Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei
bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff
gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn
Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas
ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (SESIWN GAEËDIG) |
|
Prynu arfaethedig eiddo preswyl er mwyn hwyluso'r broses ail-leoli o'r cyfleuster presennol. Cofnodion: Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes ac Iechyd a Lles adroddiad ar y cyd yn
gofyn am ystyried caffael eiddo preswyl er mwyn hwyluso ail-leoli Cartref Plant
presennol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn Nant-y-felin, Blaen-y-maes. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad. |
|
Adolygiad Depo. Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelodau Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes a Gwasanaethau’r Amgylchedd adroddiad ar y
cyd a oedd yn gofyn am awdurdod i swyddogion "brynu'n ôl" y brydles
tir hir sy'n weddill ar safle 4x4 Bro Tawe yng Nghlôs Ferryboat fel rhan o
ail-leoli parhaus Cei Pipehouse dan yr adolygiad depo. PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r
argymhelliad fel a nodwyd yn yr adroddiad. |