Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiant a ganlyn:- Datganodd y Cynghorydd LV Walton fuddiant
personol fel llywodraethwr ysgol yng
Nghofnod Rhif 36 – Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol
Chwarter 1 2022/23. Cofnodion: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y cysylltiad canlynol: - Datganodd y Cynghorydd L V Walton gysylltiad personol fel llywodraethwr
ysgol â Chofnod rhif 36 - Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol Chwarter Cyntaf
2022/23. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol Ch1 2022/23. PDF 356 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Nick Davies,
adroddiad 'er gwybodaeth' manwl a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac
unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o
1 Ebrill i 30 Mehefin 2022. Cwblhawyd
cyfanswm o 18 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt. Roedd
Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn ystod y
cyfnod. Gwnaed cyfanswm o
84 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i roi pob un o'r 84 o argymhellion ar
waith, h.y. derbyniwyd 100% o'r argymhellion yn erbyn targed o 95%. Cafodd yr
holl argymhellion a wnaed eu dosbarthu’n rhai risg uchel, risg ganolig, risg
isel neu’n arfer da. Darparwyd dadansoddiad o'r argymhellion y cytunwyd arnynt
yn ystod y chwarter. Ychwanegwyd bod
peth o amser y tîm Archwilio Mewnol yn ystod y chwarter wedi cael ei dreulio’n
helpu gyda'r broses o symud swyddfa o fewn Neuadd y Ddinas. Mae’r tîm bellach
yn gallu defnyddio ardal gweithio ystwyth a rennir o fewn Neuadd y Ddinas, am
hyd at dridiau’r wythnos. Mae salwch staff
o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi bod yn sylweddol yn ystod y chwarter, gyda
chyfanswm o 32 o ddiwrnodau o absenoldeb wedi'u cofnodi. Mae dau aelod o staff
yn parhau i fod yn absennol o ganlyniad i salwch tymor hir. Yn ogystal â'r
absenoldeb salwch, gadawodd 2 archwilydd y tîm yn ystod y chwarter. Roedd un
wedi ymddeol ac mae’r llall wedi symud i swydd arall o fewn y cyngor. Ni chyflwynwyd
unrhyw adroddiadau archwilio gyda lefel sicrwydd "cymedrol" yn y
chwarter. Darparwyd
manylion i'r pwyllgor ynghylch y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ebrill 2022 a
30 Mehefin 2022. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - · Disgwyliadau o
adolygiadau cymedrol yn ddiweddarach yn y flwyddyn. · Cynnydd o ran
llenwi swyddi Archwilio Mewnol gwag. · Effaith salwch
tymor hir ar adnoddau. · Gwaith a wnaed wrth
gyflwyno adroddiadau cymedrol a rhoi'r cyfle a'r amser i adrannau roi'r
argymhellion a restrwyd ar waith. · Y posibilrwydd o
beidio â chyflawni'r Cynllun Archwilio o ganlyniad i'r absenoldeb salwch. · Archwiliad o
Orsaf Fysus Abertawe a diffyg cyfranogaeth y Rheolwr. · Diogelwch data o
fewn swyddfeydd gweithio ystwyth a rennir, yn benodol sut mae Archwilio Mewnol
yn diogelu ffeiliau o fewn ardaloedd sydd wedi'u cloi. Nododd y
Cadeirydd hefyd y byddai Jeff Fish, Swyddog Twyll Corfforaethol, yn gadael yr is-adran
yn fuan i ddechrau rôl newydd o fewn yr Awdurdod. Cynigodd ei dymuniadau gorau
a’i diolch i'r Swyddog ar ran y Pwyllgor am y gefnogaeth yr oedd wedi’i darparu
dros nifer o flynyddoedd. |
|
Adroddiad Dilynol ar Argymhellion Archwilio Mewnol ar gyfer Ch1 2022/23. PDF 753 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr adroddiad 'er gwybodaeth yn unig' i'r pwyllgor, a oedd yn darparu
statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle y gwnaethpwyd
gwaith dilynol yn Chwarter 1 2022/23, a oedd yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio
fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol.
