Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe,
cyhoeddwyd y cysylltiadau canlynol: - Y Cynghorydd P M Black - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Burlais -
personol. Y Cynghorydd T J Hennegan - Cofnod Rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gymunedol Clwyd -
personol. Y Cynghorydd P R Hood-Williams - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro
Archwilio Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd y
Crwys - personol. Y Cynghorydd J W Jones - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Dynfant ac mae fy
ngwraig yn llywodraethwr yn Ysgol Hendrefoilan - personol. Y Cynghorydd P K Jones - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol yr Esgob Gore - personol. Y Cynghorydd M B Lewis - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Gwyrosydd ac
yn aelod o Bwyllgor y Gronfa Bensiwn - personol. Y Cynghorydd W G Thomas - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Llywodraethwr ysgol yn Ysgol Gynradd Newton ac yn
aelod o bwyllgor y Gronfa Bensiwn - personol. Y Cynghorydd T M White - Cofnod rhif 40 - Adroddiad Monitro Archwilio
Mewnol Chwarter 1 2018/19 a chofnod rhif 42 - Adroddiad SRA 260 Swyddfa
Archwilio Cymru Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe - Cadeirydd y
Llywodraethwyr a chymwynaswr y Gronfa Bensiwn - personol. Geraint Norman (Swyddfa Archwilio Cymru) - Cofnod rhif 40 - Adroddiad
Monitro Archwilio Mewnol Chwarter 1 2018/19 - Fy ngwraig yw Pennaeth Ysgol
Gynradd Pontlliw. Mae gan Swyddfa
Archwilio Cymru reolaeth ar waith i liniaru - personol. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Archwilio a
gynhaliwyd ar 14 a 23 Awst 2018, yn gofnodion cywir. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - Ch1 2018/19. PDF 131 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Prif Archwiliwr yr archwiliadau a gwblhawyd ac unrhyw waith
arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod rhwng 1 Ebrill
a 30 Mehefin 2018. Cwblhawyd 30 archwiliad yn ystod Chwarter 1. Darparwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Gwnaed cyfanswm o 247 o argymhellion, a chytunodd y rheolwyr i roi pob un
ohonynt ac eithrio un ar waith, h.y. 99.6% yn erbyn targed o 95%. Amlinellodd Atodiad
2 y byddai oddeutu 66% o'r Cynllun Archwilio wedi'i gwblhau neu ar waith erbyn
diwedd mis Mehefin 2018. O'r 30 o archwiliadau a gwblhawyd yn Chwarter 1, mae
18 ohonynt yn archwiliadau a gafodd eu cynnwys yng nghynllun archwilio 2017/18
a oedd yn parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, ac sydd bellach wedi'u cwblhau
yn 2018/19. Nodwyd yr wybodaeth
ynghylch gwaith ychwanegol a manylion y gwaith dilynol a gwblhawyd rhwng 1 Ebrill
a 30 Mehefin 2018. Darparwyd manylion am y materion sylweddol a arweiniodd at gyfraddiad
canolig yn cael ei roi yn y chwarter am Adfer Trychineb a Pharhad Busnes. Diben
amcanion yr archwiliad yw sicrhau bod gan yr awdurdod Gynllun Adfer Trychineb TGCh
mewn lle a bod y cynllun yn cael ei adolygu, ei brofi a'i ddiweddaru'n
rheolaidd. Roedd yr archwiliad yn cynnwys profi rheolau a sefydlwyd gan y
rheolwyr ar gyfer y meysydd canlynol o fewn y cynllun adfer trychineb:
Perchnogaeth a Rheoli; Asesiad Risg ac Atal; Y Cynllun Corfforaethol;
Cynlluniau Defnyddwyr TG; Adnoddau a Hyfforddiant. Darparwyd y
rhesymau dros y sgôr canolig fel a ganlyn: - ·
Cynhaliwyd
gwiriadau er mwyn cadarnhau pwy sy'n gyfrifol am Bolisi Adfer Trychineb TGCh a
Chynllun Adfer y cyngor. Ni bennwyd unrhyw gylch gorchwyl ar gyfer y Tîm Adfer
Trychineb. ·
Canfuwyd
nad oedd y tîm wedi cynnal adolygiadau rheolaidd o'r Cynllun Adfer Trychineb.
