Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Yn unol â'r Cod Ymddygiad a
fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams a J W Jones fuddiannau personol yng Nghofnod Rhif 72 - Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - Chwarter 3 - 2023/24. Cofnodion: Yn unol â'r Côd Ymddygiad a fabwysiadwyd gan
Ddinas a Sir Abertawe, datganwyd y buddiannau canlynol: - Datganodd y Cynghorwyr P R Hood-Williams a J W Jones gysylltiadau personol
â Chofnod Rhif 72 – Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol – Chwarter 3 – 2023/24. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Cymeradwywyd. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod
cywir, yn amodol ar y diwygiadau canlynol: - Diwygio Cofnod Rhif 65 - Traciwr
Argymhellion Archwiliadau Sylfaenol 2022/23, gan newid 'yr eitemau hyn' i 'y
fath eitemau': - ·
Sicrhau na fethwyd argymhellion sydd wedi cael eu
gweithredu'n rhannol neu sydd heb eu gweithredu o ran Cyfrifon
Derbyniadwy/Cyfrifon Taladwy lle ymestynnwyd eu terfynau amser, ac ystyried
cyflwyno dosbarthiad amgen ar gyfer y fath eitemau. Byddai'r Prif Archwilydd yn
tynnu sylw'r Archwilydd Arweiniol at hyn. |
|
Adroddiad Monitro Archwilio Mewnol - Chwarter 3 - 2023/24. PDF 485 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd y Prif
Archwilydd, Nick Davies, adroddiad a oedd yn darparu'r archwiliadau terfynol ac
unrhyw waith arall a wnaed gan yr Is-adran Archwilio Mewnol yn ystod y cyfnod o
1 Hydref 2023 i 31 Rhagfyr 2023. Cwblhawyd
cyfanswm o 13 o archwiliadau yn ystod y chwarter. Rhestrwyd yr archwiliadau a
gwblhawyd yn Atodiad 1, a oedd hefyd yn dangos lefel y sicrwydd a roddwyd ar
ddiwedd yr archwiliad a nifer yr argymhellion a wnaed ac y cytunwyd arnynt.
Roedd Atodiad 2 yn darparu crynodeb o gwmpas yr adolygiadau a gwblhawyd yn
ystod y cyfnod. Rhoddwyd
dadansoddiad o lefelau sicrwydd yr archwiliadau a gwblhawyd a gwnaed cyfanswm o
154 o argymhellion archwilio a chytunodd y rheolwyr i weithredu'r holl
argymhellion a wnaed. Ychwanegwyd bod
salwch staff o fewn y Tîm Archwilio Mewnol wedi parhau i fod yn sylweddol yn
ystod y trydydd chwarter, gyda chyfanswm o 34 diwrnod o absenoldeb salwch
wedi'u cofnodi. Cyfanswm yr absenoldeb salwch gronnol hyd at ddiwedd y chwarter
oedd 138 o ddiwrnodau. Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch y problemau o
ran salwch tymor hir a staffio. Amlygwyd o 31
Rhagfyr y cwblhawyd 54 o weithgareddau archwilio (46%), ac mae un gweithgaredd
ychwanegol (1%) wedi'i gwblhau'n sylweddol wrth i'r adroddiad archwilio gael ei
gyhoeddi fel fersiwn ddrafft. O ganlyniad, roedd 55 o weithgareddau archwilio
wedi'u cwblhau hyd y cam adroddiad drafft o leiaf (47%). Roedd 30 o
weithgareddau ychwanegol ar waith ar ddiwedd y chwarter (26%). O ganlyniad,
roedd tua 73% o'r gweithgareddau archwilio a gynhwysir yng Nghynllun Archwilio
2023/24 naill ai wedi'u cwblhau neu ar waith. Darparwyd copi o'r cynllun
sy'n dangos statws y gweithgareddau ar 31 Rhagfyr 2023 yn Atodiad 3. Esboniwyd y
cyhoeddwyd dau adroddiad archwilio gyda lefel sicrwydd cymedrol fel y'u
dangosir yn Atodiadau 1 a 2. Roedd y rhain yn gysylltiedig ag Ysgol Gynradd y
Crwys a'r Is-adran Safonau Masnach. Trefnwyd archwiliadau dilynol i ailymweld
ac Ysgol Gynradd y Crwys yn ystod pedwerydd chwarter 2023/24 a Safonau Masnach
yn ystod chwarter cyntaf 2024/25 i adolygu'r cynnydd a wnaed wrth roi'r
argymhellion a wnaed ar waith. Caiff canlyniadau'r archwiliadau dilynol eu
hadrodd i'r Pwyllgor mewn adroddiad monitro yn y dyfodol. Amlinellwyd y