Darparwyd manylion olrhain argymhellion Archwilio Allanol hefyd. Darparodd Atodiad
1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd Atodiad
2 fanylion argymhellion na roddwyd ar waith. Nodwyd y byddai
system Olrhain Argymhellion Electronig Swyddfa Archwilio Cymru sy'n cael ei
datblygu yn cael ei chyflwyno unwaith y bydd yn barod. |
|
Trosolwg o Risgiau Corfforaethol 2022/23 - Chwarter 1. PDF 310 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol,
adroddiad Chwarter 1 2022/23 a oedd yn darparu trosolwg o statws Risgiau
Corfforaethol yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor bod risgiau allweddol yn
cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli risgiau'r cyngor. Roedd y canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 1 2022/23: Roedd 6 risg statws coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar ddiwedd Chwarter 1 2022/23: ·
Rhif Adnabod Risg 153. Diogelu. ·
Rhif Adnabod Risg 159. Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC
ar Abertawe Gynaliadwy. ·
Rhif Adnabod Risg 221 Argaeledd Gofal Cartref. ·
Rhif Adnabod Risg 222. Digidol, Data a Seiberddiogelwch. ·
Rhif Adnabod Risg 309. Oracle Fusion. ·
Rhif Adnabod Risg 319. Costau Darparu Cynyddol. ·
Cofnodwyd bod yr holl risgiau wedi'u hadolygu o leiaf
unwaith yn ystod Chwarter 1. ·
Ychwanegwyd 2 risg newydd at y gofrestr Risgiau
Corfforaethol. ·
Rhif Adnabod Risg 319. Costau Darparu Cynyddol. ·
Rhif Adnabod Risg 320. Hyfforddiant Diogelu Gorfodol. ·
Cafodd 1 risg gorfforaethol ei hanactifadu
yn ystod Chwarter 1 ·
Rhif Adnabod Risg 196. Strategaeth y Gweithlu ·
Uwch-gyfeiriwyd 1 risg corfforaethol i'r Gofrestr Risgiau
Corfforaethol. ·
Rhif Adnabod Risg 290. Effaith Tlodi. ·
Ni chafodd unrhyw risgiau corfforaethol eu tynnu oddi ar
y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. ·
Newidiwyd 2 risg gorfforaethol o ddim statws GOC i statws
Oren yn ystod Chwarter 1: ·
Rhif Adnabod Risg 235. Cynllunio rhag Argyfyngau, Cydnerthedd a Pharhad Busnes. ·
Rhif Adnabod Risg 236. Iechyd a Diogelwch. Roedd yr adroddiad yn Atodiad A yn cynnwys y risgiau ar 30/06/22 a
gofnodwyd yng Nghofrestr Risgiau Corfforaethol y cyngor. Roedd yr adroddiadau
ar gyfer pob risg yn cynnwys gwybodaeth esboniadol gyffredinol yn ymwneud â'u
dosbarthiad. Amlinellwyd gwybodaeth ynghylch mesurau rheoli a'r amgylchedd rheoli mewnol
ac adrodd am risgiau. Trafodwyd y canlynol: - ·
Rhif
Adnabod 269 - Economi ac Isadeiledd Lleol - pryder bod yr adolygiad ym mis
Mehefin 2022 a sut y byddai'r adolygiad o'r holl risgiau'n cael ei adlewyrchu
yn adroddiad Chwarter 2. ·
Rhif
Adnabod 196 - Strategaeth y Gweithlu’n cael ei hanactifadu.
·
Darparwyd
cyngor di-flewyn-ar-dafod a ffurfiol gan Swyddog Adran 151. ·
Adolygiad
blynyddol a gynhaliwyd gan y Tîm Rheoli Corfforaethol. ·
Risg
ddiogelu ac yn aros am adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol. |
|
Cyfarwyddiaeth Addysg: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2022/2023. PDF 742 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Helen
Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg a Kelly Small, Pennaeth Cynllunio ac Adnoddau
Addysg adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn cyflwyno amgylchedd rheoli'r
Gyfarwyddiaeth Addysg, gan gynnwys rheoli risgiau sydd ar waith i sicrhau: bod
swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod adnoddau’n cael eu
defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a; bod llywodraethu
effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Amlinellwyd
dadansoddiad bras o gyllideb y Portffolio Addysg, pwyntiau allweddol i'w nodi,
elfennau allweddol o'r fframwaith sicrhau, elfennau allweddol o drosolwg yr
