Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi cofnodion y cyfarfod(ydd) blaenorol fel cofnod cywir. Penderfyniad: Cymeradwywyd yn amodol
ar y diwygiad canlynol:- Cofnod Rhif 51 –
Cyflwyniad ar y cyd – Dod allan o COVID-19 Diwygio’r paragraff olaf
fel a ganlyn:- ... nododd fod y canfyddiadau’n gadarnhaol ond roedd angen cynyddu maint y sampl ymhellach er mwyn sicrhau’r Pwyllgor. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y diwygiadau
canlynol: - Cofnod Rhif 51 –
Cyflwyniad ar y Cyd – Dod allan o COVID Newid y paragraff
olaf i: - Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu'r cyflwyniad a nododd fod y canfyddiadau'n
gadarnhaol ond roedd angen cynyddu maint y sampl yn rhagor er mwyn sicrhau'r
Pwyllgor. |
|
Adroddiad Monitro Archwiliad Mewnol Chwarter 2 2022/23. PDF 477 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad 'er gwybodaeth'
manwl a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed
gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Gorffennaf i 30 Medi
2022. Cwblhawyd
cyfanswm o 16 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn
ystod y cyfnod. Gwnaed cyfanswm o
84 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i roi pob un ohonynt ar waith, h.y.
derbyniwyd 100% o'r argymhellion yn erbyn ein targed o 95%. Dangosodd
ddadansoddiad o'r manylion yn Atodiad 3 y cwblhawyd 25 o weithredoedd archwilio
o gynllun archwilio 2022/23 erbyn 30/09/22 i'r cam adroddiad drafft o leiaf
(19%), ac mae 30 archwiliad ychwanegol ar waith (23%). O ganlyniad, roedd tua
42% o'r gweithgareddau archwilio a gynhwysir yng Nghynllun Archwilio 2022/23
naill ai wedi'u cwblhau neu ar waith. Mae salwch staff
o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi parhau i fod yn sylweddol yn ystod y
chwarter, gyda chyfanswm o 87 o ddiwrnodau o absenoldeb wedi'u cofnodi. Parhaodd dau aelod o staff i fod yn absennol
oherwydd salwch tymor hir a chyfanswm y salwch cronnus yn y flwyddyn hyd yma
oedd 119 diwrnod. Yn ogystal,
gadawodd dau archwilydd y tîm yn ystod chwarter un ac yn dilyn ymgyrch
recriwtio lwyddiannus, disgwylir i ddau ymgeisydd ymuno â'r Tîm Archwilio
Mewnol erbyn canol mis Tachwedd. Ystyriwyd hefyd y
defnydd posib o staff asiantaeth i gefnogi'r adnoddau presennol gan y Prif
Archwilydd a'r Cyfarwyddwr Cyllid, ond o ystyried y pryderon cyllidebol
presennol a phenderfyniad y Cabinet i geisio cyfyngu ar wariant yn ystod y
flwyddyn gan yr holl Gyfarwyddwyr, cynghorodd y Cyfarwyddwr Cyllid yn erbyn hyn
ar hyn o bryd. Amlygwyd bod tri
adroddiad archwilio gyda lefel sicrwydd "cymedrol" wedi'u cyhoeddi yn
ystod y chwarter. Lluniwyd y rhain mewn perthynas â Gosodiadau Cyrchfan
2022/2023, Gwaith Ad-daladwy 2022/23 a Gwasanaeth Mabwysiadu Bae'r Gorllewin a
Lwfansau Mabwysiadu 2022/23. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Faint
o amser a gymerir wrth ymdrin ag anfonebau sy'n ddyledus/amserlenni o ran
cyhoeddi anfonebau ac ymatebion gan ardal y gwasanaeth yn y cyfarfod nesaf. ·
Dyledion
hirdymor, y prosesau adfer dan sylw a chaniatáu i’r maes gwasanaeth ddarparu
manylion ychwanegol yn y cyfarfod nesaf a drefnir. ·
Tueddiadau
pryderus yn datblygu o ran rheolaeth ariannol. ·
Lefelau
salwch o fewn Archwilio Mewnol, y gallu i gwblhau'r Cynllun Archwilio a sut y
cyfeiriwyd adnoddau wedi'u er mwyn cwblhau'r archwiliadau haen 1 a 2. Gofynnodd y
Cadeirydd a allai’r is-adran archwilio gynnwys 'perfformiad' yng nghwmpas eu
hadolygiad Llywodraethu Corfforaethol, a thynnodd sylw at y costau cynyddol mewn
perthynas â phrosiect Oracle Cloud gan gwestiynu pryd
y byddai'n cael ei adolygu. Dywedodd y Prif Archwilydd y byddai'r adolygiad o
