Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â’r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y canlynol:- Datganodd y Cynghorwyr M B Lewis a T M White fuddiant personol yng Nghofnod Rhif 96 – Datganiad Cyfrifon
Drafft 2021/22. Datganodd Julie Davies fuddiant
personol yng Nghofnod Rhif
96 – Datganiad Cyfrifon Drafft 2021/22. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd
Cynghorwyr M B Lewis a T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 96 -
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021/22. Datganodd Julie Davies
gysylltiad personol â Chofnod Rhif 96 - Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021/22. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe - Drafft. PDF 391 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Archwilio Cymru, yr adroddiad drafft a oedd yn crynhoi prif
ganfyddiadau Archwilio Cymru o'r archwiliad o Ddatganiad o Gyfrifon 2021/22 y
cyngor. Eglurwyd bod
lefel perthnasedd wedi'i gosod ar £10.37 miliwn ar gyfer yr archwiliad, ac
eithrio taliad cydnabyddiaeth uwch-swyddogion - £1,000 a thrafodion partïon
cysylltiedig ar gyfer Aelodau ac uwch-swyddogion - £10,000. Ychwanegwyd bod y
rhan fwyaf o'r archwiliad wedi'i gwblhau'n sylweddol heblaw am gwblhau profi'r
nodyn datgelu llai, yr adolygiad terfynol o'r ffeil archwilio ac adolygu'r
datganiadau ariannol diwygiedig. Amlygwyd bod
Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon
unwaith y byddai'r cyngor wedi darparu Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad
1. Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Roedd yr
adroddiad hefyd yn manylu ar faterion arwyddocaol sy'n deillio o'r archwiliad,
gan gynnwys y camddatganiadau a oedd wedi'u cywiro a heb eu cywiro. Darparodd Atodiad 3 grynodeb o'r cywiriadau a
wnaed. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i gynrychiolydd Archwilio Cymru, ac fe'u
hatebwyd yn briodol ac roeddent yn ymwneud â'r canlynol: - ·
Yr
hyblygrwydd i gyhoeddi dogfennau ariannol sydd wedi mynd heibio’u
terfyn amser a bennwyd gan Lywodraeth Cymru. ·
Lefel
perthnasedd, yn enwedig diwygiadau/addasiadau a wnaed. Nodwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r
cyngor ddydd Iau, 30 Mawrth 2023. Diolchodd y
Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 i gydweithwyr Archwilio
Cymru am y modd y cynhaliwyd yr archwiliad ganddynt a'u hyblygrwydd yn hyn o
beth. |
|
Datganiad o Gyfrifon Drafft 2021/22. PDF 286 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Jeff
Dong, Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Swyddog Adran 151 y Datganiad o
Gyfrifon Drafft ar gyfer 2021/22 ac adolygiad 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod y
Cyfrifon Drafft ar gyfer 2022/22 wedi'u paratoi a'u llofnodi gan Swyddog Adran
151 ar 10 Tachwedd 2022. Atodwyd copi yn Atodiad A yr adroddiad. Roedd y cyfrifon
wedi'u cyflwyno'n ffurfiol i archwilwyr y cyngor, Archwilio Cymru, a oedd wedi
cwblhau'r archwiliad o'r cyfrifon. Fel rhan o'r broses archwilio, trefnwyd bod
y cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod o bedair wythnos o 4
Ionawr i 31 Ionawr 2023. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau technegol i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy
Swyddog Adran 151, ac fe'u hatebwyd yn briodol.
