cyfarfod cyn ei ystyried. |
||||||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion
y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir yn ddibynnol ar y Cynghorydd G D Walker yn cael ei ychwanegu
at y rhestr o gynghorwyr a oedd yn bresennol: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2018. |
||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran
agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 34 “Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y
Dyfodol”. Ymatebodd yr aelod perthnasol o'r Cabinet. |
||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Craffu cyn penderfyniad - Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y Dyfodol. (Llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd C E Lloyd, yr adborth craffu cyn penderfynu. |
||||||||||||||||
Darpariaeth a Strwythyr yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig yn y Dyfodol PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau adroddiad a oedd yn argymell
camau gweithredu yn dilyn yr ymgynghoriad ar newidiadau arwyddocaol i strwythur
a chyflwyniad yr Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU). Penderfynwyd: 1)
Yn
dilyn yr ymgynghoriadau ehangach â staff a rhanddeiliaid
a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth a mis Mai 2018, y dylid cymeradwyo Opsiwn 2 fel
y'i nodwyd yn yr adroddiad i'w roi ar waith ar 1 Ionawr 2019. |
||||||||||||||||
Adroddiad monitro perfformiad diwedd blwyddyn 2017/18. PDF 155 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
amlinellu Perfformiad Corfforaethol 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Nodi ac adolygu'r canlyniadau
perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu
adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella
perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a
chenedlaethol. |
||||||||||||||||
Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2017/18 PDF 185 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro cyllidebol refeniw ar
gyfer 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth
gefn arfaethedig a fanylwyd yn Adran 7.3 yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Alldro Refeniw 2017/18 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT) PDF 105 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn manylu ar alldro Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
Dinas a Sir Abertawe yn 2017-2018 o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar
gyfer 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r amrywiadau a fanylwyd yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Alldro cyfalaf ac ariannu 2017/18. PDF 141 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar yr alldro
a'r cyllidebu cyfalaf am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2018. Penderfynwyd: 1)
Cario
tanwariant net y gyllideb gymeradwy £26.019m ymlaen i 2018-2019; 2) Nodi'r prif resymau dros y tanwario a amlinellwyd yn Atodiad C yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr Awdurdod Lleol. PDF 97 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Prif Swyddog
Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes:
|
||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 112 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr
eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel a nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad
i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir
yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y
cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
||||||||||||||||
Bwriad i brynu dau gyfle i fuddsoddi yng nghanol y ddinas Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Busnes a Pherfformiad adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyaeth ar gyfer prynu dau eiddo fel rhan o'r Gronfa Buddsoddi
mewn Eiddo. Crëwyd y Gronfa yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet a wnaed ar 21
Gorffennaf 2016. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u
hamlinellir yn yr adroddiad. |