Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Ystafell Gloucester, Neuadd y Ddinas / MS Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gwasanaethau Democrataidd: - 636923
Rhif | Eitem |
---|---|
Datgeliadau o fuddiannau personol a rhagfarnol. Penderfyniad: Dim. Cofnodion: Yn unol â'r Côd
Ymddygiad a fabwysiadwyd gan Ddinas a Sir Abertawe, ni ddatganwyd unrhyw
fuddiannau. |
|
Cymeradwyo a llofnodi, fel cofnod cywir, gofnodion y cyfarfod(ydd)
blaenorol. Penderfyniad: Approved. Cofnodion: Penderfynwyd cymeradwyo cofnodion cyfarfod blaenorol y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel cofnod cywir. |
|
Adroddiad Olrhain Argymhellion Archwiliadau Hanfodol 2022/23. PDF 188 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd Nick
Davies, y Prif Archwiliwr, adroddiad a oedd yn darparu crynodeb o'r
argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliadau hanfodol yn 2022/23 ac yn nodi a
oedd yr argymhellion y cytunwyd arnynt wedi cael eu rhoi ar waith. O'r 51 o
argymhellion yr adroddwyd amdanynt ac y cytunwyd arnynt, roedd 27 wedi'u
gweithredu'n llawn, 7 wedi'u gweithredu'n rhannol, 7 heb eu gweithredu ac nid
oedd 10 yn barod i'w gweithredu eto. Gan anwybyddu'r argymhellion nad oeddent
yn barod i'w gweithredu eto, canran yr argymhellion a weithredwyd erbyn 30 Medi
2023 oedd 66%. Roedd Atodiad 1
yn nodi nifer yr argymhellion a wnaed ar gyfer pob archwiliad hanfodol, yn
dilyn yr archwiliadau yn 2022/23, ac a oedd yr argymhellion wedi'u rhoi ar
waith, eu rhoi ar waith yn rhannol, heb eu rhoi ar waith neu nad oeddent i'w
rhoi ar waith eto. Yn ogystal â hyn,
roedd Atodiadau 2 a 3 yn amlinellu bod y rhan fwyaf o'r argymhellion naill ai
wedi cael eu rhoi ar waith yn rhannol neu heb gael eu rhoi ar waith, mewn
perthynas ag archwiliadau Cyfrifon Derbyniadwy a Chyfrifon Taladwy. Parhaodd yr
archwiliad Cyfrifon Derbyniadwy i gael ei gwblhau bob blwyddyn. Archwiliwyd yr
archwiliad Cyfrifon Derbyniadwy yn llawn bob dwy flynedd ond roedd bellach
hefyd yn destun adolygiad dilynol yng nghanol y cylchred. Byddai gweithredu'r
argymhellion sy'n weddill yn cael ei adolygu fel rhan o archwiliadau 2023/24.
Gwneir gwaith dilynol ar yr argymhellion sydd heb eu gweithredu sy'n weddill
sy'n ymwneud â'r archwiliadau sylfaenol eraill pan gwblhawyd yr archwiliadau
nesaf. Gofynnodd y
Cadeirydd am sicrwydd bod yr argymhellion sydd heb eu gweithredu yn cael eu
cyfeirio at y Cabinet/Tîm Rheoli Corfforaethol/Adolygiadau Perfformiad Misol a
nodwyd, yn siomedig, roedd rhai nad oeddent wedi cael eu gweithredu o hyd.
Cadarnhaodd y Prif Arolygydd, cyn belled â'i fod yn ymwybodol, roedd yr
atgyfeiriadau yn parhau i gael eu hanfon ymlaen ac ychwanegodd fod yr adroddiad
a gyflwynwyd heddiw yr un peth â'r un a gyflwynwyd ar 30 Medi 2023 a bod modd
gweithredu rhai o'r argymhellion erbyn hyn. Ychwanegodd y gwneir gwaith dilynol
ar unrhyw beth nad oedd wedi cael ei weithredu eto yn ystod adolygiadau yn y
dyfodol. Dilynwyd hyn gan
drafodaethau ynghylch: - ·
Sicrhau
na fethwyd argymhellion sydd wedi cael eu gweithredu'n rhannol neu sydd heb eu
gweithredu o ran Cyfrifon Derbyniadwy/Cyfrifon Taladwy lle ymestynnwyd eu
terfynau amser, ac ystyried cyflwyno dosbarthiad amgen ar gyfer yr eitemau hyn.