Byddai ymateb ysgrifenedig yn cael ei ddarparu mewn perthynas â gwahaniaethau
gwariant net rhwng 2020/21 a 2021/22. Talodd Arweinydd
y Cyngor deyrnged i'r Dirprwy Brif Swyddog Cyllid/Dirprwy Adran 151 Swyddog a'r
staff ariannol am eu gwaith wrth baratoi'r Datganiad o Gyfrifon. Ategwyd sylwadau'r Arweinydd gan y Cadeirydd
a'r Pwyllgor a diolchwyd y Swyddog ganddynt am ei esboniadau. Nodwyd bod
disgwyl i'r Datganiad o Gyfrifon gael ei gyflwyno i'r cyngor ar 30 Mawrth 2023. |
|
Archwilio Cymru - Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol Sicrwydd ac Asesiad Risg 2021-22. PDF 170 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Archwilio Cymru, lythyr a oedd yn rhoi’r diweddaraf am y
cynnydd ar sefyllfa ariannol y cyngor ar gyfer 2021/22, a gynhaliwyd fel rhan o
broject Sicrwydd ac Asesiad Risg 2021/22 Archwilio Cymru. Amlinellwyd mai
asesiad o sefyllfa ariannol 2021/22 y cyngor rhwng mis Medi a mis Tachwedd 2022
ydoedd. Nododd canfyddiadau'r adroddiad fod cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru
a'r cynnydd mewn cronfeydd wrth gefn yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi helpu
i wella sefyllfa ariannol a sefydlogrwydd y cyngor, ond roedd angen iddo
ddatblygu cynllun cynaliadwy i fynd i'r afael â phwysau costau sylweddol sy'n
dod i'r amlwg. Roedd y llythyr
yn manylu ar y strategaeth ariannol, cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio,
darparu arbedion, perfformiad yn erbyn cyllideb a phwysau cyllidebol yn y
dyfodol. Roedd Arddangosyn 1 yn manylu ar fylchau
ariannu blynyddol a ragwelir gan y cyngor dros y tymor canolig, a oedd yn
cyd-fynd yn fras â rhagolygon y llynedd. Roedd Arddangosyn 2 yn dangos, ym mis
Mawrth 2022, mai cyfanswm y bwlch ariannu tymor canolig a ragwelir gan y cyngor
ar gyfer 2025/26 yw £16.7 miliwn, ychydig yn fwy o'i gymharu â rhagolygon mis
Mawrth 2021. Roedd Arddangosyn 3 yn manylu ar y cronfeydd wrth gefn y gellir eu
defnyddio yn erbyn y gyllideb flynyddol. Holodd y Pwyllgor
ynghylch lefel cronfeydd wrth gefn y cyngor o'u cymharu ag awdurdodau lleol
eraill a chynnydd cronfeydd wrth gefn yr ysgolion i £26 miliwn. Eglurwyd bod y cyngor mewn sefyllfa eithaf
iach o ran ei gronfeydd wrth gefn o'i gymharu â chynghorau eraill yng Nghymru.
Ychwanegwyd mai penderfyniadau gwleidyddol oedd y polisïau o ran cronfeydd wrth
gefn. |
|
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 267 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Non
Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru –
Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - ·
Crynodeb
o'r Archwiliad Blynyddol ·
Gwaith
Archwilio Ariannol ·
Archwiliad
o Berfformiad ·
Astudiaethau
Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar waith ·
Estyn ·
Arolygiaeth
Gofal Cymru (AGC) ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers mis Ionawr
2022 ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi (a gwaith arall
sydd ar waith/wedi'i gynllunio) ·
Adnoddau
Cyfnewid Arfer Da ·
Blogiau
Archwilio Diweddar |
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol - Methodoleg. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Simon Cockings, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi crynodeb
i'r Pwyllgor Archwilio am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio'r Cynllun
Archwilio Mewnol Blynyddol cyn adrodd am Gynllun Blynyddol 2023/24 i'r pwyllgor
i'w gymeradwyo ar 12 Ebrill 2023. Ychwanegwyd bod
Safonau Archwilio Mewnol y Sector Cyhoeddus (PSIAS) yn darparu fframwaith er
mwyn cyflwyno gwasanaeth archwilio mewnol proffesiynol, annibynnol a
gwrthrychol sy'n orfodol i bob darparwr archwilio mewnol yn sector cyhoeddus y
