Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Dilynol ar Argymhellion Archwilio Mewnol ar gyfer Ch2 2022/23. PDF 216 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd, Simon Cockings, adroddiad 'er gwybodaeth' i'r pwyllgor, a oedd yn
darparu statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle y gwnaethpwyd
gwaith dilynol yn Chwarter 2 2022/23, a oedd yn caniatáu i'r Pwyllgor fonitro'r
broses o weithredu argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol. Darparwyd manylion olrhain argymhellion
Archwilio Allanol hefyd. Darparodd Atodiad
1 grynodeb o'r argymhellion a dderbyniwyd ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd Atodiad 2 fanylion argymhellion na
roddwyd ar waith. Cafwyd
trafodaethau wedyn ynghylch: - ·
Categoreiddio
archwiliadau ac argymhellion i’w rhoi ar waith, yn benodol darparu rhagor o
fanylion mewn perthynas ag Archwiliadau Sylfaenol a oedd â risg uwch a chynnwys
rhai a roddwyd ar waith yn rhannol fel categori ar gyfer rhai argymhellion. ·
Mae
cynnydd araf yn cael ei wneud o ran cyflwyno system i olrhain argymhellion
Swyddfa Archwilio Cymru a'r gobaith y bydd y system newydd yn weithredol yn
2023. Darparwyd diweddariad gan y Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol. ·
Tynnodd
y Cadeirydd sylw at y ffaith bod holl adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru
ynghylch yr awdurdod bellach wedi’u hanfon ymlaen i gyfeiriad e-bost unigol ac
amlinellwyd nifer y bobl briodol y mae ganddynt fynediad at y mewnflwch hwnnw. ·
Pryder
ynghylch llwyth gwaith Archwilio Mewnol wrth symud ymlaen. ·
Camau
a gymerwyd mewn perthynas â phrisiadau archifau a'r gwaith dilynol a gynlluniwyd.
|
|
Olrhain Argymhellion Archwiliadau Hanfodol 2021/22. PDF 327 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Simon Cockings, y Prif Archwiliwr, adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn darparu crynodeb o'r argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliadau
hanfodol yn 2021/22 ac yn nodi a oedd yr argymhellion y cytunwyd arnynt wedi
cael eu rhoi ar waith. Nodwyd, yn dilyn
cwblhau archwiliadau sylfaenol 2021/22, fod 10 allan o'r 14 o'r archwiliadau
wedi derbyn sgôr sicrwydd uchel, roedd gan dri archwiliad sgôr sicrwydd
sylweddol (AAC, Cyfrifon Taladwy a Gwasanaethau Gweithwyr) ac roedd gan un sgôr
sicrwydd cymedrol (Cyfrifon Derbyniadwy) yn ystod yr archwiliad diwethaf. Roedd Atodiad 1
yn nodi nifer yr argymhellion a wnaed ar gyfer pob archwiliad hanfodol, yn
dilyn yr archwiliadau yn 2021/22, ac a oeddent wedi'u rhoi ar waith, eu rhoi ar
waith yn rhannol, heb eu rhoi ar waith neu nad oeddent i'w rhoi ar waith eto. O'r 61 o
argymhellion, roedd 36 wedi'u gweithredu'n llawn, 18 wedi'u gweithredu'n
rhannol, 10 heb eu gweithredu ac nid oedd 7 yn barod i'w gweithredu eto. Canran
yr argymhellion a roddwyd ar waith erbyn 30 Medi 2022 oedd 67%. Nodwyd bod
