Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017/2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol Mr A M Thomas yn gadeirydd ar gyfer
blwyddyn ddinesig 2017-2018. (BU MR A M THOMAS YN LLYWYDDU) Croesawodd y
Cadeirydd yr holl gynghorwyr i'r Pwyllgor Archwilio gan ddweud ei fod yn disgwyl
presenoldeb da mewn cyfarfodydd er mwyn i'r pwyllgor gyflawni ei dargedau. |
|
Ethol Is-gadeirydd ar gyfer Blwyddyn Ddinesig 2017/2018. Cofnodion: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd L James yn
Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2017-2018. |
|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y
buddiannau canlynol: - Y
Cynghorydd L James – Cofnod rhif 9 – Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor
Archwilio – Llywodraethwr yn Ysgol
Llandeilo Ferwallt – personol. Y
Cynghorydd T M White – Cofnod rhif 8 – Cymwynaswr y Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol – personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 14 a
28 Mawrth 2016, yn gofnodion cywir. |
|
Hyfforddiant - Cyflwyniad i'r Pwyllgor Archwilio. Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd aelodau newydd y Pwyllgor Archwilio gan gyflwyno Ben Smith, Pennaeth
Cyllid a Swyddog Adran 151, a ddarparodd wybodaeth gefndir i'r pwyllgor
ynghylch rôl y Pwyllgor Archwilio. Yn ogystal,
amlinellodd bwerau Swyddog Adran 151 ac amlygodd fodelau gwaith da i'r pwyllgor
eu dilyn. Cyfeiriodd at ddiffiniad y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifeg (CIPFA) o Bwyllgor Archwilio a'i rôl, wrth weithio mewn partneriaeth
â'r tîm craffu. Ar ben hynny,
amlinellodd rôl archwilio allanol yn y broses. Trafododd y
pwyllgor y materion a godwyd, gan ofyn am ddisgrifiad i gyd-fynd ag eitemau yn
y Rhaglen Waith. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys yr hyfforddiant; 2)
Darparu
disgrifiad yn y dyfodol i gyd-fynd ag eitemau yn y Rhaglen Waith.
|
|
Hyfforddiant - Rheoli Risgiau. Cofnodion: Rhoddodd Richard
Rowlands, Rheolwr yr Uned Cyflwyno Strategol, drosolwg i'r Pwyllgor Archwilio
o'r hyfforddiant ar reoli risgiau. Nododd mai diben yr hyfforddiant oedd
cyflwyno egwyddorion Rheoli Risgiau i'r pwyllgor er mwyn i aelodau ddeall y
trefniadau yn Ninas a Sir Abertawe. Dyma'r manylion a
gynhwyswyd yn y cyflwyniad: - ·
Beth
yw risg? ·
Beth yw
rheoli risgiau? ·
Fframwaith
rheoli risgiau ·
Y
cylch rheoli risgiau ·
Nodi
risgiau ·
Gwerthuso
risgiau ·
Ymateb
i risgiau ·
Rheoli
risgiau ·
Pwyllgor
Archwilio - cyfrifoldebau allweddol Trafododd y
pwyllgor y materion a godwyd yn y cyflwyniad ar yr hyfforddiant. PENDERFYNWYD: - 1)
Nodi
cynnwys y cyflwyniad ar yr hyfforddiant; 2)
Cylchredeg
y sleidiau hyfforddiant i'r pwyllgor. |
|
ADRODDIAD DIWEDDARAF SWYDDFA ARCHWILIO CYMRU. PDF 174 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman a Samantha Clements, Swyddfa Archwilio Cymru, y diweddaraf am adroddiad
Mehefin 2017. Darparwyd manylion
am Waith Archwiliad Ariannol 2016-17 - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe,
Gwaith Archwiliad Ariannol 2016-17 - Dinas a Sir Abertawe a Gwaith Archwilio
Perfformiad - Dinas a Sir Abertawe. Gwnaed sylw gan y
pwyllgor ar y sylwadau ar flwyddyn gyntaf Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) ac adroddiadau Estyn. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Swyddfa Archwilio Cymru - Adroddiad Cynllunio Arbedion - Dinas a Sir Abertawe. PDF 239 KB Cofnodion: Cyflwynodd Samantha
Clements a Geraint Norman, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad ar Gynllunio
Arbedion - Dinas a Sir Abertawe. Amlinellwyd
bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar ateb: 'A yw trefniadau cynllunio arbedion y
cyngor yn cefnogi cadernid ariannol?' Amlygodd y cynigion
ar gyfer gwella, yr arbedion a gyflawnwyd yn 2015-16 a threfniadau cynllunio
ariannol a chynllun ariannol 2016-17. Dywedodd mai'r casgliad cyffredinol oedd
bod y cyngor yn cynllunio'n gadarn ond bod risgiau. Dilynwyd hyn gan
drafodaethau ar waith y Panel Craffu Gwella Gwasanaethau a Chyllid, ymateb
rheolwyr i'r adroddiad, monitro'r gyllideb, gwersi a ddysgwyd o'r adroddiad,
pryderon ynghylch y bwlch ariannol yn y Cynllun Ariannol tymor canolig a'r
angen i beidio â chanolbwyntio ar gyllidebu'n flynyddol. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR ARCHWILIO - 2016/17 PDF 2 MB Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol terfynol y Pwyllgor Archwilio ar
gyfer Blwyddyn Ddinesig 2016/17. Ychwanegodd y byddai'n cyflwyno'r adroddiad
i'r cyngor ym mis Awst neu fis Medi 2017. PENDERFYNWYD nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Rhaglen Hyfforddiant Ddrafft y Pwyllgor Archwilio. PDF 88 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr Raglen Hyfforddiant Ddrafft y Pwyllgor
Archwilio ar gyfer 2017/18 yn Atodiad 1.