newidiadau arfaethedig i adrodd am adroddiadau archwilio cymedrol, a
ddrafftiwyd gan y Prif Archwilydd, er mwyn sicrhau bod lefel y deunyddiau a
gyflwynir i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio'n fwy rhesymol a chryno. Rhoddwyd manylion
y gwaith dilynol i'r Pwyllgor hefyd gyda lefelau sicrwydd uchel a sylweddol wedi'u cwblhau yn ystod y
cyfnod. Nododd y
Cadeirydd na allai gefnogi'r newidiadau arfaethedig i'r broses adrodd am
adroddiadau archwilio cymedrol a byddai'n trafod y mater hwn ymhellach yn ei
chyfarfod nesaf â'r Prif Weithredwr. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Archwiliad o Ysgol Gyfun yr Olchfa - codwyd pryder y defnyddiwyd y gyllideb
ddirprwyedig i dalu am barti ymddeol y cyn-Bennaeth. Awgrymodd y Cadeirydd y
dylid tynnu sylw'r Cyfarwyddwr Addysg/Aelod y Cabinet dros Addysg at y mater.
Nododd y Prif Archwilydd fod y Cyfarwyddwr Addysg wedi derbyn dosbarthiad yr
adroddiad a phan fydd archwiliad dilynol wedi'i cwblhau, bydd yn rhannu'r
cynllun gweithredu diweddaredig a ddarperir gan yr
ysgol â'r Pwyllgor. · Darperir gwybodaeth bellach ynghylch y ddau adroddiad archwilio cymedrol yn
Ysgol Gynradd y Crwys a Safonau Masnach. Nododd y Cadeirydd y byddai'n rhannu'r
adroddiadau â'r Pwyllgor. · Cynllun Archwilio Mewnol - gwnaed cynnydd yn erbyn y cynllun ac a allai'r
Prif Archwilydd roi barn ar ddiwedd y flwyddyn. Nododd y Prif Archwilydd fod y
Tîm Archwilio Mewnol yn gweithio'n galed i gwblhau'r cynllun a gwnaed cynnydd
da'n ddiweddar ac mae adnoddau'n ffocysu ar archwiliadau risg uchel,
trawsbynciol. · Archwiliadau Dilynol - y broses o ran lefelau sicrwydd uchel/sylweddol ar
gyfer archwiliadau lle mae rheolwyr yn cadarnhau bod gweithgareddau wedi'u
cwblhau. · Archwiliad o'r Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol Integredig a chadarnhad o'r
gwasanaeth a ddarperir i gwsmeriaid/preswylwyr. Bydd y Prif Archwilydd yn
darparu gwybodaeth bellach ar gyfer y Pwyllgor. · Archwiliad o gwmni llogi peiriannau a thrafnidiaeth Heol y Gors - codwyd
pryder ynghylch y diffyg rheolaeth a sut rhoddir sicrwydd o ran gweithredu
system ddigidol newydd ym mis Mawrth 2024. · Gohiriadau - darperir sail resymegol sy'n esbonio'r rhesymau dros ohirio
eitemau, fel sydd wedi digwydd yn ystod blynyddoedd blaenorol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr
adroddiad. |
|
Lle: Amgylchedd Rheoli Mewnol 2023/24. PDF 280 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Mark
Wade, Cyfarwyddwr Lleoedd, adroddiad a ddarparodd amgylchedd rheoli'r
Gyfarwyddiaeth Lleoedd, gan gynnwys rhoi rheoli risgiau ar waith, i sicrhau bod
gweithredoedd yn cael eu cwblhau'n effeithiol; defnyddiwyd adnoddau'n
economaidd, effeithlon ac effeithiol, a llywodraethu effeithiol i sicrhau'r trefniadau
hyn. Amlinellodd yr
adroddiad y broses o fewn y gyfarwyddiaeth mewn perthynas â rheoli risgiau a
nodwyd bod disgwyl i'r Gyfarwyddiaeth Lleoedd gydymffurfio'n llawn wrth adolygu
mesurau rheoli, geirfa risgiau a lefelau risg bob mis fel rhan o ymagwedd
gydlynol. Amlinellodd Atodiad A Risgiau Corfforaethol a Chyfarwyddiaeth (y
Gyfarwyddiaeth). Rhannwyd y
risgiau â'r Aelodau Cabinet cyfrifol. Mae'r cyfarfod Perfformiad a Rheoli
Ariannol yn gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid codi Risgiau'r
Gyfarwyddiaeth i'r Tîm Rheoli Corfforaethol i'w hystyried a phenderfynu a
ddylen nhw ddod yn risg gorfforaethol. Nodwyd bod dwy risg
gorfforaethol newydd wedi’u hychwanegu o fewn cyfnod 2023-24: - · RISG: 360 - Strategaeth Gwastraff. · RISG: 372 - model Llyfrgelloedd y Dyfodol.
