Toglo gwelededd dewislen symudol

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

161.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Y Cynghorydd C Richards Personol – Cofnod Rhif 183 – Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol - Rwy'n adnabod yr ymgeisydd.

 

Y Cynghorydd R Stewart - Personol - Cofnod Rhif 183 - Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol  - Rwy'n adnabod dau o'r bobl a enwir yn yr adroddiad.

162.

Cofnodion. pdf eicon PDF 79 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1.     Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 16 Chwefror 2017; a

2.     chyfarfod y Cabinet Arbennig a gynhaliwyd ar 23 Chwefror 2017.

163.

Adroddiad(au) Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan yr arweinydd, ond cyfeiriodd at ddogfen atodol a oedd yn gysylltiedig â chofnod rhif 186 - FPR7 – Prosiect Isadeiledd Ffordd y Brenin a oedd wedi'i gyhoeddi a'i ddosbarthu fel adendwm i'r adroddiad.

 

164.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Rhaid i'r cwestiynau ymwneud â materion ar ran agored agenda'r cyfarfod, ac ymdrinnir â hwy o fewn 10 munud.

 

Cofnodion:

Gofynnwyd sawl cwestiwn gan un aelod o'r cyhoedd.  Ymatebodd yr arweinydd yn unol â hyn.

 

165.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

166.

Adborth craffu cyn penderfynu - Adfywio Canol Dinas Abertawe - Strategaeth Cyflwyno ac Ariannu. (llafar)

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd M H Jones wedi cyflwyno ymddiheuriadau am nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod. 

 

Nododd y Cynghorydd S E Crouch fod Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi gofyn iddi dynnu sylw at bryderon y pwyllgor ynghylch diffygion y Strategaeth Llety.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet ynghylch y broses craffu cyn penderfynu a nodwyd gan aelodau, ynghyd â'r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd S E Crouch.

167.

Adfywio Canol Dinas Abertawe - Strategaeth Cyflwyno ac Ariannu. pdf eicon PDF 111 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb i symud ymlaen i gamau nesaf adfywio canol y ddinas a chadarnhau cyllid yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo'r goblygiadau ariannol fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad;

2.     Cymeradwyo asesiad adfywio economaidd trosgynnol a fydd yn sail i unrhyw benderfyniadau i fuddsoddi mewn cyflwyno prosiectau cyfalaf, gan gynnwys asesiad sgiliau a fydd yn sylfaen i gyflwyno;

3.     Awdurdodi swyddogion i ofyn i Lywodraeth Cymru i ddynodi canol dinas Abertawe'n ardal Cyllid Cynyddrannau Treth (TIF) ddynodedig;

4.     Cytuno ar y cyfalaf blynyddol angenrheidiol a'r arian refeniw sydd ei angen er mwyn cyflwyno'r prosiectau hyn;

5.     Nodi pob rhyngddibyniaeth ar gyfer cynlluniau tebyg eraill sy'n cael eu datblygu ar gyfer isadeiledd Sgwâr y Castell a Ffordd y Brenin.

 

168.

Adborth craffu cyn penderfynu - Cyfleoedd Datblygu Sgwar a Mannau Cyhoeddus y Castell(llafar)

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd M H Jones wedi cyflwyno ymddiheuriadau am nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod.

 

Nododd y Cynghorydd S E Crouch fod Pwyllgor y Rhaglen Graffu wedi gofyn iddi dynnu sylw at bryderon y pwyllgor ynghylch cynigion ar gyfer Sgwâr y Castell fel y'u nodir yn y llythyr oddi wrth y Cynghorydd M H Jones.

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet ynghylch y broses craffu cyn penderfynu, a nodwyd gan aelodau.

 

169.