Dangosodd adolygiad o'r Cynllun Adfer Trychineb nad oedd wedi'i ddiweddaru'n
flynyddol. Cynhaliwyd yr adolygiad diwethaf ym mis Ebrill 2017. ·
Cynhaliwyd
profion ar y Gofrestr Asedau Gwybodaeth er mwyn sicrhau bod y data sy'n
berthnasol i bob system, rhyngwyneb a'i ddefnyddwyr yn cael eu cofnodi.
Dewiswyd sampl o dair system i'w gwirio.
Ar gyfer y sampl o systemau, canfuwyd bod: o
Dim
arwydd o'r amser y gallai'r cyngor weithredu heb y system/systemau. o
Ni
fanylwyd ar y lleiafswm adnoddau sydd eu hangen er mwyn cael y system ar waith
unwaith eto o ran caledwedd, meddalwedd a chyfathrebiadau. ·
Cynhaliwyd
gwiriad sampl arall o'r systemau hyn er mwyn cadarnhau bod y gofrestr yn
cynnwys manylion amcanion y systemau a bod yr esboniadau'n manylu ar sut mae
pob elfen o'r system TG yn mynd i'r afael â'r amcanion. Canfuwyd bod amcanion y systemau wedi'u
cofnodi, fodd bynnag, nid oedd gwybodaeth a oedd yn manylu ar sut y byddai'r
system TG yn mynd i'r afael â'r amcanion. ·
Dangosodd
adolygiad o Gofrestrau Risgiau’r Cyngor i wirio bod risg pob system wedi'i
gofnodi nad oedd y risgiau wedi'u cofnodi'n unigol yn y cofrestrau. Nodwyd mai dim ond un cofnod cyffredinol a
nodwyd mewn perthynas â'r risg o beidio â chael Cynllun Adfer Trychineb mewn
lle. ·
Datgelodd
yr adolygiad o'r Cynllun Trychineb Corfforaethol i gadarnhau bod yr holl
wybodaeth sydd ei hangen fel a ganlyn: o
Nad
oedd manylion llawn yr Asesiadau Risg wedi'u cofnodi. o
Nad
oedd y safleoedd adfer wedi'u sefydlu. ·
Cysylltwyd
â sampl o ddefnyddwyr y 4 prif system TG a gofynnwyd iddynt ddarparu copïau o'u
Cynllun Parhad Busnes, yn enwedig mewn perthynas â chaledwedd a meddalwedd. Ar
gyfer pob cynllun, ni aethpwyd i'r afael â materion caledwedd a meddalwedd yn y
Cynlluniau Parhad Busnes unigol. ·
Gofynnwyd
am wybodaeth gan yr Is-adran Yswiriant i gadarnhau bod polisi ar waith i
amddiffyn petai argyfwng, fodd bynnag, hyd yn hyn ni dderbyniwyd unrhyw
dystiolaeth. ·
Cadarnhawyd
hefyd nad oedd unrhyw brofi ffurfiol wedi'i wneud mewn perthynas â'r Cynllun
Adfer Trychineb. Esboniodd Jo Harley, Pennaeth Dros Dro'r Gwasanaethau Digidol a
Thrawsnewid, y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r materion a godwyd yn y sgôr
canolig. Cyfeiriodd at bob rheswm penodol a chadarnhaodd y cynnydd/datblygiadau
a wnaed er mwyn sicrhau'r pwyllgor fod gwelliannau'n cael eu rhoi ar waith. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i'r Swyddog, a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n canolbwyntio ar y
canlynol: - ·
Cwmnïau sy'n darparu systemau
cwmwl yn cael eu lleoli yn y DU; ·
Pryder ynghylch isadeiledd
BT; ·
Rhoi ystyriaeth i bob system
cyn i unrhyw benderfyniad o ran symud cwmwl gael ei wneud. Bydd hyn yn arwain at ateb hybrid o ran
systemau cwmwl a systemau ar y safle; ·
Cost bosib symud y cwmwl a'r
opsiynau/pecynnau eraill sydd ar gael; ·
Y gwasanaethau sy'n gyfrifol
am asesiadau risg systemau'r meysydd gwasanaeth. ·
Archwilio Mewnol i gyd-fynd â
newidiadau i TG. Penderfynwyd nodi
cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad ISA 260 Swyddfa Archwilio Cymru - Dinas a Sir Abertawe. PDF 405 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman ac Anthony Veale, Swyddfa Archwilio Cymru,
Adroddiad SRA 260 2017/18 – Dinas a Sir Abertawe.
