Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd - Ffon: (01792) 636923
Rhif | Eitem | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y buddiannau canlynol: 1)
Datganodd y Cynghorwyr R Francis-Davies A S Lewis fudd
personol â Chofnod 129 “Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol”. 2)
Datganodd y Cynghorydd R V Smith fudd personol a
rhagfarnol â chofnod 128 "Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod
Lleol" a dywedodd ei fod wedi cael goddefeb gan
y Pwyllgor Safonau i aros a siarad, ond i beidio â phleidleisio ar faterion yn
ymwneud â phenodi llywodraethwyr awdurdod lleol. 3)
Datganodd y Cynghorydd E J
King gysylltiad personol â Chofnod 130 "Fframwaith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol
Gorllewin Morgannwg”. |
|||||||
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) a
restrir isod fel cofnod cywir: 1)
Cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 20 Ionawr 2022. |
|||||||
Cyhoeddiadau Arweinydd y Cyngor. Cofnodion: Ni wnaed unrhyw gyhoeddiadau gan Arweinydd y Cyngor. |
|||||||
Cwestiynau gan y cyhoedd. Mae’n rhaid i gwestiynau gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig
i’r Gwasanaethau Democrataidd democratiaeth@abertawe.gov.uk erbyn ganol
dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid bod y cwestiynau’n
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10
munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|||||||
Hawl i holi cynghorwyr. Cofnodion: Gofynnodd y Cyngorydd C A Holley dri chwestiwn mewn
perthynas â chofnod 119 “Monitro Refeniw a’r Gyllideb Gyfalaf
– Chwarter 3ydd 2021/22”. Ymatebodd yr Aelod Cabinet dros Wella'r Amgylchedd a Rheoli Isadeiledd. Dywedodd y byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei
ddarparu mewn perthynas â: Cwestiwn 2 “Rhowch gost ar gyfer
pob un o'r llwybrau beicio”. |
|||||||
Adborth ar Graffu Cyn Penderfynu - Adroddiadau am y Gyllideb (Ar lafar) Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd C A Holley yr adborth ar graffu cyn penderfynu mewn
perthynas â'r pum adroddiad am y gyllideb. |
|||||||
Monitro Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf - Chwarter 3ydd 2021/22. PDF 492 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Aelod y Cabinet dros yr Economi, Cyllid
a Strategaeth adroddiad a oedd yn manylu ar fonitro cyllidebau refeniw a
chyfalaf 2021-2022 yn ariannol, gan gynnwys cyflwyno arbedion cyllidebol. Penderfynwyd: 1)
Nodi'r sylwadau a'r amrywiadau, gan gynnwys yr ansicrwydd
materol fel a nodwyd yn yr adroddiad a'r camau gweithredu sydd ar y gweill er
mwyn mynd i'r afael â'r rhain. 2)
Cymeradwyo'r trosglwyddiadau a nodir ym mharagraff 2.7
o'r adroddiad a'r defnydd o'r gronfa wrth gefn fel a nodir ym mharagraff 3.2
o'r adroddiad yn amodol ar unrhyw gyngor pellach gan y Swyddog Adran 151 yn
ystod y flwyddyn. 3)
Bydd y Cabinet yn atgyfnerthu'r angen i bob Cyfarwyddwr
barhau i leihau gorwario ar wasanaethau yn ystod y flwyddyn, gan gydnabod mai
dim ond drwy ddibynnu'n drwm ar ad-daliad tebygol (sydd ymhell o fod yn sicr),
cyllidebau wrth gefn a chronfeydd wrth gefn a ddelir yn ganolog gan Lywodraeth
Cymru y mae'r gyllideb gyffredinol yn cael ei chydbwyso ar hyn o bryd, a hefyd i
gydnabod bod y gorwariant bron yn gyfan gwbl oherwydd pwysau COVID parhaus a
ragwelir. 4)
Nodi'r opsiynau dangosol a nodir ym Mharagraff 4.1 o'r
adroddiad mewn perthynas â thanwariant posib ar gyfer y flwyddyn, gyda chamau
gweithredu terfynol i'w cadarnhau ar alldro. |
|||||||
Cynllunio Ariannol Tymor Canolig 2023/24 - 2025/26. PDF 840 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn nodi rhesymeg a diben y Cynllun Ariannol