Cyfleoedd Datblygu Sgwar a Mannau Cyhoeddus y Castell. pdf eicon PDF 89 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio gyd-destun yr opsiynau i gefnogi gwella Sgwâr y Castell a'r cyfle datblygu posib yno, ynghyd ag arfarniad ohonynt. Cyflwynodd hefyd y sylwadau a dderbyniwyd ar ôl cyhoeddi'r Hysbysiad o Fan Agored Cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r ymatebion allweddol yn dilyn yr Hysbysiad o Fan Agored Cyhoeddus;

2.     Cefnogi paratoi arfarniad o opsiynau a briff ar gyfer y safle sy'n cyd-fynd â datblygiad canol dinas ehangach, ac adrodd yn ôl i'r Cabinet cyn marchnata unrhyw safle.

 

170.

Adborth craffu cyn penderfynu - Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Adroddiad Gwerthuso Opsiynau (Porth 2) ar gyfer Clwstwr Plant dan 11 oed yr Adolygiad Comisiynu.

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd P R Hood-Williams wedi cyflwyno ymddiheuriadau am nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod. 

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y llythyr a anfonwyd at Aelod y Cabinet ynghylch y broses craffu cyn penderfynu, a nodwyd gan aelodau.

 

171.

Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Adroddiad Gwerthuso Opsiynau (Porth 2) ar gyfer Clwstwr Plant dan 11 oed yr Adolygiad Comisiynu. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr Arfarniad Opsiynau a oedd yn amlinellu'r broses a'r canfyddiadau, ac a oedd hefyd yn nodi'r Modelau Cyflwyno Newydd ar gyfer Clwstwr Plant Dan 11 oed yr Adolygiad Comisiynu Cefnogi Teuluoedd.

 

PENDERFYNWYD ei bod hi'n briodol bwrw ymlaen â'r trydydd opsiwn a ffefrir a amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad fel mesur i wella perfformiad, gwneud y gwasanaeth yn fwy cadarn a sicrhau effeithlonrwydd, a'i roi ar waith.

 

172.

Adborth craffu cyn penderfynu - Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Adroddiad Arfarnu Opsiynau (Porth 2) ar gyfer clwstwr plant dros 11 oed yr Adolygiad Comisiynu.

Cofnodion:

Dywedodd Arweinydd y Cyngor fod y Cynghorydd P R Hood-Williams wedi cyflwyno ymddiheuriadau am nad oedd yn gallu dod i'r cyfarfod. 

 

Cyfeiriodd Arweinydd y Cyngor at y llythyr a anfonwyd at y Aelod y Cabinet ynghylch y broses craffu cyn penderfynu, a nodwyd gan aelodau.

 

173.

Adolygiad Comisiynu Gwasanaethau Cymorth i Deuluoedd - Adroddiad Arfarnu Opsiynau (Porth 2) ar gyfer clwstwr plant dros 11 oed yr Adolygiad Comisiynu. pdf eicon PDF 138 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc yr Arfarniad Opsiynau a oedd yn amlinellu'r broses a'r canfyddiadau ac a oedd hefyd yn nodi'r Modelau Cyflwyno Newydd ar gyfer Clwstwr Plant Dros 11 oed yr Adolygiad Comisiynu Cefnogi Teuluoedd.

 

PENDERFYNWYD ei bod hi'n briodol bwrw ymlaen â'r ail opsiwn a ffefrir a amlinellir yn Adran 3 yr adroddiad fel mesur i wella perfformiad, gwneud y gwasanaeth yn fwy cadarn a sicrhau effeithlonrwydd, a'i roi ar waith.

 

174.

Adroddiad Monitro Perfformiad Chwarter 3 2016-17. pdf eicon PDF 173 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor fanylion Perfformiad Corfforaethol a Gwasanaethau ar gyfer Chwarter 3, 2016-2017.

 

PENDERFYNWYD nodi ac adolygu'r canlyniadau perfformiad i helpu i gyfeirio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywiro i reoli a gwella perfformiad ac effeithiolrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

 

175.

