Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd, yn amodol ar ddiwygiad. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio fel cofnod cywir, yn amodol ar y canlynol: - Diwygio cofnod rhif 43 - Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2021-22 i
ddarllen: - 'Penderfynwyd gohirio'r eitem er mwyn caniatáu i'r adroddiad symud
ymlaen drwy'r broses Graffu cyn adrodd amdano wrth gyfarfod Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn y dyfodol.' Nodwyd sylwadau Cynghorwyr a gofynnwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno
i gyfarfod nesaf y Pwyllgor, os yw hynny’n bosib. |
|
Adroddiad Blynyddol Craffu 2021-22 a Rhaglen Waith Craffu. PDF 147 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Peter Black, Cadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu Adroddiad Blynyddol
Craffu 2021-22 a'r Rhaglen Waith Craffu 'er gwybodaeth'. Amlinellwyd bod
yr adroddiad yn cefnogi datblygu perthynas gref rhwng yr adran Graffu a'r
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio trwy ddarparu Adroddiad Blynyddol Craffu
2021-22 a gyhoeddwyd yn ddiweddar a gwybodaeth ynghylch y Rhaglen Waith Craffu.
Mynegodd bryder
ynghylch presenoldeb Cynghorwyr yng nghyfarfodydd y paneli Craffu ac adnoddau
staff sy'n cefnogi'r broses Graffu. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cynigion
sydd wedi'u cychwyn i wella presenoldeb Cynghorwyr mewn cyfarfodydd Paneli
Craffu/Pwyllgorau Cyflawni Corfforedig. ·
Rolau
gwahanol Craffu a Phwyllgorau Cyflawni Corfforedig, yn enwedig y disgrifiad o
fewn adroddiad Newyddion Craffu. ·
Osgoi
dyblygu rhwng Craffu a Phwyllgorau Cyflawni Corfforedig, wrth gydnabod byddai
gorgyffyrddiadau o ran gwaith yn digwydd. ·
Gwaith
parhaus Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch adolygu'r broses Graffu/risgiau o fewn
y cyngor a'r adroddiad cadarnhaol a dderbyniwyd yn ystod yr adolygiad
blaenorol. ·
Y
llwyddiannau blaenorol a gafwyd gan Graffu yn genedlaethol. Nododd y
Cadeirydd y trefniadau Craffu sy’n cael eu trefnu gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru wrth gyflwyno is-bwyllgor trosolwg a chraffu yn ogystal â Phwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio. Diolchodd i
Gadeirydd Pwyllgor y Rhaglen Graffu am gyflwyno'r adroddiad. |
|
Cyflwyniad ar y Cyd - Dod Allan O COVID. PDF 559 KB Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Darparodd Chris
Bolton, Non Jenkins, Swyddfa Archwilio Cymru a Marlyn Dickson, Rheolwr y
Rhaglen Newid Strategol gyflwyniad ar y cyd ar ddod allan o COVID-19. Roedd y manylion
a ddarparwyd yn y cyflwyniad yn cynnwys: - ·
Strwythur ·
Profi
ymagwedd wahanol ·
Triawdau
gwrando ·
Canfyddiadau
Allweddol ·
Rwy'n
gwneud fy swydd yn well, ac yn rhiant gwell. ·
A
wnaethom ateb y cwestiwn? ·
Beth
sy'n digwydd nesaf? Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r cyflwynwyr a ymatebodd yn briodol. Cafwyd trafodaethau am y canlynol: - ·
Pethau
cadarnhaol/negyddol a ganfuwyd. ·
Y defnydd
gwych o driawdau gwrando a'r neges allweddol nad yw un maint yn addas i neb. ·
Tynnu
sylw at arfer da a sut roedd staff wedi helpu ym meysydd gwahanol y cyngor. ·
Archwilio
cam nesaf y broses. ·
Lefel
uchel yr allbwn i'r Pwyllgor ei drafod a'r angen i ddarparu'r manylion y tu ôl
iddo. ·
P'un
a oedd yr awdurdod wedi defnyddio adnoddau'n effeithiol yn ystod y cyfnod hwn,
yr angen am fanylion ychwanegol er mwyn gwneud unrhyw gasgliadau ar
effeithlonrwydd a dosbarthu'r cyflwyniad manylach a gyflwynwyd i'r Tîm Rheoli
Corfforaethol i'r Pwyllgor. ·
Darparwyd
sicrwydd bod adnoddau wedi'u defnyddio'n effeithiol trwy gydol y pandemig. ·
Maint
y sampl a ddefnyddiwyd. Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am ddarparu'r cyflwyniad a nododd fod y canfyddiadau'n
gadarnhaol ond bod angen rhoi rhagor o wybodaeth er mwyn sicrhau'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Traciwr Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 374 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Gofynnodd y
Cadeirydd am y diweddaraf ynghylch cofnod rhif 76 o 8 Chwefror 2022 ar y
risgiau corfforaethol newydd mewn perthynas â WCCIS (System Wybodaeth Gofal
Cymunedol Cymru) ac argaeledd gofal cartref. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 228 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. Holodd y Pwyllgor pryd byddai Datganiad Ariannol/ISA 260 Swyddfa Archwilio
Cymru yn cael ei gyflwyno. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cyllid y byddai'r
adroddiadau'n cael eu cyflwyno gyda Datganiad o Gyfrifon 2021-22, yr oedd yntau’n disgwyl iddo fod yn barod ar ddechrau'r flwyddyn
newydd o ganlyniad i anawsterau technegol lleol a chenedlaethol. Gofynnodd y Pwyllgor hefyd i gael adroddiad am yr Adolygiad Perfformiad
Blynyddol 2021-22 yn ystod y cyfarfod nesaf ar 9 Tachwedd 2022, gan gadw mewn
cof nifer yr eitemau yr adroddir amdanynt ym mhob cyfarfod. |