Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â’r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 18 Mai 2023 a 2)
Chyfarfod Arbennig y Cabinet a gynhaliwyd ar 30 Mai 2023.
|
|
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar
ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad i fynd i'r afael â'r bylchau yn y
ddarpariaeth bresennol ar gyfer dysgwyr sy'n agored i niwed yn Abertawe a
defnyddio adnoddau sydd ar gael yn decach i ddiwallu anghenion pob dysgwr y mae
angen addysg heblaw yn yr ysgol arno. Penderfynwyd: 1)
Cynhelir ymgynghoriad gan Bennaeth y Gwasanaethau Dysgwyr
Diamddiffyn, mewn ymgynghoriad â Phwyllgor Rheoli Uned Cyfeirio Disgyblion Maes
Derw a rhanddeiliaid perthnasol eraill, i ystyried
ad-drefnu'r UCD cyfredol yn fewnol er mwyn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i
ddiwallu anghenion ehangach disgyblion ar draws Abertawe. 2) Yn dilyn
yr ymgynghoriad, bydd adroddiad pellach yn cael ei baratoi ar gyfer y Cabinet
gyda chanlyniadau'r ymgynghoriad, er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch sut i
symud ymlaen. |
|
Cyllid ar gyfer y Rhaglen Ôl-osod a Optimeiddiwyd. PDF 156 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn gofyn am
gymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer cais grant Llywodraeth Cymru ar gyfer y
Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP). Cyhoeddwyd y grant ORP gan
Lywodraeth Cymru i gefnogi mesurau effeithlonrwydd ynni ar gyfer tai
cymdeithasol. Bydd y grant yn cefnogi mesurau inswleiddio a chaffael technolegau
adnewyddadwy ac offer monitro. Bydd hwn yn ymrwymo'r cynlluniau i'r rhaglen
gyfalaf yn unol â Rheolau Gweithdrefnau Ariannol y cyngor. Penderfynwyd bod y Cabinet yn gwneud y canlynol: 1)
Cymeradwyo cynnig y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio a
nodir yn 2.0 2)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog
Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid ymrwymo i unrhyw gytundebau sy'n
angenrheidiol i sicrhau y caiff y prosiectau eu cyflawni ac i ddiogelu
buddiannau'r cyngor. 3)
Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif
Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig â chyflawni'r
prosiectau gan Lywodraeth Cymru. 4)
Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r
cyllid hwn eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros
Drawsnewid Gwasanaethau. Bydd y cyllid yn cefnogi cynlluniau a gymeradwywyd
drwy'r adroddiad blynyddol ar Gyllideb Gyfalaf HRA. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd ac Aelod y Cabinet dros Drawsnewid
Gwasanaethau adroddiad ar y cyd i gymeradwyo'r ceisiadau am gyllid ar gyfer y
Gronfa Trafnidiaeth Leol (LTF), y Gronfa Trawsnewid Cerbydau Allyriadau Isel
Iawn (ULEVTF) a'r Gronfa Teithio Llesol (CTLl), a
gofynnodd am gymeradwyaeth ddirprwyedig ar ôl derbyn y llythyr dyfarnu grant at
y Cyfarwyddwr ac Aelod y Cabinet dros Wariant ar y prosiectau cysylltiedig yn
2023/24. Cydymffurfio â
Rheol Gweithdrefn Ariannol Rhif 7 (Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf): neilltuo
ac awdurdodi rhaglenni i’r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd bod y Cabinet yn gwneud y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r ceisiadau am arian grant a dirprwyo awdurdod
i'r Cyfarwyddwr Cyllid ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd ac
Isadeiledd, Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau a'r Cyfarwyddwr
Lleoedd i dderbyn unrhyw gyllid grant a ddyfernir ar gyfer cynlluniau LTF,
ULEVTF (Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan) a CTLl. 2)
Cymeradwyo'r cynlluniau a'u hychwanegu at raglen gyfalaf
y cyngor yn unol â FPR7. |
|
RhGA7 - Cronfa Codi'r Gwastad Rhaglen Cwm Tawe Isaf. PDF 343 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Digwyddiadau a
Thwristiaeth a oedd yn cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol (Rhaglennu
ac Arfarniadau Cyfalaf) er mwyn neilltuo ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau
newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd bod y Cabinet yn: 1)
Cymeradwyo derbyn grant Codi'r Gwastad
Llywodraeth y DU o £20m. 2)
Cymeradwyo cyfraniad arian cyfatebol y cyngor
o £8.76m drwy fenthyca digymorth. 3)
Awdurdodi ychwanegu'r cynllun a'i oblygiadau
ariannol i'r Rhaglen Gyfalaf 4)
Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio ac
Adfywio'r Ddinas, y Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i ddatblygu'r
cynllun hwn o fewn y gyllideb gymeradwy. |
|
Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol - Grant Dyraniad Craidd 20 mya 2023/24. PDF 380 KB Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau’r
dyraniad grant 20 mya gan Lywodraeth Cymru a chynnwys
y gwariant yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/2024. Penderfynwyd bod y Cabinet yn gwneud y canlynol: 1)
Cymeradwyo derbyn y grant Gweithredu 20mya o £2,952,000 a
chynnwys y gwariant hwn yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer 2023/24. |
|
Adroddiad FPR7 - Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol i Raglen Waith Priffyrdd 2023-24. PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
y Cabinet dros yr Amgylchedd ac Isadeiledd adroddiad a oedd yn cadarnhau
Dyraniad Cyfalaf Ychwanegol y Rhaglen Waith Priffyrdd 2023-24 ac i gydymffurfio
â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo a chymeradwyo cynlluniau. Penderfynwyd 1)
Cymeradwyo'r dyraniad o £1m ar gyfer Cynnal a Chadw
Priffyrdd a'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer pob un o'r blynyddoedd
ariannol 2023-2024, 2024-25 a 2025-26 2)
Cyflwyno'r
dyraniad o £1m a gymeradwywyd yn flaenorol ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd ar
gyfer 2024-25 a'i gynnwys yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023-2024. 3)
Rhoi awdurdod i Bennaeth y Gwasanaeth Priffyrdd a
Chludiant, gyda chydsyniad Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd a Rheoli
Isadeiledd, i flaenoriaethu, cwblhau a chlustnodi arian i'r cynlluniau priodol
yn unol â'r ymagwedd flaenoriaethu a nodwyd yn yr adroddiad hwn. |