Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr M B Lewis a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 32 –
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 – Adroddiad Monitro ar gyfer y
cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 – fel aelodau o Awdurdod Iechyd Porthladd Bae
Abertawe. Datganodd y
Cynghorwyr P M Black, J A Raynor a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif
27 – Amgylchedd Rheoli Mewnol y Gyfarwyddiaeth Addysg 2021/2022 – fel
llywodraethwyr ysgolion. Datganodd Julie
Davies gysylltiad personol â Chofnod Rhif 29 – Adroddiad Archwilio Rheoli
Absenoldeb 20/21 – fel cyn-weithiwr yr awdurdod. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr M B Lewis a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 32 –
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 – Adroddiad Monitro ar gyfer y
cyfnod 1 Ebrill i 30 Mehefin 2021 – fel aelodau o Awdurdod Iechyd Porthladd Bae
Abertawe. Datganodd y
Cynghorwyr P M Black, J A Raynor a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif
27 – Amgylchedd Rheoli Mewnol y Gyfarwyddiaeth Addysg 2021/2022 – fel
llywodraethwyr ysgolion. Datganodd Julie
Davies gysylltiad personol â Chofnod Rhif 29 – Adroddiad Archwilio Rheoli
Absenoldeb 20/21 – fel cyn-weithiwr yr awdurdod. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2021 fel
cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: - Cofnod Rhif 12 –
diwygio '2021-21' i '2020-21' ym mharagraffau dau a thri. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2021 fel
cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: - Cofnod Rhif 12 –
diwygio '2021-21' i '2020-21' ym mharagraffau dau a thri. |
|
Trosolwg Risg Corfforaethol 2021/22 - Chwarter 1. (Richard Rowlands) PDF 336 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol,
adroddiad Chwarter 1 2021/22 ‘er gwybodaeth’ a oedd yn darparu trosolwg o
statws Risgiau Corfforaethol yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod risgiau
allweddol yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli risgiau'r
cyngor. Mae'r canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 1 2020/21, ·
Roedd 3 statws risg coch yn y
Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddiwedd C1 2021/22: o Rhif Adnabod
Risg 153 – Diogelu. o Rhif Adnabod
Risg 159 - Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy. o Rhif Adnabod
Risg 269 – Economi ac isadeiledd lleol. ·
Cofnodwyd bod yr holl risgiau
wedi'u hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Chwarter 1. ·
Ni chafodd unrhyw risgiau
corfforaethol eu dadactifadu. ·
Ni chafodd unrhyw risgiau eu
codi i'r Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Mae'r adroddiad
yn Atodiad A yn cynnwys y risgiau ar 01/09/21 a gofnodwyd yng Nghofrestr
Risgiau Corfforaethol y cyngor. Roedd yr adroddiadau ar gyfer pob risg yn
cynnwys gwybodaeth esboniadol gyffredinol a oedd yn ymwneud â'u dosbarthiad. Ychwanegwyd bod
hyfforddiant yn benodol ar Fesurau Rheoli wedi'i gynnal yn y Tîm Arweinyddiaeth
(Cyfarwyddwyr, Penaethiaid Gwasanaeth a rhai uwch-reolwyr eraill) fel y
bwriadwyd ar 25 Mai 2021. Roedd fideo yn seiliedig ar hyn wedi'i greu, ei lanlwytho ac roedd ar gael yn uniongyrchol drwy'r gofrestr
risgiau ynghyd â'r holl fideos eraill a ddarparwyd ar reoli risgiau ac ar
ddefnyddio'r gofrestr risgiau. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod y Cadeirydd wedi gofyn i’r Cyfarwyddwyr fod yn bresennol ym mhob