Tymor Canolig, yn manylu ar y prif dybiaethau ariannu ar gyfer y cyfnod ac yn
cynnig strategaeth i gynnal cyllideb gytbwys. Penderfynwyd: 1) Argymell Cynllun Ariannol Tymor Canolig 2023-2024 hyd at 2025-2026 i'r cyngor fel sail ar gyfer cynllunio ariannol y gwasanaethau yn y dyfodol. |
|||||||
Cyllideb Refeniw 2022/23. PDF 1 MB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn
- Testun Craffu cyn Penderfynu:
Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y
penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn Penderfynu ac ni
fu unrhyw newid pwysig i wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn
nodi'r sefyllfa bresennol o ran y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2022-2023. Cynigodd Arweinydd y Cyngor nifer o ddiwygiadau i'r adroddiad. Gwnaed y
diwygiadau yng ngoleuni diben y polisi a gyhoeddwyd yng nghyfarfod y cyngor ar
3 Mawrth 2022 i geisio symud i isafswm cyflog o £10 yr awr, ac i geisio lleihau
baich Treth y Cyngor ar aelwydydd. Gofynnodd Arweinydd y Cyngor i’r Swyddog Adran
151 a oedd y diwygiadau'n briodol ac yn fforddiadwy. Dywedodd y Swyddog Adran 151 fod y newidiadau arfaethedig i gyflog yn
fforddiadwy o fewn symiau cyllideb a ddarparwyd eisoes ond yn ei farn ef, roedd
y costau ardoll a chost Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar y lefelau isaf
yr oedd eu hangen i’w bodloni. Fodd bynnag, gellir gwneud diwygiadau i'r
gyllideb. Penderfynwyd: 1) Nodi canlyniad yr ymarfer ymgynghori ffurfiol a chytuno ar unrhyw newidiadau i'r Cynigion Cyllidebol yn Atodiad D yr adroddiad yn ogystal â'r sefyllfa o ran cyllidebau dirprwyedig fel a nodwyd yn Adrannau 4.15 a 4.17 yr adroddiad. 2) Nodi Cyfanswm y Gofyniad Ariannu presennol a grybwyllwyd yn Adran 4.6 yr adroddiad ac, yn unol â'r camau gweithredu posib a nodwyd yn Adrannau 9 a 10 yr adroddiad, gytuno ar gamau gweithredu i gyflawni Cyllideb Refeniw gytbwys ar gyfer 2022-2023. 3) Yn ogystal ag adolygiad o gynigion arbed presennol, gwnaeth y Cabinet y canlynol: a) Adolygu
a chymeradwyo'r trosglwyddiadau
wrth gefn a argymhellir yn
yr adroddiad. b) Adlewyrchu
ardoll Awdurdod Tân is i'r swm terfynol
a gynghorwyd o £28,000. c) Lleihau'r
ddarpariaeth chwyddiant canolog £1,092,000. ch) Lleihau Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor £300,000. d) Gwneud
gostyngiad sylfaenol o
£1,420,000 i'r gyllideb refeniw arfaethedig a gostyngiad canlyniadol i gyfanswm treth
y cyngor, a godwyd gyda'r £1,420,000 cyfatebol i leihau'r argymhelliad
ar dreth y cyngor i gynnydd
o 0.95%. dd) Cytuno ar lefel treth y cyngor ar gyfer 2022-2023 i'w hargymell i'r cyngor. 4) Yn amodol ar y newidiadau a nodwyd ac a restrwyd uchod, mae'r Cabinet yn argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: a) Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022-2023. b) Gofyniad y gyllideb ac ardoll treth y cyngor ar gyfer 2022-2023. |
|||||||
Cyllideb a Rhaglen Gyfalaf 2021/22- 2026/27 PDF 368 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd Swyddog
Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer
2021-2022 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022-2023 i 2026-2027. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r gyllideb gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-2022 a chyllideb gyfalaf ar gyfer 2022-2023 – 2026-2027 fel a fanylir yn Atodiadau A, B C, D, E, F a G yr adroddiad. |
|||||||