Atodiad 2 a 3 yn dangos bod y rhan fwyaf o'r argymhellion naill ai wedi cael eu
rhoi ar waith yn rhannol neu heb gael eu rhoi ar waith, mewn perthynas ag
archwiliadau Cyfrifon Derbyniadwy a Chyfrifon Taladwy. Roedd yr archwiliadau hyn yn parhau i gael eu
cwblhau yn flynyddol ac o ganlyniad, byddai gweithrediad yr argymhellion oedd
heb eu gweithredu yn cael eu hadolygu fel rhan o archwiliadau 2022/23. Dilynwyd hyn gan
drafodaethau ynghylch: - ·
Cododd
y Cyfarwyddwr Cyllid y mater o anfonebau amheus ar gyfer hen ddyledion sy’n
ddyledus gyda'r TRhC a thynnodd sylw at anfonebau nad
oedd y gwasanaethau wedi mynd i’r afael â hwy ers 90 niwrnod. Dywedodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro y byddai'n egluro'r mater
gyda'r Cyfarwyddwr Cyllid. ·
Esboniwyd
y bwlch mawr ym mherfformiad archwiliadau sylfaenol yn erbyn archwiliadau
safonol a sut roedd archwiliadau sylfaenol yn cynnwys risgiau uwch a mwy o
argymhellion. ·
Nifer
y materion adnoddau o ran Cyfrifon Taladwy/Cyfrifon Derbyniadwy. ·
Ychwanegu
graff i dynnu sylw at berfformiad archwiliadau sylfaenol, sy'n debyg i'r graff
a ddefnyddir ar gyfer archwiliadau safonol. ·
Prosiect
Oracle Fusion a nodi dyddiadau cwblhau clir er mwyn
dwyn swyddogion i gyfrif. ·
Canolbwyntio
ar ôl-ddyledion sylweddol/hen ôl-ddyledion a phwysigrwydd Oracle Fusion er mwyn galluogi swyddogion i gadw ar ben materion. |
|
Ymateb i Adroddiad Gwaith Ad-daladwy 2022/23. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Paula
Livingstone, Swyddog Adrannol Iechyd yr Amgylchedd a Carol Morgan, Pennaeth Tai
ac Iechyd y Cyhoedd adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu diweddariad ac
ymateb i archwiliad mewnol 2022 o waith ad-daladwy. Amlinellwyd, o
ganlyniad i Archwiliad Mewnol o weithdrefnau Gwaith Ad-daladwy (GA) o ran
Iechyd y Cyhoedd a gwblhawyd ym mis Awst 2022, rhoddwyd lefel sicrwydd
gymedrol. Aeth yr adroddiad i'r afael ag
un eitem Risg Uchel (RU) ac un eitem Risg Ganolig (RG) ac roedd un eitem Risg
Isel (RI) ac un eitem Arfer Da (AD) hefyd. Datblygwyd
cynllun gweithredu mewn ymateb i'r canfyddiadau a chyfrifoldebau a neilltuwyd
i'w rhoi ar waith a darparwyd hyn yn Atodiad A. Roedd y cynllun gweithredu'n
cynnwys yr holl argymhellion o'r archwiliad a'r camau gweithredu cysylltiedig. Nodwyd bod camau
gweithredu ar gyfer mynd i'r afael ag argymhellion Risg Isel ac Arfer Da wedi’u
cwblhau. Roedd y cynllun
gweithredu yn nodi’r camau risg ganolig/uchel canlynol mewn perthynas ag: - ·
Ad-daliadau
i Berchnogion Eiddo/Tenantiaid - Dylid creu'r holl anfonebau'n brydlon (RG). ·
Monitro
ôl-ddyledion - Dylid adolygu'r adroddiad anfonebau heb eu talu a chysylltu â
chwsmeriaid i annog taliadau. Yna dylid cofnodi nodiadau ynghylch unrhyw
gyswllt ar y system Cyfrifon Derbyniadwy (CD)(RU). Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Effaith
diffyg staff ar y tîm iechyd cyhoeddus, yn benodol colli gwybodaeth/arbenigedd.
