Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 5 - Neuadd y Ddinas, Abertawe. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Cofnodion: Yn
unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd
unrhyw fuddiannau. |
|
Adroddiad SRA 260 Swyddfa Archwilio Cymru 2015/16 - Dinas a Sir Abertawe. PDF 493 KB Cofnodion: Cyflwynodd Geraint
Norman, Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad SRA 260 Swyddfa Archwilio Cymru ar
gyfer 2015/16 – Dinas a Sir Abertawe.
Nododd yr adroddiad faterion sy'n codi o'r archwiliad o ddatganiadau
ariannol i’r cyngor ei ystyried.. Ychwanegwyd bod yr
archwilwyr wedi derbyn y datganiadau ariannol drafft ar gyfer y flwyddyn a
ddaeth i ben 31 Mawrth 2016 sef wythnos cyn y dyddiad cau o 30 Mehefin 2016 ac
roeddent bellach wedi cwblhau rhan sylweddol o’u gwaith archwilio. Roedd
cynllun yr archwiliad ar gyfer y cyngor a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016 yn nodi
risgiau archwilio yr ystyrir eu bod yn sylweddol. Mae'r archwilwyr wedi
ymgymryd â gwaith archwilio i asesu'r risgiau hyn a hefyd ystyried unrhyw
risgiau newydd a geir. Nodwyd crynodeb o
risgiau'r archwiliad, y gwaith archwilio a wnaed a'r casgliadau yn Arddangosyn
1 yr adroddiad. Roedd Arddangosyn 2 yn
cynnwys camddatganiadau yn natganiadau ariannol 2015/16. Roedd y llythyr sylwadau terfynol yn Atodiad
1, yr adroddiad archwilio arfaethedig yn Atodiad 2, y camddatganiadau wedi'u
cywiro yn Atodiad 3 a'r argymhellion allweddol sy'n codi o'r gwaith archwilio
ariannol yn Atodiad 4. Nodwyd mai bwriad
yr Archwilydd Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y
datganiadau ariannol. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am y pethau canlynol a gwnaeth Gynrychiolydd Swyddfa
Archwilio Cymru/Cyfarwyddwr Adnoddau ymateb iddynt: – ·
Darpariaeth
drwg ddyled; ·
Journal Approval; ·
Awdurdodiad
Oracle; ·
Cyfrifo
ar gyfer cyfalaf, yn benodol brisiadau adeiladau a thir. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad SRA 260 Swyddfa Archwilio Cymru 2015/16 - Cronfa Bensiwn. PDF 493 KB Cofnodion: Cyflwynodd David
Williams, Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiad sy'n nodi'r materion i'w trafod
o'r archwiliad ar ddatganiadau ariannol Cronfa Bensiwn 2015/16 y mae'n rhaid
adrodd amdanynt o dan SRA 260. Mae Cynllun yr
Archwiliad ar gyfer y Gronfa Bensiwn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016 yn nodi'r
risgiau archwilio ariannol yr ystyriwyd eu bod yn rhai sylweddol. Mae'r archwilwyr wedi cynnal yr archwiliad i
asesu'r risgiau hyn a hefyd ystyried unrhyw risgiau newydd sydd efallai wedi
codi. Mae crynodeb o'r risgiau archwilio
ariannol, y gwaith archwilio a wnaed a'r casgliad yn Arddangosyn 1. Bwriad yr
Archwilydd Cyffredinol oedd cyhoeddi adroddiad archwilio diamod ar y datganiadau
ariannol unwaith y byddai'r Awdurdod wedi rhoi llythyr o gynrychiolaeth sy'n
seiliedig ar yr hyn a nodwyd yn Atodiad 1. Nodwyd yr adroddiad
archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Roedd y Gronfa Bensiwn wedi'i chynnwys ym
