Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â’r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorydd T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 13 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2022 i 31 Mawrth 2022. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y Cynghorydd T M White gysylltiad personol â Chofnod Rhif 13 - Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2021/22 - Adroddiad Monitro ar gyfer y cyfnod o 1 Ionawr 2022 i 31 Mawrth 2022 |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr, Nick Davies, adroddiad 'er gwybodaeth' manwl a oedd yn darparu'r
archwiliadau terfynol ac unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio
Mewnol yn ystod y cyfnod o 1 Ionawr i 31 Mawrth 2022. Cwblhawyd
cyfanswm o 30 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn
ystod y cyfnod. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
188 o argymhellion archwilio a chytunodd y rheolwyr i weithredu 184 o'r
argymhellion. Darparwyd dadansoddiad hefyd o'r argymhellion y cytunwyd arnynt
yn ystod y chwarter a darparwyd manylion yr argymhellion nas derbyniwyd yn
Atodiad 3. Esboniwyd, ar ôl llacio cyfyngiadau
COVID-19, fod y gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi gallu cynnal nifer o
ymweliadau safle yn llwyddiannus, lle bo angen, i gwblhau profion ar y safle i
gwblhau archwiliadau. Ychwanegwyd bod y tîm wedi parhau i weithio o bell
yn bennaf. Dangosodd Atodiad 4 fod 96 o
weithgareddau archwilio o gynllun archwilio 2021/22 wedi'u cwblhau ar 31 Mawrth
2022 hyd at y cam drafft o leiaf (73%) gydag 11 archwiliad ychwanegol wedi'u
nodi fel rhai sydd ar waith (8%). Arweiniodd hyn at tua 82% o'r
gweithgareddau archwilio a oedd wedi'u cynnwys yng Nghynllun Archwilio 2021/22
yn cael eu cwblhau neu roeddent ar waith. Yn ogystal, nid oedd angen 4
archwiliad a oedd yn gynwysedig yn y cynllun gwreiddiol mwyach a gohiriwyd 16 o
adolygiadau tan 2022/23. Cyhoeddwyd dau adroddiad cymedrol yn
ystod y chwarter mewn perthynas â'r canlynol: - · Cyfrifon Derbyniadwy 2021/22 Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) / Ceisiadau Gwrthrych am
Wybodaeth (SAR) / Ceisiadau Rheoleiddio Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR)
2021/22. Rhoddwyd manylion i'r pwyllgor hefyd am
y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth 2022. Trafododd y pwyllgor y canlynol: - · Anfonebau amheus/heb eu talu a'r broses a ddilynwyd, gan
gynnwys adrannau sy'n derbyn incwm cyn i anfonebau gael eu talu. · Pryder ynghylch rhai sgoriau archwilio a roddwyd, yn enwedig y cyfiawnhad
dros un neu ddau o sgoriau sylweddol/uchel a ddyfarnwyd yn ddiweddar a sut
mae'r Archwilio Mewnol yn asesu/gwirio'r sgoriau/lefel y risgiau/a'r lefelau
sicrwydd cyffredinol sy'n gysylltiedig cyn cytuno ar sgôr. · Darparu naratif pellach i'r pwyllgor er mwyn iddynt gael
gwell dealltwriaeth o sut y dyfernir lefelau sicrwydd. · Adolygiadau o Adennill Dyledion – Gwasanaethau Ariannol
ac Adennill Cyfreithiol / Llywodraethu Corfforaethol a chwmpas yr adolygiadau. · Penodi'r Prif Weithredwr Dros Dro, y broses fewnol gadarn
a ddilynwyd, effaith gadarnhaol y broses drosglwyddo a'r llywodraethu
corfforaethol da a ddilynwyd mewn perthynas â'r penodiad. ·
Y rheswm pam nad
oedd angen yr archwiliad grantiau a chontractau o Wasanaethau Plant a
Theuluoedd, sut y byddai'r Archwilio Mewnol yn trafod y cwmpas gyda'r rheolwyr
cyn i'r archwiliad ddechrau a sut y byddai naratif pellach yn cael ei ddarparu
mewn perthynas ag archwiliadau yn y dyfodol nad oedd eu hangen. ·
Grantiau wedi'u
hardystio gan Archwilio Mewnol a'r prosesau a gyflawnwyd. ·
Dylid ystyried
cyfuno'r gwaith dilynol manwl a wnaed ar adolygiadau cymedrol sydd wedi’u
cynnwys yn yr 'Adroddiad Monitro Chwarterol' a'u cynnwys yn yr adroddiad
'Dilyniant Chwarterol'. ·
Dadansoddiad
adrannol o hen ddyledion mewn adrannau a darparu adroddiad manylach yn y
cyfarfod nesaf a drefnwyd. ·
Gweithdrefnau