Awdurdod o drefniadau ariannol ysgolion, manylion trefniadau archwilio ysgolion
ac agweddau allweddol ar drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Addysg. Darparwyd
manylion rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/DPA, cynllunio,
gwneud penderfyniadau, cyllideb, twyll ac amhriodoldeb,
cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a gofynion rheoleiddio a rheoli adnoddau. Ychwanegwyd bod y Risgiau o fewn Addysg wedi'u nodi'n brydlon a'u rheoli ar
lefelau priodol (corfforaethol, cyfarwyddiaeth, gwasanaeth, rhaglen/prosiect),
ac wedi’u lliniaru gyhyd ag y bo modd, fel rhan o'r adolygiad o wasanaethau a
phrosesau'r cylch cynllunio a hunanwerthusiad parhaus. Aethpwyd ati i fonitro
drwy reoli perfformiad y Gyfarwyddiaeth ac adrodd am fecanweithiau yn MPA, BAS
a chyfarfodydd a rhaglen yr UDAA/byrddau prosiect gyda risgiau'n cael eu huwch-gyfeirio fel y bo'n briodol (gan ganolbwyntio'n
benodol ar risgiau 'coch'). Rheolwyd risgiau ar lefel rhaglenni
a phrosiectau sy'n gysylltiedig ag Addysg o Safon (AoS)/Rhaglen
Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu trwy raglen aeddfed a phrosesau rheoli
risgiau prosiect yn unol â gofynion corfforaethol ac amodau grant Llywodraeth
Cymru ac argymhellion adolygiad Gateway. Amlygodd yr
adroddiad hefyd nodweddion allweddol dulliau rheoli mewnol, diogelu data a
llywodraethu partneriaethau/cydweithio. Darparodd Atodiad
A (Cyfarwyddiaeth) Risgiau Corfforaethol a’r Gyfarwyddiaeth a darparodd Atodiad
B y Map Sicrwydd (Cyfarwyddiaeth) diweddaraf. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Yr
arolygiad llwyddiannus diweddar gan Estyn. ·
Mae
rheoli risgiau mewn ysgolion ac adolygiadau thematig Archwilio Mewnol yn cael
eu cwblhau. ·
Contract
SIMS newydd gydag ysgolion. ·
Darperir
hyfforddiant i ysgolion, yn enwedig hyfforddiant ariannol/caffael. ·
Cyflawni
targed 2010. ·
Mae'r
adran yn canolbwyntio ar risgiau’r Gyfarwyddiaeth a rhai Corfforaethol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddogion am ddarparu adolygiad manwl o'r Gyfarwyddiaeth Addysg. |
|
Diweddariad ar Reoli Absenoldebau. PDF 451 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Adrian
Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf am yr Adroddiad Archwilio Rheoli
Absenoldeb. Nododd y cynllun
gweithredu gamau gweithredu Risg Uchel a Risg Ganolig ac fel yr adroddwyd yn
flaenorol i'r pwyllgor ym mis Medi 2021, roedd yr holl argymhellion wedi'u rhoi
ar waith, ac eithrio'r canlynol; “Dylid ystyried
cael trafodaeth gyda darparwr y system Interflex i
ddarparu adroddiadau yn amlygu achosion o 'absenoldebau anawdurdodedig' –
ystyriwyd nad oedd hyn yn gost-effeithiol.’ Esboniwyd, yn
unol â phrosiect Oracle Fusion, fod dangosfwrdd i reolwyr yn cael ei ddatblygu ac roedd yn agos
at fod yn barod i’w brofi gan ddefnyddwyr. Byddai hyn yn darparu gwybodaeth
gyfredol i bob rheolwr â chyfrifoldeb rheoli absenoldeb ac yn rhoi gwybodaeth
iddo am y canlynol:- ·
Absenoldeb
staff oherwydd salwch (o fewn ei ardal yn unig) a dyddiau a gollwyd ·
Cyfweliadau
dychwelyd i'r gwaith sydd heb eu cyflawni ·
Cyfarfodydd
cofnod o gamau gweithredu sydd heb eu cyflawni Byddai'r
wybodaeth hon hefyd ar gael i reolwr y "rheolwr", gan ddarparu data a
gwybodaeth ychwanegol i wella Rheoli Absenoldeb ar draws yr Awdurdod. Tynnwyd
sylw at effaith gadarnhaol nodiadau atgoffa misol i reolwyr a phenodi
Ymgynghorwyr Rheoli Absenoldeb yn y Cyfarwyddiaethau
Addysg, Lleoedd a'r Gwasanaethau Cymdeithasol. Amlinellodd yr
adroddiad hefyd y gwaith partneriaeth sy'n digwydd gydag Undebau Llafur ac mae
arweiniad diweddaredig wedi’i ddatblygu mewn
perthynas â'r Siarter 'Dying to Work'.