Cyfrif Refeniw Tai (CRT) - cyllideb refeniw 2022/23. PDF 437 KB Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn cynnig Cyllideb Refeniw ar gyfer 2022/2023 a chynnydd rhent i eiddo o fewn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT). Penderfynwyd argymell y cynigion cyllidebol canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: 1) Cynyddu rhenti'n unol â pholisi newydd Llywodraeth Cymru fel a fanylwyd yn Adran 3 yr adroddiad. 2) Cymeradwyo ffïoedd, taliadau a lwfansau fel a amlinellir yn Adran 4 yr adroddiad. 3) Cynigion y gyllideb refeniw fel a nodwyd yn Adran 4 yr adroddiad. |
|||||||
Cyfrif Refeniw Tai - cyllideb a rhaglen gyfalaf 2021/22 - 2025/2026 PDF 561 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Gweithdrefn Galw i Mewn - Testun
Craffu cyn Penderfynu: Mae’r penderfyniad hwn yn rhydd o Weithdrefn
Galw i Mewn yr awdurdod gan fod “y penderfyniad wedi bod yn destun Craffu Cyn
Penderfynu ac ni fu unrhyw newid pwysig i
wybodaeth/dystiolaeth berthnasol”. Cyflwynodd y Swyddog Adran 151 a’r Cyfarwyddwr Lleoedd adroddiad ar y cyd a oedd yn cynnig Cyllideb Gyfalaf ddiwygiedig ar gyfer 2021-2022 a Chyllideb Gyfalaf ar gyfer 2022-2023 – 2025-2026. Penderfynwyd argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo: 1) Cymeradwyo'r trosglwyddiadau rhwng cynlluniau a'r cyllidebau diwygiedig ar gyfer cynlluniau yn 2020-2021. 2) Cymeradwyo cynigion cyllidebol 2022-2023 – 2025-2026. 3) Lle caiff cynlluniau unigol fel y'u dangosir yn Atodiad B eu rhaglennu dros y cyfnod 4 blynedd a ddisgrifir yn yr adroddiad, caiff y rhain eu dilyn a'u cymeradwyo, a chymeradwyir eu goblygiadau ariannol ar gyfer ariannu dros y 4 blynedd. |
|||||||
Adolygiad blynyddol o daliadau (gwasanaethau cymdeithasol) 2021/22 PDF 250 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd
Cymunedol adroddiad, sef yr adolygiad blynyddol diweddaraf o daliadau
gwasanaethau cymdeithasol, gwelliannau a wnaed yn ystod y flwyddyn a rhestr arfaethedig
o daliadau i'w cymhwyso yn 2022/2023. Penderfynwyd: 1) Derbyn canfyddiadau'r adroddiad adolygiad blynyddol o daliadau. 2) Bydd cynnydd chwyddiannol o 3% yn cael ei gymhwyso i'r holl daliadau gwasanaethau cymdeithasol a ddaw i rym ar 1 Ebrill 2022. 3) Cymeradwyo cyhoeddi'r rhestr o daliadau'r gwasanaethau cymdeithasol, a fydd yn berthnasol o 1 Ebrill 2022, ar gyfer y flwyddyn 2022/2023. |
|||||||
Strategaeth Rheoli Coed. PDF 166 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a
oedd yn ceisio mabwysiadu strategaeth ar gyfer rheoli coed ar/sy'n effeithio ar
dir/eiddo dan berchnogaeth y cyngor, ac yn nodi dyletswyddau'r cyngor mewn perthynas
â choed a warchodir. Penderfynwyd: 1) Cytuno ar y Strategaeth Rheoli Coed. 2) Cynnal ymarfer mapio i nodi safleoedd/parthau posib ar gyfer plannu ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn amodol ar argaeledd cyllid a chynhaliaeth yn y dyfodol. |
|||||||
Hyrwyddo Polisi Credyd Fforddiadwy PDF 234 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Pwyllgor Datblygu Polisi Lleihau Tlodi adroddiad a oedd yn ceisio mabwysiadu
strategaeth sy'n ymgorffori'r gwaith o hyrwyddo credyd fforddiadwy. Cyflwynodd
y Cynghorydd P Downing yr adroddiad. Penderfynwyd: 1) Mabwysiadu'r Polisi Hyrwyddo Credyd Fforddiadwy sydd ynghlwm fel Atodiad A yr adroddiad. |
|||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau adroddiad a
oedd yn ceisio: i)
Cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer ceisiadau'r Gronfa
Datblygu Tir ac Adeiladu. ii)
Cymeradwyaeth ôl-weithredol ar gyfer cais i'r Gronfa Gofal
Integredig. iii)
Ymrwymo'r cynlluniau i'r Rhaglen Gyfalaf yn unol â