·
Osgoi
dyblygu gwaith/anfonebau coll a chyfathrebu rheolaidd â'r adrannau
Cyfreithiol/Cyllid ynghylch adennill dyledion. ·
Gweithdrefnau
ynghylch gwaith ad-daladwy/camau gweithredu a gymerwyd o dan Ddeddf Cyfraith
Eiddo 1925. ·
Gwneud
gwelliannau effeithlonrwydd o ran Cyfrifon Derbyniadwy. ·
Sicrhau
bod ymatebion i adroddiadau cymedrol yn cael eu cyflwyno yn yr un cyfarfod ag
adroddiad chwarterol Archwilio Mewnol. ·
Adennill
dyled o £51,000 allan o’r £194,000 a oedd yn ddyledus yn wreiddiol a’r cefndir
o amgylch gwaith ad-daladwy. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad a nodwyd y byddai Archwilio
Mewnol yn cwblhau adroddiad dilynol yn hwyrach yn y flwyddyn. |
|
Adroddiad Cymedrol - Gwasaneathau Mabwysiadu Bae'r Gorllewin a Lwfansau Mabwysiadu. PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Julie
Davies, Pennaeth Plant a Theuluoedd a Nichola Rogers, Bae'r Gorllewin adroddiad
'er gwybodaeth' a oedd yn darparu'r diweddaraf ar adroddiad archwilio
Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin 2022/2023. O ganlyniad i
archwiliad mewnol ar Wasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin a gynhaliwyd ym mis
Medi 2022, rhoddwyd lefel sicrwydd gymedrol.
Yn dilyn hyn, datblygwyd cynllun gweithredu, a ddarparwyd yn Atodiad A,
i fynd i'r afael â'r problemau a nodwyd ac i roi camau gweithredu priodol ar
waith. Tynnodd yr
adroddiad sylw at ddwy eitem risg ganolig (RG) ac un eitem risg uchel (RU) a
darparwyd y rhain yn Atodiad B, a oedd yn amlinellu'r adroddiad yn llawn a'r
camau gweithredu cysylltiedig, yr eitemau risg isel (RI) a’r pwyntiau arfer da
(AD). Roedd y cynllun
gweithredu yn nodi’r camau risg ganolig/uchel a ganlyn mewn perthynas â:: - ·
Gwariant
- gwnaed tair archeb ar ddeg ar ôl dyddiad yr anfoneb (RG). Ni chafwyd
dyfynbrisiau ar gyfer unrhyw un o'r pryniadau ac ni chwblhawyd ceisiadau am hepgoriad neu Adroddiadau Dyfarnu Contract (RG). ·
Treuliau
Teithio a Chynhaliaeth - Daethpwyd o hyd i nifer o achosion lle'r oedd y
milltiroedd a hawliwyd yn uwch na'r disgwyl ar gyfer y disgrifiad o'r daith a
gofnodwyd ar Oracle. Roeddent yn ymchwilio ymhellach i'r hawliadau (RU) yn
seiliedig ar werth). Yn ychwanegol i hyn, nid oedd pellter o’r cartref i'r
gwaith wedi'i ddidynnu gan aelod o staff (RG). Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Nodwyd
gwendidau rheolaeth ariannol a'r angen i ddiwygio arferion gweithio i fynd i'r
afael â'r sefyllfa. ·
Yr
angen i gael prosesau caffael cywir ar waith er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth. ·
Y
rhesymau pam yr oedd y problemau'n codi. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu'r adroddiad a nodwyd y byddai Archwilio
Mewnol yn cwblhau adroddiad dilynol yn hwyrach yn y flwyddyn. |
|
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Jonathan Rogers, Ymchwilydd y Tîm Twyll Corfforaethol adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu diweddariad canol blwyddyn ar y gwaith a wnaed gan y
Swyddogaeth Twyll Corfforaethol yn 2022/23. Ychwanegwyd y
cytunwyd ar strwythur tîm newydd a oedd yn cynnwys Rheolwr Twyll a thri
Ymchwilydd Twyll. Gadawodd y Rheolwr Twyll y tîm ym mis Medi 2022, ond penodwyd
dau ymchwilydd twyll newydd ac mae eu dyddiad dechrau'n agos. Mae swydd y
rheolwr yn wag o hyd. Tynnwyd sylw at y
ffaith bod cynnydd da wedi'i wneud yn erbyn pob un o’r wyth gweithgaredd a
gynlluniwyd yn y Cynllun Swyddogaeth Twyll Corfforaethol ac roedd y tîm ar y
trywydd iawn i gwblhau'r holl weithgareddau erbyn diwedd y flwyddyn. Darparwyd
manylion yn atodiad A. Darparwyd
trosolwg byr hefyd o weithgareddau a gyflawnwyd y tu allan i gylch gorchwyl
Swyddogaeth Twyll Corfforaethol Cynllun Gwrth-dwyll 2022/23. Nododd y
Cadeirydd y drafodaeth a gynhaliwyd yn ystod y sesiwn hyfforddi gwrth-dwyll ddiweddar y pwyllgor. Roedd y rhain mewn perthynas
â gwella gwrth-dwyll ar draws yr Awdurdod a gwella'r
gwasanaeth. Holodd y pwyllgor
ynghylch cynnydd yn erbyn argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru a dywedwyd