Datganiad Lles 2017/18 pdf eicon PDF 259 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor amcanion a datganiad lles 2017/18 i'r cyngor fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cynnig y canlynol i'r cyngor:

 

1.     Bod 5 blaenoriaeth allweddol y cyngor a fynegwyd yn ei Gynllun Corfforaethol presennol ar gyfer 2016/17 yn parhau yn 2017/18 fel amcanion lles y cyngor;

2.     Bod Datganiad Lles y cyngor ar gyfer 2017/18 yn cael ei gymeradwyo;

3.     Bod y gwaith sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd i adolygu amcanion lles y cyngor yn parhau ar ôl yr etholiadau llywodraeth leol gyda'r Weinyddiaeth newydd etholedig i 2017/18, a bod Cynllun Corfforaethol newydd yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

 

176.

Cam Nesaf - Derbyn Grant o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. pdf eicon PDF 160 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gymryd rhan yn y prosiect Cam Nesaf, ac ymgymryd â'r camau angenrheidiol i'w roi ar waith.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r cynnydd a wnaed gan y prosiect i sicrhau cymeradwyaeth lawn gan Swyddog Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO);

2.     Awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol, sy'n gweithredu fel y Cyswllt Awdurdodi ar gyfer y prosiect, i dderbyn y Cynnig Mawr a wnaed gan WEFO;

3.     Sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar y cynnydd yn cael eu rhoi i'r Panel Ariannu Allanol;

4.     Ymrwymo i Gytundeb Lefel Gwasanaeth â Chyngor Sir Penfro ac awdurdodi Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i unrhyw ddogfennaeth gyfreithiol briodol ynghyd â'r darpariaethau sy'n angenrheidiol i amddiffyn buddion y cyngor.

 

177.

Cynllun treialu gofal plant am ddim ar gyfer plant 3- 4 oed pdf eicon PDF 117 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc ac Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth am yr ardaloedd targed ar gyfer y Cynllun Peilot Gofal Plant Am Ddim.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion ar gyfer yr ardaloedd targed ar gyfer blwyddyn gyntaf y Cynllun Peilot Gofal Plant Am Ddim, fel y'u rhestrir dan adrannau 2.9, 2.10 and 2.11.

 

178.

Cronfa Gyffredinol Tai (CGT) Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a Gwella 2016/17. pdf eicon PDF 22 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn darparu manylion y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella ac yn ceisio cymeradwyaeth i gynnwys cynlluniau yn Rhaglen Gyfalaf 2017-18.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'u Gwella fel y'i nodwyd, gan gynnwys ei goblygiadau ariannol, ac y dylid cynnwys cynlluniau yng Nghyllideb Gyfalaf 2017/18.

 

179.

Adolygiad Costau Blynyddol (Ar Gyfer 2017/18) - Y Gwasanaethau Cymdeithasol. pdf eicon PDF 73 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros  Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn a'r Gwasanaethau i Blant a Phobl Ifanc adroddiad a oedd yn ceisio adolygu'r taliadau (Gwasanaethau Cymdeithasol), i sefydlu proses adolygu ac ymgynghori flynyddol ac i ystyried diwygiadau i'r rhestr brisiau a fydd yn berthnasol yn 2017/18.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Derbyn y broses o gynnal adolygiad blynyddol o daliadau ar gyfer gofal cymdeithasol, a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â phroses pennu cyllideb flynyddol y cyngor yn y blynyddoedd i ddod;

2.     Cymhwyso'r cynnydd chwyddiannol arfaethedig i daliadau gofal cymdeithasol yn 2017/18.

 

180.

Adroddiad ar Fframwaith Egwyddorion Atal Bae'r Gorllewin a'r Strategaeth Atal ar gyfer Abertawe. pdf eicon PDF 71 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Oedolion a Phobl Ddiamddiffyn a Lles a Dinas Iach egwyddorion Fframwaith Atal Bae'r Gorllewin a Strategaeth Atal Dinas a Sir Abertawe sy'n cyflwyno'n blaenoriaethau ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyrryd yn gynnar i bobl yn Abertawe.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Cymeradwyo Egwyddorion Fframwaith Atal Bae'r Gorllewin a'r Strategaeth Atal ar gyfer Abertawe, yn amodol ar ymgynghoriad ehangach;

2.     Cymeradwyo'r cylch gwaith fel y'i nodir ym mharagraff 3.3;

 

181.