DU. Un o ofynion y PSIAS yw bod yn rhaid llunio cynllun Archwilio Mewnol
blynyddol yn seiliedig ar risgiau i bennu blaenoriaethau Archwilio Mewnol, ac i
sicrhau cysondeb â nodau'r cyngor. Rhaid i'r cynllun gynnwys gwybodaeth
archwilio ddigonol ar draws y cyngor cyfan er mwyn i'r Prif Archwiliwr allu
rhoi barn flynyddol i'r cyngor trwy'r Swyddog Adran 151 a'r Pwyllgor Archwilio
ynglŷn â'r amgylchedd rheoli sy'n cynnwys llywodraethu corfforaethol,
rheoli risgiau a rheolaeth fewnol. Rhoddwyd
amlinelliad o fanylion Methodoleg y Cynllun Archwilio Mewnol a rhan o ofynion y
PSIAS o ran cynllunio archwilio mewnol yn Atodiad 1, darparwyd manylion y
Broses Cynllunio Archwilio Mewnol Blynyddol yn y diagram yn atodiad 2, y
Cynllun Archwilio wedi'i Fapio yn erbyn Blaenoriaethau Corfforaethol yn Atodiad
3 a Map Sicrwydd Dinas a Sir Abertawe yn Atodiad 4. Ychwanegwyd bod
yr Ymarfer Ymgynghori ar gyfer Cynllun Archwilio 2022/23 wedi dechrau ym mis
Hydref 2021 a'i fod wedi gweld nifer o archwiliadau newydd yn cael eu
hychwanegu at y cynllun archwilio. Er bod Cynllun Archwilio 2022/23 yn cael ei
ystyried ar hyn o bryd, rhagwelwyd y byddai'r archwiliadau arfaethedig, fel
mewn blynyddoedd blaenorol, yn cael eu grwpio yn y categorïau cyffredinol
canlynol: Archwiliadau llywodraethu a rheoli'r cyngor; archwiliadau sylfaenol;
ac archwiliadau sy'n benodol i'r gwasanaeth. Ystyriwyd bod y
broses asesu risg a'r rhaglen dreigl, yr ymarfer ymgynghori a'r adolygiad o'r
cofrestrau risg yn pennu'r archwiliadau sy'n ofynnol yn y Cynllun Archwilio ar
gyfer 2023/24, y bu'n rhaid eu paru wedyn â'r adnoddau archwilio sydd ar gael.
Yr adnoddau archwilio a oedd ar gael yn 2023/24 oedd 9.1 cyfwerth ag amser
llawn, ac eithrio'r Prif Archwiliwr, a oedd heb newid ers 2022/23. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Prif Archwilydd ystyried y canlynol: - ·
Newid
ffocws adolygiadau sicrwydd o gydymffurfio i effeithiolrwydd i roi mwy o
sicrwydd ac ychwanegu gwerth at y gwasanaethau yn y cyngor. ·
Newid
i effeithiolrwydd gwasanaethau i roi mwy o sicrwydd, fel yr elfen risg yn y Map
Sicrwydd yn Atodiad 4 a sicrhau bod y mesurau rheoli a ddarperir gan reolwyr yn
gweithio mewn gwirionedd. ·
Gan
ddefnyddio ID Risg: 153 – Diogelu fel enghraifft, roedd y naratif yn ddistaw ar
sut roedd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid ac aseswyr budd pennaf yn
perfformio o ran rôl yr awdurdod lleol, a fu'n faes her enfawr ers blynyddoedd
lawer a thynnu sylw at gysylltiad y cyngor â risg. ·
Roedd
meysydd ychwanegol fel effaith tlodi a sicrhau bod y gwasanaethau a sefydlwyd
gan y cyngor yn gweithio yn ôl y disgwyl, gan ganolbwyntio ar eu
heffeithiolrwydd. Dywedodd y Prif
Archwilydd y byddai'n ystyried y sylwadau ynglŷn â'r adolygiadau sicrwydd.
Ychwanegodd fod y mesurau rheoli a osodwyd gan berchnogion risg yn dyblygu'r
rheini sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr risgiau ac roedd yn cytuno â'r
sylwadau ynghylch effeithiolrwydd gwasanaethau. |
|
Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft 2023/24. PDF 343 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr y Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer 2023/24 i'w
ystyried, cyn i'r cynllun terfynol gael ei gyflwyno i'r pwyllgor i'w gymeradwyo
ym mis Ebrill 2023. Roedd Atodiad 1
yn darparu'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft ar gyfer 2023/24
(Crynodeb) ac roedd Atodiad 2 yn darparu'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol
Drafft ar gyfer 2023/24. Gofynnodd y
Cadeirydd i'r Prif Archwilydd ystyried y canlynol ac i roi adroddiad i'r
Pwyllgor am unrhyw welliannau ym mis Ebrill: - ·
Archwiliadau