chwarter ar sail cylchdro ac yn darparu adroddiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ynglŷn â'r amgylchedd rheoli mewnol, gan gynnwys rheoli
risgiau a bydd y rhain yn cyd-fynd â'r adroddiadau risg chwarterol yn y
dyfodol. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Y dyddiadau diweddaru
diwethaf ar y Gofrestr Risgiau a'r angen i ddiweddaru'r dyddiadau hyn yn
chwarterol er mwyn rhoi rhagor o eglurder/sicrhau eu bod yn cael eu gwirio'n
rheolaidd. ·
Mae'r Gofrestr Risgiau yn
dangos pryd y diweddarwyd y mesur rheoli ddiwethaf a'r dyddiad cwblhau
arfaethedig. Gofynnir i berchnogion risgiau wirio'r risg yn fisol. ·
Mesurau rheoli caeëdig – cofnodwyd y rhesymau dros gau mesurau
rheoli/risgiau yn y system. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Helen
Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg, a Brian Roles, Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau
Addysg, adroddiad 'er gwybodaeth' a gyflwynodd amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth
Addysg, gan gynnwys rheoli risgiau, ar waith i sicrhau bod: swyddogaethau'n
cael eu harfer yn effeithiol; defnydd economaidd, effeithlon ac effeithiol o
adnoddau, a; bod llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Amlinellwyd
dadansoddiad eang o Gyllideb y Portffolio Addysg, pwyntiau allweddol i'w nodi,
elfennau allweddol o'r fframwaith sicrwydd, agweddau allweddol ar oruchwyliaeth
yr awdurdod o drefniadau ariannol ysgolion, manylion trefniadau archwilio
ysgolion ac agweddau allweddol ar drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Addysg. Darparwyd
manylion rheoli risgiau, parhad busnes, Rheoli Perfformiad/DPA, cynllunio,
gwneud penderfyniadau, rheoli cyllidebau ac adnoddau. Ychwanegwyd bod y
fframwaith sicrwydd a'r rheolaethau mewnol cadarn a nodir yn yr adroddiad yn
darparu sylfaen gadarn ar gyfer parhau i hyrwyddo diwylliant gwrth-dwyll o fewn y Gyfarwyddiaeth Addysg ac i unrhyw
faterion sy'n peri pryder gael eu nodi a'u codi'n hyderus gan staff. Roedd
hefyd yn sylfaen gadarn ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a
gofynion rheoliadol o fewn y Gyfarwyddiaeth. Rheolwyd
llywodraethu ar lefel rhaglenni a phrosiectau a risgiau sy'n gysylltiedig â
Rhaglen Addysg o Safon (AoS)/Rhaglen Ysgolion yr 21ain
Ganrif drwy brosesau rheoli risgiau rhaglenni a phrosiectau aeddfed yn unol â
gofynion corfforaethol ac amodau grant Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain
Ganrif Llywodraeth Cymru ac argymhellion adolygiad porth. Darparwyd y
trefniadau llywodraethu yn Atodiad 3. Amlygodd yr adroddiad
hefyd elfennau allweddol o ddulliau rheoli mewnol, diogelwch data a
llywodraethu partneriaeth/cydweithio. Darparodd Atodiad
A (y Gyfarwyddiaeth) Risgiau Corfforaethol a'r Gyfarwyddiaeth a darparodd
Atodiad B y Map Sicrwydd (Y Gyfarwyddiaeth) wedi'i ddiweddaru. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddogion a ymatebwyd iddynt yn briodol. Roedd
trafodaethau'n cynnwys y canlynol: - ·
Perthnasedd Ceisiadau Grant/Cyfalaf 2010/11, sut roedd y
broses wedi aros yr un fath ers 2010/11 a'r angen i olygu'r blynyddoedd o'r
nodiadau arweiniol. ·
Ysgolion sy'n tynnu'n ôl o'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth
caffael (CLG), sut mae ysgolion yn parhau i gael cyngor caffael a sut roedd y
CLG yn brawf yn seiliedig ar gyngor gwell wedi'i dargedu. ·
Symud i adolygiadau thematig o ysgolion drwy Archwilio
Mewnol. ·
Gwell sefyllfa cronfeydd wrth gefn ysgolion. ·
Ysgolion yn cynllunio ymlaen llaw am fwy nag un flwyddyn
ariannol. ·
Mynediad ysgolion caeëdig i Cloud Oracle ac opsiynau amgen yn cael eu
