Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir
isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd 2017. |
|
Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni
wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac
ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud. Cofnodion: Gofynnwyd nifer o gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 999 "Abertawe Gynaliadwy – Yn Addas i’r Dyfodol: Cinigion Cyllideb 2018/19 – 2020/21". Ymatebodd Arweinydd y Cyngor. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni
ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol: Cynigion Cyllideb 2018/19 - 2021/22 PDF 515 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros yr Economi a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth
ar gyfer cynigion cyllideb 2018-2019 tan 2021-2022 fel rhan o Strategaeth
Gyllidebol y Cyngor, Abertawe Gynaliadwy - Yn Addas i'r Dyfodol. Penderfynwyd: 1)
Crynhoi'r
cynigion cyllidebol yn yr adroddiad a nodi'r manylion yn Atodiad A ac Atodiad C
fel sail i gymeradwyo'r ymgynghoriad; 2)
Mabwysiadu'r
rhagolwg cyllidebol diweddaraf ar gyfer y dyfodol fel sail cynllunio cychwynnol
ar gyfer y cynllun ariannol tymor canolig newydd a fydd yn cael ei ystyried gan
y cyngor ar 22 Chwefror 2018; 3)
Cytuno
ar yr ymagwedd at ymgynghori a chynnwys staff, undebau llafur, preswylwyr,
partneriaid a phartïon eraill â diddordeb a nodwyd yn Adran 7 yr adroddiad hwn;
4)
Cyflwyno
adroddiad am ganlyniad yr ymgynghoriad a'r cynigion cyllidebol terfynol i'r
Cabinet yn ei gyfarfod ar 8 Chwefror 2018. |
|
Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 2 2017-18. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet
dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn
amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2017-2018. Penderfynwyd: 1)
Nodi
ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau
gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau
gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni
blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|
Cynnig ar gyfer Cyllid Etifeddol. PDF 126 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Gymunedau Cryfach adroddiad a oedd yn nodi dyraniad arfaethedig y cyllid etifeddol i'w gymeradwyo. Amlinellodd y
diwygiadau canlynol i'r adroddiad: a)
Tudalen 65, paragraff 3.3.
Diwygio'r ffigur a ddyfynnwyd i "£261,819"; b)
Tudalen 68, Paragraff 5.1.
Diwygio'r ffigur a ddyfynnwyd ar gyfer 2018/19 ar gyfer y 'Partneriaid Cyflwyno
Trydydd Parti' i "£263,456"; c)
Tudalen 68, Paragraff 5.1. Diwygio'r ffigur a
ddyfynnwyd ar gyfer 2018/19 ar gyfer y 'Cynnig Cyflogadwyedd Unigol' i
"£66,467". Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo diwygio'r adroddiad yn ôl y diwygiadau a restrir uchod; 2) Cymeradwyo ar egwyddor y cynigion ar gyfer y cyllid etifeddol a gynhwysir yn yr adroddiad, yn amodol ar arweiniad pellach gan Lywodraeth Cymru. |
|
Adolygiad Blynyddol o Daliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol) 2017/18. PDF 123 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i
ymgynghori ar newidiadau arfaethedig i daliadau ar gyfer y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn 2018-2019 fel rhan o'r broses adolygu flynyddol sefydledig a
nodwyd ym Mholisi Codi Tâl y Gwasanaethau Cymdeithasol. Penderfynwyd: 1)
Rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori ar newidiadau posib i
daliadau ar gyfer gofal cymdeithasol i oedolion fel rhan o gyllideb ehangach y
cyngor - i gynnwys ystyried y canlynol: ·
Cyflwyno ffi am wasanaethau dydd i bobl hŷn; ·
Cyflwyno ffi am wasanaethau dydd i oedolion iau; ·
