Agenda, decisions and minutes

Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Media

Eitemau
Rhif Eitem

43.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Penderfyniad:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)              Councillors P M Black & T M White declared a Personal Interest in Minute 47 “Internal Audit Recommendation Follow-Up Report – Quarter 2 2021/22”.

 

2)              Julie Davies declared a Personal Interest in Minute 48 “Fundamental Audits 2020/21 Recommendation Tracker”.

Cofnodion:

Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol:

 

1)            Datganodd y Cynghorwyr P M Black a T M White gysylltiad personol â Chofnod 47 "Adroddiad Dilynol am Argymhelliad yr Archwiliad Mewnol ar gyfer Chwarter 2 2021/22".

 

2)            Datganodd Julie Davies gysylltiad personol â Chofnod 48 "Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliadau Hanfodol 2020/21".

44.

Cofnodion. pdf eicon PDF 251 KB

Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol.

Penderfyniad:

Cymeradwywyd.

Cofnodion:

Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2021 fel cofnod cywir.

45.

Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/21 - Adroddiad Monitro ar gyfer y Cyfnod 1 Gorffennaf 2021 i 30 Medi 2021.. (Er Gwybodaeth) (Simon Cockings) pdf eicon PDF 358 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad gwybodaeth a oedd yn manylu ar yr archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2021.

 

Mynegodd y Cadeirydd bryder nad oedd prisiad llawn o'r asedau presennol yn Oriel Gelf Glynn Vivian wedi'i gynnal ers 9 mlynedd.

 

Dywedodd y Prif Archwilydd fod y mater wedi'i amlygu yn yr adroddiad ac y byddai'n cyflwyno adroddiad i'r Cadeirydd maes o law. Addawodd y Swyddog Adran 151 hefyd godi'r mater er mwyn mynd i'r afael â'r mater.

46.

Ymateb i Adroddiad Archwilio Mewnol y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol a'r Gwasanaeth Larymau Cymunedol. pdf eicon PDF 218 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Helen St John, Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol Integredig a Lucy Friday, Prif Swyddog – Trawsnewid – Gwasanaethau i Oedolion adroddiad gwybodaeth a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ac ymateb i archwiliad mewnol 2021/22 o Storfeydd Cyfarpar Cymunedol a'r Gwasanaeth Larwm Cymunedol.

 

Amlinellodd y Swyddogion y gwaith a wnaed a'r gwaith sydd eto i'w wneud i fynd i'r afael â rheoli asedau'r stoc yn y storfeydd. Byddai'r gwaith yn golygu bod y stoc asedau'n cael ei lleihau'n fawr oherwydd oedran llawer o'r stoc. Tynnwyd sylw at y ffaith bod gan bob eitem o stoc gôd bar unigol ers 2019.

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau a oedd yn ymwneud â hyfforddiant, rheoli stoc a rheoli perfformiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Is-adran Archwilio Mewnol gynnwys "Adolygiad o'r Trefniadau Rheoli Perfformiad" yn eu hadolygiad dilynol.

 

Dywedodd y Prif Archwilydd fod y mater wedi'i amlygu ac y byddai'n cyflwyno adroddiad i'r Cadeirydd maes o law. Addawodd y Swyddog Adran 151 hefyd godi'r pwnc er mwyn mynd i'r afael â'r mater.

 

Nododd y Pwyllgor ei fod yn wasanaeth ar y cyd rhwng Cyngor Abertawe, Cyngor Castell-nedd Port Talbot a'r Bwrdd Iechyd. Gofynnodd y Pwyllgor am ddadansoddiad o werth y rhaniad ar y cyllid gan y sefydliadau hynny. Cytunodd y Swyddogion i roi adborth ar y wybodaeth honno.

47.

