Lleoliad: O bell drwy Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod y Pwyllgor
Archwilio - y cyfarfod cyntaf i’w gynnal dan Reoliadau Coronafeirws
(Cymru) 2020. Dywedodd Tracey Meredith, y Prif Swyddog Cyfreithiol/Swyddog
Monitro. fod problem TGCh dros y penwythnos wedi arwain at dorri cysylltiad y
gweinydd â Modern.gov (meddalwedd agenda'r awdurdod). Mae
hyn yn golygu nad oedd agenda'r Pwyllgor Archwilio ar gael i Aelodau'r Pwyllgor
na'r cyhoedd i'w gweld ar wedudalennau’r awdurdod
rhwng 19:45 ar 22/05/20 a 09:05 ar 26/05/20. Felly, nid oedd yr awdurdod wedi
cydymffurfio â'r gofynion mynediad at wybodaeth a dywedodd y dylid gohirio'r
cyfarfod. Cynigwyd gohirio'r cyfarfod tan ddydd Llun 1
Mehefin 2020 am 10.00am. Penderfynwyd gohirio'r
cyfarfod tan ddydd Llun 1 Mehefin 2020 am 10.00am. |