5 niwrnod - Nifer o ddiwrnodau lle mae archwiliadau â 5 niwrnod wedi'u neilltuo
ar gyfer darn o waith ac a ellid ailystyried y rhain a nifer y diwrnodau yr
edrychir arnynt a'u rhoi mewn maes i roi mwy o sicrwydd a chaniatáu digon o
amser i gwblhau'r gwaith profi. ·
Adran
Gyllid, Archwiliadau Hanfodol – Y nifer mawr o ddiwrnodau sydd wedi'u clustnodi
a chydnabod y canlyniadau cadarnhaol diweddar ar gyfer y mwyafrif o feysydd
gwasanaeth, p’un a oes cyfle i leihau lefel y profi a'r defnydd ar feysydd sydd
â lefel uwch o risg. Gwnaeth y
pwyllgor sylwadau ar y canlynol: - ·
Bod yn
ofalus o ran diwygio rhai o'r Archwiliadau Hanfodol o 2 i 3 blynedd ar y sail
nad oedd unrhyw faterion wedi'u datgelu'n ddiweddar ac ystyried niferoedd
staffio rhai o'r gwasanaethau. ·
O
bosib defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar risg i'r cynllun a pheidio â
defnyddio'r rhaglen dreigl. ·
Ehangu
adolygiadau thematig, yn enwedig o ran yr adolygiadau llai ac ehangu'r defnydd
o adolygiadau hunanasesiad. ·
Gohirio
Strategaeth Ddigidol o'r cynllun ac effaith archwiliad Oracle Fusion. ·
Diwrnodau
salwch amcangyfrifedig sydd wedi'u cynnwys yn y
cynllun. Dywedodd y Prif
Archwilydd mai'r archwiliadau 5 niwrnod oedd yr adolygiadau symlach,
llai a bod disgwyl iddynt gael eu cynnwys ar y rhaglen dreigl ond cydnabu y
gellid defnyddio rhai o'r dyddiau hynny mewn meysydd risg uwch. Ychwanegodd fod y
Tîm Archwilio Mewnol wedi trafod Archwiliadau Hanfodol a'i fod wedi amlygu nad
oedd yr archwiliadau 2 flynedd wedi datgelu unrhyw faterion o bwys a chytunodd
y gellid defnyddio rhai o'r diwrnodau a glustnodwyd mewn mannau eraill. Nododd
hefyd fod yr Archwiliadau Hanfodol wedi bod yn llwyddiannus yn ddiweddar
oherwydd eu rheolaidd-dra. Roedd rhai hefyd wedi gostwng i gylch blynyddol
oherwydd y problemau a ganfuwyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Nododd hefyd fod
adolygiadau thematig wedi cael eu defnyddio ar gyfer rhai o'r archwiliadau
llai. Soniodd ymhellach
ei fod yn hapus i drafod â'r Cadeirydd y tu allan i'r cyfarfod. Penderfynwyd bod y gwelliannau awgrymedig yn cael eu
hystyried gan y Prif Archwilydd cyn i'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol
Drafft gael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am gymeradwyaeth
ar 12 Ebrill 2023. |
|
Trefniadau Llywodraethu a Sicrwydd Partneriaethau Strategol Cyngor Abertawe. PDF 268 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol
adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn rhoi gwybodaeth am drefniadau llywodraethu
a sicrwydd partneriaethau strategol y cyngor. Eglurwyd bod y
Pwyllgor, ym mis Gorffennaf 2022, wedi derbyn adroddiad a oedd yn amlinellu
trefniadau llywodraethu a sicrwydd y partneriaethau strategol allweddol
canlynol: • Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC)
Rhanbarthol De-orllewin Cymru) • Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe
(BGC) • Partneriaeth Iechyd a Gofal
Cymdeithasol Ranbarthol Gorllewin Morgannwg • Bargen Ddinesig Bae Abertawe (BDdBA); a • Partneriaeth (partneriaeth gwella
ysgolion) Roedd yr
adroddiad yn darparu rhagor o wybodaeth am sut roedd llywodraethu'r
partneriaethau hyn yn ymwneud â'r egwyddorion sydd yng Nghôd
Llywodraethu Corfforaethol Lleol y cyngor. Roedd Atodiad 1 yn darparu manylion
partneriaethau strategol Abertawe, gan gynnwys amlder y cyfarfodydd, craffu,
ymgynghori, cynlluniau a strategaethau. Nododd y
Cadeirydd fod Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru wedi cyfarfod unwaith yn unig, ym mis Tachwedd 2022, ac nad
oedd unrhyw gyfarfodydd pellach wedi'u trefnu. |
|
Cynnydd ar y gwaith i uwchraddio Oracle. PDF 153 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn rhoi'r diweddaraf a sicrwydd dros dro ar gynnydd y gwaith
