Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio fel cofnod
cywir, yn amodol ar y diwygiadau canlynol: - Ychwanegu Geraint Norman a David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, at y
rhestr o bobl a ddaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd y
Cynghorydd M H Jones, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu, adroddiad am waith
craffu ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-17 ac amlygodd weithgareddau craffu a
gynllunnir ar gyfer 2017/18. Darparwyd
yr adroddiad er mwyn rhannu gwybodaeth a fydd yn helpu i ddatblygu'r berthynas
rhwng Craffu a'r Pwyllgor Archwilio. Canmolodd waith
Dave McKenna, y Rheolwr Craffu, a adawodd yr awdurdod
ym mis Gorffennaf 2017, a gwaith y tîm craffu. Tynnodd sylw at
waith Craffu drwy gydol y flwyddyn, gan gyfeirio at y canlynol: - ·
Y
gwaith a wneir gan y tîm Craffu; ·
Dangos
sut mae Craffu wedi gwneud gwahaniaeth; ·
Cefnogi
gwelliant parhaus ar gyfer swyddogaeth Craffu; ·
Dealltwriaeth
staff o Graffu; ·
Craffu
Cyn Penderfynu a wnaed, yn enwedig mewn perthynas ag adolygu comisiynu ac
ymgysylltu â'r cyhoedd; ·
Yr
angen am gyfathrebu ac ymgysylltu'n well. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i Gadeirydd Craffu, a ymatebodd yn briodol. Trafodwyd y materion canlynol: - ·
Argymhellion
Craffu a dderbyniwyd yn llawn neu'n rhannol; ·
Y
cwymp yn nifer y staff a gytunodd fod trefniadau Craffu'n gweithio'n dda; ·
Cynnwys
Swyddfa Archwilio Cymru wrth fonitro adroddiadau Craffu; ·
Colli
staff profiadol a diffyg adnoddau ar gyfer Craffu. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cadeirydd Craffu am ddarparu'r adroddiad. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Hyfforddiant Gwrth-dwyll. Cofnodion: Rhoddodd y
Rheolwr Twyll Corfforaethol gyflwyniad manwl ac addysgiadol am wrth-dwyll.
Roedd y manylion a ddarparwyd yn cynnwys: - ·
Cyfrifoldeb
corfforaethol - dyletswydd statudol; ·
Cyfrifoldeb
corfforaethol - dyletswydd gyfansoddiadol; ·
Rheolau
Gweithdrefnau Ariannol (RhGA) Ø
RhGA 1 - Rôl a chwmpas RhGAu; Ø
RhGA 2 - Camau gweithredu rhesymol, hyfforddiant ac ymwybyddiaeth,
cydymffurfio; Ø
RhGA 3 - Cyfrifoldebau rheoli ariannol; Ø
RhGA 12 - Archwilio mewnol; ·
Tîm
Twyll Corfforaethol - cefndir, Strategaeth Mynd i'r Afael â Thwyll, cylch
gwaith, amcanion, manylion cyswllt. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau mewn perthynas â'r cyflwyniad hyfforddi, yr oedd y swyddog
wedi ymateb iddynt. Penderfynwyd nodi cynnwys y cyflwyniad hyfforddi. |
|
Yr Ystadegau Diweddaraf - Cynigion Gwella Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 103 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd Rheolwr
Perfformiad a Chyflwyno adroddiad a roddodd drosolwg o statws ymateb Cyngor Abertawe
i gynigion gwella a wnaed gan Swyddfa Archwilio Cymru i ddarparu sicrwydd i'r
pwyllgor am gynnydd. Darparodd Atodiad A gynigion ar gyfer gwella Swyddfa
Archwilio Cymru: Adroddiad am y statws diweddaraf. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am y canlynol: - ·
Gwella
cynllunio busnes gwasanaethau; ·
Sicrhau
bod yr amserlenni ar gyfer cyflwyno arbedion penodol yn realistig a gweithredu
i hyrwyddo cyflwyniad; ·
Sicrhau
bod cyfrifoldeb dros gyflwyno arbedion arfaethedig yn cael ei glustnodi i
wasanaethau rheolwyr penodol; ·
Sicrhau
bod cofnodion penderfyniadau dirprwyedig a wnaed gan y swyddogion yn cael eu
cofnodi'n gywir. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Trosolwg o Statws Risgiau Corfforaethol. PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparodd Rheolwr
