Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

94.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

95.

Cofnodion. pdf eicon PDF 126 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017.

96.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

97.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 999 "Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol: Cinigion Cyllideb 2018/19 – 2020/21".

 

Ymatebodd Arweinydd y Cyngor.

98.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

99.

Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol: Cynigion Cyllideb 2018/19 - 2021/22 pdf eicon PDF 515 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer cynigion cyllideb 2018-2019 tan 2021-2022 fel rhan o Strategaeth Gyllidebol y Cyngor, Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Crynhoi'r cynigion cyllidebol yn yr adroddiad a nodi'r manylion yn Atodiad A ac Atodiad C fel sail i gymeradwyo'r ymgynghoriad;

 

2)              Mabwysiadu'r rhagolwg cyllidebol diweddaraf ar gyfer y dyfodol fel sail cynllunio cychwynnol ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig newydd a fydd yn cael ei ystyried gan y cyngor ar 22 Chwefror 2018;

 

3)              Cytuno ar yr ymagwedd at ymgynghori a chynnwys staff, undebau llafur, preswylwyr, partneriaid a phartïon eraill â diddordeb a nodwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn;

 

4)              Cyflwyno adroddiad am ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol i'r Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2018.

100.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2017-18. pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2017-2018.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

101.

Cynnig ar gyfer Cyllid Etifeddol. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach adroddiad a oedd yn nodi dyraniad arfaethedig y cyllid etifeddol i'w gymeradwyo.

 

Amlinellodd y diwygiadau canlynol i'r adroddiad:

 

a)              Tudalen 65, paragraff 3.3. Diwygio'r ffigur a ddyfynnwyd i "£261,819";

b)              Tudalen 68, Paragraff 5.1. Diwygio'r ffigur a ddyfynnwyd ar gyfer 2018/19 ar gyfer y 'Partneriaid Cyflwyno Trydydd Parti' i "£263,456";

c)             Tudalen 68, Paragraff 5.1. Diwygio'r ffigur a ddyfynnwyd ar gyfer 2018/19 ar gyfer y 'Cynnig Cyflogadwyedd Unigol' i "£66,467".

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cymeradwyo diwygio'r adroddiad yn ôl y diwygiadau a restrir uchod;

 

2)              Cymeradwyo ar egwyddor y cynigion ar gyfer y cyllid etifeddol a gynhwysir yn yr adroddiad, yn amodol ar arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru.

102.

Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2017/18. pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i daliadau ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018-2019 fel rhan o'r broses adolygu flynyddol sefydledig a nodwyd ym Mholisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori ar newidiadau posib i daliadau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion fel rhan o gyllideb ehangach y cyngor - i gynnwys ystyried y canlynol:

 

·                  Cyflwyno ffi am wasanaethau dydd i bobl hŷn;

·                  Cyflwyno ffi am wasanaethau dydd i oedolion iau;

·                  Cyflwyno ffi am ofal seibiant yn y cartref;

·                  Cynyddu'r ffi am ofal cartref;

·                 Cynnydd chwyddiannol ar gyfer holl daliadau gofal cymdeithasol eraill.

103.

Sgiliau'r Fargen Ddinesig pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Addysg a Sgiliau adroddiad a oedd yn rhoi adborth am y cynnydd hyd yma o ran datblygu polisi ar addysg a sgiliau i ateb heriau'r Fargen Ddinesig.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Cafodd yr adborth a roddwyd hyd yma am ddatblygu polisi ar addysg a sgiliau i ateb heriau'r Fargen Ddinesig ei ystyried a bydd y casgliadau a nodwyd yn yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo;

 

2)              Bydd Arweinydd y Cyngor, Aelod y Cabinet, y Prif Weithredwr ac Uwch-swyddogion yn codi'r materion y soniwyd amdanynt yn yr adroddiad hwn a'r trefniadau partneriaeth perthnasol sydd ar waith, ac yn ceisio cyflwyno'r trefniadau llywodraethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn pan y cytunir ar y rhain fel ffordd ymlaen ar gyfer y Fargen Ddinesig;

 

3)              Bydd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn gweithio gyda swyddogion i sicrhau bod trefniadau lleol yn gadarn ac yn gallu ateb yr heriau a'r cyfleoedd sy'n codi o'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys sefydlu trefniadau partneriaethau lleol i fwydo partneriaethau rhanbarthol.

104.

Arolygiad Estyn o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod Lleol i Blant a Phobl Ifanc 2013 - Y diweddaraf am y cynnydd wrth ymateb i'r pum argymhelliad, mis Rhagfyr 2017 pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynnydd diweddaraf o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn.

 

Gadawodd y Cynghorydd R C Steward (Cadeirydd) y cyfarfod.

 

Y Cynghorydd C E Lloyd (Is-Gadeirydd) oedd yn llywyddu.

 

105.

Adolygiad y Gwasanaethau i Oedolion o strategaethau comisiynu ar gyfer anableddau dysgu, anableddau corfforol ac iechyd meddwl pdf eicon PDF 115 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cynnydd hyd yma gydag Adolygiadau Comisiynu'r Gwasanaethau i Oedolion mewn perthynas â llety a thai sy'n ymwneud â darpariaeth a gwasanaethau dydd i bobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a phobl ag afiechyd meddwl, gyda'r nod o geisio trefniadau ar gyfer y strategaethau hynny.

 

Penderfynwyd:

 

1)               Cymeradwyo'r strategaethau a pharhau i ymgynghori drwy ddilyn y broses ymgynghoriad cyllidebol.

106.

Ymestyniad o'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 mlwydd oed. pdf eicon PDF 155 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Iechyd a Lles a Phlant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ehangu'r cynnig gofal plant i wardiau eraill ar draws Abertawe.

 

Penderfynwyd:

 

1)              Ail-gadarnhau'r cynigion ar gyfer ehangu'r cynnig gofal plant i ardaloedd cam 1 (fel a nodwyd ym mharagraff 3.1 yr adroddiad);

 

2)              Cymeradwyo'r cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu'r cynnig gofal plant i gam 2 (fel a nodwyd ym mharagraff 3.5 yr adroddiad);

 

3)              Bydd y cyflwyniad llawn i'r holl ardaloedd yn dilyn cam 2 yn unol â chadarnhad am arian gan Lywodraeth Cymru;

 

4)              Bydd y Cyfarwyddwr Pobl a'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn datblygu trefniadau ar gyfer rheoli cyfleoedd ariannu cyfalaf yn y dyfodol.

107.

Prosiect gweithffyrdd+ - estyn y grant gan gronfa gymdeithasol ewrop a derbyn arian grant ychwanegol pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i estyn prosiect Gweithffyrdd + tan 2022 ac i gymeradwyo'r cynnydd yn y grant a ddyrennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

 

Penderfynwyd:

 

1)              Nodi'r cynnydd a gafwyd gan y prosiect hyd yma;

 

2)              Rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol, sy'n ymddwyn fel y cyswllt awdurdodi ar gyfer y prosiect, dderbyn y cynnig i estyn y grant a rhoi cyllid ychwanegol a wnaed gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO);

 

3)              Cyflwyno adroddiadau rheolaidd am y cynnydd a wnaed i'r Panel Ariannu Allanol.