Darparwyd manylion
rheoli risgiau, parhad busnes, rheoli perfformiad/dangosyddion perfformiad
allweddol, gwneud penderfyniadau, rheoli cyllid ac adnoddau, gweithdrefnau
twyll ac amhriodoldeb ariannol a chydymffurfio â pholisïau, rheolau a gofynion
rheoliadol. Amlinellwyd bod y
gyfarwyddiaeth wedi datblygu tîm rheoli prosiect trawsbynciol i ddatblygu a
chyflwyno amrywiaeth eang o brosiectau a rhoddwyd enghreifftiau ohonynt.
Adolygwyd cynnydd prosiectau bob mis. Amlygodd yr
adroddiad hefyd nodweddion allweddol dulliau rheoli mewnol, diogelu data a
llywodraethu partneriaethau/cydweithio. Gofynnodd y
Pwyllgor nifer o gwestiynau i'r swyddog a ymatebodd yn briodol. Roedd
trafodaethau'n cynnwys y canlynol: - · Rheoli perfformiad/dangosyddion perfformiad allweddol, yn enwedig y nifer o
weithiau y cawsant eu hadolygu. · Amserau ymateb pan fydd lefelau perfformiad wedi gostwng a sut mae'r adran
yn ymdrin â phroblemau a materion yn uniongyrchol er mwyn mynd i'r afael â
phryderon. · Y gostyngiad calonogol mewn absenoldebau salwch a sut mae cael adnodd
pwrpasol wedi cynorthwyo wrth ostwng y niferoedd a'r effaith ar y defnydd o
weithwyr asiantaeth. · Rheoli Absenoldebau - Canran y diwrnod absenoldeb a gollwyd/a ostyngwyd. · Pwysau cynyddol o ran digartrefedd a'r mesurau tymor byr a ddefnyddir i
leihau'r risg. · CCNR1 - Nifer y coed a blannwyd yn ystod y flwyddyn ar draws y cyngor. · Cyflwynir ffordd newydd o adrodd am berfformiad i'r Cabinet ym mis Mawrth. · Amlder y dangosyddion perfformiad allweddol yn ystod cyfarfodydd rheoli
perfformiad a'r broses/amserlen ar gyfer ymdrin â phroblemau. · Cyrsiau hyfforddi gorfodol - sicrhau bod pobl yn bresennol ar gyrsiau, gan
gynnwys cyrsiau gloywi. · Defnyddir y rhaglen gynefino ar gyfer dechreuwyr newydd. · Ni roddir unrhyw ddirwyon tor diogelwch data. Bydd y Cyfarwyddwr
Lleoedd yn rhoi ymatebion ynghylch CCNR1 - Nifer y coed a blannwyd yn ystod y
flwyddyn ar draws y cyngor a rheoli'r ffigurau canrannau absenoldeb sy'n
perthyn i flynyddoedd blaenorol. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr Lleoedd am ddarparu ei adroddiad. Penderfynwyd
nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Rhaglen ac Amserlen Waith Archwilio Cymru - Cyngor Dinas a Sir Abertawe. PDF 325 KB Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Matthew Brushett, Swyddfa Archwilio Cymru, Raglen
Waith ac Amserlen Archwilio Cymru – Dinas a Sir Abertawe 'er gwybodaeth'. Roedd yr adroddiad
yn manylu ar y diweddariad chwarterol ac yn rhestru'r canlynol: - · Crynodeb o'r Archwiliad Blynyddol · Gwaith Archwilio Ariannol · Archwiliad o Berfformiad · Astudiaethau Cenedlaethol Llywodraeth Leol sydd wedi'u cynllunio/ar waith · Estyn · Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) · Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill a Gyhoeddwyd
ers mis Rhagfyr 2022 · Adroddiadau Cenedlaethol Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill i'w Cyhoeddi
(a gwaith arall sydd ar waith/wedi'i gynllunio) · Adnoddau Cyfnewid Arfer Da Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Adroddiadau Cenedlaethol Swyddfa Archwilio Cymru ac Allbynnau Eraill -
gofynnodd y Cadeirydd a fyddai'n bosib mynd i ddigwyddiad arfer da 'What does good look like?' yn y gwanwyn yn 2024.