Roedd absenoldebau a oedd yn ymwneud â straen a'r Coronafeirws
yn cael eu monitro ac roeddent yn dechrau lleihau. Manylwyd ar adborth y Cyfarwyddiaethau Addysg, Lleoedd a'r Gwasanaethau
Cymdeithasol. Nodwyd ffigurau mewn perthynas ag absenoldeb salwch yn 2019/20,
gan gynnwys crynodeb o resymau dros salwch yn ystod y flwyddyn ariannol
gyfredol a’r cynnydd a wnaed gan Iechyd Galwedigaethol. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Data
salwch mewn perthynas â'r flwyddyn ariannol gyfredol, y goblygiadau ariannol
posib os yw'r ffigurau'n parhau i fod yn uchel tan ddiwedd y flwyddyn ariannol
a sut byddai'n rhaid i Gyfarwyddiaethau fod yn
gyfrifol am y costau o'r gyllideb ·
Darperir
cylch gwaith Ymgynghorwyr Rheoli Absenoldeb a darpariaeth hyfforddiant. ·
Sicrwydd
bod rheolwyr rheng flaen yn ymwybodol o bolisïau a gweithdrefnau'r cyngor. ·
Ymgynghorwyr
Rheoli Absenoldeb yn gweithio ar draws pob Cyfarwyddiaeth. ·
Manylion
ychwanegol yn cael eu darparu gan gynnwys rhesymau mewn perthynas â salwch o
fewn Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol. ·
Effaith
hyfforddiant, cefnogaeth ac iechyd galwedigaethol wrth leihau'r ffigurau
cyffredinol. Gofynnodd y cadeirydd am werthusiad o effeithlonrwydd Iechyd
Galwedigaethol. |
|
Cyflog Staff Asiantaeth. PDF 613 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Reolwr
Adnoddau Dynol Strategol a Datblygu Sefydliadol adroddiad 'er gwybodaeth' ar
gamau gweithredu sy'n deillio o'r adroddiad Archwilio Cyflogi Staff Asiantaeth. Mewn perthynas â’r
adroddiad a wnaed i'r Pwyllgor ym mis Hydref 2021, darparwyd diweddariad
cynnydd ar nifer o feysydd. Darparwyd
cyfanswm nifer y Gweithwyr Asiantaeth a gyflogwyd drwy asiantaethau dan
gontract corfforaethol (Staffline a RSD Social Care). Mae'r niferoedd wedi bod
yn gyson yn y Gyfarwyddiaeth Lleoedd, wedi lleihau'n gyffredinol yn yr adran
Gwastraff, Parciau a Glanhau ac wedi cynyddu yn y Gwasanaethau i Oedolion er
mwyn helpu i ateb yr heriau o ran adnoddau sy'n wynebu'r maes gwasanaeth hwn.
Nodwyd hefyd fod y rhain yn weithwyr rhan-amser yn bennaf ac roedd rhai yn
gweithio mewn amryfal rolau. Cyfanswm y
gwariant/cost gweithwyr asiantaeth ar gyfer 2021/22 oedd £5,879,140. Darparwyd
y gwariant misol ar gyfer 2022/23 hyd yma hefyd. Cafwyd y cyfanswm gwariant
mwyaf eleni gyda Staffline (tua £1.36 miliwn) a gofal cymdeithasol RSD (tua
£373 mil). Roedd y ffigurau uchod hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwaith
ymgynghori, yn bennaf yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a darparu Bonws Gofal
Cymdeithasol Llywodraeth Cymru. Esboniwyd bod
dadansoddiad pellach o'r costau hyn wedi nodi nifer bach o weithwyr asiantaeth
sy'n rhan o asiantaethau dan gontract nad ydynt yn gorfforaethol. Rhoddodd yr
adroddiad yr wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am gydymffurfiaeth, Gwasanaethau
Cymdeithasol, Lleoedd ac adborth y Gyfarwyddiaeth Addysg. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Nifer
y Gweithwyr Asiantaeth sy'n cael eu cyflogi yn yr adran Gwastraff, yr angen
parhaus i gynnal gwasanaethau rheng flaen yn y maes gwasanaeth hwnnw a
recriwtio diweddar a wnaed gan y gwasanaeth. ·
Darparu
manylion gweithwyr asiantaeth a gyflogwyd am fwy na 12 mis mewn adroddiad yn y
dyfodol. ·
Darparu
manylion defnydd uchel o weithwyr asiantaeth yn erbyn lefelau salwch uchel mewn
adroddiad yn y dyfodol. ·
Darparu
ffigurau gweithwyr asiantaeth o'r gwasanaethau Parciau a Glanhau sydd wedi'u
huno. ·
Defnydd
o gontractwyr yn hytrach na gweithwyr asiantaeth. ·
Yr
angen i gyflogi gweithwyr asiantaeth i gwblhau swyddi tymhorol oherwydd diffyg
ymgeiswyr. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Lackenby, Pennaeth Digidol a Gwasanaethau Cwsmeriaid adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu llythyr blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
