Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Paula O’Connor – yr Agenda gyfan - Gweithiwr
cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio
Mewnol fel Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg - Personol. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Adolygiad Perfformiad y Pwyllgor Archwilio 2017/18. PDF 111 KB Cofnodion: Hwyluswyd sesiwn
gan Gareth Lewis a David Williams o Swyddfa Archwilio Cymru i ganiatáu i'r
Pwyllgor Archwilio gwblhau adolygiad o'i berfformiad yn ystod 2017/18. Gofynnwyd i aelodau
ystyried y meysydd gwaith a gyflawnwyd yn llwyddiannus gan y pwyllgor, a'r rhai
y mae angen eu gwella. Roedd y sesiwn yn
seiliedig ar 7 swyddogaeth graidd pwyllgor archwilio a sefydlwyd gan y
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifeg (CIPFA). Dyma'r swyddogaethau
craidd y'u trafodwyd: - 1)
Bod yn fodlon bod datganiadau sicrwydd yr awdurdod, gan
gynnwys y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, yn adlewyrchu'r amgylchedd risg ac
unrhyw gamau gweithredu eraill yn gywir sy'n angenrheidiol er mwyn ei wella, a
dangos sut mae llywodraethu'n cefnogi cyflawniadau amcanion yr awdurdod. 2)
Mewn perthynas â swyddogaethau archwilio mewnol yr
awdurdod:
3)
Ystyried effeithiolrwydd trefniadau rheoli risgiau'r
awdurdod a'r amgylchedd rheoli. Adolygu proffil risg y sefydliad a chael
sicrwydd bod camau gweithredu'n cael eu dilyn o ran materion sy'n ymwneud â
risgiau, gan gynnwys partneriaethau â sefydliadau eraill. 4)
Monitro effeithiolrwydd yr amgylchedd rheoli, gan gynnwys
rhoi trefniadau ar waith i sicrhau bod gwerth am arian ac i reoli dod i
gysylltiad â risgiau twyll a llwgrwobrwyo. 5)
Ystyried adroddiadau ac argymhellion awdit
allanol ac asiantaethau arolygu a'u goblygiadau ar gyfer llywodraethu, rheoli
risg neu reolaeth. 6)
Cefnogi perthnasoedd effeithiol rhwng awdit
allanol ac archwilio mewnol, asiantaethau arolygu a chyrff perthnasol eraill,
gan annog hyrwyddo gwerth y broses archwilio. 7)
Adolygu datganiadau ariannol, barn yr archwilydd allanol
ac adroddiadau i aelodau, a monitro camau gweithredu rheoli mewn ymateb i'r
materion y'u nodwyd gan archwilio allanol. Bydd Swyddfa
Archwilio Cymru'n rhoi adborth ar ganlyniadau'r sesiwn er mwyn eu hystyried. Diolchodd y
Cadeirydd i gynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru am arwain y trafodaethau. Penderfynwyd: - 1)
Nodi cynnwys y trafodaethau; 2)
Bydd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyniad a Pherfformiad Strategol,
yn rhoi dolen/mynediad at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol electronig er mwyn
i'r Pwyllgor ddeall natur y 31 o risgiau lefel uchel a nodwyd; 3)
Bydd y Cadeirydd yn cwrdd â'r Prif Weithredwr i drafod
effaith y 31 o risgiau lefel uchel a sut mae'r awdurdod yn rheoli'r risgiau
hynny; 4)
Adrodd am y Datganiad Llywodraethu Blynyddol fel eitem ar
wahân i'r Datganiad o Gyfrifon; 5)
Bydd y Pwyllgor yn trafod ymhellach y posibilrwydd o
ganiatáu i aelodau fod yn bresennol mewn cyfarfod Pwyllgor Archwilio corff cyhoeddus
arall; 6)
Bydd aelodau'r Pwyllgor Archwilio'n cwrdd ag archwilwyr
allanol heb fod swyddogion yn bresennol; 7)
Bydd y Pwyllgor Archwilio'n olrhain yr argymhellion a
nodir gan Swyddfa Archwilio Cymru'n fanwl ac yn amserol; 8)
Rhoi gwybod i'r Pwyllgor Archwilio am ganfyddiadau
allweddol y trafodaethau. |