Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Is-gadeirydd ar Gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. Penderfyniad: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn
Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â
chofnod Rhif 14 - Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2020-21 a gadawodd
y cyfarfod cyn y cynhaliwyd unrhyw drafodaethau ar yr eitem hon. Datganodd y Cynghorwyr P M Black a T M White gysylltiadau personol â Chofnod Rhif 14 - Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2020-21. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorydd J A Raynor gysylltiad personol a rhagfarnol â
Chofnod Rhif 14 – Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2021-22 a gadawodd
y cyfarfod cyn i unrhyw drafodaethau gael eu cynnal ynglŷn â'r eitem
honno. Datganodd y Cynghorwyr P M Black a T M White gysylltiadau personol â
Chofnod Rhif 14 – Adroddiad Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2020-21. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo a llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a gynhaliwyd ar 9 Mehefin 2021 fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd ethol y Cynghorydd P R Hood-Williams yn
Is-Gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2021-2022. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Nick Davies, y Prif Archwilydd, adroddiad a oedd yn darparu
crynodeb o'r archwiliadau a gynhaliwyd mewn ysgolion gan yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn ystod 2020/21 a nododd rai materion cyffredinol a gododd yn ystod yr
archwiliadau. Darparodd Kelly Small, Pennaeth yr Uned Cyllid a Gwybodaeth ymatebion ar
ran y Cyfarwyddwr Addysg. Ychwanegodd
fod yr Adran yn falch iawn o'r adroddiad ac yn croesawu'r gefnogaeth a
ddarparwyd gan Archwilio Mewnol. Amlinellwyd y
cynhelir archwiliad o bob ysgol gynradd, uwchradd ac arbennig yn Abertawe bob 3
blynedd. Roedd rhaglen archwilio safonol
yn bodoli ar gyfer pob sector ysgol. Am nifer o
flynyddoedd paratowyd adroddiad a oedd yn crynhoi'r archwiliadau a wnaed mewn
ysgolion bob blwyddyn gan y Cyfarwyddwr Addysg a'r Pwyllgor Archwilio. Roedd yr adroddiad hefyd wedi nodi'r themâu
cyffredin a ganfuwyd yn ystod yr archwiliadau. Atodwyd Adroddiad
Blynyddol Archwiliadau Ysgolion 2020/21 yn Atodiad A. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod eleni wedi bod yn arbennig o anodd wrth geisio trefnu a chynnal
archwiliadau ysgol ar draws yr awdurdod oherwydd pandemig
y Coronafeirws a'r cyfyngiadau sydd ar waith mewn
perthynas ag ymweliadau safle corfforol. Cydnabuwyd bod y mesurau a gyflwynwyd
ar draws y cyngor yn anochel wedi cael effaith ar allu'r tîm i gychwyn a
datblygu archwiliadau ysgolion unigol. Ychwanegwyd, er nad
oedd Archwilio Mewnol wedi gallu cwblhau'r rhan fwyaf o'r archwiliadau ysgolion
cynradd, arbennig a chyfun, eu bod wedi gallu cynnal adolygiadau thematig yn cwmpasu'r
meysydd risg allweddol sef ‘Caffael’ a ‘Chronfeydd Ysgolion’ yr adroddwyd
amdanynt yn flaenorol i roi sicrwydd ar draws y boblogaeth hon. Cwblhawyd tri adolygiad archwilio thematig yn
cwmpasu gweithgareddau caffael ar draws yr ysgolion cynradd, arbennig a chyfun
a oedd i fod i gael eu harchwilio yn ystod y flwyddyn, yn ogystal ag archwiliad
o gronfeydd answyddogol, a reolir gan yr ysgolion cynradd ac un ysgol arbennig
a drefnwyd. Roedd y Tîm hefyd wedi llwyddo
i gwblhau wyth archwiliad ysgol gynradd unigol o bell yn ystod y flwyddyn. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Prif Archwiliwr a Phennaeth yr Uned Ariannu a
Gwybodaeth, a ymatebodd yn briodol.
Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Archwiliadau
ysgolion cyfun heb eu cwblhau oherwydd cyfyngiadau'r pandemig
ac felly'n cael eu symud ymlaen i'r flwyddyn ariannol gyfredol. ·
Sicrhau
bod manylion ynghylch hyfforddiant ar gyfer cronfeydd answyddogol yn cael eu
rhoi ar agendâu cyfarfodydd cyrff llywodraethu ysgolion ym mis Medi 2021. ·
Mae
adroddiadau Archwiliadau Ysgolion hefyd yn cael eu darparu i gadeiryddion cyrff
llywodraethu a'r Adran Addysg sy'n eu monitro'n barhaus. ·
Cael
y gwerth gorau am arian mewn ysgolion a rhoi sicrwydd, yn enwedig ers i'r
trothwy Rheolau Gweithdrefn Contract Band A godi o £5,000 i £10,000. ·
Y
gwerth gorau a gafwyd o'r adolygiadau a gynhaliwyd ar thema. ·
Cynnwys
rheoli risgiau mewn archwiliadau ysgolion yn y dyfodol er mwyn sicrhau bod
strwythurau llywodraethu’n ddigonol. ·
Ailddechrau
arolygiadau Estyn ym mis Medi 2021, y diffyg arolygiadau rhwng mis Ebrill 2020
a mis Medi 2021 oherwydd COVID-19 a'r sicrwydd a gafwyd gan gynghorwyr herio
sy'n ymweld ag ysgolion. ·
Mwy o
brofion ar gyfrifon cronfeydd answyddogol ysgolion, Nododd y Cadeirydd
y bwlch yn arolygiadau Estyn rhwng mis Ebrill 2020 a mis Medi 2021 oherwydd
COVID-19. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Jeff
Fish a Jonathan Rogers, Ymchwilwyr y Tîm Twyll Corfforaethol, grynodeb 'er
gwybodaeth' o'r gwaith a gwblhawyd gan Swyddogaeth Twyll yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn 2020/21. Darparodd yr
adroddiad grynodeb o weithgareddau'r Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2020/2021 a
gwerth y swyddogaeth, ac adolygwyd cyflawniadau o'u cymharu â'r canlyniadau
targed a gynhwyswyd yng Nghynllun Gwrth-dwyll y Swyddogaeth Twyll ar gyfer
2020/21. Roedd y trosolwg o'r gwaith a wnaed yn
amlygu'r gwaith sylweddol a gwblhawyd ar gynlluniau
cymorth grant COVID-19, datblygu gweithdrefnau ataliol, asesiadau risg a
gwiriadau ôl-sicrwydd yn ogystal ag ymchwilio i achosion posib o dwyll. Cynyddodd nifer
yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y tîm yn ystod 2020/21 yn sylweddol bron 50%,
yn ogystal â'r gwaith COVID-19 nas cynlluniwyd, y dangosir manylion yn y tablau
priodol yn yr adroddiad. Parhaodd y
cynnydd hwn i adlewyrchu ymwybyddiaeth uwch a phroffil gweladwy'r tîm fel y
gronfa ar gyfer honiadau allanol a mewnol yn ymwneud â swyddogaethau'r cyngor. Roedd
gweithgareddau allweddol 2020/21 yn cynnwys y meysydd gwaith canlynol: - ·
Gwaith
ar y cyd gyda Gwasanaeth Gwrth-dwyll, Cydymffurfio a Dyled yr Adran Gwaith a
Phensiynau. ·
Menter
Twyll Genedlaethol 2020. ·
Ymwybyddiaeth
o Dwyll. ·
Gwaith
rhwng asiantaethau a chyfnewid data. ·
Ymchwiliadau
sy'n ymwneud â gweithwyr. ·
COVID-19. Nododd yr
Adolygiad o ganlyniadau yn erbyn Cynllun Swyddogaeth Twyll 2020/21 mai dim ond
un o'r saith gweithgaredd Swyddogaeth Twyll arfaethedig a gyflawnwyd yn llawn,
gyda phedwar ohonynt yn cael eu cyflawni'n rhannol. Roedd Atodiad 1 yn rhoi