adrodd sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol, yn enwedig y Grŵp
Partneriaeth ar y cyd. ·
Yr wybodaeth
ddiweddaraf am drefniadau Partneriaeth sy'n cael eu darparu i'r pwyllgor ym mis
Medi 2022. |
|
Ymateb i Archwiliad Rhyddid Gwybodaeth 2022.. PDF 518 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Sarah
Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid a Kim Collis, Swyddog
Diogelu Data, ymateb 'er gwybodaeth' i'r archwiliad diweddar o geisiadau
Rhyddid Gwybodaeth, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) a Cheisiadau
Gwrthrych am Wybodaeth (SAR). Esboniwyd, o
ganlyniad i archwilio mewnol a gynhaliwyd yn hanner cyntaf 2022 o'r ffordd y
mae'r cyngor yn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth a cheisiadau eraill gan y
cyhoedd yn ymwneud â gwybodaeth statudol, y rhoddwyd lefel sicrwydd 'Gymedrol'. Er mai'r cyngor
cyfan oedd yn gyfrifol am ganlyniad yr archwiliad, fel y'i cynrychiolir gan
Dimau Rheoli ac Arweinyddiaeth Corfforaethol, cytunodd Swyddog Diogelu Data'r
Cyngor (DPO) a’r Uwch-berchennog Risg Gwybodaeth (SIRO) i gymryd cyfrifoldeb am
y cynllun gweithredu sy'n deillio o'r archwiliad ac ymgynghori yn ôl yr angen
gyda'r ddau gorff. Darparwyd y camau
gweithredu a gwblhawyd o'r cynllun gweithredu yn Atodiad A, ynghyd â'r cynnydd
tuag at gwblhau camau gofynnol eraill. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Cynyddu
sgiliau staff ar draws yr holl gyfarwyddiaethau. ·
Y
camau a gymerwyd pan anfonwyd gwybodaeth nad oedd wedi'i golygu y tu allan i'r
awdurdod. Anfon yr ymateb, o ran y camau a gymerwyd, i'r pwyllgor. · Sefydlu atebolrwydd a chyfrifoldeb yn yr awdurdod. |
|
Canolfan Gwasanaethau - Cyfrifon Derbyniadwy - Adroddiad Cymedrol. Penderfyniad: Llafar. Cofnodion: Darparodd y
Dirprwy Brif Weithredwr, Adam Hill, ddiweddariad llafar ar y farn archwilio
gymedrol a dderbyniwyd mewn perthynas â Chyfrifon Derbyniadwy. Dywedodd y byddai
adroddiad manylach yn cael ei ddarparu i gyfarfod nesaf y pwyllgor ym mis
Gorffennaf 2022. Rhoddwyd
diweddariad cynnydd i'r pwyllgor mewn perthynas â'r materion a godwyd yn yr
adroddiad Archwilio Mewnol a rhoddwyd sicrwydd iddynt fod cynnydd yn cael ei
wneud o ran dyledion sy'n destun dadl ac adennill dyledion. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Pryder
ynghylch colli incwm i'r awdurdod. ·
Yr
angen i wario er mwyn gwireddu'r incwm. ·
Polisïau
blaenorol a ddilynwyd o ran dyledion drwg, sy'n destun dadl a'r risgiau i'r
cyngor. ·
Y
pwysau parhaus a wynebir gan y Ganolfan Wasanaethau, colli staff yn barhaus i
brosiectau eraill oherwydd COVID-19 a rôl weithredol barhaus TRhC. ·
Olrhain
dyledion rhwng adrannau, darparu rhagor o wybodaeth i'r pwyllgor ac effaith
barhaus COVID-19 ar yr awdurdod. ·
Cyd-destun
y ddyled sy’n weddill mewn perthynas â'r cyllid cyffredinol y mae’r cyngor yn
ymdrin ag ef, y ddealltwriaeth yn y cyngor bod adennill y ddyled yn
flaenoriaeth a'r rhagolygon ariannol gwael a wynebir. |
|
Adroddiad Dilynol ar Argymhellion Archwilio Mewnol Ch4 2021/22. PDF 146 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr adroddiad 'er gwybodaeth yn unig' i'r pwyllgor, a oedd yn darparu
statws yr argymhellion a wnaed yn yr archwiliadau hynny lle y gwnaethpwyd
gwaith dilynol yn Chwarter 4 2021/22, a oedd yn caniatáu i'r Pwyllgor Archwilio
fonitro'r broses o weithredu argymhellion a wnaed gan Archwilio Mewnol. Darparodd Atodiad 1 grynodeb o'r argymhellion
a dderbyniwyd ac a rhoddwyd ar waith. Darparodd Atodiad 2 fanylion am
argymhellion na roddwyd ar waith. Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Gofynnwyd
i rai o'r manylion mewn adroddiadau dilynol yn y dyfodol gael eu darparu mewn
dull darluniadol a fyddai'n eu gwneud yn haws i'w defnyddio. Dywedodd y Prif Archwiliwr mai adroddiadau a
gynhyrchwyd gan system oedd y rhain, fodd bynnag roedd yn hapus i ystyried y
cais ac y byddai'n trafod yr opsiwn gyda'r Prif Archwiliwr. ·
Prisiad
annibynnol yr asedau a geir yn Amgueddfa Abertawe ac Oriel Gelf Glynn Vivian, gan gynnwys yr
