Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 6 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Y Cynghorydd J W Jones – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 – Aelod o Awdurdod Iechyd Porthladdoedd – Personol Y Cynghorydd M B Lewis – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 – Aelod o'r Gronfa Bensiwn ac aelod o Awdurdod Iechyd
Porthladdoedd – Personol. Paula O’Connor – yr Agenda gyfan - Gweithiwr
cyflogedig gydag Ymddiriedolaeth GIG Felindre - yn darparu Gwasanaeth Archwilio
Mewnol fel Pennaeth Archwilio Mewnol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro
Morgannwg - Personol Y Cynghorydd W G Thomas – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 - Cronfa Bensiwn – Aelod o'r Gronfa Bensiwn a Phwyllgor y Gronfa
Bensiwn – Personol. Y Cynghorydd T M White – Cofnod Rhif 37 – Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Drafft 2017/18 - Aelod o'r Bwrdd Pensiwn Lleol, buddiolwr y Gronfa Bensiwn
Llywodraeth Leol ac aelod o Awdurdod Iechyd Porthladdoedd Bae Abertawe –
Personol. |
|
Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft 2017/18. PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Deallusrwydd Busnes y
Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft diwygiedig ar gyfer 2017/18 i'r
aelodau. Amlinellwyd
gwybodaeth gefndir llunio'r ddogfen a manylwyd arni, yn enwedig mewn perthynas
â'r prif newidiadau ym mharagraff 5 sy'n gysylltiedig â chynnwys datganiadau
sicrwydd. Cyfeiriodd at
wallau argraffyddol bach ar dudalennau 8 a 28 y dylid eu diwygio. Amlinellwyd
hefyd ddiwygiad arall ar dudalen 30 gan yr aelodau. Dywedodd y
byddai'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru yn
y dyfodol. Penderfynwyd cymeradwyo Datganiad Llywodraethu
Blynyddol 2017/18, wrth ystyried y newidiadau argraffyddol a amlinellwyd uchod,
a'i gyfeirio at y cyngor i'w gymeradwyo. |