wrthynt y byddai diweddariad yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad gwrth-dwyll nesaf. |
|
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021-22. PDF 305 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cynigiwyd y canlynol: - · Ystyried y dulliau
a’r fethodoleg ar gyfer 2022/23 yn rhannau 1, 2 a 3. ·
Cysylltu’r perfformiad ag asesiadau risg ar gyfer 2022/23. ·
Cydnabod gwelliannau y byddai
angen eu cyfleu o fewn yr adroddiad o gwmpas
dadansoddiad cryfach ·
Gwella’r cysylltiadau rhwng ymgysylltu ar gyfer ymgynghoriad/cyfeiro
rhanddeiliaid. ·
Cydberthyniad rhwng rhannau 1, 2
a 3, gan sicrhau eu bod i gyd yn gyson â’i
gilydd cyn cyflwyno’r
adroddiad i’r cyngor ac os nad
ydynt yn gyson â’i gilydd, amlinellu’r
rhesymau dros hyn. ·
Sicrhau bod yr
adroddiad yn cael ei brawfddarllen
cyn iddo gael ei gyflwyno
i’r cyngor Penderfynwyd: - 1) Nodi cynnwys yr adroddiad a’i anfon ymlaen at y cyngor am
gymeradwyaeth 2) Cymeradwyo’r cynigion uchod a’u cynnwys yn yr adroddiad i’r cyngor/eu cynnwys yn adroddiad 2022/23 Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad a oedd yn
cyflwyno drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 y cyngor i'r pwyllgor.
Ychwanegwyd bod
yr adroddiad yn bodloni'r gofynion statudol i gyhoeddi adroddiad hunan-asesu
blynyddol ac adroddiad lles blynyddol o dan Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru) 2021 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn
eu trefn. Mae Deddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn gweld cynghorau fel
"sefydliadau sy'n gwella ·
Parhau
i adolygu perfformiad; hynny yw, y graddau y mae'r cyngor yn bodloni'r gofynion
perfformiad, sy'n arfer ei swyddogaethau'n effeithlon; defnyddio ei adnoddau'n
economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol; a sicrhau bod ei lywodraethu'n
effeithiol ar gyfer sicrhau'r uchod; ·
Adrodd
ar berfformiad trwy hunanasesu; ·
Ymghynghori ar berfformiad; ·
Trefnu
Asesiad Panel Perfformiad; ·
Ymateb
i Asesiad Panel Perfformiad. Manylwyd ar y broses
ar gyfer hunanasesu, adroddiadau blynyddol, hunan-asesiadau'r flwyddyn gyntaf a
chynnwys y canfyddiadau yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at Grynodeb Gweithredol
Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 yn Atodiad Ch. Pwysleisiodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro yr angen i fyfyrio ar
y broses gan mai dyma’r flwyddyn gyntaf y gofynnwyd i gynghorau yng Nghymru
gynhyrchu'r adroddiad, a oedd yn cynnwys cryn dipyn o wybodaeth ac a gymerodd
lawer o amser i'w brosesu. Mae hi hefyd yn cydnabod gwaith swyddogion o ran
trefnu'r adroddiad. Darparodd y
Cynghorydd C A Holley, Cadeirydd y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau
a Chyllid adborth ynghylch craffu ar yr adroddiad. Tynnodd sylw at natur
dechnegol yr adroddiad, yr angen i wneud meysydd yn fwy syml/sut mae adrannau'n
cael eu creu yn y dyfodol a sut mae'r adroddiad yn adlewyrchu'n gadarnhaol ar
yr Awdurdod. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cymariaethau
ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a sut yr oedd yr Awdurdod wedi
ymgynghori'n weithredol â chynghorau eraill. ·
Cydnabod
mai dyma'r flwyddyn gyntaf i'r adroddiad gael ei ddrafftio. ·
Crynhoi'r
adroddiad trwy gydol y flwyddyn a'i gynhyrchu yn gynharach yn y flwyddyn
ddinesig. ·
Yr
angen i fyfyrio ar y ffordd y mae’r adroddiad yn cael ei ddrafftio, er mwyn
asesu'r swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Corfforaethol/amcanion lles
a chynnwys risgiau perfformiad/corfforaethol yn adroddiad 2022-23. ·
Cydnabod
y cryfderau a'r meysydd y mae angen eu gwella yn yr adroddiad. ·
Yr
angen am gysondeb trwy'r adroddiad a defnyddio asesiad cyffredinol trwy'r
adroddiad. ·
Prawfddarllen y ddogfen i wella cywirdeb. ·
Pwysigrwydd
Crynodeb Gweithredol i ddeall yr adroddiad. Soniodd y
Cadeirydd am y defnydd o adnoddau, yn enwedig strategaeth a gweledigaeth.