Darparwyd crynodeb o fanylion yr wybodaeth graidd sy'n ofynnol yn
Atodiad 2. PENDERFYNWYD nodi a chymeradwyo Rhaglen Hyfforddiant
Ddrafft y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2017/18.
|
|
ADRODDIAD MONITRO CHWARTER 4 CYNLLUN BLYNYDDOL ARCHWILIO MEWNOL 2016/17. PDF 79 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr yr Adroddiad
Monitro Archwilio Mewnol ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2017. Dywedwyd, oherwydd ymddeoliad y Prif
Archwiliwr ar ddiwedd mis Mawrth 2017, y rhoddwyd cynlluniau ar waith er mwyn
gallu mynd ati i ailstrwythuro'r Is-adran Archwilio o fis Ebrill 2017. Cynhaliwyd
cyfweliadau cystadleuol, ac o ganlyniad, penodwyd un o'r Uwch-archwilwyr yn
Brif Archwiliwr newydd. Yn sgîl hyn, collwyd un swydd
cyfwerth amser llawn o 2017/18 ymlaen. Ychwanegwyd bod yr Is-adran Archwilio
Mewnol wedi parhau i brofi lefelau salwch cymedrol ym mhedwerydd chwarter
2016/17, gyda chyfanswm o 21 o ddiwrnodau. Cyfanswm y diwrnodau salwch a
gymerwyd ers 1 Ebrill 2016 oedd 220 o ddiwrnodau yn erbyn cyllideb flynyddol o
80 o ddiwrnodau. Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd y rhan fwyaf o'r
diwrnodau salwch a gafwyd yn y flwyddyn o ganlyniad i salwch un aelod o staff. Gorffennwyd cyfanswm o 27 archwiliad yn
ystod y pedwerydd chwarter, a rhestrwyd y rhain yn Atodiad 1. Gwnaed cyfanswm o
230 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i weithredu 229 ohonynt, h.y. 99.6%
yn erbyn targed o 95%. Roedd yr un argymhelliad na chytunwyd arno'n un risg isel. Yn ogystal, ardystiodd yr Adran Archwilio
Mewnol y grant canlynol ar gyfer y chwarter, fel sy'n ofynnol yn ôl amodau a
thelerau'r grant a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru: ·
Grant
Gwella Addysg, 3ydd Chwarter 2016/17 - 1,987,423 Crybwyllwyd y
materion sylweddol a gafwyd yn Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid ac yn yr adran
Cyflogi Staff Asiantaeth a arweiniodd at y ddau sgôr gymedrol a roddwyd yn y chwarter.
Dangosodd
ddadansoddiad o'r manylion yn Atodiad 2, erbyn diwedd mis Mawrth 2017, fod tua
72% o'r Cynllun Archwilio naill ai wedi'i gwblhau neu'n cael ei ddatblygu, sy'n
gynnydd gwych, yn enwedig o ystyried y lefelau salwch a gafwyd yn y flwyddyn. Anfonwyd yr
holiadur hunanasesiad ysgolion i 28 o ysgolion cynradd a oedd yn disgwyl
archwiliad yn 2016/17 yn ystod y chwarter cyntaf, ac erbyn diwedd mis Mawrth
2017, dychwelwyd 26 o holiaduron wedi'u cwblhau. Roedd gwaith yn parhau i
gasglu gweddill yr holiaduron. Roedd rhai o'r ysgolion a ymatebodd yn hwyr yn
disgwyl archwiliad yn ystod chwarter cyntaf 2017/18. Ychwanegwyd nad
oedd angen unrhyw waith dilynol rhwng 1 Ionawr 2017 a 31 Mawrth 2017. Trafododd y
pwyllgor yr angen i fonitro'n agos lefelau staffio a gwaith yn yr Is-adran
Archwilio, rheoli risgiau a'r canlyniad cadarnhaol a gafwyd yn sgîl y gwaith. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 58 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 83 KB Cofnodion: Darparwyd Adroddiad
Olrhain y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. |