2021-22 ar gyfer Dinas a Sir Abertawe, a oedd yn cynnwys perfformiad cwynion
Cyngor Abertawe ac ar draws Cymru gyfan. Ychwanegwyd bod y
cyngor yn cydnabod, er mwyn diwallu anghenion ac ymateb i bryderon aelodau'r
cyhoedd, fod monitro cwynion yn adnodd gwerthfawr yn ei ofyniad i wella
gwasanaethau'n barhaus. Cymerir pob cwyn o ddifri ac maent yn darparu
mewnwelediad gwerthfawr i gwsmeriaid. Tynnodd yr
adroddiad sylw at y cynnydd da a wnaed gan y cyngor gan gynnwys system TG
newydd sy'n cael ei datblygu ar gyfer Cwynion Corfforaethol a fydd yn gwneud y
broses yn haws i'r cyhoedd ac yn fwy effeithlon i staff gyda nodweddion adrodd
gwell. Darparwyd y
llythyr blynyddol yn Atodiad A ac mae'n tynnu sylw at y gweithgareddau a wnaed
gan swyddfa'r Ombwdsmon yn ystod y flwyddyn a pherfformiad y cyngor. Mae hefyd
yn cynnwys ceisiadau gan yr Ombwdsmon i'r cyngor gymryd camau gweithredu
penodol mewn perthynas â'r llythyr. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Y
cais gan yr Ombwdsmon i ddweud wrth y Cabinet a'r Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio am y llythyr. ·
Rôl Craffu
yn y broses, yn benodol monitro perfformiad y cyngor mewn perthynas â chwynion.
·
Cynnydd
ynghylch y system TG newydd. Nododd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor yr adroddiad ac ychwanegwyd ei bod yn bwysig i'r
Pwyllgor weld y darlun llawn ynghylch cwynion, yn enwedig ar ôl archwiliad gan
Archwilio Mewnol a Chraffu er mwyn cael sicrwydd a chyflwyno sylwadau’n
briodol. |
|
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021-22. PDF 475 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Gohiriedig. Cofnodion: Penderfynwyd gohirio'r eitem tan gyfarfod yn y dyfodol. |
|
Archwilio Cymru - Llythyr i roi'r diweddaraf ar gynnydd yr Asesiad Sicrwydd a Risgiau. PDF 207 KB Penderfyniad: Nodwyd Cofnodion: Cyflwynodd Non
Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad 'er gwybodaeth' ar lythyr yn rhoi’r
diweddaraf ar yr Asesiad Sicrwydd a Risg. Darparodd y llythyr y diweddaraf am y
cynnydd o ran trefniadau'r cyngor ar gyfer ymateb i ofynion Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Darparwyd
diweddariadau ar y canlynol: - ·
Trefniadau
ar gyfer hunanasesiad ac asesiad panel ·
Trefniadau
ar gyfer y ddyletswydd ymgynghori a'r Strategaeth Cyfranogiad ·
Trefniadau
ar gyfer y newidiadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ·
Trefniadau
ar gyfer sefydlu Cyd-bwyllgorau Corfforedig (CBC) ·
Defnyddio
Pŵer Cymhwysedd Trafododd y
Pwyllgor y cynnydd a wnaed gan y cyngor, strategaethau cyfranogiad awdurdodau
lleol eraill yng Nghymru, swyddogaeth CBC ar draws Cymru, gan gynnwys eu
sefyllfa, rôl sefydliadau partner a diweddariadau yn y dyfodol ar y meysydd a
drafodwyd. |
|
Rhaglen ac Amserlen Waith Archwilio Cymru - Dinas a Sir Abertawe. PDF 207 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Non
Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru –
Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - ·
Crynodeb
Archwilio Blynyddol ·
Gwaith
Archwilio Ariannol ·
Gwaith
Archwilio Perfformiad ·
Astudiaethau
Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar y gweill ·
Estyn ·
Arolygiaeth
Gofal Cymru (AGC) ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers mis Ionawr
2022 ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi (a gwaith arall
sydd ar waith/wedi'i gynllunio) ·
Adnoddau
Cyfnewid Arfer Da ·
Blogiau
Archwilio Diweddar |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 493 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. Rhoddodd Huw
Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad i’r Pwyllgor ar y
Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. Ychwanegodd fod y Strategaeth yn destun cyfnod
ymgynghori cyhoeddus 4 wythnos ac yr adroddir amdano wrth y cyngor ac mewn
cyfarfod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol. |