Gofynnodd a oedd yn fwy priodol defnyddio dull cymysg wrth hunanasesu
perfformiad yn hytrach na dull effeithiolrwydd cryf. Cynigwyd y canlynol: - ·
Ystyried
dulliau a methodolegau ar gyfer 2022/23 yn rhan 1, 2
a 3. ·
Cysylltu'r
asesiadau perfformiad a risg ar gyfer 2022/23. ·
Cydnabod
y gwelliannau y byddai angen eu cyfleu yn yr adroddiad ynghylch dadansoddiad
cryfach. ·
Gwella'r
cysylltiadau rhwng cynnwys ymgynghoriad a chyfeirio rhanddeiliaid. ·
Cydberthynas
rhwng rhannau 1, 2 a 3 gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd cyn i'r adroddiad gael ei
gyflwyno i'r cyngor ac os nad ydynt yn cyd-fynd, amlinellu'r rhesymau pam. ·
Sicrhau
bod yr adroddiad yn cael ei brawfddarllen cyn ei
gyflwyno i'r cyngor. Penderfynwyd
ar y canlynol: - 1)
Nodi
cynnwys yr adroddiad a'i anfon ymlaen i’r cyngor i'w gymeradwyo. 2)
Cymeradwyo'r
cynigion uchod a'u cynnwys yn yr adroddiad i'r cyngor/eu cynnwys yn adroddiad
2022/23. |
|
Strategaeth a Nodau Trawsnewid y Cyngor. PDF 197 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ness
Young, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol Dros Dro adroddiad 'er gwybodaeth'
a oedd yn darparu i’r pwyllgor yr Adolygiad o’r Nodau a’r Strategaeth
Trawsnewid a gyflwynwyd i'r cabinet ar 17 Tachwedd 2022. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Y
dull o asesu/fesur nodau strategol, yn benodol trwy'r Cynllun
Corfforaethol/dangosyddion perfformiad allweddol. ·
Hyder
y gellir cyflawni’r dull portffolio a bod y monitro gofynnol ar waith trwy'r
Bwrdd Cyflawni Trawsnewid. |
|
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru - Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 309 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Gillian Gillett, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen Archwilio
Cymru – Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - ·
Crynodeb
Archwilio Blynyddol ·
Gwaith
Archwilio Ariannol ·
Gwaith
Archwilio Perfformiad ·
Astudiaethau
Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar y gweill ·
Estyn ·
Arolygiaeth
Gofal Cymru (AGC) ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd ers mis Ionawr
2022 ·
Adroddiadau
Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi (a gwaith arall sydd
ar waith/wedi'i gynllunio) ·
Adnoddau
Cyfnewid Arfer Da ·
Blogiau
Archwilio Diweddar |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 401 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar Gyfer 2022/23. PDF 226 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. Nodwyd y darperir
diweddariad o ran Cyfrifon Derbyniadwy ym mis Ionawr 2023 ac ychwanegwyd hynny
at y Cynllun Gwaith. |