Lywodraethu Corfforaethol yn cael ei adrodd yn ddiweddarach yn y flwyddyn
ariannol. Byddai hefyd yn cysylltu â'r staff priodol ynghylch dechrau adolygiad
Oracle Cloud a byddai'n diweddaru'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Cymedrol - Gosodiadau Cyrchfan. PDF 225 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sue
Reed, Rheolwr Datblygu Cymunedau, Partneriaethau a Chyrchfannau a Jamie
Rewbridge, Rheolwr Strategol Partneriaethau Hamdden, adroddiad a oedd yn rhoi’r
wybodaeth ddiweddaraf ac yn ymateb i archwiliad mewnol Gosodiadau Cyrchfan
2022. Amlinellwyd, o
ganlyniad i archwiliad mewnol ar y swyddogaeth Gosodiadau Cyrchfan a gynhaliwyd
yn 2022, y rhoddwyd lefel sicrwydd cymedrol. Lluniwyd cynllun gweithredu, a
ddarparwyd yn Atodiad A, i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd a chamau
gweithredu priodol. Roedd yr
adroddiad yn mynd i'r afael â'r un risg uchel (RU) ac un risg ganolig (RG) a
nodwyd yn yr archwiliad. Fe'u nodwyd fel a ganlyn: - ·
Parc
Carafanau Bryn y Mwmbwls - Dylid cymryd gofal i sicrhau bod pob
trwyddedai yn cael ei anfonebu yn ôl y gofyn. (RG) Camau y cytunwyd
arnynt ac y'u diweddarwyd – Talwyd yr anfoneb heb ei thalu a nodwyd ar
unwaith. Roedd materion o ran adnoddau
hefyd wedi cael sylw. Roedd prosesau
gwirio a monitro yn eu lle ac ymchwiliwyd i wasanaeth ar-lein. -
Ni
ddylid adnewyddu trwyddedau os oes ôl-ddyledion sylweddol o'r blynyddoedd
blaenorol. (RU) Camau y cytunwyd
arnynt ac y'u diweddarwydd – Mae’r holl ddyledion a
oedd yn ddyledus wedi’u talu bellach neu roedd ganddynt gynlluniau ad-dalu ar
waith. Fe wnaeth y tîm, yn dilyn arweiniad cyfreithiol, ymgymryd â'r gwaith am
y tro cyntaf i gael gwared ar garafán oddi ar y safle. Byddai swyddogion yn
sicrhau parhad y system gadarn hon o adfer yn dilyn trafodaethau â chydweithwyr
cyfreithiol ac yn ogystal, byddai'r gwasanaeth ar-lein arfaethedig hefyd yn
tynnu sylw at faterion yn gynharach. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Oedi cyn
mynd i'r afael â'r materion a godwyd yn gynt a'r gwelliannau a roddwyd ar waith
i atal problemau yn y dyfodol. ·
Roedd
y gwelliannau a gyflwynwyd mewn perthynas â Chytiau Traeth Bae Langland, yr oedd angen taliad llawn ymlaen llaw ar eu
cyfer. ·
Cyflwyno
cynlluniau talu o ran trwyddedau ym Mharc Carafanau Bryn y Mwmbwls a sut y
byddai system ar-lein yn gwella'r ffordd y byddai taliadau yn cael eu rheoli. ·
Oedi
annerbyniol o 4 blynedd o ran trwyddedau heb eu talu, sut y profodd yr adran
anawsterau mawr wrth gael gafael ar ddeiliad y drwydded a bod prosesau newydd
yn eu lle i fynd i'r afael â phroblemau yn y dyfodol. ·
P'un
a oedd y cyngor yn y sefyllfa orau i reoli'r cyfleusterau dan sylw a'r rhesymau
pam mae'r ddau gyfleuster yn creu incwm i'r awdurdod ac yn asedau gwerthfawr
iawn. ·
Sicrhau
bod y prosesau sy'n cael eu rhoi ar waith gan Swyddogion yn effeithiol a
darparu diweddariad yn y dyfodol. |
|
Trosolwg o Risgiau Corfforaethol - Chwarter 2 2022/23. PDF 322 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Richard Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol,
adroddiad ‘er gwybodaeth’ ar gyfer Chwarter 2 2022/23 a oedd yn darparu
trosolwg o statws Risgiau Corfforaethol yn y cyngor i roi sicrwydd i'r Pwyllgor
fod risgiau allweddol yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli
risgiau'r cyngor. Roedd y canlynol yn crynhoi statws y risgiau a gofnodwyd yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol yn Chwarter 2 2022/23: Ychwanegwyd bod 6 risg statws coch yn y Gofrestr Risgiau Corfforaethol ar
ddiwedd Ch2 2022/23 fel a ganlyn: • Rhif Adnabod Risg 153.
