Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | |||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 8 Chwefror 2018; a 2)
Chyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2018. |
||||||||||||||||
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y cysylltiadau canlynol: Y Cynghorwyr M C Child, W Evans, R Francis-Davies, M Sherwood, R Stewart ac
M Thomas - Personol - Cofnod Rhif 156 - "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol”. Y Cynghorwyr A S Lewis a J A Raynor - Personol a rhagfarnol
- Cofnod Rhif 156 - "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol" a
gadawsant y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. Y Cynghorydd J A Raynor - Personol - Cofnod Rhif 159 a 161 - "Gwerthu
Tir Dros Ben yn Ysgol Gyfun yr Olchfa”. |
||||||||||||||||
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
||||||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Questions must relate to matters on the open part of the Agenda of the meeting and will be dealt within a 10 minute period. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
||||||||||||||||
Ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu a Phlismona 2014 Ddeddf PDF 118 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Gymunedau Cryfach a Thai, Ynni a'r Gwasanaethau
Adeiladau adroddiad a oedd yn darparu trosolwg o'r ddeddf newydd sef Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a
Phlismona 2014. Penderfynwyd: 1)
Bod
gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar gyfer Pobl, Lleoedd ac Adnoddau awdurdod
dirprwyedig i arfer, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gymunedau
Cryfach, y pwerau newydd sydd ar gael i'r cyngor fynd i'r afael ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad; 2)
Bod
gan y Cyfarwyddwyr Corfforaethol ar gyfer Pobl, Lleoedd ac Adnoddau awdurdod
dirprwyedig, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach, i
gychwyn achosion ar gyfer gwaharddebau dinesig, rhoi Hysbysiadau Gwarchod y
Gymuned, creu Gwarchodebau Mannau Cyhoeddus a rhoi
gorchmynion cau am 24 awr ynghyd ag awdurdod i roi Hysbysiadau o Gosb Benodol o
dan Ran 4, Pennod 1 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona
2014; ac 3) Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes i gyflwyno ceisiadau am unrhyw
estyniad angenrheidiol i orchymyn cau am 24 awr neu gyflwyno ceisiadau ar gyfer
rhoi gorchymyn am gyfnod o 48 awr. |
||||||||||||||||
Cofnodion: Cyflwynodd
Cadeirydd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi Lleihau Tlodi adroddiad a oedd
yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr argymhelliad i gryfhau'r Cynnig Gofal
Plant. Penderfynwyd y dylid: 1)
Ysgrifennu
llythyr i Lywodraeth Cymru i: (i) Ofyn am hyblygrwydd i feini prawf cymhwysedd
y cynnig (ii) Ceisio sicrhad y bydd y cynnig yn un
tymor hir a 2) Datblygu ymagwedd gydlynol at gyflogadwyedd (drwy'r Fforwm Partneriaeth Tlodi) fel bod rhieni plant ifanc yn cael eu blaenoriaethu er mwyn bod mewn sefyllfa i elwa o'r Cynnig Gofal Plant. |
||||||||||||||||
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2017-18. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd
yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer 3ydd Chwarter 2017-18. Penderfynwyd: 1) Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
||||||||||||||||
Cynllun Ardal Rhanbarthol Bae'r Gorllewin. PDF 55 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
Cynllun Ardal Bae'r Gorllewin (2018-2023) a'r Cynllun Gweithredu (2018/19). Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo
Cynllun Ardal a Chynllun Gweithredu Bae'r Gorllewin; 2)
Awdurdodi
Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi dolen â'r Cynllun Ardal a'r
Cynllun Gweithredu ar wefan y cyngor; ac 3) Awdurdodi'r Cyfarwyddwr Pobl i gyflwyno Cynllun Ardal a Chynllun Gweithredu i Weinidogion Cymru ar ran y tri awdurdod lleol a bwrdd iechyd rhanbarth Bae'r Gorllewin, wedi'u cydlofnodi gan arweinydd y Cyngor ac arweinwyr CBS Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot a Chadeirydd Bwrdd Iechyd PABM. |
||||||||||||||||
Strategaeth Atal ar gyfer Abertawe 2018 - 2021 PDF 77 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn amlinellu'r Strategaeth Atal
a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig i'w cymeradwyo'n dilyn ymgynghoriad
estynedig. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Strategaeth Atal a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig. |
||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd. Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeedig) |
||||||||||||||||
System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru (SWGCC) Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Iechyd a Lles achos busnes er mwyn rhoi System Wybodaeth Gofal
Cymunedol Cymru (CCISC) ar waith yng Nghyngor Abertawe. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 98 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd y Cyngor ar ran Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd er
mwyn llenwi swyddi gwag Llywodraethwyr Awdurdod Lleol mewn cyrff llywodraethu. Penderfynwyd cymeradwyo'r enwebiadau a restrir isod:
|
||||||||||||||||
Rhaglen Cynnal Cyfalaf Adeiladau 2018/19. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Dai, Ynni a Gwasanaethau Adeiladau adroddiad a oedd yn ceisio
cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig a restrir yn Atodiad A (i'r
adroddiad); a 2) Chynnwys y goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad B ac C (i'r adroddiad) yn y rhaglen gyfalaf. |
||||||||||||||||
FPR7 Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2018-2019. PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Wasanaethau Amgylcheddol adroddiad a oedd yn ceisio cadarnhad am
y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau'r isadeiledd priffyrdd. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A (yr
adroddiad), ac y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf; a 2) Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Chludiant, ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd, flaenoriaethu, cwblhau a dyrannu cyllid i'r cynlluniau hynny na chyfeirir yn benodol atynt yn yr adroddiad. |
||||||||||||||||
Gwaredu tir dros ben yn ysgol gyfun yr Olchfa. PDF 256 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn manylu ar yr
ymatebion i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn unol â Rheoliadau Caeau Chwarae
(Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015 mewn perthynas
â'r bwriad i'w werthu fel yr amlinellir yn yr adroddiad. Nododd Aelod y
Cabinet fod ffeil sy'n cynnwys yr holl ohebiaeth o ran yr ymgynghoriad a
gynhaliwyd wedi'i roi yn Swyddfa’r Cabinet i holl aelodau'r Cabinet ei weld. Penderfynwyd: 1) Ystyried a nodi'r ymatebion/gwrthwynebiadau i'r gwerthu arfaethedig; 2) Datgan nad oes angen y safle sydd oddeutu 7.8 erw (31,566m2) fel y'i dangosir ar y cynlluniau, yn amodol ar ddefnyddio elw o'r gwerthiant i ddarparu arwyneb gemau artiffisial; a 3) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd i fwrw ymlaen â'r gwerthu trwy farchnata'r tir a nodwyd ac adrodd yn ôl i'r Cabinet maes o law wedi iddo wneud hynny. |
||||||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 69 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A
Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
a nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel a nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeedig) |
||||||||||||||||
Gwaredu tir dros ben yn ysgol gyfun yr Olchfa. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad 'er gwybodaeth'
ynghylch prisio'r safle a gwybodaeth ariannol o ran gwerthu'r tir dros ben yn
Ysgol Gyfun yr Olchfa (Cofnod 159 uchod). Nodwyd bod
Atodiad B, y cyfeirir ato yn yr adroddiad, wedi'i gynnwys yng Nghofnod Rhif 159
(Cynllun diwygiedig gan gynnwys maes chwarae 3G newydd maint llawn). |