o uwchraddio i system Oracle. Eglurwyd y
byddai'r gwaith o uwchraddio Oracle yn mynd yn fyw ym mis Ebrill 2023,
ac ar ôl hynny byddai pump i chwe wythnos o gefnogaeth wrth i’r system
sefydlogi i fusnes beunyddiol y cyngor. Yna byddai'r
prosiect yn symud tuag at ddod i ben yn drefnus tan ddiwedd mis Mehefin, ac ar
ôl hynny byddai archwiliad mewnol o'r prosiect yn cael ei gynnal ym mis
Gorffennaf. Darparwyd
cefndir, cyd-destun a statws cyfredol y prosiect i'r Pwyllgor, gan gynnwys y
cynnydd ar bob carreg filltir ac esboniadau ynghylch y rheini a nodwyd yn ambr
yn y crynodeb carreg filltir. Diolchodd
Arweinydd y Cyngor i Bennaeth y Gwasanaethau Digidol a'r holl staff a fu'n rhan
o'r prosiect am eu gwaith a'u hymroddiad. Ychwanegodd fod lefel uchel o hyder
oherwydd bod y prosiect mewn sefyllfa fwy cyfforddus. |
|
Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus. PDF 270 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Huw
Evans, Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus
'er gwybodaeth' a fabwysiadwyd gan y cyngor ar 2 Chwefror 2023. Eglurwyd bod
Adran 40 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gosod
dyletswydd ar bob Prif Gyngor i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Cyfranogiad
Cyhoeddus. Mabwysiadwyd y
Strategaeth Cyfranogiad Cyhoeddus, sydd wedi'i hatodi yn Atodiad A o'r
adroddiad, gan y cyngor ar 2 Chwefror 2023. Soniodd y
Cadeirydd am baragraff 2.8 o Atodiad A a oedd yn nodi
bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn un o'r pwyllgorau a oedd yn gwneud
penderfyniadau rheoleiddio'r cyngor. Ychwanegodd nad oedd hyn yn wir a bod
angen diwygio'r paragraff. Nodwyd y sylw a
byddai'r diwygiad awgrymedig yn cael ei ystyried pan fyddai'r polisi’n cael ei
adolygu yn y dyfodol. |
|
Diweddariad ar Raglen Trawsnewid y cyngor, gan gynnwys Llywodraethu. PDF 400 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro adroddiad 'er
gwybodaeth' a oedd yn diweddaru’r Pwyllgor ar Raglen Drawsnewid y cyngor, gan
gynnwys llywodraethu. Amlinellwyd gweledigaeth
y cyngor o ran trawsnewid ac eglurwyd, fel y cytunwyd arno gan y Cabinet ym mis
Tachwedd 2022, fod Cynllun Trawsnewid Corfforaethol newydd yn cael ei ddatblygu
ac ar y trywydd iawn i'w gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ym mis Ebrill
2023. Manylwyd ar y
cefndir a'r sefyllfa bresennol. Darparodd Atodiad 1 Gylch Gorchwyl y Bwrdd
Cyflawni Trawsnewid, Atodiad 2 Gylch Gorchwyl y Bwrdd Trawsnewid Digidol ac
Atodiad 3 Gylch Gorchwyl y Bwrdd Trawsnewid y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 393 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Tynnodd y
Cadeirydd sylw at y canlynol: - ·
Cofnod Rhif 90 (08/02/2023) – Adroddiadau Archwilio Cymru
– Parodrwydd y Sector Cyhoeddus ar gyfer Carbon sero net erbyn 2030 – Rhoddodd
y Cynghorydd A S Lewis (Dirprwy Arweinydd y Cyngor) yr wybodaeth ddiweddaraf
i'r Panel Craffu Perfformiad Newid yn yr Hinsawdd a Natur am gynnydd a byddai'n
rhoi nodyn briffio i'r Pwyllgor er mwyn darparu sicrwydd. ·
Cofnod Rhif 77 (11/01/2023) – Adroddiad Cwynion Blynyddol
2021/22 - Roedd y Panel Craffu Perfformiad wedi derbyn adroddiad gan yr
Ombwdsmon a oedd yn dweud y byddai'r Ombwdsmon yn croesawu adborth o adolygiad
y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i allu'r awdurdod i ymdrin â chwynion yn
effeithiol. Roedd y Cadeirydd wedi gofyn
i hyn gael ei gynnwys yn yr adroddiad cwynion nesaf a byddai'r Ombwdsmon yn
defnyddio'r wybodaeth hon i fwydo gwaith yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 227 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. |