Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

162.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

163.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

164.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

165.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

166.

Ymgynghoriad Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig pdf eicon PDF 455 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad i gynnig opsiynau i ymgynghori ar newidiadau sylweddol i strwythur a chyflwyno'r Uned Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (EMAU).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Dechrau ymgynghori ar y model cyflwyno gwasanaeth arfaethedig gyda dyddiad gweithredu rhannol arfaethedig ar 1 Medi 2018 (Opsiwn 1);

2)              Bod cyllid cynaliadwy'n cael ei ystyried gan y cyngor, fel rhan o bennu cyllideb 2019-20, ar gyfer y model cyflwyno gwasanaeth arfaethedig ar gyfer y blynyddoedd ariannol dilynol (2019-2020), unwaith bydd lefel derfynol a sail unrhyw gefnogaeth barhaus gan Lywodraeth Cymru wedi'u cadarnhau.