dilyn yn weithredol. ·
Y risgiau sy'n gysylltiedig â llywodraethwyr ysgolion, yn
enwedig o ystyried ymreolaeth enfawr ysgolion a'r angen parhaus am raglen
hyfforddi effeithiol/cyfathrebu â llywodraethwyr ysgolion. ·
Risg cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion, sut yr oedd yr
awdurdod yn cyflawni'n uwch na'r lefelau disgwyliedig, yr angen parhaus i
gynnal safonau dysgu ac addysgu, gan sicrhau bod arferion gwael yn cael sylw
uniongyrchol a'r gofyniad i'r Gyfarwyddiaeth Addysg egluro'r camau sy'n ymwneud
â'r risg hon yn fanylach. ·
Pwysigrwydd ysgolion yn cadw at gyngor caffael,
cefnogaeth gaffael yn y dyfodol, sut yr oedd y canllaw caffael ar gyfer
ysgolion yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd a darparu hyfforddiant gloywi
ynghylch y canllaw diweddaredig. ·
Pwysigrwydd ysgolion yn cael y gwerth gorau o ran
caffael. ·
Trefniadau Partneriaeth Rhanbarthol Newydd a
llywodraethu/rheoli risgiau a'r symud i fodel/ôl troed rhanbarthol ar gyfer mis
Medi 2021. ·
Trefniadau archwilio tair haen posib y Bartneriaeth
Ranbarthol newydd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu adolygiad manwl o'r Gyfarwyddiaeth Addysg.
|
|
Adroddiad Diweddaru Cydbwyllgor Corfforaethol De Orllewin Cymru. (Martin Nicholls) PDF 319 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Martin
Nicholls, Cyfarwyddwr Lleoedd, adroddiad 'er gwybodaeth' a roddodd yr wybodaeth
ddiweddaraf i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y statws a'r cynnydd
presennol mewn perthynas â Chyd-bwyllgor Corfforaethol newydd De-orllewin Cymru
(CBC). Amlinellwyd y
cefndir i'r modd y sefydlodd Rhan 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021 gyd-bwyllgorau corfforaethol. Darparodd Atodiad A adroddiad y
Cabinet a gymeradwywyd ar 20 Mai 2021 a oedd yn amlinellu'r gofynion ar gyfer
cyfansoddiad, aelodaeth a chyfarfodydd. Darparwyd
llywodraethu'r CBC, yn enwedig cyfethol aelodau a threfniadaeth is-bwyllgorau.
Yn ogystal, amlinellwyd manylion am weithgareddau/gerrig milltir allweddol,
gweithgareddau cyfreithiol, dulliau cyflwyno, blaenoriaethau, cerrig milltir
ariannol, cyfarfodydd CBC, gofynion llywodraethu ac archwilio. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Trefniadau llywodraethu ac archwilio a chraffu. ·
Trefniadau ariannu, cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar
gyfer ardaloedd trawsnewidiol, cytuno ar gyllideb/ardoll ddrafft. ·
Sut yr oedd y pedwar awdurdod yn y rhanbarth yn
gweithio'n dda gyda'i gilydd, ar sail gyfartal. ·
Rheolau neilltuaeth ynghylch Cyd-bwyllgorau
Corfforaethol. Ychwanegodd y
Cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor, fod y pedwar awdurdod dan sylw wedi
sefydlu perthynas waith dda drwy weithio ar y Fargen Ddinesig a phwysleisiodd y
gofyniad am arweinyddiaeth gref o ran pob un o ffrydiau gwaith y CBC. Tynnodd
sylw hefyd at yr angen am gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn atal
y baich ariannol ychwanegol rhag cael ei roi ar yr awdurdodau dan sylw. |
|
Adroddiad Archwilio Rheoli Absenoldeb 20/21. (Sian Williams / Adrian Chard) PDF 312 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Sian
Williams, Pennaeth y Ganolfan Gwasanaethau ac Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau
Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol, adroddiad diweddaru 'er gwybodaeth' ar
y cynnydd a wnaed yn dilyn lefel sicrwydd Archwilio Mewnol cymedrol a roddwyd
yn 2020 mewn perthynas â Rheoli Absenoldeb. Roedd yr