Nododd
cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai'n anfon y manylion i'r Cadeirydd
ar ôl y cyfarfod. |
|
Adolygiad Rheoli Risg. Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Rhoddodd Richard Rowlands,
Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol, ddiweddariad llafar mewn perthynas
â'r Adolygiad Rheoli Risgiau. Nododd fod yr
adolygiad wedi'i gwblhau ac roedd yn cynnwys adolygiad asesu rheoli risgiau ar
draws Cymru, a oedd yn cynnwys oddeutu traean o'r awdurdodau lleol yng Nghymru.
Ychwanegodd fod trafodaethau hefyd wedi cynnwys Aelodau'r Cabinet, y Tîm Rheoli
Corfforaethol, Penaethiaid Gwasanaeth a Chadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac
Archwilio. Ychwanegodd fod
yr adolygiad wedi nodi newidiadau a gwelliannu i brosesau rheoli risg ac
arferion y cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys gallu gwahaniaethu rhwng risgiau a
phroblemau, trwy nodi cofrestrau risgiau a phroblemau ar wahân. Bod yn fwy
eglur o ran gradd y risg neu'r ansicrwydd sy'n dderbyniol, yn enwedig
parodrwydd derbyn risgiau'r cyngor a'i gyfyngiadau o ran hyblygrwydd. At hynny,
byddai'r cyngor yn rhesymoli'r ddwy haen o risg, er mwyn ceisio symleiddio'r
broses rheoli risgiau, trwy gyflwyno dwy haen; risgiau gweithredol a risgiau
strategol. Byddai hefyd yn ceisio gwella ansawdd y deialog risgiau fel ei fod
yn dod yn elfen arferol yn ystod cyfarfodydd rheoli a bod y Cabinet yn derbyn
adroddiad sy'n nodi risgiau difrifol yn rheolaidd. Rhoddir adroddiad
drafft ynghylch y fframwaith risgiau a'r polisi i'r Pwyllgor ar 10 Ebrill 2024
cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo. Gwnaeth y
Pwyllgor sylw ynghylch pwysigrwydd lefel y risg a adolygir. Nododd y Cadeirydd
fod sesiwn hyfforddi ar reolir risgiau wedi'i threfnu ar gyfer mis Mehefin
2024, a fyddai'n rhoi gwell dealltwriaeth o risgiau i'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Methodoleg Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol 2024/25. PDF 243 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Darparodd Nick
Davies, y Prif Archwilydd, adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn darparu briffiad cynhwysfawr i'r Pwyllgor ynghylch y fethodoleg a
ddefnyddir i lunio'r Cynllun Blynyddol Archwilio Mewnol cyn cyflwyno Cynllun
Blynyddol Archwilio Mewnol Drafft 2024/25 i'r Pwyllgor. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Archwiliadau sylfaenol a dderbyniodd sgôr sicrwydd cymedrol yn parhau ar
gylch archwilio blynyddol, a chwblheir archwiliad llawn bob blwyddyn - yr
awgrymiad y cydnabyddir y dylid cwblhau archwiliadau dilynol mewn achosion lle
ceir lefel sicrwydd cymedrol ac y dylid cynnwys archwiliadau lefel sicrwydd
cyfyngedig yn yr adran hon. · Caiff perfformiadau eu mesur yn erbyn pob gwasanaethau a chyfarwyddiaeth
gan fod y ddau ohonynt yn ddangosyddion o lle mae risgiau posib yn bodoli. · Archwiliadau Iechyd a Diogelwch - pan gwblhawyd yr
archwiliad diwethaf a phrofi yn erbyn y rheolaethau rheoli i ddangos cadernid y
system. · Adnoddau Staff - cyfle i adolygu maint y Cynllun Archwilio a chynllunio
llai o waith ac ychwanegu rhagor at y dyraniad wrth gefn o ganlyniad i