Adroddiad Dilynol Argymhellion Archwiliadau Mewnol - Chwarter 2 2021/22. (Er Gwybodaeth) (Simon Cockings) pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle'r oedd y gwaith dilynol wedi'i wneud yn Chwarter 2 2021/22, gan ganiatáu i'r Pwyllgor fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan yr Archwiliad Mewnol.

48.

Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliadau Hanfodol 2020/21. (Er Gwybodaeth) (Simon Cockings) pdf eicon PDF 326 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu crynodeb o'r argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliadau hanfodol yn 2020/21 ac yn nodi a oedd yr argymhellion y cytunwyd arnynt wedi cael eu rhoi ar waith.

 

O'r 36 o argymhellion, roedd 25 wedi'u gweithredu'n llawn, 3 wedi'u gweithredu'n rhannol, 5 heb eu gweithredu ac nid oedd 3 yn barod i'w gweithredu eto.

49.

Adroddiad Diweddaru Canol Blwyddyn Swyddogaeth Twyll Corfforaethol 2021/22. (Jeff Fish / Jonathon Rogers) pdf eicon PDF 352 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Jeff Fish, Ymchwilydd y Tîm Twyll Corfforaethol adroddiad a oedd yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y gwaith a wnaed gan y Swyddogaeth Twyll Corfforaethol yn 2021/22.

 

Trafododd y Pwyllgor y canlynol:

 

Ø    Maint gymharol fach y tîm gydag adnoddau cyfyngedig.

Ø    Ei allu i wneud gwaith rhagweithiol.

Ø    Sicrwydd bod twyll wedi digwydd.

 

Penderfynwyd nodi'r cynnydd canol blwyddyn a wnaed yn erbyn Swyddogaeth Twyll y Cynllun Gwrth-dwyll Corfforaethol a nodir yn Atodiad A yr adroddiad a'r canlyniadau a gyflawnwyd.

50.

Trosolwg Risg Corfforaethol 2021/22 - Chwarter 2. (Er Gwybodaeth) (Richard Rowlands) pdf eicon PDF 339 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodwyd.

Cofnodion:

Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol, adroddiad gwybodaeth a oedd yn darparu trosolwg o statws Risgiau Corfforaethol yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor fod risgiau allweddol yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli risgiau'r cyngor.

 

Roedd y canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y

Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 2 2021/22:

 

·                    6 statws risg coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddiwedd C2 2021/22:

 

o        Rhif Adnabod Risg 153. Diogelu.

o        Rhif Adnabod Risg 159. Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy.

o        Rhif Adnabod Risg 222. Digidol, Data a Seiberddiogelwch.

o        Rhif Adnabod Risg 264. COVID-19.

o        Rhif Adnabod Risg 274. Gwasanaethau Cymdeithasol COVID-19.

o        Rhif Adnabod Risg 296. Cyflenwi deunyddiau adeiladu.

 

·                    Cofnodwyd bod yr holl risgiau wedi'u hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Chwarter 2.

·                    Ni chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu dadactifadu.

·                    Uwch-gyfeiriwyd 1 risg i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Rhif Adnabod Risg 274. Gwasanaethau Cymdeithasol COVID-19.

51.

(Cyfarwyddiaeth): Yr Amgylchedd Rheolaeth Fewnol 2021/22. (Er Gwybodaeth) (Dave Howes) pdf eicon PDF 267 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd David Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol, gan gynnwys rheoli risgiau, gan sicrhau: bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o adnoddau, a;  bod llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn.

 

Darparodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddadansoddiad eang o'r Portffolio o dan y meysydd canlynol:

 

Ø    Rheoli Risgiau a Pharhad Busnes.

Ø    Rheoli Perfformiad a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

Ø    Cynllunio a Gwneud Penderfyniadau.

Ø    Rheoli Cyllidebau ac Adnoddau.

Ø    Twyll ac Amhriodoldeb Ariannol.

Ø    Cydymffurfio â Pholisïau, Rheolau a Gofynion Rheoliadol.

Ø    Sicrwydd Rhaglenni a Phrosiectau.