Diogelu. • Rhif Adnabod Risg 159. Rheolaeth
Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy. • Rhif Adnabod Risg 221
Argaeledd Gofal Cartref. • Rhif Adnabod Risg 222.
Digidol, Data a Seiberddiogelwch. • Rhif Adnabod Risg 309.
Oracle Fusion. • Rhif Adnabod Risg 319.
Costau Darparu Cynyddol. Cadarnhawyd bod yr holl risgiau corfforaethol wedi'u cofnodi fel rhai a
gafodd eu hadolygu o leiaf unwaith yn ystod Ch2 ac ni ychwanegwyd unrhyw
risgiau newydd at y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Rhestrwyd manylion y
risgiau a oedd wedi’u dadactifadu hefyd. Dywedodd y
Cadeirydd ei bod wedi trafod ehangu'r adroddiad â Chyfarwyddwr Dros Dro'r
Gwasanaethau Corfforaethol, yn enwedig y fethodoleg o ran asesu risgiau. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Rhif Adnabod
Risg 159. Rheolaeth Ariannol: Agweddau CATC ar Abertawe Gynaliadwy - yn enwedig
manylion swyddi/prentisiaethau a grëwyd drwy'r Fargen Ddinesig. ·
Rhif
Adnabod Risg 221 Argaeledd Gofal Cartref. ·
Rheoli
risgiau a gwaith parhaus a wneir i leihau'r risgiau. ·
Sut
mae risgiau corfforaethol, cyfarwyddiaeth a lefel gwasanaeth yn cael eu rheoli
o fewn y cyngor. ·
Bydd
y cyngor yn ystyried y cysyniad o gymhwyso parodrwydd i dderbyn risg wrth
adolygu ei fframwaith rheoli risgiau. Gofynnodd y
Cadeirydd i fanylion am swyddi a grëwyd gan y Fargen Ddinesig gael eu hanfon
i'r Pwyllgor. |
|
Cyfarwyddiaeth Cyllid: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2022/2023. PDF 410 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Ben Smith, Cyfarwyddwr Cyllid, adroddiad 'er gwybodaeth' a
gyflwynodd amgylchedd rheoli'r Gyfarwyddiaeth Cyllid, gan gynnwys rheoli
risgiau, sydd ar waith i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn
effeithiol; bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn
economaidd a; bod llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Amlinellwyd bod y
Gyfarwyddiaeth a rôl y Cyfarwyddwr Cyllid cysylltiedig wedi'u creu yn dilyn
penderfyniad y cyngor ym mis Tachwedd 2021, ac fe'i penodwyd ar ddiwedd mis
Ionawr 2022. Yn ymarferol, cafodd ei wahanu'n ffurfiol o 1 Ebrill 2022 ar
ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd. Ychwanegwyd bod ymagwedd
gychwynnol y gyfarwyddiaeth at ymdrin â'i gweithrediadau ei hun yn seiliedig ar
sut yr oedd yn gweithredu fel rhan fawr o'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau gynt. Gan
fod gan y gyfarwyddiaeth ddylanwad ar weithgarwch a chyllid y cyngor cyfan,
roedd hefyd yn arwain o ran llawer o'r prosesau rheoli cyffredin yn ogystal â
chymryd rhan ynddynt. Rhestrwyd manylion y meysydd hyn. Amlinellwyd y
fframwaith sicrwydd, gan gynnwys yr elfennau allweddol ac agweddau allweddol ar
drefniadau'r Gyfarwyddiaeth Cyllid. Nodwyd bod cyrhaeddiad gweithredol ehangach
y Gyfarwyddiaeth yn golygu bod ei gweithgareddau’n llawn risg ac yn aml yn
gymhleth. Darparwyd
manylion rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/DPA, cynllunio,
gwneud penderfyniadau, cyllideb, twyll ac amhriodoldeb,
cydymffurfiaeth â pholisïau, rheolau a gofynion rheoleiddio a rheoli adnoddau. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cyllideb
Flynyddol a Chytundeb Cynllun Ariannol y Tymor Canolig. ·
Datganiad
Blynyddol o Gyfrifon, yn enwedig mesurau rheoli cyfredol. ·
Barn
Archwilio Blynyddol Archwilio Mewnol, yn enwedig cyflwyno'r Cynllun Blynyddol