Cyflwyno ffi am ofal seibiant yn y cartref; ·
Cynyddu'r ffi am ofal cartref; ·
Cynnydd
chwyddiannol ar gyfer holl daliadau gofal cymdeithasol eraill. |
|
Sgiliau'r Fargen Ddinesig PDF 126 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Pwyllgor Datblygu a Chyflwyno Polisi - Addysg a Sgiliau
adroddiad a oedd yn rhoi adborth am y cynnydd hyd yma o ran datblygu polisi ar
addysg a sgiliau i ateb heriau'r Fargen Ddinesig. Penderfynwyd: 1)
Cafodd yr adborth a roddwyd hyd yma am ddatblygu polisi ar addysg a
sgiliau i ateb heriau'r Fargen Ddinesig ei ystyried a bydd y casgliadau a
nodwyd yn yr adroddiad hwn yn cael eu cymeradwyo; 2)
Bydd Arweinydd y Cyngor,
Aelod y Cabinet, y Prif Weithredwr ac Uwch-swyddogion yn codi'r materion y
soniwyd amdanynt yn yr adroddiad hwn a'r trefniadau partneriaeth perthnasol
sydd ar waith, ac yn ceisio cyflwyno'r trefniadau llywodraethu a nodwyd yn yr
adroddiad hwn pan y cytunir ar y rhain fel ffordd ymlaen ar gyfer y Fargen
Ddinesig; 3)
Bydd
Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes yn gweithio gyda
swyddogion i sicrhau bod trefniadau lleol yn gadarn ac yn gallu ateb yr heriau
a'r cyfleoedd sy'n codi o'r Fargen Ddinesig, gan gynnwys sefydlu trefniadau
partneriaethau lleol i fwydo partneriaethau rhanbarthol. |
|
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am y cynnydd o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad Arolygiad Estyn. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd diweddaraf o ran bodloni'r pum argymhelliad a gafwyd yn Adroddiad
Arolygiad Estyn. Gadawodd y
Cynghorydd R C Steward (Cadeirydd) y cyfarfod. Y
Cynghorydd C E Lloyd (Is-Gadeirydd) oedd yn llywyddu. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg o'r cynnydd hyd yma gydag Adolygiadau Comisiynu'r Gwasanaethau i Oedolion mewn perthynas â llety a thai sy'n ymwneud â darpariaeth a gwasanaethau dydd i bobl ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a phobl ag afiechyd meddwl, gyda'r nod o geisio trefniadau ar gyfer y strategaethau hynny. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
strategaethau a pharhau i ymgynghori drwy ddilyn y broses ymgynghoriad
cyllidebol. |
|
Ymestyniad o'r Cynnig Gofal Plant ar gyfer plant 3 i 4 mlwydd oed. PDF 155 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Aelodau'r Cabinet dros Iechyd a Lles a Phlant, Addysg a Dysgu Gydol Oes
adroddiad ar y cyd a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ehangu'r cynnig gofal plant
i wardiau eraill ar draws Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Ail-gadarnhau'r
cynigion ar gyfer ehangu'r cynnig gofal plant i ardaloedd cam 1 (fel a nodwyd
ym mharagraff 3.1 yr adroddiad); 2)
Cymeradwyo'r
cynigion i Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu'r cynnig gofal plant i gam 2 (fel a
nodwyd ym mharagraff 3.5 yr adroddiad); 3)
Bydd
y cyflwyniad llawn i'r holl ardaloedd yn dilyn cam 2 yn unol â chadarnhad am
arian gan Lywodraeth Cymru; 4)
Bydd
y Cyfarwyddwr Pobl a'r Cyfarwyddwr Lleoedd yn datblygu trefniadau ar gyfer
rheoli cyfleoedd ariannu cyfalaf yn y dyfodol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i estyn prosiect Gweithffyrdd + tan
2022 ac i gymeradwyo'r cynnydd yn y grant a ddyrennir
gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Penderfynwyd: 1)
Nodi'r
cynnydd a gafwyd gan y prosiect hyd yma; 2)
Rhoi caniatâd i Bennaeth y Gwasanaethau Ariannol, sy'n ymddwyn fel y
cyswllt awdurdodi ar gyfer y prosiect, dderbyn y cynnig i estyn y grant a rhoi cyllid
ychwanegol a wnaed gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO); 3)
Cyflwyno
adroddiadau rheolaidd am y cynnydd a wnaed i'r Panel Ariannu Allanol. |