Perfformiad a Chyflwyno adroddiad a gyflwynodd drosolwg o statws risgiau
corfforaethol i ddarparu sicrwydd i'r pwyllgor am effeithiolrwydd y polisi a'r
fframwaith rheoli risgiau a sut maent yn cael ei defnyddio yn y cyngor. Darparodd yr adroddiad giplun o Gofrestr
Risgiau Corfforaethol y cyngor a dynnwyd ar 22/05/17 gyda chiplun arall a
dynnwyd ar 03/10/17. Ychwanegwyd bod
adolygiad o risg a chofrestri risg y cyngor ar waith gan ddilyn cymeradwyo polisi
a fframwaith risg newydd gan y Cabinet a chyhoeddiad Cynllun Corfforaethol
2017/22. O ganlyniad, byddai adroddiadau dilynol yn disgrifio statws risg
ehangach a chyffredinol yn y cyngor. Byddai'r adroddiad nesaf yn cynnwys
Chwarter 3 2017/18 a byddai'n ymddangos ym mhob chwarter ar ôl hynny. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Risgiau
ariannol gan gynnwys diogelu, Abertawe Gynaliadwy a rheolaeth ariannol; ·
Rheoli
a monitro cyllid; ·
Materion
y tu hwnt i reolaeth yr awdurdod a bod yn ymwybodol o risgiau; ·
Asesu
effaith yn erbyn risg; ·
Enw
da'r awdurdod a risg ariannol; ·
Yr
oedi wrth adolygu a mynediad aelodau i'r gofrestr risgiau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru. PDF 109 KB Cofnodion: Cyflwynodd
Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad diweddaraf Swyddfa Archwilio
Cymru - mis Tachwedd 2017. Roedd y manylion
a ddarparwyd yn cynnwys gwaith Archwilio Ariannol a Gwaith Archwilio'r Gronfa
Pensiwn 2016-17 - Dinas a Sir Abertawe a gwaith Archwilio Perfformiad. Roedd y pwyllgor
wedi crybwyll y ffïoedd a dalwyd gan y Gronfa Bensiwn
a gwneud sylwadau am flwyddyn gyntaf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cynllun Gweithredu Adolygiad Perfformiad y Pwyllgor Archwilio 2016/17 - Diweddariad. PDF 108 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr adroddiad a ddarparodd y diweddaraf gan ddilyn Adolygiad Perfformiad
y Pwyllgor Archwilio 2016/17. Darparwyd
crynodeb yn Atodiad 1 o'r canfyddiadau allweddol a ddaeth o'r adolygiad
perfformiad. Roedd y cynnydd
hyd at heddiw yn cynnwys: ychwanegu diweddariadau cyfnodol am reoli risgiau gan
Reolwr Perfformiad Busnes at Gynllun Gwaith y pwyllgor; thoi hyfforddiant
rheoli risgiau a throsolwg o'r Polisi a'r Fframwaith Rheoli Risgiau diweddaraf
i'r pwyllgor; diweddariadau cyfnodol gan Reolwr Perfformiad Busnes am waith rheoleiddiwyr eraill ac olrhain argymhellion. Er mwyn nodi
arfer da, gofynnwyd i'r pwyllgor ystyried awgrymiadau gwahanol. Trafodwyd y materion canlynol: - ·
Aelodau
yn arwain ar feysydd penodol, e.e. addysg, perfformiad a risg; ·
Y
posibilrwydd o aelodau yn mynd i gyfarfodydd Pwyllgorau Archwilio cyrff eraill; ·
Derbyn
adborth gan gyrff eraill am berfformiad y pwyllgor. Penderfynwyd: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad; 2)
Cynnwys
yr eitem ar agenda'r pwyllgor ym mis Rhagfyr.
|
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 131 KB Cofnodion: Darparwyd
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Cododd y pwyllgor
ymholiadau mewn perthynas â chefnogi caffael mewn ysgolion, caffael ysgolion
mewn awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a mabwysiadu ymagwedd fwy rhanbarthol
at y broblem. Nododd y Prif
Archwiliwr y byddai'r Adolygiad Cymheiriaid yn dechrau ym mis Rhagfyr 2017 pan
fydd Cyngor Caerdydd yn archwilio'r awdurdod. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 129 KB Cofnodion: Cyflwynwyd Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |