Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ethol Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol Mr A M Thomas yn gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

(Bu Mr A M Thomas yn llywyddu)

 

2.

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd L James yn Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2016-2017.

 

3.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion. pdf eicon PDF 83 KB

Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y Pwyllgor Archwilio a gynhaliwyd ar 19 Ebrill 2016 fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiad canlynol: -

 

Cofnod Rhif 77 - Swyddfa Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe 2016 - Paragraff 2, brawddeg 2 - newid 'fy' i 'ei'.

 

Adroddodd y Prif Archwilydd fod manylion ynghylch datgeliadau troseddol AGPh ar gael ar wefan gov.uk.  Nododd yn ystod 2015/16 y cafwyd gostyngiad yn y gordaliadau Budd-dal Tai o 5.3% i 5.2% ond bod twyll wedi codi o 2.4% i 3%.  Ychwanegodd nad oedd ganddo fanylion am erlyniadau.

 

5.

Hyfforddiant y Pwyllgor Archwilio.

Cofnodion:

Dosbarthodd y Prif Archwilydd y Fframwaith Sgiliau a Gwybodaeth i Gynghorwyr y Pwyllgor Archwilio a gyhoeddwyd gan CIPFA.  Amlinellodd fod Pwyllgor y Gwasanaeth Democrataidd wedi penderfynu bod hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr ar y Pwyllgor Archwilio'n orfodol gan amlygu'r meysydd craidd gwybodaeth fel a ganlyn:

 

·         Gwybodaeth Drefniadol;

·         Rôl a Swyddogaethau'r Pwyllgor Archwilio;

·         Archwilio Mewnol;

·         Llywodraethu;

·         Rheoli a Chyfrifo Ariannol;

·         Archwilio Allanol;

·         Rheoli Risgiau;

·         Gwrth-dwyll;

·         Gwerthoedd Llywodraethu Da.

 

Yn ogystal, amlinellodd y sgiliau craidd canlynol sy'n angenrheidiol ar gyfer Cynghorwyr: -

 

·         Meddwl Strategol a Deall Materoldeb;

·         Cwestiynu a Herio'n Adeiladol;

·         Canolbwyntio ar Welliant;

·         Gallu cydbwyso ymarferoldeb yn erbyn theori;

·         Sgiliau cyfathrebu clir a ffocws ar anghenion y defnyddiwr;

·         Gwrthrychedd;

·         Sgiliau Rheoli Cyfarfodydd.

 

Derbyniodd y pwyllgor y cyflwyniadau canlynol: -

 

·         Archwilio a Llywodraethu Mewnol - Paul Beynon, Prif Archwilydd;

·         Safonau ym Mywyd Cyhoeddus - Tracey Meredith, Dirprwy Swyddog Monitro;

·         Rôl Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio - Geraint Norman a David Williams, Swyddfa Archwilio Cymru;

·         Rheolaeth Ariannol a Chyfrifeg - Ben Smith, Pennaeth Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151.

 

Gohiriwyd y cyflwyniadau hyfforddi ar reoli risgiau a gwrth-dwyll i gyfarfod y Pwyllgor Archwilio yn y dyfodol.