Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Ddinas, Abertawe

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

16.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Datganodd y Cynghorwyr R C Stewart, J E Burtonshaw, M C Child, W Evans, R Francis-Davies, D H Hopkins, C E Lloyd, J A Raynor ac M Thomas fudd personol yng Nghofnod 29 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol";

2)              Datganodd y Cynghorydd J E Burtonshaw fudd personol yng Nghofnod 28 "Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA)";

3)              Datganodd y Cynghorydd J A Raynor fudd personol yng Nghofnod 28 "Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA)";

4)              Datganodd y Cynghorydd C E Lloyd fudd personol yng Nghofnod 24 “Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/2018";

5)              Datganodd y Cynghorydd W Evans fudd personol yng Nghofnod 24 Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol 2017/2018”.

 

17.

Cofnodion. pdf eicon PDF 68 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)              Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2017.

 

 

18.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y datganiad diweddar am drydaneiddio'r rheilffordd a dywedodd y bydd ef ynghyd â'r CLlLC ac arweinwyr eraill y cyngor yn cyflwyno sylwadau i'r Ysgrifennydd Gwladol.

 

19.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

20.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

21.

Alldro Refeniw 2016/17 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). pdf eicon PDF 63 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys manylion alldro CTR Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw gymeradwy ar gyfer 2016-2017.

 

PENDERFYNWYD nodi'r amrywiadau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

22.

Alldro Refeniw ac Olrhain Arbedion 2016/17. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion alldro refeniw 2016-2017. Cyfeiriodd y Swyddog Adran 151 at gamgymeriad gyda'r ffigur terfynol yn y tabl ym mharagraff 4.4 mewn perthynas â'r cynnydd cyffredinol dros y tair blynedd diwethaf (%), mae angen ei newid i 4.1.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau yn yr adroddiad;

 

2)              Cymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig a nodir yn Adran 7.3 yr adroddiad.

 

23.

Alldro Cyfalaf 2016/17 pdf eicon PDF 21 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

1) Trosglwyddo'r tanwariant net o'r gyllideb gymeradwy, sef £16.155m, i 2017-2018.

 

24.

Rheol Gweithdrefn Ariannol 7 Grant y Gronfa Drafnidiaeth Leol 2017/18 pdf eicon PDF 174 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau'r Amgylchedd adroddiad a oedd yn cadarnhau'r cais am grant gan y Gronfa Drafnidiaeth Leol ac yn ceisio cymeradwyaeth i wario ar y cynlluniau a'r prosiectau arfaethedig yn 2017-2018.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Cymeradwyo cynlluniau'r Gronfa Drafnidiaeth Leol ynghyd â'u goblygiadau ariannol.

 

25.

Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2016/17. pdf eicon PDF 108 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a Gweithrediadau Busnes adroddiad a oedd yn amlinellu'r perfformiad corfforaethol ar gyfer 2016-2017.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

26.

Y diweddaraf am roi'r model o ddarpariaeth newydd ar waith ar gyfer Addysg Heblaw yn yr Ysgol (EOTAS), ac adborth o'r ymgynghoriad diweddar â rhanddeiliaid. pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn rhoi'r diweddaraf am weithredu’r model newydd ar gyfer darparu Addysg Heblaw’r Ysgol (EOTAS) ac adborth o'r ymgynghoriad diweddar â rhanddeiliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Nodi adborth yr ymgynghoriad a'r mesurau lliniaru:

 

2)              Nodi'r cynigion ar gyfer y tŷ hanner ffordd dros dro;

 

3)              Nodi'r cynnydd tuag at y llety tymor hir, a chyflwyno adroddiad pellach i'r Cabinet unwaith y bydd y dyluniad yn cael ei gadarnhau a bod sicrwydd cost yn cael ei gyflawni.

 

27.

Cynigion arfaethedig a blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad er mwyn ystyried a chymeradwyo cynigion y dyfodol a'r blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif i'w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Ail gadarnhau'r nodau allweddol a ffocws y Rhaglen Amlinellol Strategol a gefnogwyd yn flaenorol gan Lywodraeth Cymru;

 

2)              Cymeradwyo blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf arfaethedig Band B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif;

 

3)              Cymeradwyo'r strategaeth ariannu arfaethedig er mwyn bodloni cyfraniad lleol y cyngor;

 

4)              Nodi dyddiad dechrau arfaethedig yr ymgynghoriad statudol, lle y bo'n briodol, yn ddibynnol ar y cynigion blaenoriaeth nesaf, a fydd yn amodol ar yr adroddiadau ar wahân.

 

28.

Sefydlu Cyfleusterau Addysgu Arbenigol (CAA) i ddisgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA). pdf eicon PDF 91 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad y cyfnod hysbysiad statudol ac yn ceisio penderfyniad ar y cynigion er mwyn sefydlu Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Portmead, Ysgol Gynradd Dynfant ac Ysgol Gyfun Gellifedw o fis Ionawr 2018.  Nododd na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau i Ysgol Gynradd Portmead ac Ysgol Gyfun Gellifedw ond cafwyd un gwrthwynebiad i Ysgol Gynradd Dynfant.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Sefydlu Cyfleusterau Addysgu Arbenigol ar gyfer disgyblion sydd ag Anhwylder y Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Portmead, Ysgol Gynradd Dynfant ac Ysgol Gyfun Gellifedw o fis Ionawr 2018.

 

29.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 57 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

1)              Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel y'u hargymellwyd gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr ALl:

 

1)

Ysgol Gynradd Brynmill

Y Cyng. Peter May

2)

Ysgol Gynradd Casllwchwr

Mr John Butler

3)

Ysgol Gynradd y Glais

Mr Mark James

4)

Ysgol Gynradd Hendrefoelan

Mrs Kathryn Novis

5)

Ysgol Gynradd Treforys

Mr Stephen Griffiths

6)

Ysgol Gynradd Sgeti

Mrs Deborah Monaghan

7)

Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph

Mr Joseph Blackburn

8)

Ysgol Gynradd Waun Wen

Mrs Jeanette Simpson

9)

Ysgol Gyfun Gellifedw

Mrs Catherine Watkins

10)

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mr Dereck Roberts

Mrs Ann Cook

11)

Ysgol Gyfun Treforys

Mr Graham Hanford

12)

YGG Bryn-y-môr

Mrs Angharad Brown

Mrs Saran Thomas

13)

YGG Lôn-Las

Parch Eirian Wyn

14)

Ysgol Gyfun Gŵyr

Miss Aldyth Williams

 

 

30.

Gwahardd y cyhoedd. pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

31.

Adroddiad ar Ddyfarnu Contract - Dyfarnu Fframwaith ar gyfer Darparu Tenantiaeth yn seiliedig ar Ofal a Chefnogaeth (Byw â Chymorth) i Bobl ag Anabledd Dysgu neu Anabledd Corfforol

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Iechyd a Lles adroddiad a oedd yn amlinellu canlyniad tendrau diweddar i benodi darparwyr ar gyfer Cytundeb fframwaith i ddarparu Tenantiaeth yn seiliedig ar Ofal a Chefnogaeth (Byw â Chymorth) i Bobl ag Anabledd Dysgu a/neu Anabledd Corfforol ac yn ceisio cymeradwyaeth i benodi wyth darparwr i'r cytundeb fframwaith.

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo'r argymhelliad fel y nodwyd yn yr adroddiad.