eitemau sy'n cael eu storio. ·
Gweithio
gydag adrannau cleientiaid i ddod i gytundeb/gyrraedd dyddiadau cau newydd
ynghylch argymhellion nad ydynt yn cael eu gweithredu. Mynegodd y Cadeirydd
bryder nad oedd eitemau yn Oriel Gelf Glynn Vivian ac Amgueddfa Abertawe wedi'u hailbrisio o'r blaen a
chan fod yr Amgueddfa'n cynnwys swm sylweddol o stoc, gofynnodd i'r Tîm Rheoli
Corfforaethol archwilio'r maes hwn yn ofalus. |
|
Archwilio Cymru - Cynllun Archwilio 2022 – Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 642 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Non Jenkins
a Gillian Gillett, Archwilio Cymru, Gynllun Archwilio Dinas a Sir Abertawe
Archwilio Cymru 2022, 'er gwybodaeth'. Amlinellodd y cynllun waith arfaethedig
Archwilio Cymru yn ystod 2022 i gyflawni ei gyfrifoldebau statudol fel
archwiliwr allanol ac i gyflawni ei rwymedigaethau dan y Côd Ymarfer Archwilio. Cyflwynodd y
cynllun ddyletswyddau'r archwiliwr a oedd yn cynnwys archwilio'r datganiadau
a'r risgiau ariannol, trefniadau'r cyngor i gael gwerth am arian a sut mae'r
cyngor yn cydymffurfio â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Yn ogystal,
darparwyd manylion yr archwiliad perfformiad a'r rhaglen, ardystio ar hawliadau
a ffurflenni grant, swyddogaethau archwilio statudol, ffi archwilio, tîm ac
amserlen. Holodd y pwyllgor
am archwilio'r cymorth grant a dalwyd i sefydliadau y tu allan i'r cyngor, gan
sicrhau bod taliadau'n cael eu gwneud yn gywir ac nad oeddent yn dwyllodrus.
Esboniwyd mai'r cyngor oedd yn gyfrifol am olrhain twyll ac roedd gofynion y
cyngor a Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan y cyngor drefniadau cadarn ar
waith mewn perthynas â thaliadau grant. Ychwanegodd y Prif Archwiliwr fod staff Archwilio Mewnol a Thwyll Corfforaethol wedi rhoi cyngor a chymorth sylweddol i wasanaethau cleientiaid sy'n gyfrifol am gyhoeddi taliadau grant COVID-19. |
|
Rhaglen Waith ac Amserlen Archwilio Cymru – Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 240 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Non
Jenkins a Gillian Gillett, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen Waith ac Amserlen
Swyddfa Archwilio Cymru Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr
adroddiad yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - ·
Crynodeb o'r Archwiliad Blynyddol ·
Gwaith Archwilio Ariannol ·
Gwaith Archwilio Perfformiad ·
Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol wedi'u
cynllunio/ar waith ·
Estyn ·
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ·
Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau
Eraill a Gyhoeddwyd ers 1 Ebrill 2021 ·
Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau
Eraill i'w Cyhoeddi yn ystod 2021-22 (a gwaith arall sydd ar waith/wedi'i
gynllunio) ·
Digwyddiadau a Chyhoeddiadau'r Gyfnewidfa Arfer Da sydd i
ddod Trafododd y
pwyllgor y canlynol: - ·
Lefel y camddatganiadau perthnasol ar gyfer Cyngor
Abertawe. ·
Adolygiad a swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy, gan gynnwys
archwilio dyledion drwg. ·
Dyddiad cyhoeddi disgwyliadau ar gyfer Datganiad o
Gyfrifon. ·
Archwilio'r Fargen Ddinesig mewn cynllun archwilio ar
wahân. ·
Gwerth am arian / arfer da / canfyddiadau COVID-19 /
cymorth a ddarperir i awdurdodau lleol. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. PDF 440 KB Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Dywedodd y Dirprwy
Brif Weithredwr fod ymarfer cwmpasu llawn wedi'i gwblhau mewn perthynas â
pherfformiad meddalwedd yng Nghofnod Rhif 74 – 8 Chwefror 2022. Ychwanegodd ei
fod yn gobeithio rhoi diweddariad llafar ar y cynnydd yn y cyfarfod nesaf. |
|
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio – Cynllun Gwaith 2022/23. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er Gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. Dywedodd y
Cadeirydd y dylid anfon unrhyw eitemau arfaethedig at Swyddog y Gwasanaethau
Democrataidd. |