Nododd yr adroddiad faterion i'w hystyried, gan gynnwys materion sy’n codi o
archwiliad cyfriflenni ariannol y cyngor ar gyfer 2017-18 yr oedd angen adrodd
amdanynt dan SRA 260.
Nodwyd mai bwriad yr Archwilydd Cyffredinol yw cyflwyno adroddiad
archwiliad anghymwys ar y datganiadau ariannol. Ychwanegwyd bod yr
archwilwyr wedi derbyn cyfriflenni ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth
i ben ar 31 Mawrth 2018 ar 4 Mehefin, cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2018.
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru'n adrodd am y materion mwy sylweddol a gododd o'r
archwiliad, ac roeddent o'r farn bod angen ystyried y rhain cyn cymeradwyo'r
cyfriflenni ariannol. Trafodwyd y
materion hyn eisoes â Swyddog Adran 151. Bwriad yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio
anghymwys ar ddatganiadau ariannol 2017-18. Roedd y llythyr cynrychiolaeth derfynol
wedi'i gynnwys yn Atodiad 1,
darparwyd yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2, darparwyd y
camddatganiadau wedi'u cywiro yn Atodiad 3 a nodwyd yr argymhellion allweddol a
gododd o'r gwaith archwiliad ariannol yn Atodiad 4. Gofynnodd y pwyllgor
gwestiynau ynghylch y canlynol ac ymatebodd Cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio
Cymru iddynt: - ·
Cyngor
Cyfrifeg Cyfalaf ynghylch trefniadau presennol; ·
Y
cynnydd a wnaed mewn perthynas â chofrestru gweithredoedd gyda'r Gofrestrfa
Tir; ·
Cysoni
Cronfeydd Wrth Gefn Ailbrisiad y cyngor. Estynnodd y
Cadeirydd ei werthfawrogiad o'r staff Cyllid am ddarparu'r cyfrifon i Swyddfa
Archwilio Cymru ymhell cyn y dyddiad cau gofynnol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad ISA 260 Swyddfa Archwilio Cymru - Cronfa Bensiwn Dinas a Sir Abertawe. PDF 126 KB Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad a oedd yn nodi materion i'w
hystyried a oedd yn codi o archwiliad cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar
gyfer 2017/18 yr oedd angen adrodd amdanynt dan SRA
260. Cyfanswm yr asedau gros
a reolir gan y Gronfa Bensiwn yw £1.9 biliwn. Barnwyd bod lefelau meintiol
camddatganiadau'r Gronfa Bensiwn gwerth £19.1 miliwn. Amlinellodd yr adroddiad y materion sy'n codi
ar ôl archwilio cyfriflenni ariannol y Gronfa Bensiwn ar gyfer 2017-18. Derbyniwyd y
cyfriflenni ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth
2018 ar 25 Mehefin 2018, cyn y dyddiad cau ar 30 Mehefin 2018. Roedd Swyddfa
Archwilio Cymru'n adrodd am y materion mwy sylweddol a gododd o'r archwiliad,
ac roeddent o'r farn bod angen ystyried y rhain cyn cymeradwyo'r datganiadau
ariannol. Trafodwyd y materion hyn
eisoes â Swyddog Adran 151. Bwriad yr
Archwilydd Cyffredinol oedd cyflwyno adroddiad archwiliad anghymwys am y
cyfriflenni ariannol wedi i'r awdurdod ddarparu llythyr cynrychioliadau sy'n
seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad
archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Roedd y Gronfa Bensiwn wedi'i chynnwys ym
mhrif gyfriflenni ariannol y cyngor ac felly'r ymateb a gyflwynwyd oedd yr un a
gynigiwyd ar gyfer cynnwys prif gyfriflenni ariannol
