Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r
Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd
y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith gysylltiad
personol a rhagfarnol â Chofnod 185 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol", a dywedodd ei fod wedi
cael gollyngiad gan y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn
ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 2)
Datganodd y Cynghorydd L S Gibbard gysylltiad
personol â Chofnod 196
"Cymorth Ariannol Costau
Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024”. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi
cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol
fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a restrir isod fel cofnod
cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Ebrill 2023. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y
Cyngor. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Gellir cyflwyno cwestiynau’n ysgrifenedig i’r
Gwasanaethau Democrataidd Democratiaeth@abertawe.gov.uk
hyd at ganol dydd y diwrnod cyn y cyfarfod. Bydd cwestiynau ysgrifenedig yn
cael eu blaenoriaethu. Gall y cyhoedd ddod a gofyn cwestiynau’n
uniongyrchol os bydd amser. Rhaid i gwestiynau fod yn berthnasol i’r eitemau ar
ran agored yr agenda ac ymdrinnir â nhw o fewn cyfnod o 10 munud Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd
y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 195 "Diweddariad
ar Gynnydd Eden Las” a Chofnod 196 “Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid
Strategol 2023/2024”. Ymatebodd
Arweinydd y Cyngor. |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a
oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi
gwag Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1)
Cymeradwyo'r enwebiadau
canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet
dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Strategaeth Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn. PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyaeth ar
gyfer Strategaeth Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn 2023-2028. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r adroddiad. 2)
Cytuno ar Strategaeth
Cynhwysiad y Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn 2023-2028 fel y mecanwaith ffurfiol
ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg i nodi'r blaenoriaethau allweddol ar gyfer
cefnogi dysgwyr diamddiffyn a'r strategaethau i fynd i'r afael â'r
blaenoriaethau hynny. 3)
Defnyddio'r olrheiniwr effaith
i fonitro cynnydd ac effaith ac adrodd am hyn drwy'r Cynllun Gwasanaeth Dysgwyr
Diamddiffyn. Ni fydd hyn yn dileu mecanweithiau adrodd eraill ond yn hytrach yn
darparu mecanwaith ychwanegol i dynnu pob llinyn cefnogaeth at ei gilydd. |
|||||||
Gosod cae 3G yn Ysgol Gyfun yr Olchfa. PDF 367 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Addysg a Dysgu adroddiad a oedd yn ceisio cydymffurfio â
Rheol 7.4 y Weithdrefn Ariannol i neilltuo £378,244 arall i'r Rhaglen Gyfalaf
gan ddod â'r cyfanswm i £1,633,244 i ganiatáu ar gyfer gosod arwyneb gemau
artiffisial (3G) a ffens derfyn newydd yn Ysgol Gyfun yr Olchfa. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo ychwanegu swm pellach o £378,244 i'r rhaglen
gyfalaf gan ddod â'r cyfanswm sydd wedi'i ymrwymo i'r cynllun hwn i £1,633,244.
Mae'r ymrwymiad cynyddol hwn yn seiliedig ar werthoedd dychwelyd tendr a chaiff
ei ariannu gan enillion gwerthu tir Ysgol Gyfun yr Olchfa. |
|||||||
Craffu Cyn Penderfynu - Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol Yn ychwanegol at Gyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2022/23 - 2027/28 - Cynlluniau Cymeradwy'r Gronfa Adferiad Economaidd (sy'n fwy na miliwn o bunnoedd) a/neu sydd wedi'u hawdurdodi i barhau ar ôl mis Mawrth 2023. Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth cyn penderfynu. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio
awdurdodi ac ymrwymo i gynlluniau a gymeradwywyd drwy'r Gronfa Adferiad
Economaidd (CAE) sy'n werth mwy na miliwn o bunnoedd i'r Rhaglen Gyfalaf
2022/2023-2027/2028 ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol,
"Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf". Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r dyraniad ychwanegol o £2,050,000 i'w gynnwys
yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen 2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo
Unigryw 156 - Digonolrwydd Chwarae y Gronfa Adferiad Economaidd. 2)
Cymeradwyo'r dyraniad ychwanegol o £1,045,000 i'w gynnwys
yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen 2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo
Unigryw 157 - Cyfleusterau Sglefrio y Gronfa Adferiad Economaidd, ynghyd â'r
cronfeydd presennol o £45,000 a gedwir ar gyfer
Chwaraeon Stryd. 3)
Cymeradwyo'r
dyraniad ychwanegol o £1,500,000 i'w gynnwys yn y Gyllideb Gyfalaf a Rhaglen
2022/23-2027/28, fel o dan Gyfeirnod Eiddo Unigryw 153 - Teithio Gofal Cartref
y Gronfa Adferiad Economaidd. |
|||||||
Gwella Cyfalaf Darpariaeth Gwasanaethau Dydd Mewn Gwasanaethau i Oedolion. PDF 245 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu cyfalaf ar gyfer Darpariaeth
Gwasanaethau Dydd presennol y Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor Abertawe ac
i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu ac
Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys
yn y rhaglen gyfalaf am y 4 blynedd nesaf - 2023 i 2027. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Gymunedau adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu Cyfalaf ar gyfer Hybiau
Cymorth Cynnar presennol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor
Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol,
"Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r
Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys
yn y Rhaglen Gyfalaf ar gyfer 2023/24. |
|||||||
Gwaith Gwella Cyfalaf ar gyfer Darpariaeth Gofal Preswyl yn y Gwasanaethau i Oedolion. PDF 246 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Wasanaethau Gofal adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyo'r cynllun gwella a datblygu Cyfalaf ar gyfer
Lleoliadau Gofal Preswyl presennol y Gwasanaethau i Oedolion yng Nghyngor
Abertawe ac i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol,
"Rhaglennu ac Arfarniadau Cyfalaf" i ymrwymo ac awdurdodi cynllun i'r
Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo'r
Cynllun Gwella a Datblygu Cyfalaf ynghyd â'r goblygiadau ariannol a'u cynnwys
yn y rhaglen gyfalaf am y 4 blynedd nesaf - 2023 i 2027. |
|||||||
Craffu Cyn Penderfynu - Rheol 5 y Weithdrefn Ariannol Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd C A Holley adborth
cyn penderfynu. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn
ceisio cymeradwyo cynlluniau sy'n gysylltiedig â'r
Gronfa Adferiad Economaidd Gweddilliol i'w cynnal yn ystod blwyddyn ariannol
2023-2024 yn unol â Gweithdrefn Ariannol 5. Penderfynwyd: 1)
Y bydd y cynlluniau a restrir o fewn Atodiad A o'r
adroddiad yn parhau i sicrhau bod y prif bwrpas yn cael ei fodloni. 2)
Cymeradwyo'r dyraniad ar gyfer cynlluniau a restrir o
fewn Atodiad B, Adrannau 2.1 a 2.2, ynghyd â'r goblygiadau ariannol priodol fel
y nodir yn yr adroddiad. 3)
Dirprwyo'r
gwaith o ddatblygu manylion y cynllun i Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid
a Strategaeth, y Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cyllid o fewn yr amlen
ariannol gyffredinol a nodir yn yr adroddiad hwn. |
|||||||
Diweddariad ar Gynnydd Eden Las. PDF 265 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad a oedd yn cynghori ar
gynnydd trafodaethau gyda gwahanol bartïon ar y prosiect a elwid gynt yn Eden
Las, yn ymwneud yn benodol â chwblhau cytundeb cydweithio a thrafodion tir
arfaethedig i hwyluso'r datblygiad. Penderfynwyd: 1)
Cydnabod y cynnydd a wnaed hyd yn hyn ar drafodaethau
gyda DST a phartneriaid ehangach gan gynnwys Network Rail a Thrafnidiaeth Cymru. 2)
Cymeradwyo gwaredu'r tir a restrir isod a dirprwyo
awdurdod i swyddogion i gytuno ar y penawdau telerau terfynol a chwblhau
dogfennau ar gyfer gwaredu/meddiannaeth drwy brydlesu: ·
Y safle ger safle Parcio a Theithio Fabian
Way ynghyd â gwella'r safle presennol. ·
Y tir sy'n cynnwys elfennau caeedig o safle Tir John a
gynigir ar gyfer datblygiad Fferm Solar. ·
Rhan o hen Safle Morrissey yn
SA1. 3)
Cymeradwyo caffael rhan o Burrows