adroddiad diweddaru yn mynd i'r afael â'r 1 Risg Uchel (RU) a'r 4 Risg Ganolig
(RG) ynghyd â'r gwaith ychwanegol a'r cynnydd a wnaed. Darparodd Atodiad A y
Dadansoddiad o'r Tueddiadau Cydymffurfio â Rheoli Salwch. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod cynnydd wedi'i wneud o ran 4 risg ac ateb amgen a gyflwynwyd
ynghylch y risg sy'n gysylltiedig â'r system Interflex. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Effaith pandemig COVID-19 ar
ffigurau, yn enwedig cyfweliadau dychwelyd i'r gwaith. ·
Cymorth ac arweiniad a ddarperir gan staff Adnoddau Dynol
i ddarparu tryloywder. ·
Cynnwys Undebau Llafur mewn materion staff. Dywedodd y Prif Archwilydd
y byddai adolygiad dilynol yn cael ei gynnal ddiwedd mis Medi 2021 a byddai'n
cael ei gynnwys yn ei adroddiad Chwarter 2. Dywedodd y
Cadeirydd fod yr adroddiad yn dangos y gwnaed cynnydd a nifer y diwrnodau
absenoldeb oedd yn 5.9% felly nad oedd yn destun pryder. Gofynnodd am gael
adroddiad cynnydd pellach ym mis Chwefror 2022. |
|
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Siân Williams
Rhoddodd Pennaeth y Ganolfan Gwasanaethau a Michelle Davies, Rheolwr Cyfrifon
Derbyniadwy a Rheoli Arian Parod, adroddiad diweddaru ar gyfer y Ganolfan Gwasanaethau,
swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy. Amlinellwyd y cynnydd a wnaed ers cyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin 2021
ac fe'i crynhowyd yn fanwl. Tynnwyd sylw at gyflwyno aelodau newydd o staff a'r cynnydd a wnaed gan y
tîm ers iddynt ddechrau. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Camau adennill dyledion wedi'u targedu yn y cyfnod rhwng
mis Mehefin a mis Awst 2021 a sut yr oedd y ffigurau'n darparu cipolwg ar y
canlyniadau ar y diwrnod y paratowyd yr adroddiad. ·
Cael dadansoddiad o brif achos dyledion er mwyn deall y
rhesymau dros y dyledion a'r broses wirio a wnaed cyn i ddyledion gael eu
cyfeirio at yr adran Gyfreithiol. ·
Gwella adrannau yn y broses a'r adborth cadarnhaol a
gafwyd a sut roedd defnyddio Microsoft Teams
wedi helpu gyda'r gwelliannau. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad diweddaru. Ychwanegodd fod disgwyl i'r gwasanaeth
ddarparu adroddiadau chwarterol i'r Tîm Craffu a'r Tîm Rheoli Corfforaethol (TRhC) a chynigiodd y dylid
darparu'r diweddariad nesaf ar ôl yr adroddiad i'r TRhC. Penderfynwyd: - 1)
Bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi y bydd
swyddogion yn parhau i adrodd i TRhC bob chwarter fel
diweddariad pellach ar sefyllfa'r ddyled ar draws yr awdurdod. 2)
Y bydd y Pwyllgor yn cael adroddiad diweddaru yn dilyn yr
adroddiad chwarterol i TRhC. |
|
Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. (Adam Hill / Huw Evans) PDF 257 KB Penderfyniad: Penderfynwyd argymell aelodaeth Pwyllgor a ffefrir o 15 (10 cynghorydd a 5 aelod lleyg) i'r cyngor i'w
gymeradwyo. Cofnodion: Cyflwynodd Tracey
Meredith, Prif Swyddog Cyfreithiol, adroddiad ar ran Pennaeth y Gwasanaethau
Democrataidd a oedd yn ceisio cydymffurfio â Rhan 6 Pennod 2 "Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio: Aelodaeth a
Thrafodion" Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 drwy sicrhau
y bydd aelodaeth y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cynnwys traean (1/3) o
aelodau lleyg. Amlinellwyd bod y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio ar hyn o bryd yn cynnwys 15 aelod (13 cynghorydd a 2
aelod lleyg). Roedd angen i'r Pwyllgor ystyried ei faint newydd a'r goblygiad y
byddai 1/3 o'r Pwyllgor yn Aelodau Lleyg. Roedd tabl a ddarparwyd yn
