Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923 

Eitemau
Rhif Eitem

36.

Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol.

Cofnodion:

Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: -

 

Y Cynghorydd J W Jones – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18 – Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladdoedd – Personol

 

Y Cynghorydd M B Lewis – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18 – Aelod o'r Gronfa Bensiwn ac aelod o Awdurdod Iechyd Porthladdoedd – Personol.

 

Paula O’Connor – yr Agenda gyfan - Gweithiwr cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio Mewnol fel Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg - Personol

 

Y Cynghorydd W G Thomas – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18 - Cronfa Bensiwn – Aelod o'r Gronfa Bensiwn a Phwyllgor y Gronfa Bensiwn – Personol.

 

Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18 - Aelod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol, buddiolwr y Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol ac aelod o Awdurdod Iechyd Porthladdoedd Bae Abertawe – Personol.

 

37.

Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18. pdf eicon PDF 133 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes y Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft diwygiedig ar gyfer 2017/18 i'r aelodau.

 

Amlinellwyd gwybodaeth gefndir llunio'r ddogfen a manylwyd arni, yn enwedig mewn perthynas â'r prif newidiadau ym mharagraff 5 sy'n gysylltiedig â chynnwys datganiadau sicrwydd.

 

Cyfeiriodd at wallau argraffyddol bach ar dudalennau 8 a 28 y dylid eu diwygio. Amlinellwyd hefyd ddiwygiad arall ar dudalen 30 gan yr aelodau.

 

Dywedodd y byddai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn y dyfodol.

 

Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2017/18, wrth ystyried y newidiadau argraffyddol a amlinellwyd uchod, a'i gyfeirio at y cyngor i'w gymeradwyo.