Byddai'r Prif Archwilydd yn tynnu sylw'r Prif Archwiliwr at hyn. ·
Adfer
ôl-ddyledion - Oedi gyda'r broses recriwtio yn fewnol oherwydd prinder staff,
aethpwyd i'r afael â hyn a phenodwyd staff cyn Nadolig 2023. ·
Y
posibilrwydd o ddod â'r dyddiad cau ym mis Medi 2024 ymlaen i weithredu
argymhellion nad ydynt wedi cael eu gweithredu oherwydd aethpwyd i'r afael â'r
anawsterau gyda recriwtio erbyn hyn. Cadarnhawyd y gwneir gwaith dilynol ar yr
argymhellion cyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Penderfyniad: Nodwyd. Cofnodion: Cyflwynodd
Michelle Davies, Rheolwr Rheoli Arian Parod a Chyfrifon Derbyniadwy adroddiad a
oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am roi adolygiad y Gwasanaeth Archwilio
Mewnol (GAM) o'r swyddogaeth Cyfrifon Derbyniadwy ar waith. Amlinellwyd fod
adolygiad Archwilio Mewnol dilynol o'r Cyfrifon Derbyniadwy (CD) wedi'i gynnal
yn ystod Chwarter 1 2023 a chyhoeddwyd yr adroddiad ym mis Mawrth 2023.
Rhoddwyd lefel sicrwydd 'Cymedrol' unwaith eto. Darparwyd manylion am y
rhesymau a'r cynnydd ers mis Mehefin 2023 hyd yma. Darparodd Atodiad A gynnydd
y Cynllun Gweithredu. Eglurwyd ar
ddiwedd mis Rhagfyr 2023, bod wyth o'r pedair ar ddeg o gamau gweithredu y
cytunwyd arnynt yn flaenorol wedi'u cwblhau a bod eu manylion wedi'u rhestru,
ynghyd â chynnydd tri argymhelliad risg uchel/canolig arall. Ychwanegwyd bod y
Tîm Cyfrifon Derbyniadwy yn ceisio rhoi'r argymhellion risg uchel/canolig a
restrir ym mharagraff 2.3 ar waith yn llawn erbyn mis Medi 2024 fan bellaf, gan
gydnabod hefyd y byddai lefel o ddyled hwyr bob amser. Nodwyd y gallai fod
angen adnoddau staff ychwanegol i gyflawni hyn ac y byddai'r sefyllfa'n parhau
i gael ei hadolygu. Darparwyd
dadansoddiad misol o gyfanswm proffil dyled sydd heb ei glirio'r Cyngor ers
diweddariad blaenorol y Pwyllgor ym mis Mehefin 2023, ynghyd â dadansoddiad
manwl o'r sefyllfa ddyled ddiweddaraf. Cafodd y Pwyllgor
hefyd ei ddiweddaru am yr heriau sy'n weddill ar gyfer y maes gwasanaeth. Nododd Ness
Young, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol fod Cyfrifon Derbyniadwy yn dîm
bach a oedd yn gweithio trwy gwblhau'r argymhellion nad oeddent wedi cael eu
gweithredu erbyn hyn. Penodwyd aelod newydd o staff i ymdrin ag adennill
dyledion yn unig, yn enwedig yr hen ddyled ac roedd Paragyfreithwyr
yn cael eu hyfforddi ar hyn o bryd i wella'r broses o adennill dyledion.