y cyngor yn y Gronfa Bensiwn. Amlinellwyd na
nodwyd unrhyw gamddatganiadau dibwys yn y cyfriflenni ariannol a oedd yn dal i
fod yn ddiffygiol. Roedd camddatganiadau a oedd wedi'u cywiro gan reolwyr ond
roedd yr archwilwyr o'r farn y dylid tynnu sylw atynt oherwydd eu perthnasedd i
gyfrifoldebau'r awdurdod lleol dros y broses adrodd ariannol. Nodwyd y rhain
gyda'r esboniadau yn Atodiad 3. Cynyddodd y diwygiadau hyn werth buddsoddiadau'r Datganiad o Asedau Net £2.5
miliwn. Roedd hefyd nifer o ddiwygiadau cyflwyniadol eraill a wnaed i'r
cyfriflenni ariannol drafft a gododd o'r archwiliad. Adroddwyd hefyd am
faterion sylweddol eraill a gododd o'r archwiliad. Nodwyd y prif
argymhellion sy'n codi o'r gwaith archwilio ariannol yn Atodiad 4. Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a byddai
cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle'r oedd unrhyw gamau gweithredu heb eu
cyflawni, byddai'r archwilwyr yn parhau i fonitro cynnydd a'i gynnwys yn
adroddiad y flwyddyn nesaf. Mynegodd y
Cadeirydd ei werthfawrogiad o'r staff Cyllid am ddarparu'r cyfrifon i Swyddfa
Archwilio Cymru ymhell cyn y dyddiad cau gofynnol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Blynyddol Twyll Corfforaethol 2017/18. PDF 184 KB Cofnodion: Cyflwynodd Jeff
Fish a Jonathan Rogers grynodeb o'r gwaith a gwblhawyd gan Swyddogaeth Twyll
Archwiliad Mewnol 2017/18. Darparodd yr
adroddiad gefndir y swyddogaeth twyll, trosolwg o'i gweithgareddau a'i
gwerth. Roedd y prif weithgareddau yn
2017/18 yn cynnwys y meysydd gwaith canlynol: - ·
Adolygiad
o strategaeth/ffurflenni taliadau uniongyrchol; ·
Gweithio ar y cyd â Gwasanaeth Twyll a Gwallau AGPh; ·
Menter
Twyll Genedlaethol 2016 ·
Ymwybyddiaeth
o dwyll; ·
Gwaith
rhyngasiantaeth a chyfnewid data; ·
Ymchwiliadau
arbennig. Yn ôl Adolygiad
o’r Cynllun Swyddogaeth Twyll ar gyfer 2017/18, allan o'r 9 gweithgaredd
cynlluniedig, roedd 6 wedi'u cyflawni'n llawn a 3 wedi'u cyflawni'n rhannol.
Darparodd Atodiad 3 yr adroddiad fanylion am y gweithgareddau hyn. Gofynnodd y Pwyllgor
gwestiynau i'r swyddogion, a ymatebodd yn briodol. Roedd y trafodaethau'n ymwneud â'r canlynol:
- ·
Gordaliadau,
y rhesymau amdanynt a'r broses ddilynol; ·
Y
cynllun peilot sy'n berthnasol i'r gordaliadau. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er gwybodaeth) PDF 121 KB Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwiliwr Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio er
gwybodaeth. Amlygodd fod dau gam gweithredu ychwanegol mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Archwilio ar gyfer 2017/18 a'r canlyniadau sy'n gofyn am gyflwyno adroddiadau i gyfarfodydd y pwyllgor yn y dyfodol. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 94 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio er gwybodaeth. Amlygodd y Prif Archwiliwr ddau gam gweithredu wedi'u diweddaru yn Atodiad
2 mewn perthynas â Swyddfa Archwilio Cymru.
Nododd Geraint Norman mai'r pwyllgor fydd yn gyfrifol am benderfynu sut
maent am fwrw ymlaen â’r materion. Penderfynwyd trafod yr eitemau yn y cyfarfod nesaf a drefnir. |