Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

33.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)             Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 38 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol.

 

2)             Datganodd y Cynghorwyr L S Gibbard, A S Lewis a R C Stewart gysylltiad personol â Chofnod 42 "Trefniant Pensiwn Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cost a rennir ar gyfer aelodau’r CPLIL”.

 

3)             Datganodd B Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 42 "Trefniant Pensiwn Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cost a rennir ar gyfer aelodau’r CPLIL” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried.

34.

Cofnodion. pdf eicon PDF 399 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod cywir:

 

1)         Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Gorffennaf 2023.

35.

Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor.

Cofnodion:

Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor.

36.

Cwestiynau gan y cyhoedd.

Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

37.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

38.

Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. pdf eicon PDF 228 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)             Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu:

 

1.    Ysgol Gynradd Gwyrosydd

Y Parchedig Ben Smith

2.    Ysgol Gynradd Parkland

Mrs Lydia Fasham

3.    Ysgol Gynradd Pontybrenin

Mr Lloyd Selby

4.    Ysgol Gymunedol Dylan Thomas

Mrs Sybil Smith

 

39.

Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 1 2023/24. pdf eicon PDF 161 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 2023/24.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Nodi perfformiad y cyngor wrth gyflawni amcanion lles y cyngor yn chwarter 1/2023.

 

2)         Cymeradwyo defnyddio'r wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynglŷn â dyrannu adnoddau a, lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol.

40.

Alldro ac Chyllido Cyfalaf 2022/23. pdf eicon PDF 373 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Cyllid a'r Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnwys manylion alldro cyfalaf a'r arian ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Cario tanwariant net y gyllideb gyfalaf gynyddol gwerth £28.8m ymlaen i 2023/2024.

41.

Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella 2023/24 - trosglwyddo'r gyllideb. pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn manylu ar y Rhaglen Grant Cyfleusterau i'r Anabl a'r Grant Gwella yn 2023/24 a gofynnodd am gymeradwyaeth i ddychwelyd cyllid nas defnyddiwyd o'r Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl (GCA) a chyllidebau benthyciadau Homefix i'r Ganolfan Gorfforaethol.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Cymeradwyo trosglwyddo £460,519 o gyllideb GCA a £712,556 o gyllideb benthyciadau Homefix i'r Ganolfan Gorfforaethol.

42.

Trefniant pensiwn Cyfraniad Gwirfoddol Ychwanegol (CGY) cost a rennir ar gyfer aelodau'r CPLlL. pdf eicon PDF 273 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i gyflwyno trefniant pensiwn CGY cost a rennir i aelodau'r CPLlL.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Cymeradwyo cyflwyno trefniant pensiwn CGY cost a rennir i aelodau'r CPLlL.

 

2)         Cymeradwyo taliadau sy'n ymwneud ag enillion fel goramser, codiadau cyflog, lwfansau cytundebol, cyflog mamolaeth galwedigaethol, cyflog salwch galwedigaethol a cholli swydd yn cael eu cyfrifo ar y cyflog tybiannol cyn ychwanegu'r gostyngiad aberthu cyflog.

 

3)         Cymeradwyo cynnwys disgresiwn newydd ym Mholisi Dewisol Pensiwn Cyflogwyr CPLlL y cyngor i ganiatáu i aelodau'r CPLlL gymryd rhan mewn cynllun CGY cost a rennir.

 

4)         Cymeradwyo partneru â darparwr allanol i ddarparu gwasanaeth a reolir yn llawn sy'n cynnwys CGY cost a rennir.

43.

Cynlluniau ar gyfer Ysgolion Arbennig Abertawe yn y dyfodol. pdf eicon PDF 266 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i ymgynghori ar uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un ysgol arbennig ym mis Medi 2025 ac adleoli i ysgol bwrpasol newydd gan gynyddu nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)             Cymeradwyo i ymgynghori ar uno Ysgol Pen-y-Bryn ac Ysgol Crug Glas yn un ysgol arbennig ym mis Medi 2025 ac adleoli i ysgol bwrpasol newydd gan gynyddu nifer y lleoedd o fis Ebrill 2028.

 

2)         Y dylai'r Cabinet ystyried yr ymatebion yn dilyn y cyfnod ymgynghori.

44.