Byddai'r sefyllfa staffio yn cael ei hadolygu'n barhaus er mwyn gweithredu'r
argymhellion sy'n weddill erbyn dyddiad cau mis Medi 2024. Trafododd y
Pwyllgor y canlynol: - ·
Yr
amserlenni a oedd yn gysylltiedig ag adennill dyledion, gan gynnwys y
gweithdrefnau â llaw yr oedd swyddogion yn ymgymryd â nhw, nad oedd y rhain yn
ddelfrydol. Y ffocws ar adennill dyledion uwch a'r amserlenni sy'n gysylltiedig
â hynny. Proffil dyledwyr mewn perthynas â dyledion hirsefydlog,
a oedd yn cynnwys busnesau bach. ·
Pryder
bod y sefyllfa'n aros yr un fath â blynyddoedd blaenorol, croesewir cyflwyno
staff newydd i fynd i'r afael â'r ddyled sydd heb ei chlirio a sefyllfa
ariannol y Cyngor, lle'r oedd angen proses adennill dyled gyflymach, fwy
cadarn. ·
Cydnabod
y pwysau ar y Tîm Cyfrifon Derbyniadwy a mewnbwn adnoddau ychwanegol i fynd i'r
afael â mater y ddyled sydd heb ei chlirio. ·
Cael
gwared ar gofnodion electronig a chorfforol o fewn yr amserlenni angenrheidiol
er mwyn cydymffurfio â GDPR a sicrwydd yr aethpwyd i'r afael â hyn. Cadarnhawyd
bod y rhan fwyaf o'r cofnodion yn electronig, bu'n rhaid eu cadw am 6 blynedd
yn ogystal â'r flwyddyn gyfredol ac y byddai adnoddau'n cael eu dinistrio/dileu
o fewn yr amserlenni angenrheidiol. ·
Cyfleusterau
credyd yn cael eu cynnig mewn amgylchiadau priodol, adrannau'n cael taliad
ymlaen llaw ar gyfer gwasanaethau i leihau'r dyledion ac i sicrhau bod adrannau
gwasanaeth yn cymryd adennill dyledion o ddifrif er
mwyn lleihau llwyth gwaith Cyfrifon Derbyniadwy. ·
Cyfarfodydd
misol a gynhelir gydag adrannau ynghylch adennill dyledion, yn enwedig hen
ddyledion a mynd i'r afael â phroblemau ar ddau ben y broses. ·
Effaith
heriol trosglwyddo i Oracle Fusion ar y tîm, y
problemau swyddogaethol mewn perthynas ag adennill dyledion, yn enwedig codio
TAW a'r effaith negyddol ar forâl y tîm. Cadarnhawyd
bod Oracle yn llai hyblyg na'r system flaenorol ac roedd ceisiadau am newid
wedi cael eu hanfon ymlaen ond fe achosodd lawer o waith ychwanegol i'r tîm. ·
Sut y
gellid rhoi'r newidiadau i'r system Oracle ar waith yn lleol ond byddai'r
swyddogaeth ynghylch y newidiadau gofynnol i Gyfrifon Derbyniadwy yn golygu
newid system fyd-eang meddalwedd Oracle. ·
Maint
system Oracle ar draws y Cyngor a pha mor dda yr oedd yn gweithio'n gyffredinol
ar draws y Cyngor. ·
Sut
roedd y Cyngor yn mynd i'r afael â materion lleol ac yn tynnu sylw Oracle
atynt. ·
Gwerthfawrogi'r
rhwystredigaethau a wynebir gan y tîm a'r ymatebion agored a ddarparwyd gan y
rheolwr. ·
Y swm cymharol isel o bobl sy'n rhan o Gynllun Seibiant
Dyledion (Lle i Anadlu) Llywodraeth y DU, gan nodi bod y ffigurau wedi dyblu
eleni a bod pobl wedi'u clustnodi am 60 diwrnod fel rhan o'r cynllun, yn
dibynnu ar y ddyled dan sylw. ·
Colled incwm llog i'r Cyngor oherwydd swm y dyledion sydd
heb eu clirio a'r angen i fynd i'r afael ag adennill dyledion mewn ffordd fwy
caeth. Cydnabu'r Cynghorydd R C Stewart, Arweinydd y Cyngor, yr ymdrech a'r
gwelliannau a oedd wedi digwydd a phwysleisiodd yr heriau gwirioneddol a
wynebir wrth roi system gymhleth Oracle ar waith. Ychwanegodd bod y Cyngor yn
gweithio'n galed i roi'r ceisiadau am newid ychwanegol a gyflwynwyd gan yr
Awdurdod ar waith a nododd fod y Cyngor yn wynebu problemau refeniw oherwydd
diffyg cyllid ac nid o ganlyniad i ddyledion sydd heb eu clirio. Ategodd y Cadeirydd y sylwadau a wnaed a chydnabuwyd y gwaith a wnaed, yn
enwedig y cyflawniad o wella'r ddyled oedd heb ei glirio yn 2022 lle cafodd 90%