broblemau staffio parhaus, er mwyn lleihau'r pwysau ar y Tîm Archwilio Mewnol. Nododd y Prif Archwilydd y byddai'n trafod yr awgrymiadau â'r Archwilydd Arweiniol. |
|
Adroddiadau Cwynion a Chanmoliaeth Blynyddol 2022-23. PDF 238 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Ness Young,
Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol adroddiad 'er gwybodaeth' a oedd yn
darparu sicrwydd ynghylch y broses ymdrin â chwynion ar gyfer 2022-23 ac yn
amlygu canmoliaeth a dderbynnir oddi wrth y cyhoedd. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - · Cofnodi cwynion Cam 1 yr ymdriniwyd â nhw gan adrannau - nodwyd mewn
Adroddiad Archwilio Mewnol blaenorol na chofnodwyd 1 gŵyn. Amlygwyd bod
system newydd o gofnodi cwynion wedi'i chyflwyno'n ddiweddar, a oedd yn fwy
cadarn ac a oedd yn monitro pob cwyn, gan ddarparu mwy o sicrwydd. · Dangosyddion Perfformiad Allweddol - mae'r system newydd wedi'i gwella
perfformiad yn sylweddol trwy olrhain cynnydd cwynion a sicrhau bod
amserlenni'n cael eu bodloni. · Cymharu perfformiad ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a gwirio a yw
awdurdodau lleol eraill wedi derbyn cwynion tebyg. · Dysgu gwersi'n dilyn y cwynion a dderbyniwyd. · Cofnodi cwynion a dderbyniwyd gan Gynghorwyr. · Canlyniadau cwynion a gynhaliwyd, lle ni chafwyd unrhyw ddirwyon ariannol a
lle roddwyd ymddiheuriadau ar gyfer y rhan fwyaf ohonynt. · Gwasanaethau Plant a Theuluoedd -gwnaed gwiriadau
heb ganiatâd a sicrwydd bod y weithred/gwaith dysgu wedi digwydd wrth adrodd am
broblemau yn ystod cyfarfodydd misol MPA a gwiriad sicrwydd ansawdd, gan anfon
y canlyniadau at swyddogion. Diolchodd y
Cadeirydd i'r Cyfarwyddwr am adroddiad mwy addysgol o lawer. |
|
Trosolwg Risg Corfforaethol - Chwarter 3 2023/24. PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Rhoddodd Richard
Rowlands, Rheolwr Cyflwyno a Pherfformiad Strategol adroddiad 'er gwybodaeth' a
oedd yn rhoi trosolwg o statws risgiau corfforaethol y cyngor i roi sicrwydd
i'r Pwyllgor eu bod yn cael eu rheoli'n unol â pholisi a fframwaith rheoli
risgiau'r cyngor. Nododd y
Cadeirydd ei bod yn falch o weld bod yr adolygiad wedi'i gwblhau a sut y dylid
sefydlu risgiau ar draws y cyngor. Nododd fod y naratif wedi gwella mewn nifer
o feysydd ar draws y cyngor ond nodwyd nad oedd ganddo reolaeth mewn sawl maes,
gan gynnwys, effaith tlodi. |
|
Traciwr Argymhelliad Archwilio Cymru. PDF 313 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd
Richard Rowlands, y Rheolwr Cyflawni a Pherfformio Strategol, adroddiad traciwr 'er gwybodaet' a oedd yn
rhoi diweddariadau ynghylch argymhellion Swyddfa Archwilio Cymru. Croesawodd Matthew
Brushett, Swyddfa Archwilio Cymru, gyflwyniad yr
adroddiad, a fyddai'n olrhain cynnydd ac a fyddai'n helpu ei gydweithwyr yn
Swyddfa Archwilio Cymru i olrhain problemau. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 389 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Gofynnodd y Cadeirydd i gyfeiriadau i 2023 gael eu diweddaru i 2024 ar gyfer eitemau 37 a 38. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 229 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er
gwybodaeth’. |