Ø    Dulliau rheoli mewnol.

Ø    Diogelu Data.

Ø    Llywodraethu Partneriaeth/Cydweithio.

 

Dywedodd fod 2021 wedi bod yn gyfnod heriol iawn i'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol oherwydd COVID a'i effaith ar y gwasanaeth. Roedd y gwasanaeth eisoes yn cael ei reoleiddio'n fanwl ac roedd risg yn ffactor allweddol yn y rheoliad hwnnw.

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n cynnwys System Feddalwedd Genedlaethol Cymru a'i phroblemau sefydlogrwydd cychwynnol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i David Howes am ddarparu adolygiad manwl.

52.

Adroddiad Blynyddol Diogelu Corfforaethol 2020-21. (Er gwybodaeth) (Simon Jones) pdf eicon PDF 278 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Simon Jones, Swyddog Strategaeth a Gwella Perfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad gwybodaeth a oedd yn amlinellu'r adroddiad blynyddol diweddaraf ar drefniadau diogelu corfforaethol y cyngor, sy'n adolygu rhaglen waith y Grŵp Diogelu Corfforaethol yn ystod 2020/21.

 

Mae'r adroddiad yn gweithredu fel adolygiad cynhwysfawr o weithredu Polisi Diogelu Corfforaethol y cyngor, sy'n hyrwyddo ymagwedd "mae diogelu yn fusnes i bawb". Mae diogelu pobl rhag niwed yn flaenoriaeth gorfforaethol yng Nghynllun Corfforaethol Cyngor Abertawe".

 

Gofynnodd y Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n cynnwys:

 

Ø    Cydymffurfio â Hyfforddiant Diogelu.

Ø    Roedd angen atgoffa'r holl gynghorwyr a'r Swyddogion o'u cyfrifoldebau diogelu corfforaethol.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cydymffurfiaeth cynghorwyr o ran Hyfforddiant Diogelu yn 100%. Dywedodd hefyd fod y cyngor, yn ei gyfarfod ar 4 Tachwedd 2021, wedi penderfynu sicrhau bod Diogelu yn parhau yn y gofynion hyfforddi gorfodol ar gyfer cynghorwyr ar gyfer y tymor sydd ar ddod 2022-2027.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i hyfforddiant Cydymffurfio â Diogelu gael ei amlygu yn y Gofrestr Risgiau.

53.

Y diweddaraf am Abertawe'n Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd. (Er Gwybodaeth) (Adam Hill) pdf eicon PDF 2 MB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Cyflwynodd Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr, a Marlyn Dickson, Rheolwr y Rhaglen Newid Strategol, adroddiad gwybodaeth ar y cyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Adfer a Thrawsnewid – Abertawe'n Cyflawni'n Well Gyda'n Gilydd.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Dirprwy Brif Weithredwr gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth y Gweithlu ac amserlen ar gyfer pryd y bydd ar waith. Ymatebodd y Dirprwy Brif Weithredwr gan ddweud ei bod yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd ac y byddai'n sicrhau ei bod yn cael ei hychwanegu fel eitem ar yr agenda yng nghyfarfod mis Chwefror 2022.

54.

Effaith Deddf Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol 2020. (Llafar) (Ben Smith)

Penderfyniad:

Gohiriedig.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem hon i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Chwefror 2022.

55.

Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) pdf eicon PDF 364 KB

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio er gwybodaeth.

56.

Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) pdf eicon PDF 225 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Er gwybodaeth.

Cofnodion:

Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r cynllun gwaith gael ei ddiweddaru gyda'r canlynol:

 

Ø    Ymgorffori meysydd gwaith newydd y Pwyllgor yn y cynllun gwaith.

 

Ø    Y Dirprwy Brif Weithredwr i ddarparu adroddiad diweddaru i gyfarfod yn y dyfodol sy'n ymwneud â'r gofynion hyfforddi ar gyfer aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.