Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 23 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi cael gollyngiad gan y Pwyllgor
Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn ymwneud â
phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorydd A S Lewis gysylltiad personol a rhagfarnol â Chofnod 23 "Penodiadau Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol” a gadawodd y cyfarfod cyn iddo gael ei ystyried. 3)
Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies, A S Lewis a R C
Stewart gysylltiad personol â Chofnod 28 "Hwb Cadernid Cymunedol y Tabernacl
Treforys". |
|||||||||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2023. |
|||||||||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu.Gall y cyhoedd ddod a gofyn
cwestiynau’n uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol
i’r eitemau ar ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer
y llawlyfr, y polisi a'r strategaeth a ddatblygwyd yn dilyn gwaith y Pwyllgor
Cyflawni Corfforaethol Addysg a Sgiliau yn 2022-2023. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Llawlyfr newydd i
Benaethiaid ac Uwch-arweinwyr sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yr adroddiad. 2)
Cymeradwyo'r Polisi
Presenoldeb newydd ar gyfer Abertawe a fydd yn sail i waith amcan presenoldeb y
Strategaeth Cynhwysiad sydd wedi'i atodi yn Atodiad B yr adroddiad. 3)
Cymeradwyo'r Strategaeth
Cefnogi Cyrff Llywodraethu a'r Cynllun Gweithredu Datblygu Llywodraethu
Ysgolion i gefnogi recriwtio a chadw llywodraethwyr ysgolion sydd wedi'i atodi
yn Atodiad C ac Atodiad D yr adroddiad. |
|||||||||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 230 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||||||||
Monitro Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2022/23. PDF 168 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol a Pherfformiad
adroddiad a oedd yn amlinellu'r Perfformiad Corfforaethol ar gyfer diwedd
blwyddyn 2022/2023. Penderfynwyd: 1)
Nodi perfformiad y cyngor wrth
gyflawni amcanion lles y cyngor yn 2022/23. 2)
Cymeradwyo'r defnydd o'r
wybodaeth hon i lywio penderfyniadau gweithredol ynghylch dyrannu adnoddau a,
lle bo'n berthnasol, gamau gweithredu cywirol i reoli a gwella perfformiad ac
effeithlonrwydd wrth gyflawni blaenoriaethau lleol a chenedlaethol. |
|||||||||||||
Alldro Ariannol Refeniw 2022/23. PDF 402 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
a oedd yn manylu ar yr alldro ariannol refeniw ar gyfer 2022/2023. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau
yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth
£6.5 miliwn y manylwyd arnynt yn Adran 6.3 a 6.4 a 6.5 yr adroddiad. |
|||||||||||||
Alldro Refeniw 2022/23 - Cyfrif Refeniw Tai (CRT). PDF 333 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth a oedd yn
manylu ar alldro CRT Dinas a Sir Abertawe o'i gymharu â'r gyllideb refeniw
gymeradwy ar gyfer 2022/2023. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau
yn yr adroddiad, a chymeradwyo'r trosglwyddiadau wrth gefn arfaethedig gwerth
£5.169m y manylwyd arnynt yn Adran 2.1 yr adroddiad. |
|||||||||||||
Polisi a Phroses Cyflwyno Grantiau. PDF 260 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Les adroddiad a oedd yn darparu templed ac arweiniad ar
gyfer rhoi grantiau o fewn Cyngor Abertawe. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r Polisi a'r
Weithdrefn Rhoi Grantiau. |
|||||||||||||
Hwb Cadernid Cymunedol y Tabernacl Treforys. PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio, Digwyddiadau a Thwristiaeth adroddiad a
oedd yn ceisio cynorthwyo Sefydliad Ymgorfforedig
Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation',
mewn cynllun cyfalaf ar gyfer Capel y Tabernacl, Treforys sy'n adeilad
rhestredig Gradd 1. Mae'r adeilad yn
ased Trydydd Sector, ac mae'r cynllun yn cynnwys adnewyddu a gwelliannau, i
ehangu'r defnydd cymunedol/busnes. Rôl y Cyngor fydd rheoli'r prosiect adeiladu
cyfalaf a'r ffynonellau cyllid cysylltiedig yn unig. Penderfynwyd: 1)
Awdurdodi'r cyngor i ymrwymo i
Gytundeb Cydweithio gyda Sefydliad Ymgorfforedig
Elusennol 'Tabernacle, Morriston Congregation'. 2)
Dirprwyo awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyfreithiol i gwblhau telerau'r Cytundeb
Cydweithio drafft sydd wedi'i atodi yn Atodiad A yn yr adroddiad a chychwyn
unrhyw ddogfennaeth berthnasol i amddiffyn buddiannau'r cyngor. 3)
Awdurdodi'r cyngor i dderbyn
arian grant ar ran Sefydliad Ymgorfforedig Elusennol
'Tabernacle, Morriston Congregation',
goruchwylio talu anfonebau a chynorthwyo gyda hawliadau grant. |
|||||||||||||
Gwahardd y cyhoedd: - PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried
yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion yr
adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn debygol o
ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff gwahardd Atodlen 12A o
Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol
(Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes
y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd
y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf Budd y Cyhoedd
yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd
unrhyw gwestiynau. |
|||||||||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - RhGA7 - Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - prosiect hwb cymunedol. (llafar) Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd T M White yr adborth craffu cyn penderfynu. |
|||||||||||||
RhGA7 - Ailddatblygu 277-278 Stryd Rhydychen - prosiect hwb cymunedol.* Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni fu unrhyw newid
pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Wasanaethau a Pherfformiad Corfforaethol ac
Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Hawliau Dynol a Chydraddoldeb adroddiad a
oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo ac
awdurdodi ychwanegu cynlluniau newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd cymeradwyo'r
argymhellion a amlinellwyd yn yr adroddiad. |