amlinellu cynrychiolaeth yr Aelodau Gwleidyddol a Lleyg ar y Pwyllgor yn
seiliedig ar wahanol feintiau'r Pwyllgor. Gofynnwyd i'r Pwyllgor adolygu'r tabl ac argymell
maint y Pwyllgor a ffefrir ganddynt i'r cyngor. Nododd y Prif
Swyddog Cyfreithiol fod Swyddfa Archwilio Cymru wedi awgrymu bod pwyllgorau
llai o ran maint, yn fuddiol. Nodwyd hefyd po fwyaf o aelodau lleyg sydd eu
hangen, y mwyaf anodd y gallai fod i recriwtio. Holodd y Pwyllgor am effeithiolrwydd y broses i benodi'r aelodau lleyg
presennol i'r Pwyllgor. Tynnodd y Cadeirydd sylw at y ffaith bod y cyngor wedi
dilyn prosesau cadarn wrth benodi'r ddau aelod lleyg presennol. Pwysleisiodd
fod y ddwy swydd wedi cael eu hysbysebu'n eang, roedd yr awdurdod wedi
dosbarthu pecynnau priodol i ymgeiswyr, y bu’n rhaid iddynt ymgymryd â
gweithdrefn benodi gadarn yn y cyfweliad. Trafododd ac
ystyriodd y Pwyllgor yr opsiynau sydd ar gael a gwnaed tri chynnig ar wahân bod
yr aelodaeth yn cynnwys 15, 12 a 9. Penderfynwyd argymell aelodaeth Pwyllgor a ffefrir o 15 (10 cynghorydd a 5 aelod lleyg) i'r cyngor i'w
gymeradwyo. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd: - 1)
y byddai'r Aelodau'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn. 2)
Bydd Pennaeth y
Gwasanaethau Diwylliannol yn darparu adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn y
cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 12 Ionawr 2022. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad manwl a oedd yn dangos yr archwiliadau
terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn
ystod y cyfnod o 1 Ebrill 2021 i 30 Mehefin 2021. Cwblhawyd cyfanswm o 21 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr
archwiliadau a gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd
a roddwyd ar ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y
cytunwyd arnynt. Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o'r cwmpas o'r adolygiadau
terfynol yn ystod y cyfnod. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
109 o argymhellion archwilio a chytunodd y rheolwyr i weithredu'r holl
argymhellion. Darparwyd hefyd ddadansoddiad o'r argymhellion y cytunwyd arnynt
yn ystod y chwarter. Esboniwyd bod mynediad i holl safleoedd y cyngor wedi'i gyfyngu oherwydd pandemig parhaus COVID-19. Roedd hyn wedi cael effaith
sylweddol ar allu'r Tîm Archwilio i gwblhau profion ar y safle a byddai'n
parhau i wneud hynny nes i'r cyfyngiadau gael eu codi. Esboniwyd hefyd nad oedd
y Tîm yn gallu cynnal rhai ymweliadau archwilio gan na allai staff gael
mynediad i rai safleoedd, e.e. ysgolion. Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am y grant a'r gwaith ychwanegol
a wnaed gan yr Adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod. Darparwyd gwybodaeth
hefyd am salwch staff a gwaith arall a wnaed gan aelodau'r tîm y tu allan i'w
dyletswyddau arfaethedig. Dangosodd dadansoddiad o'r manylion yn Atodiad 3 fod 19 o weithgareddau
archwilio o gynllun archwilio 2021/22 wedi'u cwblhau i o leiaf y cam adrodd
drafft (15%), gyda 30 o archwiliadau ychwanegol ar y gweill (23%). O ganlyniad,
roedd 42% o'r Cynllun Archwilio wedi'i gwblhau neu ar waith. Ni chyhoeddwyd
unrhyw adroddiadau archwilio cymedrol yn y chwarter. Esboniwyd na chwblhawyd unrhyw waith dilynol yn ystod y cyfnod. Tynnwyd
sylw at y ffaith bod y gwaith dilynol ar yr archwiliad Rheoli Absenoldeb wedi'i
drefnu i'w gwblhau yn chwarter dau. Roedd gwaith dilynol archwiliad Theatr y
Grand hefyd i'w gwblhau yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol ar ôl i'r theatr
ailagor. Fodd bynnag, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn gwahodd Pennaeth y
Gwasanaethau Diwylliannol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed
tua diwedd y trydydd chwarter neu'n gynnar yn chwarter pedwar. Darparwyd diweddariad o'r Swyddogaeth Twyll Corfforaethol hefyd. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Ymestyn/diwygio'r amserlenni yn Niweddariad y Cynllun
Gweithredu Twyll Corfforaethol oherwydd bod nifer yn cael eu methu a llwyth
gwaith heriol y Tîm Twyll Corfforaethol a'r adroddiad diweddaru a fyddai'n cael
ei ddarparu yn ystod y chwarter nesaf. ·
Roedd pryder ynghylch y manylion a ddarparwyd am y
Gwasanaeth Dysgwyr Diamddiffyn, y sicrwydd a ddarparwyd a'r angen i gymryd
camau priodol. Penderfynwyd: - 1)
y byddai'r Aelodau'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
yn nodi'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn. 2)
Bydd Pennaeth y Gwasanaethau Diwylliannol yn darparu
adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn y cyfarfod a drefnwyd ar gyfer 12 Ionawr
2022. |
|
Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliadau Mewnol - Chwarter 1 2021/22. (Simon Cockings) PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwilydd adroddiad 'er gwybodaeth' i'r pwyllgor, a oedd
yn darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle y
gwnaethpwyd gwaith dilynol yn Chwarter 1 2021/22, a oedd yn caniatáu i'r
Pwyllgor Archwilio fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan
Archwilio Mewnol. Darparodd Atodiad 1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd
ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd
Atodiad 2 fanylion am argymhellion na roddwyd ar waith. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod 120 o’r 122 o argymhellion a wnaed wedi'u rhoi ar waith, sy'n
darparu cyfradd weithredu o 98.4%. Ychwanegwyd bod y 2 argymhelliad a oedd yn
weddill yn risg isel. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth'. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Cofnod Rhif 41 – 19/02/21 - Trosolwg o'r Statws Risgiau
Cyffredinol - Chwarter 3 2020/21 – Hyfforddiant Parhaus. Gofynnodd y
Cadeirydd i statws yr eitem gael ei newid o fod yn gaeëdig
i fod yn agored yn dilyn y trafodaethau yng nghyfarfod y Pwyllgor. Statws –
Parhaus. ·
Cofnod Rhif 9 – 09/06/2021 – Olrhain Argymhellion
Archwilio Cymru Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr y cysylltwyd ag awdurdodau lleol eraill
ynglŷn â'r systemau yr oeddent yn eu defnyddio. Cynlluniwyd system newydd
a fyddai'n caniatáu monitro cywir yn y dyfodol a byddai'r Pwyllgor yn cael ei
ddiweddaru ynghylch cynnydd maes o law. Statws – Parhaus. ·
Cofnod Rhif 111 – 30/06/2020 – Cynllun Trafnidiaeth Lleol Yn dilyn yr wybodaeth ddiweddaraf am Gyd-bwyllgorau Corfforaethol (CBC),
byddai'r gwaith sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Trafnidiaeth Lleol yn cael ei
gwblhau/fonitro gan CBC De-orllewin Cymru. Statws – Caeëdig. ·
Adroddiadau'r Prif Archwilydd ar agendâu'r dyfodol Tynnodd y Cynghorydd L V Walton sylw at y ffaith bod adroddiadau'r Prif
Archwilydd wedi symud i lawr agendâu diweddar. Trafododd y Pwyllgor y mater a
gofynnwyd i adroddiadau'r Prif Archwilydd gael eu rhestru'n gynnar ar agendâu'r
dyfodol. Statws – Parhaus. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) PDF 224 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. Dywedodd y Cadeirydd fod angen cynnwys y meysydd gwaith newydd a nodwyd yn y cylch gorchwyl newydd yn y cynllun gwaith. |