o gyfaint a 98% o werth yr holl ddyledion eu hadennill. Ychwanegodd ei bod yn
gobeithio y byddai'r adnodd ychwanegol, cynnwys pobl mewn swyddi uwch o fewn yr
Awdurdod a thrafodaethau parhaus gydag Oracle i wneud yr addasiadau
angenrheidiol, yn sbarduno newid. I grynhoi, gofynnodd y Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaethau Digidol a
Chwsmeriaid ofyn am gamau gweithredu fel blaenoriaeth gan Oracle ar gyfer y
meysydd a oedd angen gwelliant arnynt a fyddai'n berthnasol i bob cleient
Oracle, a fyddai hefyd yn darparu'r effaith fwyaf o ran cynorthwyo'r prosesau
yn y tîm, er enghraifft mewnbwn TAW yn dod yn faes mandadol. Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad. |
|
Adolygiad o Strategaeth Digidol Archwilio Cymru. PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynodd Sarah
Lackenby, Pennaeth y Gwasanaethau Digidol a Chwsmeriaid adolygiad o Strategaeth
Digidol Archwilio Cymru 2023-28 'er gwybodaeth'. Eglurwyd bod
Archwilio Cymru wedi cynnal adolygiad o strategaethau digidol y 22 prif Gyngor
yng Nghymru. Ceisiodd yr adolygiad roi sicrwydd y byddai strategaethau digidol
y Cyngor yn helpu i gyflawni amcanion lles, eu bod yn unol â'r egwyddor
datblygu cynaliadwy, yn diwallu anghenion pobl ac yn sicrhau canlyniadau gwell.
Roedd y gwaith hwn hefyd yn adeiladu ar yr adolygiad 'Llamu Ymlaen' a
gynhaliwyd yn ystod 2021-22. Darparwyd
adolygiad Archwilio Cymru, gan gynnwys ei gasgliadau, yn Atodiad A a darparwyd ei argymhelliad yn Atodiad B. Dywedodd y
Cadeirydd ei bod wedi cael sicrwydd o'r trafodaethau ynghylch yr adroddiad a
ddigwyddodd yn ystod cyfarfod y Panel Craffu Perfformiad Gwella Gwasanaethau,
Adfywio a Chyllid ar 12 Rhagfyr 2023. Ychwanegodd bod y Panel wedi cytuno i
adolygiad blynyddol o'r Strategaeth, oedd wedi'i drefnu ar gyfer Mawrth 2024.
Byddant yn cael rhagor o sicrwydd gan y Cadeirydd Craffu wrth iddynt ddarparu
adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor yn ystod misoedd yr haf. Nodwyd bod Bwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA) wedi ennill gwobr yn ddiweddar am ei
strategaeth ddigidol mewn perthynas â thaith y cleifion o gael eu derbyn i gael
eu rhyddhau. Ychwanegwyd, er mwyn cefnogi gweithio mewn partneriaeth, dylai'r
Cyngor edrych ar yr ochr o'r strategaeth sy'n ymdrin â rhyddhau, yn enwedig
symud o'r ysbyty i ofal cymunedol ac archwilio a allai rhywfaint o waith
arloesol gynorthwyo'r broses. Cadarnhawyd bod
yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol eisoes yn edrych ar y mater ac y byddai'n
cael ei drafod yn rhanbarthol ym Mwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin
Morgannwg lle mae'r Cyngor yn cydweithio â BIPBA. Byddai David
Roberts, Aelod Lleyg yn anfon dolen ar gyfer BIPBA ac at Swyddog y Gwasanaethau
Democrataidd i'w ddosbarthu i'r Pwyllgor. |
|
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 183 KB Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Adroddiad Olrhain Camau Gweithredu'r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu 'er
gwybodaeth'. Nododd y Cadeirydd
fod dyddiadau hyfforddi'r Pwyllgor i'w cadarnhau. Cadarnhaodd y Swyddog
Gwasanaethau Democrataidd y byddent yn cael eu trefnu yn y flwyddyn Ddinesig
newydd, unwaith y penderfynir ar ddyddiadur y Cyngor ar gyfer 2024/25. |
|
Cynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. PDF 130 KB Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Er gwybodaeth. Cofnodion: Adroddwyd am
Gynllun Gwaith y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio 'er gwybodaeth’. |