ac adnoddau o fewn Archwilio Mewnol. ·
Annibyniaeth
barhaus y Prif Archwilydd. Diolchwyd i'r
Cyfarwyddwr Cyllid am adolygiad manwl a chynhwysfawr. |
|
Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2022/23. PDF 271 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd David
Howes, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol adroddiad a roddodd yr adolygiad
blynyddol o'r amgylchedd rheoli (Cyfarwyddiaeth), gan gynnwys rheoli risgiau,
sydd ar waith i sicrhau: bod swyddogaethau'n cael eu harfer yn effeithiol; bod adnoddau’n
cael eu defnyddio’n effeithlon ac effeithiol ac yn economaidd a; bod
llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau hyn. Darparodd
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ddadansoddiad eang o'r Portffolio o dan
y meysydd canlynol: Ø
Rheoli Risgiau a Pharhad Busnes. Ø
Rheoli Perfformiad a Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Ø
Cynllunio a Gwneud Penderfyniadau. Ø
Rheoli Cyllidebau ac Adnoddau. Ø
Twyll ac Amhriodoldeb Ariannol.
Ø
Cydymffurfio â Pholisïau, Rheolau a Gofynion Rheoliadol. Ø
Sicrwydd Rhaglenni a Phrosiectau. Ø
Dulliau rheoli mewnol. Ø
Diogelu Data. Ø
Llywodraethu Partneriaeth/Cydweithio. Pwysleisiodd
effaith barhaus COVID ar y rhai mwyaf diamddiffyn mewn cymdeithas, y gweithlu
a'r Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol. Tynnodd sylw hefyd at bwysau'r
gweithlu o fewn y Gyfarwyddiaeth, yn enwedig o ran gofal cartref. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r Swyddog a ymatebodd yn briodol. Roedd y
trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol: - ·
Y manylder rhagorol sydd yn yr adroddiad. ·
Y prosesau sydd ar waith ar hyn o bryd i reoli cyllid. ·
Capasiti a gwydnwch y
gweithlu o ran gofal cartref, y problemau recriwtio parhaus a'r angen i swyddi
yn y maes hwn gael eu talu'n well er mwyn i'r swyddi fod yn ddeniadol. ·
Y prosesau ar waith i fynd i'r afael â swyddi gwag i
weithwyr cymdeithasol. ·
Pryderon dwfn ynghylch materion staffio a oedd yn broblem
genedlaethol a monitro gwasanaethau yn agos drwy Graffu. ·
Mesurau rheoli sydd ar waith i leihau risgiau parhaus. ·
Archwilio Mewnol yn darparu sicrwydd risgiau busnes
ynghylch Rhif Adnabod Risg 221 – Argaeledd Gofal Cartref. ·
Esboniad ynghylch adroddiad cymedrol ar Wasanaethau
Mabwysiadu Bae'r Gorllewin i'w ddarparu gan swyddogion yn y cyfarfod nesaf. Nododd y Cadeirydd
yr adroddiad cadarnhaol a ddarperir gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Gofynnodd
hefyd fod adroddiad Risgiau Chwarter 3 yn cynnwys risgiau ar lefel y
gyfarwyddiaeth ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol er mwyn rhoi sicrwydd i'r
Pwyllgor. Diolchwyd i'r Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol am adolygiad manwl a chynhwysfawr. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 377 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer 2022/23. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. Cadarnhaodd y Cadeirydd y byddai'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol yn cael
ei adrodd i'r Pwyllgor ym mis Rhagfyr. Cyfeiriodd at fodel canllawiau newydd CIPFA ac ychwanegodd ei bod wedi
gofyn i'r Prif Swyddog Cyfreithiol edrych ar gylch gorchwyl y Pwyllgor er mwyn
gweld a oes angen gwneud newidiadau. Byddai'n gofyn yn ychwanegol i'r Prif
Archwilydd archwilio holiadur CIPFA a fyddai'n caniatáu i'r Pwyllgor archwilio
ei effeithiolrwydd. |