Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol
â'r Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd
gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr S Pritchard, L V Walton, T M White a Julie Davies (Aelod Lleyg) fuddiannau personol yng Nghofnod Rhif 84 – Datganiad Cyfrifon 2022/23. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau
canlynol: - Datganodd y
Cynghorwyr S Pritchard, T M White a Julie Davies (Aelod Lleyg) gysylltiad
personol â Chofnod Rhif 84 – Datganiad Cyfrifon 2022/23. |
|
Archwilio Cymru - Adroddiad Archwilio Cyfrifon - Dinas a Sir Abertawe. PDF 743 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Derwyn
Owen, Archwilio Cymru, yr adroddiad drafft a oedd yn crynhoi prif ganfyddiadau
Archwilio Cymru o'r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2022/23 y Cyngor. Eglurwyd bod
lefel perthnasedd wedi'i gosod ar £11.1 miliwn ar gyfer yr archwiliad, ac
eithrio taliad cydnabyddiaeth uwch-swyddogion - £1,000 a thrafodion partïon
cysylltiedig ar gyfer Aelodau ac uwch-swyddogion - £10,000. Ychwanegwyd bod y
rhan fwyaf o'r archwiliad wedi'i gwblhau'n sylweddol yn amodol ar adolygiad
terfynol o'r gwaith archwilio a'r cyfrifon diwygiedig. Amlygwyd bod
Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar y cyfrifon
unwaith y byddai'r Cyngor wedi darparu Llythyr Sylwadau yn seiliedig ar Atodiad
1. Darparwyd yr Adroddiad Archwilio arfaethedig yn Atodiad 2. Roedd yr
adroddiad hefyd yn nodi bod camddatganiadau cychwynnol yn y cyfrifon a oedd
wedi'u cywiro gan y rheolwyr ac roedd Atodiad 3 yn rhoi crynodeb o'r rhain. Hysbyswyd y
Pwyllgor hefyd am gamgymeriad wrth gymhwyso'r ffactor anarferiant
wrth brisio asedau eiddo. Roedd y rhain yn ymwneud â gwaith allanol a ffïoedd proffesiynol ym mhrisiad ysgolion a arweiniodd at
orbrisio o dros £39 miliwn. Ychwanegwyd mai'r cofnodion cyfrifo i'w haddasu ar
gyfer y gwall oedd gostwng y Gronfa Ailbrisio Wrth Gefn £35.2m, gyda'r balans
yn cael ei godi i'r Cyfrif Incwm a Gwariant Cynhwysfawr. Gofynnodd y
Pwyllgor gwestiynau i gynrychiolydd Archwilio Cymru, ac fe'u
hatebwyd yn briodol ac roeddent yn ymwneud â'r canlynol: - ·
Cosbau
posib oherwydd bod y cyfrifon wedi'u cyflwyno'n hwyr ac a oedd yr amserlenni
presennol yn realistig i bob cyngor yng Nghymru. Cadarnhawyd, er nad oedd
unrhyw gosbau ariannol, roedd yr oedi yn effeithio ar enw da'r Cyngor ac y
byddai'r amserlen ar gyfer eleni yn parhau, a fyddai'n heriol i'r awdurdod. ·
Y
safon archwilio ddiwygiedig (ISA 315) a'r effaith, yn enwedig ar ffïoedd. Llongyfarchodd y
Cadeirydd a'r Pwyllgor y Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 a'i staff am y
farn ddiamod a diolchodd i gynrychiolydd Archwilio Cymru am gyflwyno'r
adroddiad. Nodwyd y byddai'r
adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor ddydd Iau, 21 Mawrth 2024. Diolchodd y
Cyfarwyddwr Cyllid/Swyddog Adran 151 i gydweithwyr Archwilio Cymru am y modd y
cynhaliwyd yr archwiliad ganddynt a'u hyblygrwydd yn hyn o beth. |
|
Datganiad Cyfrifon 2022/23. PDF 134 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ben
Smith, y Cyfarwyddwr Cyllid, y Datganiad Cyfrifon Drafft ar gyfer 2022/23 'er
gwybodaeth' ac i'w adolygu. Roedd y Cyfrifon
Drafft ar gyfer 2022/23 wedi'u paratoi a'u llofnodi gan y Swyddog Adran 151 ar
27 Hydref 2023. Atodwyd copi yn Atodiad
A yr adroddiad. Cadarnhawyd bod y
cyfrifon wedi'u cyflwyno'n ffurfiol i archwilwyr y cyngor sef Archwilio Cymru,
a oedd wedi dechrau'r archwiliad o'r cyfrifon. Esboniwyd fel rhan o'r
broses archwilio, bod y cyfrifon ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd am gyfnod
o bedair wythnos o 4 Ionawr i 31 Ionawr 2024. Diolchwyd i staff
yr Adran Gyllid gan y Cyfarwyddwr am eu gwaith ar y cyfrifon, ac ailadroddwyd
hyn gan y Cadeirydd a'r Pwyllgor. Diolchwyd hefyd i'r Cadeirydd a'r Pwyllgor am
gytuno i gynnal y Pwyllgor Arbennig i dderbyn yr adroddiad. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau technegol i'r Cyfarwyddwr Cyllid/Dirprwy Swyddog
Adran 151, ac fe'u hatebwyd yn briodol. Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi nodi rhai
mân newidiadau angenrheidiol i'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac y byddai'n
anfon y manylion ymlaen yn dilyn y cyfarfod. Nodwyd bod
disgwyl i'r Datganiad o Gyfrifon gael ei gyflwyno i'r cyngor ar 21 Mawrth 2024. |