Addysg o Safon (AoS)/Y Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar Gyfer Dysgu - Band B. pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad diweddaru ar gynnydd Band B Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau cynaliadwy ar gyfer Dysgu, y pwysau chwyddiant ac ariannol sy'n effeithio ar weddill y rhaglen a chymeradwyo cynnydd i amlen y rhaglen.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Nodi gweddill y blaenoriaethau buddsoddi cyfalaf ar gyfer Band B y Rhaglen AoS/Rhaglen Amlinellol Strategol Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu.

 

2)         Cynyddu'r cyfraniad cyllid lleol £9 miliwn i £46.7 miliwn, yn seiliedig ar gyfraniad cyfalaf yn unig.

 

3)         Bod naill ai cais am newid yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ceisio cynnydd yn amlen rhaglen Band B i £176 miliwn neu, yn dibynnu ar amseriad a dilyniant achosion busnes, bydd hyn yn rhan o gyflwyniad diwygiedig y Rhaglen Amlinellol Strategol.

45.

Cronfa Pontio Bysiau Llywodraeth Cymru. pdf eicon PDF 240 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth, yn ôl-weithredol, i'r cyngor ymrwymo i gytundebau Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau Llywodraeth Cymru ac ymrwymo i gytundebau gyda gweithredwyr bysus niferus yn y rhanbarth.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Cefnogi a chymeradwyo penderfyniad Arweinydd y Cyngor ar 24 Gorffennaf 2023 yn awdurdodi'r cyngor i ymrwymo i gytundebau Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau Llywodraeth Cymru.

 

2)         Mae'r cyngor, fel awdurdod arweiniol rhanbarthol, wedi ymrwymo i gytundebau Cronfa Bontio ar gyfer Bysiau gyda gweithredwyr bysus perthnasol, i sicrhau cymorth ariannol (amodol) i'r sector bysus ac i sefydlu perthynas â'u hawdurdodau lleol cyfansoddol sy'n sicrhau bod y cyllid parhaus yn bodloni blaenoriaethau'r awdurdodau hynny ac yn cyflawni ar eu rhan.

46.

Bwriad i werthu rhydd-ddaliad neu ailstrwythuro prydles 254-260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl. pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad ar y cyd a oedd yn darparu nifer o opsiynau ar gyfer y perchennog tir i'r Cabinet ynghylch 254 - 260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso ailddatblygu'r bloc, gan gynnwys adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl.

 

Penderfynwyd ar y canlynol:

 

1)         Bod y Cyngor yn wyro oddi wrth y polisi cyfredol o gadw buddiannau rhydd-ddaliadol yng nghanol y ddinas a chymeradwyo gwaredu'r buddiannau rhydd-ddaliadol.

 

2)         Rhoi awdurdod i'r Swyddog Adran 151 i wneud diwygiad priodol i'r gyllideb refeniw i wrthbwyso'r golled mewn incwm blynyddol gyda'r pwysau hwn yn cael ei adlewyrchu fel rhan o broses y gyllideb yn 2024/25.

 

3)         Gofyn am baratoi adroddiad pellach i'r Cabinet ei ystyried ar y polisi o gadw/gwaredu rhydd-ddaliadau yng nghanol y ddinas.

 

4)         Cadarnhau na fydd unrhyw rydd-ddaliadau a waredwyd pellach yn cael eu hystyried hyd nes y cyflwynir yr adolygiad polisi yn unol ag argymhelliad 5 ochr yn ochr ag adroddiad yn y dyfodol ar adolygiad o Strategaeth Canol y Ddinas.

47.

Gwahardd y cyhoedd: - pdf eicon PDF 237 KB

Cofnodion:

Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au).

 

Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au) f/busnes canlynol.

48.

Hawl i holi cynghorwyr.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

49.

Bwriad i werthu rhydd-ddaliad neu ailstrwythuro prydles 254-260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl.

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad ac Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad 'er gwybodaeth' ar y cyd a oedd yn darparu nifer o opsiynau ar gyfer y perchennog tir i'r Cabinet ynghylch 254 - 260 Stryd Rhydychen er mwyn hwyluso ailddatblygu'r bloc, gan gynnwys adnewyddu unedau masnachol llawr gwaelod ac ailbwrpasu'r llety ar y lloriau uchaf yn unedau preswyl.

50.

Gwaredu Tir yng Ngham 1 Abertawe Ganolog.

Cofnodion:

Tynnwyd yr eitem hon yn ôl.