Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 - Canolfan Ddinesig, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd T J Hennegan – Cofnod Rhif 16 – Datganiad Drafft o Gyfrifon 2016/17,
Cyfrif Refeniw Tai – rwy'n denant y cyngor – personol. |
|
Hyfforddiant - Rheoli Ariannol a Chyfrifeg. Cofnodion: Rhoddodd Amanda
Thomas, Prif Gyfrifydd/Dirprwy Swyddog Dros Dro Adran 151 hyfforddiant Rheoli
Ariannol a Chyfrifeg i'r pwyllgor. Roedd
y manylion yn cynnwys rheoli ariannol; cyfriflenni ariannol; Côd Ymarfer CIPFA;
statws y Côd a'r hyn y disgwylir ei weld yn y Datganiad o Gyfrifon; derbyn yr
adroddiad archwilio allanol a mynegi barn ar yr archwiliad; materoliaeth; yr
hyn i chwili amdano mewn barn archwilio, mathau eang o farn archwilio a
materion eraill; adolygu argymhellion archwilio sy'n ymwneud â rheoli ariannol;
yr hyn y mae'r Pwyllgor Archwilio'n edrych amdano; rôl y Prif Swyddog Ariannol
a sut cyflawnir hyn, y Prif Swyddog Ariannol mewn sefydliad gwasanaethau
cyhoeddus a sut maent yn cyflwyno'u cyfrifoldebau; y gyfraith. Gofynnodd y
pwyllgor nifer o gwestiynau yn ymwneud â'r hyfforddiant, ac ymatebwyd iddynt yn
briodol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddog am roi'r cyflwyniad hyfforddiant. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2016-17. PDF 83 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Amanda
Thomas, Prif Gyfrifydd/Dirprwy Swyddog Dros Dro Adran 151 Ddatganiad Drafft o
Gyfrifon 2016/17. Amlinellwyd, yn ôl deddfwriaeth, fod yn rhaid i'r cyngor lunio Datganiad
Blynyddol o Gyfrifon ym mhob blwyddyn ariannol fel a ganlyn:- -
Erbyn
30 Mehefin ar ôl y
flwyddyn y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi - Cyfrifon i'w llunio a'u llofnodi
gan Swyddog Adran 151; -
Erbyn
30 Medi ar ôl y flwyddyn
y mae'r cyfrifon yn berthnasol iddi - mae angen i'r cyngor archwilio a
chymeradwyo'r cyfrifon. Paratowyd y Cyfrifon Drafft ar gyfer 2016/17 a'u llofnodi gan y Swyddog
Adran 151 ar 12 Mehefin 2017. Darparwyd copi yn Atodiad A o'r adroddiad. Cyflwynwyd y Cyfrifon yn ffurfiol i
archwilwyr y cyngor, Swyddfa Archwilio Cymru, a ddechreuodd archwilio'r
cyfrifon. Fel rhan o'r broses archwilio, byddai'r cyfrifon ar gael i'w
harchwilio gan y cyhoedd am 4 wythnos o 17 Gorffennaf 2017 tan 11 Awst 2017. Gofynnodd y pwyllgor gwestiynau mewn
perthynas â newidiadau ac asedau HRA; trefn y cyfrifon; dadansoddiad o wariant
ac ariannu; Symudiad mewn Datganiad Cronfa Wrth Gefn; buddsoddiadau tymor byr;
Gweddill y Gronfa Gyffredinol; arian wrth gefn a ddefnyddiwyd i ariannu colli
swyddi, y lefel dderbyniol o arian wrth gefn. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad. 2)
Gofyn
i Swyddog Adran 151 roi'r diweddaraf i'r pwyllgor ynghylch ariannu arian wrth gefn
a rheolaeth ariannol dda yn gyffredinol. |
|
Polisi a Fframwaith Rheoli Risgiau - Diweddariad. PDF 75 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr yr Uned Cyflwyno Strategol adroddiad
'er gwybodaeth' ar Bolisi Rheoli Risgiau.
Cyflwynodd
yr adroddiad Bolisi Rheoli Risgiau diwygiedig y cyngor. Darparwyd y Polisi
Rheoli Risgiau diwygiedig yn Atodiad A a chafodd ei gefnogi gan y Fframwaith
Rheoli Risgiau yn Atodiad B. Cadarnhaodd fod yr awdurdod wedi dilyn diffniad
CIPFA o risg. Dywedodd y
Cadeirydd fod y polisi a'r fframwaith wedi'u diweddaru'n deillio o adolygiad
Swyddfa Archwilio Cymru a oedd wedi argymell bod y cyngor yn herio risg ac yn
meddu ar ymagwedd fwy rhagweithiol at risg. Trafododd y
pwyllgor rolau a chyfrifoldebau; cofrestrau risg wedi'u diweddaru; trosolwg o
statws risg; rhoi hyder i'r Pwyllgor o ran rheoli risgiau; lledaenu cofrestrau
a pholisïau risgiau drwy'r sefydliad; cynghorwyr yn cael mynediad i gofrestrau;
perygl ymosodiadau seibr; defnyddio'r templed risgiau i wneud arbedion
cyllidebol ar draws yr awdurdod; themâu trawsbynciol; adolygiadau comisiynu. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2016/17. PDF 90 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Simon
Cockings, Prif Archwilydd, y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2016/17.
Yn ôl gofyniad Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, roedd rhaid i'r
cyngor ymgymryd ag adolygiad o'i drefniadau llywodraethu, o leiaf yn flynyddol.
Nod yr adolygiad yw dangos sut mae'r cyngor wedi cydymffurfio â'i Gôd
Llywodraethu Corfforaethol. Ychwanegwyd y
sefydlwyd Grŵp Datganiad Llywodraethu Blynyddol newydd yn 2016 â'r dasg o
lunio Côd Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig, yn ogystal â Datganiad
Llywodraethu Blynyddol diwygiedig. Cwblhawyd a chyhoeddwyd adolygiad blynyddol
o gydymffurfio â'r Côd Llywodraethu Corfforaethol bob blwyddyn, sydd bellach yn
fformat y Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Amlinellwyd 7 egwyddor craidd
newydd y Fframwaith ar gyfer Cyflwyno Llywodraethu Da mewn Llywodraeth Leol gan
CIPFA a SOLACE. Mae'r cyngor ar fin cymeradwyo'r Côd Llywodraethu Corfforaethol
diwygiedig yn seiliedig ar y 7 egwyddor ar 24 Awst 2017. Atodwyd y Datganiad
Llywodraethu Blynyddol drafft ar gyfer 2016/17 yn Atodiad 1. Caiff fersiwn derfynol o'r Datganiad
Llywodraethu Blynyddol ei chyflwyno gerbron y Cabinet ym mis Medi i'w
chymeradwyo, cyn cael ei llofnodi gan y Prif Weithredwr a'r Arweinydd a'i
chyhoeddi gyda'r Datganiad o Gyfrifon diwygiedig ar gyfer 2016/17. Trafododd y
Pwyllgor yr wybodaeth yn yr adroddiad. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 84 KB Cofnodion: Darparwyd Adroddiad
Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 58 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth’. |