manylion y gweithgareddau hyn. Y prif
ffactor ar gyfer peidio â chyflawni'r canlyniadau arfaethedig yn 2020/21 oedd
dargyfeirio adnoddau ar gyfer COVID-19 er mwyn darparu cymorth grant. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r swyddogion a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:
- ·
Ceisiadau
yn ôl y math o grant – gwiriadau cais am grantiau addasu adeiladau. ·
Ymchwilio
i atgyfeiriadau a dderbyniwyd, yn enwedig y rheini na chawsant eu cyflawni’r llynedd
o ganlyniad i COVID-19. ·
Pwysigrwydd
ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r gwasanaeth fel gwasanaeth ataliol a rhoi sicrwydd. ·
Sut
mae'r cydweddiadau o fewn y Fenter Twyll Genedlaethol yn cael eu rheoli o fewn
yr Awdurdod a sut mae’r canlyniadau wedi bod yn debyg iawn dros nifer o
flynyddoedd. Diolchodd Ben
Smith, Adran 151/Prif Swyddog Cyllid i'r tîm a'u llongyfarch ar eu
cyflawniadau. Tynnodd sylw at werth y
tîm a dywedodd y byddai adnoddau ychwanegol yn cael eu hystyried. Diolchodd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor hefyd i'r tîm am eu gwaith ac roeddent yn falch iawn bod
adnoddau tîm ychwanegol yn cael eu hystyried. Y Cynghorydd P R Hood-Williams (Is-gadeirydd) fu'n
llywyddu |
|
Rhaglen Hyfforddiant Ddrafft y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. (Adam Hill) PDF 479 KB Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo Rhaglen Hyfforddiant y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cofnodion: Cyflwynodd Adam Hill, Dirprwy Brif Weithredwr Raglen Hyfforddi ddrafft y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Esboniwyd bod
canllawiau a gyhoeddwyd gan CIPFA yn 2018 o'r enw 'Canllawiau Ymarferol i
Awdurdodau Lleol a'r Heddlu' yn darparu Fframwaith Gwybodaeth a Sgiliau ar
gyfer Pwyllgorau Archwilio. Roedd y Fframwaith yn argymell y Meysydd Gwybodaeth
Craidd canlynol ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Archwilio: ·
Gwybodaeth
sefydliadol ·
Rôl a
gweithredoedd y Pwyllgor Archwilio ·
Llywodraethu
·
Archwilio
Mewnol ·
Rheoli
ariannol a chyfrifeg ·
Archwilio
Allanol ·
Rheoli
Risgiau ·
Gwrth-dwyll ·
Gwerthoedd
llywodraethu da Ceir crynodeb o fanylion yr wybodaeth graidd sy'n ofynnol a sut y gellir ei
chymhwyso yn Atodiad 1. Nodwyd nad oedd dyddiadau'r hyfforddiant wedi'u cytuno eto ac y byddent yn
cael eu nodi unwaith y cytunwyd ar y cynllun hyfforddi. Cadarnhaodd y Pwyllgor y byddent yn hapus i fynychu sesiynau hyfforddi y tu
allan i gyfarfodydd ac ychwanegodd fod hyfforddiant ar-lein yn rhoi mwy o
hyblygrwydd o ran amseru/cynnwys y sesiynau. Penderfynwyd cymeradwyo Rhaglen Hyfforddi'r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Jones, Swyddog Gwella Strategaeth a Pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Adolygiad Dilynol Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) o Drefniadau Diogelu
Corfforaethol – adroddiad Plant Cyngor Abertawe, 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod
yr adroddiad yn rhoi trosolwg o adroddiad ac argymhellion SAC, mewn perthynas â
diogelu plant. Roedd hefyd yn tynnu sylw
at y camau gwella a gymerwyd gan y Grŵp Diogelu Corfforaethol i fynd i'r
afael ag argymhellion. Darparwyd crynodeb o gefndir yr adolygiad dilynol a gynhaliwyd y llynedd,
a'r dull a ddefnyddiwyd gan SAC wrth lunio’i hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis
Chwefror 2020, ynghyd â'r camau gweithredu arfaethedig. Darparodd Atodiadau 1 a 2 y rhaglen waith a'r
camau gweithredu a nodwyd gan y Grŵp Diogelu Corfforaethol/grwpiau tasg Ychwanegwyd y byddai cynnydd yn erbyn argymhellion ac adroddiad Swyddfa
Archwilio Cymru yn cael ei fonitro yn Adroddiad Blynyddol y Cyngor ar Ddiogelu. Nododd yr Is-gadeirydd fod y Pwyllgor eisoes wedi tynnu sylw at bryderon
ynghylch y profion GDG a ddarparwyd gan yr Awdurdod a disgwylid adroddiad
pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - ·
Mesurau
perfformiad corfforaethol mewn perthynas â chydymffurfiaeth â gwiriadau GDG. ·
Hyfforddi
staff ysgol ar Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
(VAWDASV). ·
Monitro
a chyflymu'r gyfradd gydymffurfio o ran hyfforddiant diogelu. ·
Sicrhau
bod dyddiadau cyflawni'r cynllun gweithredu yn cael eu bodloni. ·
Monitro
contractau a'r risg bosib o gaffael ysgolion yn y dyfodol. ·
Symud
gwirfoddolwyr mewn ysgolion i'r system Oracle. ·
Yr
hyfforddiant afreolaidd a ddarperir i Gynghorwyr sy'n gweithredu fel
llywodraethwyr ysgol a'r angen i’w wella yn y dyfodol. ·
Nifer
y grwpiau sy'n ymwneud â diogelu a sicrhau bod cylch gorchwyl clir ar waith ar
gyfer pob un er mwyn osgoi dyblygu/deall cyfrifoldebau. ·
Cyflwyno
cartrefi plant preifat yn Abertawe yn ddiweddar a'r angen i sicrhau bod y
system yn ddigon deinamig i fynd i'r afael â'r newidiadau. ·
Ysgolion
oedd wedi dewis peidio ag ymrwymo i'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda'r Awdurdod
am eu bod yn teimlo nad oeddent yn cael gwerth am arian, a rhai ysgolion yn
ennill y sgiliau perthnasol yn fewnol. Dywedodd y
Dirprwy Brif Weithredwr y byddai'n trafod y materion a godwyd yn yr adroddiad â
Swyddog Gwella Strategaeth a Pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol ac yn
adrodd yn ôl wrth y Pwyllgor. Penderfynwyd y dylid darparu adroddiad diweddaru i'r
Pwyllgor sy'n rhoi sicrwydd ar y canlynol: - ·
bod
dyddiadau'r Cynllun Gweithredu’n cael eu bodloni; ·
yr
eir i'r afael â'r risg bosib o ran contractau caffael/monitro ysgolion; ·
bod
hyfforddiant ar gyfer Cynghorwyr sy'n Llywodraethwyr Ysgolion yn cael ei
ddarparu yn y dyfodol; ·
bod eglurder
yn cael ei roi ynghylch cylch gorchwyl / cyfrifoldebau'r gwahanol grwpiau sy'n
cefnogi'r Bwrdd Diogelu Corfforaethol. |
|
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) (Jeremy Parkhouse) PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. Nodwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn gyfarfod Pwyllgor Arbennig am 10am
ddydd Mawrth, 24 Awst 2021. |