mhrif datganiadau ariannol y cyngor ac felly y farn a
nodwyd oedd yr hyn a gynigwyd ar gyfer prif
ddatganiadau ariannol y cyngor a oedd yn cynnwys y Gronfa Bensiwn. Amlinellwyd nad oes
camddatganiadau yn y datganiadau ariannol a oedd yn parhau heb eu cywiro. Cafwyd nifer o gamddatganiadau a oedd wedi'u
cywiro gan y rheolwyr ond roedd yr archwilwyr yn teimlo y dylid eu hamlygu
oherwydd eu perthnasedd i gyfrifoldebau'r awdurdod dros y broses adrodd
ariannol. Cafodd y rhain eu nodi gydag esboniadau yn Atodiad 3. Ni chafodd y
newidiadau hyn unrhyw effaith ar Gyfrif y Gronfa ond roedd gwerth buddsoddiadau
yn y Datganiad o'r Asedau Net wedi cynyddu £1,513,000. Cafwyd hefyd nifer o
newidiadau cyflwyniadol i'r datganiadau ariannol drafft a oedd yn deillio o'r
archwiliad. Adroddwyd am faterion o bwys
eraill a oedd yn codi o'r archwiliad hefyd. Mae'r argymhellion
allweddol sy'n deillio o'r archwiliad ariannol wedi'u nodi yn Atodiad 4. Roedd y rheolwyr wedi ymateb iddynt a bydd
cynnydd yn cael ei wirio yn ystod archwiliad y flwyddyn nesaf. Lle byddai
unrhyw gamau gweithredu dros ben, byddai'r archwilwyr yn parhau i fonitro
cynnydd a'i gynnwys yn yr adroddiad y flwyddyn nesaf. Gofynnodd y
pwyllgor gwestiynau am y pethau canlynol, a gwnaeth Cynrychiolydd Swyddfa Archwilio
Cymru/Cyfarwyddwr Adnoddau ymateb iddynt: - ·
Nifer
yr aelodaeth; ·
Cysoni
cronfa ddata ALTAIR; ·
Strategaeth
Buddsoddi ar gyfer rheolwyr y gronfa; ·
Ffïoedd sy’n daladwy i reolwyr y gronfa. PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adroddiad Asesu Cydnerthu Ariannol Swyddfa Archwilio Cymru. (Er Gwybodaeth) PDF 88 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Adnoddau adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn nodi canfyddiadau
Swyddfa Archwilio Cymru ar asesiad cadernid ariannol Dinas a Sir Abertawe. Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi ystyried a
oedd gan yr awdurdod drefniadau priodol i sicrhau a chynnal ei gadernid
ariannol yn y tymor canolig. Nododd yr aelodau'r
pethau canlynol: - ·
Yr
arbedion a wneir gan yr awdurdod ond nodwyd nad oedd y rhain mewn meysydd a
nodwyd eisoes gan yr Arweinydd; ·
Polisïau'r
cyngor o ran tlodi; ·
Monitro'r
Cynllun Ariannol Tymor Canolig; ·
Cadernid
ariannol yr awdurdod; ·
Gorwariant
parhaus gan adrannau; ·
Cyfuno
gwasanaethau ag awdurdodau lleol eraill i arbed costau. Ymatebodd y
Cyfarwyddwr Adnoddau i gwestiynau'r aelodau a nodi'r anawsterau i greu arbedion
flwyddyn ar ôl blwyddyn; sut roedd yr awdurdod yn gweithio'n wahanol o
ganlyniad i leihau’r gweithlu; pwysau monitro'r gyllideb a goblygiadau
gorwario; a lleihad mewn gwariant o ganlyniad i weithio mewn partneriaeth ag
awdurdodau lleol eraill. |
|
Adroddiad Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 76 KB Cofnodion: Darparwyd Adroddiad
Olrhain Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth'. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio. (Er Gwybodaeth) PDF 56 KB Cofnodion: Cyflwynwyd
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Archwilio 'er gwybodaeth’. |