Dyraniad Cyfalaf i Asedau Isadeiledd Priffyrdd 2017-2018 pdf eicon PDF 74 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth y Rhaglen Gwaith Cyfalaf ar gyfer asedau isadeiledd priffyrdd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r dyraniadau arfaethedig, ynghyd â'r Goblygiadau Ariannol a nodir yn Atodiad A, ac y dylid eu cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

182.

Adroddiad Cynnal Cyfalaf 2017/2018. pdf eicon PDF 94 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Cyngor adroddiad a oedd yn ceisio cytundeb ar y cynlluniau i'w hariannu drwy'r Rhaglen Cynnal a Chadw Cyfalaf.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:

 

1.     Cymeradwyo'r cynlluniau cynnal a chadw cyfalaf arfaethedig fel a restrir yn Atodiad A;

2.     Awdurdodi'r goblygiadau ariannol a nodwyd yn Atodiad B i'w cynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

183.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 54 KB

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i'r enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r enwebiadau canlynol fel yr argymhellwyd hwy gan Banel Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol:

 

1.

Ysgol Gynradd Brynhyfryd

Ms Isobel Norris

 

2.

Ysgol Gynradd Portmead

Mr David Mackerras

 

3.

Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mr Adrian Rees

 

4.

Ysgol Gyfun Tregŵyr

Ms Estelle Hart

 

5.

YGG Llwynderw

Mrs Junnine Thomas-Walters

 

184.

Ymchwiliad Craffu Trechu Tlodi. pdf eicon PDF 58 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Sybil Crouch, Llywodraethwr y Panel Ymchwilio Craffu Trechu Tlodi, ganfyddiadau, casgliadau ac argymhellion ymchwiliad y panel i Drechu Tlodi.

 

PENDERFYNWYD y byddai Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Chymunedau'n adrodd yn ôl i'r Cabinet gydag ymateb ysgrifenedig i'r argymhellion craffu a'r cam(au) gweithredu arfaethedig i'r Cabinet benderfynu arnynt.

 

185.

Strategaeth Trechu Tlodi Ddiwygiedig ar gyfer Abertawe pdf eicon PDF 65 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wrthdlodi a Chymunedau'r strategaeth trechu tlodi ddiwygiedig ar gyfer Abertawe, gan nodi ymagwedd y Ddinas a'r Sir at drechu tlodi ar gyfer pobl yn Abertawe.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r strategaeth trechu tlodi ddiwygiedig ar gyfer Abertawe, yn amodol ar ymgynghoriad ehangach.

 

186.

FPR7 - Prosiect Isadeiledd Fford y Brenin. pdf eicon PDF 126 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelodau'r Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio a'r Amgylchedd a Thrafnidiaeth adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gytuno ar gynllun terfynol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ac ychwanegu'r prosiect at y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD:

 

1.     Nodi'r ymgynghoriad cyhoeddus;

2.     Cymeradwyo'r prosiect arfaethedig a'i oblygiadau ariannol, a'i ychwanegu at y rhaglen gyfalaf;

3.     Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, ac Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, er mwyn gwneud mân ddiwygiadau i'r prosiect arfaethedig ar yr amod nad ydynt yn arwain at newid arwyddocaol i'r cynllun neu'r costau.

 

187.

Gwahardd y cyhoedd: pdf eicon PDF 69 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes a nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD y dylid gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

 

(SESIWN GAEËDIG)

188.

Caffael eiddo er mwyn hwyluso adfywio canol y ddinas

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymrwymo i gynlluniau a'u hawdurdodi, yn unol â'r Rhaglen Gyfalaf neu gynnwys cynlluniau newydd yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhellion, fel y'u hamlinellir yn yr adroddiad.

189.

Diwygiad FPR7 - Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, Canol Dinas Abertawe.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer y gyllideb ddiwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r argymhelliad fel y'i nodwyd yn yr adroddiad.