Rheolau Gweithdrefn Ariannol y cyngor. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r ceisiadau am gyllid Datblygu Tir ac Adeiladu a nodir yn Adran 2.2 o'r adroddiad. 2) Cymeradwyo'r cais i'r Gronfa Gofal Integredig a nodir yn Adran 3.3 o'r adroddiad. 3) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd, y Prif Swyddog Cyfreithiol a'r Prif Swyddog Cyllid ymrwymo i unrhyw gytundebau sy'n angenrheidiol i sicrhau y caiff y prosiectau eu cyflawni ac i ddiogelu buddiannau'r cyngor. 4) Dirprwyo awdurdod i'r Cyfarwyddwr Lleoedd a'r Prif Swyddog Cyllid i adennill yr holl wariant sy'n gysylltiedig â chyflawni'r prosiectau gan Lywodraeth Cymru. 5) Caiff unrhyw benderfyniadau pellach sy'n berthnasol i'r cyllid uchod eu dirprwyo i'r Cyfarwyddwr Lleoedd ac Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thrawsnewid Gwasanaethau, a chaiff cynlluniau eu nodi a'u cymeradwyo trwy adroddiad blynyddol Cyllideb Gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai. |
|||||||
Penodiadau Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol. PDF 211 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Grŵp
Penodi Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth ar gyfer yr enwebiadau a gyflwynwyd i lenwi swyddi gwag
Llywodraethwyr yr Awdurdod Lleol (ALl) ar gyrff
llywodraethu ysgolion. Penderfynwyd ar y canlynol: 1) Cymeradwyo'r enwebiadau canlynol a argymhellwyd gan y Cyfarwyddwr Addysg ar y cyd ag Aelod y Cabinet dros Wella Addysg, Dysgu a Sgiliau:
|
|||||||
Fframwaith Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg. PDF 330 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd
Cymunedol adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth i fabwysiadu Fframwaith
Llywodraethu ar gyfer Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg. Penderfynwyd: 1) Cymeradwyo'r Fframwaith Llywodraethu ar gyfer Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Morgannwg sydd ynghlwm fel Atodiad 1 yr adroddiad. |
|||||||
Adroddiad FPR7 - Grant Creu Lleoedd - Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. PDF 331 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth adroddiad a oedd yn ceisio
cymeradwyaeth i gydymffurfio â Rheol 7 y Weithdrefn Ariannol ("Rhaglennu
ac Arfarniadau Cyfalaf") er mwyn ymrwymo i ac awdurdodi ychwanegu cynlluniau
newydd at y Rhaglen Gyfalaf. Penderfynwyd: 1) Nodi bod y cais am grant a nodir yn yr adroddiad wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru fel rhan o rownd ymgeisio cyfalaf 2021/2022 ar gyfer Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru. 2) Caiff y cynlluniau perthnasol a'u goblygiadau ariannol eu cymeradwyo, a chaiff y cynlluniau eu hawdurdodi i'w hychwanegu at y Rhaglen Gyfalaf. 3) Nodi a chymeradwyo'r cytundeb rhyng-awdurdod a baratowyd i amddiffyn safbwynt y cyngor fel Awdurdod arweiniol wrth ddosbarthu'r cyllid a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r cynlluniau ar sail ranbarthol. 4) Dirprwyo awdurdod i'r Pennaeth Cynllunio ac Adfywio'r Ddinas, mewn ymgynghoriad â'r Prif Swyddog Cyfreithiol, ymrwymo i'r cytundeb ar ran y cyngor. |
|||||||
Ardrethi Busnes - Cynllun Cymorth Ardrethi Dros Dro (Cymru) 2022/23. PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Swyddog Adran 151 adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth ac yn ceisio
mabwysiadu Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch dros dro
sy'n berthnasol i Ardrethi Busnes, a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn
ariannol 2022/2023. Penderfynwyd: 1) Nodi manylion y cynllun fel y'u nodir yn yr adroddiad. 2) Mabwysiadu'r Cynllun Rhyddhad Ardrethi a amlinellir yn yr adroddiad ar gyfer 2022-2023. |