Yard, sy'n cael ei ariannu drwy grant, a'i waredu os oes angen ar delerau masnachol, a
dirprwyo awdurdod i swyddogion i gytuno ar y penawdau telerau a'r dogfennau
angenrheidiol i gwblhau'r trafodion. |
|||||||
Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024. PDF 606 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer y lefelau o gymorth ariannol y mae eu hangen ar gyfer y
cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a Mawrth 2024 ar gyfer ein partneriaid strategol (Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru ac Arena Abertawe)
yn benodol mewn perthynas â chostau ynni uwch, gan gynnwys lefelau ychwanegol
tebygol cyffredinol o warantu partneriaeth sydd eu hangen yn benodol ar gyfer
Pwll Cenedlaethol Cymru am yr un cyfnod. Penderfynwyd: 1)
Cymeradwyo rhoi cymorth
ariannol i Freedom Leisure hyd at 31 Mawrth 2024 i
ariannu'r cynnydd sylweddol o £1,020,570 yn ogystal â thalu'r ffi rheoli misol
gytundebol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024, gyda'r holl daliadau wedi'u
cysoni dan ddull gweithredu llyfr agored. 2)
Cymeradwyo estyniad i ryddhad
ariannol Pwll Cenedlaethol Cymru Abertawe (PCCA) i gynnwys y cyngor yn gwarantu
diffyg ychwanegol o hyd at £200 mil ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/2024. 3)
Cymeradwyo cyfraniad ariannol
o hyd at £210 mil yn 2023/24 i ariannu costau ynni uwchben y rheini a ragwelir
yn y cynllun busnes ar gyfer Arena Abertawe, gyda thaliadau a wnaed i Ambassador Theatre Group yn cael eu cysoni o dan ddull
gweithredu llyfr agored. 4)
Dirprwyo awdurdod i'r
Cyfarwyddwr Lleoedd i gytuno ar unrhyw newidiadau i fanyleb gwasanaeth, yr
amodau a thelerau sydd ynghlwm wrth unrhyw gynnig o warantu neu fesurau cymorth
eraill gan gynnwys awdurdod i amrywio lefel a chyfnod y rhyddhad ariannol, ar
yr amod bod cyfanswm yr holl amrywiadau o'r fath o fewn cwmpas y cymeradwyaeth
cyllideb ar gyfer rhyddhad ariannol yn 1, 2 a 3. 5)
Dirprwyo awdurdod i'r Prif
Swyddog Cyfreithiol ddechrau unrhyw ddogfennaeth sy'n ofynnol i roi unrhyw un
o’r argymhellion sydd yn yr adroddiad hwn ar waith ac i ddiogelu buddiannau'r
cyngor. |
|||||||
Gwahardd y cyhoedd. PDF 237 KB Cofnodion: Gofynnwyd i'r Cabinet wahardd y cyhoedd o'r cyfarfod er mwyn iddo ystyried yr eitem(au) f/busnes a nodwyd yn argymhellion
yr adroddiad(au) ar y sail ei bod/eu bod yn
debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym
mharagraff gwahardd Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd
gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 mewn perthynas ag eitemau busnes y nodir yn yr adroddiad(au). Ystyriodd y Cabinet Brawf
Budd y Cyhoedd wrth benderfynu a ddylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer
yr eitem fusnes lle'r oedd Prawf
Budd y Cyhoedd yn berthnasol fel y nodir yn yr adroddiad. Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem(au)
f/busnes canlynol. (Sesiwn Gaeëdig) |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cynghorydd C A Holley gwestiynau mewn perthynas â Chofnod 199 "Cymorth
Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024” a Chofnod 201
“FPR7 Ddiweddaredig ar gyfer Adnewyddu Theatr y Palace”. Ymatebodd Arweinydd y
Cyngor. |
|||||||
Cymorth Ariannol Costau Ynni Partneriaid Strategol 2023/2024. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid a Strategaeth adroddiad
gwybodaeth a oedd yn darparu gwybodaeth gyfrinachol am lefelau'r cymorth ariannol
sydd ei angen ar gyfer y cyfnod rhwng mis Ebrill 2023 a mis Mawrth 2024 ar
gyfer ein partneriaid strategol (Freedom Leisure, Pwll Cenedlaethol Cymru ac
Arena Abertawe) yn benodol mewn perthynas â chostau ynni uwch. |
|||||||
Diweddariad ar Gynnydd Eden Las. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y
Cabinet dros Drawsnewid Gwasanaethau adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu
cynnydd y prosiect a elwid gynt yn Eden Las. |
|||||||
FPR7 ddiweddaredig ar gyfer Adnewyddu Theatr y Palace. Cofnodion: Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad
a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol "Rhaglennu
ac Arfarniadau Cyfalaf" - i roi'r diweddaraf am brosiect Theatr y Palace. Penderfynwyd cymeradwyo'r argymhellion
diwygiedig a ddisgrifiwyd. |